xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3Telerau eraill yn y contract

RHAN 1Darparu gwasanaethau

Mangreoedd, cyfleusterau ac offer

1.—(1Rhaid i’r contractwr sicrhau bod y mangreoedd a ddefnyddir er mwyn darparu gwasanaethau o dan y contract—

(a)yn addas at ddarparu’r gwasanaethau hynny,

(b)yn ddigon i ateb anghenion rhesymol cleifion y contractwr, ac

(c)yn bodloni’r safonau gofynnol a nodir mewn cyfarwyddydau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf neu’n rhagori ar y safonau hynny.

(2Mae’r gofyniad yn is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i unrhyw gynllun a gynhwyswyd yn y contract yn unol â rheoliad 18(5) sy’n nodi camau i’w cymryd gan y contractwr i ddod â’r fangre i’r safon ofynnol.

(3Mewn perthynas â phob gwasanaeth y mae’n ei ddarparu, rhaid i’r contractwr ddarparu unrhyw gyfleusterau ac offer sy’n angenrheidiol i’w alluogi i gyflawni’r gwasanaeth hwnnw yn briodol.

Gwasanaethau ffôn

2.—(1Ni chaiff y contractwr fod yn barti i unrhyw gontract na threfniadau eraill lle y mae’r rhif ar gyfer gwasanaethau ffôn sydd i’w ddefnyddio—

(a)gan gleifion i gysylltu â’r practis at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â’r contract, neu

(b)gan unrhyw berson arall i gysylltu â’r practis mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,

yn dechrau â’r digidau 084, 087, 090 neu 091 neu’n rhif personol, oni bai bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu am ddim i’r galwr.

(2Rhaid i’r contractwr sicrhau bod ei linellau ffôn—

(a)wedi eu staffio drwy gydol yr oriau craidd, oni bai bod y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr wedi dod i gytundeb yn unol â rheoliad 18(7) sy’n caniatáu defnyddio neges ffôn ateb am gyfnodau dros dro, a

(b)yn cael eu hateb gan aelodau o staff y contractwr sydd wedi cymhwyso’n briodol ac sydd wedi eu lleoli yn y Deyrnas Unedig.

(3Yn y paragraff hwn, ystyr “rhif personol” yw rhif ffôn sy’n dechrau â’r rhif 070 ac yna 8 digid arall.

Cost galwadau perthnasol

3.—(1Ni chaiff y contractwr wneud, adnewyddu nac estyn contract neu drefniant arall ar gyfer gwasanaethau ffôn oni bai ei fod wedi ei fodloni, o roi sylw i’r trefniant yn ei gyfanrwydd, na fydd personau yn gorfod talu mwy i wneud galwadau perthnasol i bractis y contractwr nag a dalent i wneud galwadau cyfatebol i rif daearyddol.

(2Yn y paragraff hwn—

ystyr “galwadau perthnasol” (“relevant calls”) yw—

(a)

galwadau a wneir gan gleifion i bractis y contractwr am unrhyw reswm sy’n ymwneud â gwasanaethau a ddarperir o dan y contract, a

(b)

galwadau a wneir gan bersonau, heblaw cleifion, i’r practis mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd;

ystyr “rhif daearyddol” (“geographical number”) yw rhif sydd â chod ardal ddaearyddol yn rhagddodiad iddo.

Mynediad

4.—(1Rhaid i’r contractwr—

(a)bod â system ffonau ac iddi swyddogaeth recordio ar gyfer llinellau sy’n dod i mewn ac yn mynd allan, sy’n pentyrru galwadau ac sy’n caniatáu i ddata galwadau gael ei ddadansoddi,

(b)bod â neges gyflwyno dros y ffôn wedi ei recordio’n ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg nad yw’n para’n hwy na chyfanswm o 2 funud,

(c)sicrhau bod cleifion a chartrefi gofal yn gallu archebu presgripsiynau amlroddadwy yn ddigidol,

(d)drwy gydol yr oriau craidd, sicrhau bod cleifion yn gallu gofyn yn ddigidol am apwyntiad nad yw’n fater brys neu alwad yn ôl, a bod y trefniadau llywodraethu angenrheidiol yn eu lle ar gyfer y broses hon,

(e)rhoi cyhoeddusrwydd i wybodaeth, drwy adnodd ar-lein y practis, am—

(i)y gofynion mynediad a bennir ym mharagraff 4 (y paragraff hwn), a

(ii)y modd y gall cleifion—

(aa)cael mynediad at wasanaethau’r contractwr, a

(bb)gofyn am ymgynghoriad brys, ymgynghoriad rheolaidd ac ymgynghoriad pellach,

(f)cynnig ymgynghoriad yr un diwrnod i—

(i)plant o dan 16 oed sy’n ymgyflwyno â materion acíwt, a

(ii)cleifion sydd wedi eu brysbennu’n glinigol fel rhai y mae arnynt angen asesiad brys,

(g)cynnig apwyntiadau y gellir eu trefnu ymlaen llaw i ddigwydd yn ystod oriau craidd, ac

(h)mynd ati’n weithredol i gyfeirio cleifion at wasanaethau priodol—

(i)sydd ar gael oddi wrth aelodau clwstwr y contractwr,

(ii)sydd wedi eu darparu neu eu comisiynu gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu

(iii)sydd ar gael yn lleol neu’n genedlaethol.

(2Rhaid i’r contractwr hunanddatgan yn chwarterol fod y gofynion yn is-baragraff (1) wedi eu bodloni a bod yn barod, os gofynnir am hynny, i ddarparu’r dystiolaeth i’r Bwrdd Iechyd Lleol fel sy’n ofynnol.

Mynd i fangre practis

5.—(1Rhaid i’r contractwr gymryd camau i sicrhau bod unrhyw glaf—

(a)sydd heb wneud apwyntiad o’r blaen, a

(b)sy’n mynd i’r fangre practis ar gyfer gwasanaethau unedig rhwng 8.30am a 6.00pm ar ddiwrnod gwaith,

yn cael y gwasanaethau hynny gan broffesiynolyn gofal iechyd priodol ar y diwrnod hwnnw.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys—

(a)pan fo’n fwy priodol i’r claf gael ei atgyfeirio at fan arall i gael gwasanaethau o dan y Ddeddf, neu

(b)pan fo’r claf wedyn yn cael cynnig apwyntiad i fynd eto o fewn amser sy’n briodol ac yn rhesymol o roi sylw i’r holl amgylchiadau ac na fyddai iechyd y claf yn cael ei beryglu drwy wneud hynny.

Mynd at gleifion y tu allan i fangre practis

6.—(1Pan fo cyflwr meddygol claf yn golygu, ym marn resymol y contractwr—

(a)bod angen mynd at y claf, a

(b)y byddai’n amhriodol i’r claf fynd i’r fangre practis,

rhaid i’r contractwr ddarparu gwasanaethau i’r claf hwnnw ym mha un bynnag o’r lleoedd a ddisgrifir yn is-baragraff (2) sydd fwyaf priodol ym marn y contractwr.

(2Y lleoedd a ddisgrifir yn yr is-baragraff hwn yw—

(a)y lle a gofnodwyd yng nghofnodion meddygol y claf fel cyfeiriad cartref diweddaraf y claf,

(b)unrhyw le arall y mae’r contractwr wedi rhoi gwybod i’r claf a’r Bwrdd Iechyd Lleol mai dyna’r lle y mae’r contractwr wedi cytuno i ymweld â’r claf a’i drin, neu

(c)lle arall yn ardal practis y contractwr.

(3Nid oes dim yn y paragraff hwn yn atal y contractwr—

(a)rhag trefnu i atgyfeirio’r claf heb weld y claf yn gyntaf, mewn unrhyw achos pan fo cyflwr meddygol y claf yn peri bod y ffordd honno o weithredu yn briodol, neu

(b)rhag ymweld â’r claf o dan amgylchiadau pan na fo’r paragraff hwn yn gosod y contractwr o dan rwymedigaeth i wneud hynny.

Cleifion sydd newydd gofrestru

7.—(1Pan fo claf—

(a)wedi ei dderbyn ar restr contractwr o gleifion, neu

(b)wedi ei neilltuo i’r rhestr honno gan y Bwrdd Iechyd Lleol,

rhaid i’r contractwr wahodd y claf i gymryd rhan mewn ymgynghoriad naill ai ym mangre practis y contractwr neu, os yw cyflwr meddygol y claf yn haeddu hynny, yn un o’r lleoedd y cyfeirir atynt ym mharagraff 6(2).

(2Rhaid i wahoddiad o dan is-baragraff (1) gael ei ddyroddi gan y contractwr cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â dyddiad derbyn y claf ar restr y contractwr o gleifion, neu neilltuo’r claf iddi.

(3Pan fo claf (neu, pan fo’n briodol, yn achos claf sy’n blentyn, rhiant y plentyn) yn cytuno i gymryd rhan mewn ymgynghoriad a grybwyllir yn is-baragraff (1) rhaid i’r contractwr, yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw—

(a)gwneud unrhyw ymholiadau ac ymgymryd ag unrhyw archwiliadau y mae’n ymddangos i’r contractwr eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau, a

(b)ar gyfer pob claf sydd newydd gofrestru sydd wedi cyrraedd 16 oed, gyda chydweithrediad y claf, gwblhau’r fersiwn ddiweddaraf o’r holiadur set ddata genedlaethol gofynnol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru er mwyn sicrhau gwybodaeth sgrinio iechyd.

(4Nid oes dim yn y paragraff hwn yn effeithio ar rwymedigaethau eraill y contractwr o dan y contract mewn cysylltiad â’r claf.

Cleifion sydd heb eu gweld o fewn 3 blynedd

8.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo claf cofrestredig sydd wedi cyrraedd 16 oed ond heb gyrraedd 75 oed—

(a)yn gofyn am ymgynghoriad gyda’r contractwr, a

(b)heb fynd naill ai i ymgynghoriad gyda’r contractwr neu i glinig a ddarparwyd gan y contractwr o fewn y cyfnod o 3 blynedd cyn dyddiad y cais.

(2Rhaid i’r contractwr—

(a)darparu ymgynghoriad i’r claf, a

(b)yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw, wneud unrhyw ymholiadau ac ymgymryd ag unrhyw archwiliadau y mae’n ystyried eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau.

(3Nid oes dim yn y paragraff hwn yn effeithio ar rwymedigaethau eraill y contractwr o dan y contract mewn perthynas â’r claf.

Cleifion 75 oed a throsodd

9.—(1Pan fo claf cofrestredig sy’n gofyn am ymgynghoriad—

(a)wedi cyrraedd 75 oed, a

(b)heb gymryd rhan mewn ymgynghoriad o fewn y flwyddyn cyn dyddiad y cais,

rhaid i’r contractwr ddarparu ymgynghoriad o’r fath pryd y mae rhaid iddo wneud unrhyw ymholiadau ac ymgymryd ag unrhyw archwiliadau y mae’n ystyried eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau.

(2Rhaid i ymgynghoriad o dan is-baragraff (1) gael ei gynnal yng nghartref y claf pan fyddai’n amhriodol i’r claf fynd i’r fangre practis, ym marn resymol y contractwr, o ganlyniad i gyflwr meddygol y claf.

(3Nid oes dim yn y paragraff hwn yn effeithio ar rwymedigaethau eraill y contractwr o dan y contract mewn perthynas â’r claf.

Adroddiadau clinigol

10.—(1Pan fo’r contractwr yn darparu unrhyw wasanaethau clinigol, heblaw o dan drefniant preifat, i glaf nad yw ar ei restr o gleifion, rhaid i’r contractwr, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ddarparu adroddiad clinigol ynglŷn â’r ymgynghoriad, ac unrhyw driniaeth a ddarparwyd i’r claf, i’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol anfon unrhyw adroddiad sy’n dod i law o dan is-baragraff (1)—

(a)at y person y mae’r claf wedi ei gofrestru gydag ef ar gyfer darparu gwasanaethau unedig neu wasanaethau cyfatebol, neu

(b)os nad yw’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn hysbys iddo, i’r Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r claf yn preswylio yn ei ardal.

Storio brechlynnau

11.  Rhaid i’r contractwr sicrhau—

(a)bod pob brechlyn yn cael ei storio yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd, a

(b)bod gan bob oergell y mae brechlynnau’n cael eu storio ynddi thermomedr uchaf/isaf a bod darlleniadau tymheredd yn cael eu cymryd ar bob diwrnod gwaith.

Rheoli heintiau

12.  Rhaid i’r contractwr sicrhau bod ganddo drefniadau priodol ar gyfer rheoli heintiau a dihalogi.

Y ddyletswydd i gydweithredu mewn perthynas â gwasanaethau atodol

13.—(1Pan nad yw contractwr yn darparu gwasanaeth atodol penodol i’w gleifion cofrestredig nac i bersonau y mae wedi eu derbyn yn breswylwyr dros dro rhaid iddo gydymffurfio â’r gofynion a bennir yn is-baragraff (2).

(2Y gofynion a bennir yn yr is-baragraff hwn yw bod rhaid i’r contractwr yn ystod oriau craidd—

(a)cydweithredu, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol, ag unrhyw berson sy’n gyfrifol am ddarparu’r gwasanaeth hwnnw neu’r gwasanaethau hynny, a

(b)cydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol am wybodaeth gan berson o’r fath neu gan y Bwrdd Iechyd Lleol ynglŷn â darparu’r gwasanaeth hwnnw neu’r gwasanaethau hynny.

Y ddyletswydd i gydweithredu mewn perthynas â gwasanaethau y tu allan i oriau

14.  Rhaid i’r contractwr—

(a)sicrhau bod unrhyw glaf sy’n cysylltu â mangreoedd practis y contractwr yn ystod y cyfnod y tu allan i oriau yn cael gwybodaeth ynglŷn â sut i sicrhau gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwnnw,

(b)sicrhau bod manylion clinigol pob ymgynghoriad y tu allan i oriau sy’n dod i law oddi wrth y darparwr y tu allan i oriau yn cael eu hadolygu gan glinigydd ym mhractis y contractwr ar yr un diwrnod gwaith ag y daw’r manylion hynny i law yn y practis neu, yn eithriadol, ar y diwrnod gwaith nesaf,

(c)sicrhau bod unrhyw geisiadau am wybodaeth sy’n dod i law oddi wrth y darparwr y tu allan i oriau mewn perthynas ag unrhyw ymgyngoriadau y tu allan i oriau yn cael ymateb gan glinigydd ym mhractis y contractwr ar yr un diwrnod ag y daw’r ceisiadau hynny i law ym mhractis y contractwr, neu ar y diwrnod gwaith nesaf,

(d)cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio ag unrhyw systemau sydd gan y darparwr y tu allan i oriau ar waith i sicrhau bod data cleifion yn cael eu trawsyrru’n gyflym, yn ddiogel ac yn effeithiol mewn cysylltiad ag ymgyngoriadau y tu allan i oriau, ac

(e)cytuno â’r darparwr y tu allan i oriau ar system ar gyfer trawsyrru gwybodaeth yn gyflym, yn ddiogel ac yn effeithiol ynghylch cleifion cofrestredig y rhagwelir eu bod, oherwydd clefyd cronig neu salwch angheuol, yn debycach o ymgyflwyno i gael triniaeth yn ystod y cyfnod y tu allan i oriau.

Aelodaeth o glwstwr

15.  Rhaid i gontract gynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr fod yn aelod o glwstwr.

Y ddyletswydd i gydweithredu: gweithio mewn clwstwr

16.—(1Rhaid i gontractwr gydymffurfio â’r gofynion yn is-baragraff (2) pan ddarperir gwasanaethau gan glwstwr y contractwr i gleifion cofrestredig neu breswylwyr dros dro.

(2Y gofynion a bennir yn yr is-baragraff hwn yw bod rhaid i’r contractwr—

(a)cydweithredu, i’r graddau y mae’n rhesymol, ag unrhyw berson sy’n gyfrifol am ddarparu’r gwasanaethau,

(b)cydymffurfio yn ystod oriau craidd ag unrhyw gais rhesymol am wybodaeth gan y person hwnnw neu gan y Bwrdd Iechyd Lleol ynglŷn â darparu’r gwasanaethau,

(c)cytuno ar fandad y cynrychiolydd Cydweithredfa Ymarfer Cyffredinol yng nghyfarfodydd y clwstwr a chymryd adborth o gyfarfodydd y clwstwr i ystyriaeth,

(d)cymryd camau rhesymol i ddarparu gwybodaeth i’w gleifion cofrestredig am y gwasanaethau, gan gynnwys gwybodaeth am sut i gael mynediad i’r gwasanaethau ac unrhyw newidiadau iddynt, ac

(e)sicrhau yr ymgysylltir â’r gwaith o gynllunio a chyflawni gwasanaethau lleol, fel sydd wedi ei gytuno o fewn cynllun gweithredu’r clwstwr, sy’n cynnwys trefniadau addas i alluogi rhannu data, pan fo mesurau diogelu priodol wedi eu bodloni, i gefnogi’r gwaith o gyflenwi’r gwasanaethau ac i drafod cyllid a chyllidebau’r clwstwr.

Aelodaeth o Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol

17.—(1Rhaid i gontract gynnwys teler sy’n cael yr effaith o’i gwneud yn ofynnol i’r contractwr fod yn aelod o Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol.

(2Rhaid i gontractwr—

(a)penodi o leiaf 1 proffesiynolyn gofal iechyd a chanddo awdurdod i weithredu ar ran y contractwr yn yr ymdriniaethau rhwng y contractwr a’r Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol y mae’r contractwr yn perthyn iddi, a

(b)mynd i 4 cyfarfod o leiaf o’r Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol y mae’r contractwr yn perthyn iddi ym mhob blwyddyn ariannol (oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol), neu benodi un o uwch glinigwyr y practis, neu pan fo’n briodol uwch weinyddydd, a gyflogir gan y practis i fynd i’r cyfarfodydd hynny ac i weithredu ar ran y contractwr yn y cyfarfodydd hynny.

Cyfrannu at glystyrau a Chydweithredfeydd Ymarfer Cyffredinol

18.  Rhaid i gontractwr—

(a)cyfrannu gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys cynlluniau galw a chapasiti, i Gynllun Tymor Canolig Integredig y clwstwr drwy’r Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol, a rhaid i’r cyfraniad gynnwys gwybodaeth am gynlluniau galw a chapasiti,

(b)dangos sut y maent wedi ymwneud â’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau lleol y cytunwyd arnynt yng nghyfraniad y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol at gynllun y clwstwr, gan gynnwys tystiolaeth o waith partneriaeth eang, gweithio amlbroffesiwn/amlasiantaeth, a datblygu gwasanaethau integredig, ac

(c)cyfrannu at gyflawni canlyniadau penodol a bennir gan y clwstwr, gan gynnwys ymwneud â chynllunio mentrau lleol drwy ymwneud â’r clwstwr drwy gyfrwng arweinydd y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol.

Galw a chapasiti

19.  Mae’n ofynnol i gontractwr ymwneud â Chydweithredfa Ymarfer Cyffredinol i gynorthwyo’r gydweithredfa—

(a)wrth ymgymryd ag asesiad o anghenion y boblogaeth o ran ei chleifion,

(b)wrth ddadansoddi’r gwasanaethau presennol sydd ar gael i boblogaeth y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol, gan nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth,

(c)wrth ddadansoddi niferoedd a sgiliau presennol y gweithlu a’i anghenion datblygu,

(d)wrth fesur anghenion iechyd lleol fel y penderfynir gan y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol, ac

(e)wrth ddarparu tystiolaeth o’r asesiad o’r galw a’r capasiti a wnaed, y mae tystiolaeth ohono i’w chynnwys yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol.

Rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaethau: ceisiadau am wybodaeth

20.  Pan fo contractwr yn rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaeth atodol i’w gleifion, rhaid i’r contractwr gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol am wybodaeth ynglŷn â darparu’r gwasanaeth hwnnw, neu’r gwasanaethau hynny, a wneir gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gan unrhyw berson y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu ymrwymo i gontract gydag ef ar gyfer darparu gwasanaethau o’r fath.

Y Gymraeg

21.—(1Pan fo’r contractwr yn darparu gwasanaethau meddygol o dan y contract drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid iddo hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig.

(2Rhaid i’r contractwr roi ar gael fersiwn Gymraeg o unrhyw ddogfen neu ffurflen sydd i’w defnyddio gan gleifion a/neu aelodau o’r cyhoedd, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Pan fo’r contractwr yn arddangos arwydd newydd neu hysbysiad newydd mewn cysylltiad â’r gwasanaethau meddygol a ddarperir o dan y contract, rhaid i’r testun ar yr arwydd neu’r hysbysiad fod yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chaiff y contractwr ddefnyddio’r gwasanaeth cyfieithu a gynigir gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwn.

(4Rhaid i’r contractwr annog y rhai sy’n siarad Cymraeg ac yn darparu gwasanaethau meddygol o dan y contract i wisgo bathodyn, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, i gyfleu’r ffaith eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

(5Rhaid i’r contractwr annog y rhai sy’n darparu gwasanaethau meddygol o dan y contract i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynychu cyrsiau a digwyddiadau hyfforddiant a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol fel y gallant ddatblygu—

(a)ymwybyddiaeth o’r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth o’i hanes a’i rôl yn niwylliant Cymru), a

(b)dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau meddygol o dan y contract.

(6Rhaid i’r contractwr annog y rhai sy’n darparu gwasanaethau meddygol o dan y contract i ganfod a chofnodi pa un ai’r Gymraeg ynteu’r Saesneg yw hoff ddewis iaith y claf, yn unol â’r hyn a fynegir gan neu ar ran y claf.