Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 5Rhagnodi a gweinyddu

Rhagnodi: cyffredinol

48.—(1Rhaid i’r contractwr sicrhau—

(a)bod unrhyw ffurflen bresgripsiwn neu unrhyw bresgripsiwn amlroddadwy ar gyfer cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar a ddyroddir gan ragnodydd, a

(b)bod unrhyw ffurflen archebu ocsigen cartref a ddyroddir gan broffesiynolyn gofal iechyd,

yn cydymffurfio, fel y bo’n briodol, â’r gofynion yn y Rhan hon.

(2Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at “cyffuriau” yn cynnwys sylweddau atal cenhedlu ac mae cyfeiriad at “cyfarpar” yn cynnwys cyfarpar atal cenhedlu.

Archebion ar gyfer cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar

49.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (4) ac i’r cyfyngiadau ar ragnodi ym mharagraffau 55 a 56, rhaid i ragnodydd archebu unrhyw gyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar y mae eu hangen ar gyfer trin unrhyw glaf sy’n cael triniaeth o dan y contract drwy—

(a)dyroddi i’r claf ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig sydd wedi ei chwblhau neu wedi ei gwblhau yn unol ag is-baragraff (6), neu

(b)creu a thrawsyrru presgripsiwn electronig o dan amgylchiadau y mae paragraff 50(1) yn gymwys iddynt,

ac ni chaniateir defnyddio ffurflen bresgripsiwn anelectronig, presgripsiwn amlroddadwy anelectronig na phresgripsiwn electronig sydd at ddefnydd y gwasanaeth iechyd o dan unrhyw amgylchiadau eraill.

(2Ar achlysur penodol pan fydd angen cyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar fel y crybwyllir yn is-baragraff (1)—

(a)os yw’r rhagnodydd, yn ddi-oed, yn gallu archebu’r cyffur, y feddyginiaeth neu’r cyfarpar drwy gyfrwng presgripsiwn electronig,

(b)os yw’r feddalwedd Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig y byddai’r rhagnodydd yn ei defnyddio at y diben hwnnw yn darparu ar gyfer creu a thrawsyrru presgripsiynau electronig heb fod angen gweinyddydd enwebedig, ac

(c)os nad yw’r un o’r rhesymau dros ddyroddi ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig a roddir yn is-baragraff (3) yn gymwys,

rhaid i’r rhagnodydd greu a thrawsyrru presgripsiwn electronig ar gyfer y cyffur hwnnw, y feddyginiaeth honno neu’r cyfarpar hwnnw.

(3Y rhesymau a roddir yn yr is-baragraff hwn yw—

(a)er bod y rhagnodydd yn gallu defnyddio’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig, nid yw’r rhagnodydd wedi ei fodloni—

(i)bod y mynediad sydd gan y rhagnodydd at y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn ddibynadwy, neu

(ii)bod y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn gweithredu mewn modd dibynadwy,

(b)bod y claf neu, pan fo’n briodol, berson awdurdodedig y claf, yn rhoi gwybod i’r rhagnodydd bod y claf yn awyddus i gael yr opsiwn i’r presgripsiwn gael ei weinyddu yn rhywle arall heblaw yng Nghymru, neu

(c)bod y claf neu, pan fo’n briodol, berson awdurdodedig y claf, yn mynnu bod ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig yn cael ei dyroddi neu ei ddyroddi i’r claf ar gyfer presgripsiwn penodol ac, ym marn broffesiynol y rhagnodydd, fod lles y claf yn debygol o fod mewn perygl onid yw ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig yn cael ei dyroddi neu ei ddyroddi.

(4Rhaid i broffesiynolyn gofal iechyd archebu unrhyw wasanaethau ocsigen cartref y mae eu hangen ar gyfer trin unrhyw glaf sy’n cael triniaeth o dan y contract drwy ddyroddi ffurflen archebu ocsigen cartref.

(5Ni chaiff rhagnodydd archebu cyffuriau, meddyginiaeth na chyfarpar ar bresgripsiwn amlroddadwy ond pan fo’r cyffuriau, y meddyginiaethau neu’r cyfarpar i’w darparu neu i’w ddarparu fwy nag unwaith.

(6Wrth ddyroddi ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig—

(a)rhaid i’r rhagnodydd lofnodi’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy mewn inc yn llawysgrifen y rhagnodydd ei hun, ac nid drwy gyfrwng stamp, gyda phriflythrennau’r rhagnodydd, neu ei enwau cyntaf, a’i gyfenw, a

(b)ni chaiff y rhagnodydd ond llofnodi’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy ar ôl i fanylion yr archeb gael eu mewnosod yn y ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy.

(7Ni chaiff ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy gyfeirio at unrhyw ffurflen bresgripsiwn flaenorol na phresgripsiwn amlroddadwy blaenorol.

(8Rhaid defnyddio ffurflen bresgripsiwn ar wahân neu bresgripsiwn amlroddadwy ar wahân ar gyfer pob claf, ac eithrio pan ddyroddir swmp-bresgripsiwn ar gyfer ysgol neu sefydliad o dan baragraff 58.

(9Rhaid i ffurflen archebu ocsigen cartref gael ei llofnodi gan broffesiynolyn gofal iechyd.

(10Pan fo rhagnodydd yn archebu’r cyffur bwprenorffin neu deuasepam neu gyffur a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001(1) (cyffuriau a reolir y mae rheoliadau 14 i 16, 18 i 21, 23, 26 a 27 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt) i’w gyflenwi fesul rhanbresgripsiwn ar gyfer trin caethiwed i unrhyw gyffur a bennir yn yr Atodlen honno, rhaid i’r rhagnodydd—

(a)defnyddio dim ond y ffurflen bresgripsiwn a ddarperir yn benodol at ddibenion cyflenwi fesul rhanbresgripsiwn,

(b)pennu nifer y rhanbresgripsiynau sydd i’w gweinyddu, a’r ysbaid rhwng pob rhanbresgripsiwn, ac

(c)archebu dim ond y swm hwnnw o’r cyffur a fydd yn darparu triniaeth ar gyfer cyfnod nad yw’n hwy na 14 o ddiwrnodau.

(11Ni chaniateir defnyddio’r ffurflen bresgripsiwn a ddarperir yn arbennig at ddiben cyflenwi fesul rhanbresgripsiwn at unrhyw ddiben arall heblaw archebu cyffuriau yn unol ag is-baragraff (10).

(12Mewn achos brys, ni chaiff rhagnodydd ond gofyn i fferyllydd GIG weinyddu cyffur neu feddyginiaeth cyn i ffurflen bresgripsiwn gael ei dyroddi neu ei chreu na chyn i bresgripsiwn amlroddadwy gael ei ddyroddi neu ei greu—

(a)os nad yw’r cyffur hwnnw neu’r feddyginiaeth honno yn gyffur Atodlen,

(b)os nad yw’r cyffur yn gyffur a reolir o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (sy’n ymwneud â chyffuriau a reolir a’u dosbarthiad at ddibenion y Ddeddf honno), heblaw cyffur a bennir am y tro yn Rhan 1 o Atodlen 4 (cyffuriau a reolir sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 22, 23, 26 a 27) neu Atodlen 5 (cyffuriau a reolir sydd wedi eu heithrio o’r gwaharddiad ar fewnforio, allforio a bod ym meddiant ac sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 24 a 26) i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, ac

(c)os yw’r rhagnodydd yn ymgymryd â’r canlynol—

(i)darparu i’r fferyllydd GIG, o fewn 72 awr gan ddechrau â’r amser y gwneir y cais, ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig wedi ei chwblhau neu wedi ei gwblhau yn unol ag is-baragraff (6), neu

(ii)trawsyrru presgripsiwn electronig drwy’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig o fewn 72 awr, gan ddechrau â’r amser y gwneir y cais.

(13Mewn achos brys, ni chaiff rhagnodydd ond gofyn i fferyllydd GIG weinyddu cyfarpar cyn i ffurflen bresgripsiwn gael ei dyroddi neu ei chreu na chyn i bresgripsiwn amlroddadwy gael ei ddyroddi neu ei greu—

(a)os nad yw’r cyfarpar yn cynnwys cyffur Atodlen, na chyffur a reolir o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (sy’n ymwneud â chyffuriau a reolir a’u dosbarthiad at ddibenion y Ddeddf honno), heblaw cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001 (cyffuriau a reolir sydd wedi eu heithrio o’r gwaharddiad ar fewnforio, allforio a bod ym meddiant ac sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 24 a 26),

(b)pan fo’r cyfarpar yn gyfarpar argaeledd cyfyngedig, os yw’r claf yn berson a bennir yn y Tariff Cyffuriau neu’r cyfarpar at ddiben a bennir yn y Tariff Cyffuriau, ac

(c)os yw’r rhagnodydd yn ymgymryd â’r canlynol—

(i)darparu i’r fferyllydd GIG, o fewn 72 awr, gan ddechrau â’r amser y gwneir y cais, ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig wedi ei chwblhau neu wedi ei gwblhau yn unol ag is-baragraff (6), neu

(ii)trawsyrru presgripsiwn electronig drwy’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig o fewn 72 awr, gan ddechrau â’r amser y gwneir y cais.

Presgripsiynau electronig

50.—(1Ni chaiff rhagnodydd ond archebu cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar drwy gyfrwng presgripsiwn electronig os nad yw’r presgripsiwn—

(a)ar gyfer cyffur a reolir o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (sy’n ymwneud â chyffuriau a reolir a’u dosbarthiad at ddibenion y Ddeddf honno), ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlenni 2 i 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, neu

(b)yn swmp-bresgripsiwn a ddyroddir ar gyfer ysgol neu sefydliad o dan baragraff 58.

(2Os yw rhagnodydd yn archebu cyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar drwy gyfrwng presgripsiwn electronig, rhaid i’r rhagnodydd ddyroddi i’r claf—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), tocyn GPE, a

(b)os yw’r claf neu, pan fo’n briodol, berson awdurdodedig y claf, yn gofyn hynny, cofnod ysgrifenedig o’r presgripsiwn sydd wedi ei greu.

(3Ar y dyddiad y mae GPE y contractwr yn mynd yn fyw, ac ar ôl hynny, os yw’r archeb yn gymwys ar gyfer defnyddio’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig, rhaid i’r rhagnodydd ganfod pa un a yw’r claf neu, pan fo’n briodol, berson awdurdodedig y claf, yn awyddus i’r presgripsiwn electronig gael ei weinyddu gan weinyddydd enwebedig.

(4Ni chaiff y rhagnodydd ddyroddi tocyn GPE i’r claf os yw’r claf neu, pan fo’n briodol, berson awdurdodedig y claf, yn awyddus i’r presgripsiwn electronig gael ei weinyddu gan weinyddydd enwebedig.

(5Ni chaiff proffesiynolyn gofal iechyd archebu gwasanaethau ocsigen cartref drwy gyfrwng presgripsiwn electronig.

Enwebu gweinyddwyr at ddibenion presgripsiynau electronig

51.—(1Rhaid i gontractwr sydd wedi ei awdurdodi i ddefnyddio’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig ar gyfer ei gleifion, os yw claf neu, pan fo’n briodol, berson awdurdodedig y claf, yn gofyn iddo wneud hynny, fewnosod yn y manylion ynghylch y claf a gedwir yng Ngwasanaeth Demograffeg Cymru a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru neu yn y Gwasanaeth Demograffeg Personol a reolir gan GIG Lloegr—

(a)pan na fo gan y claf weinyddydd enwebedig, y gweinyddydd a ddewisir gan y claf neu, pan fo’n briodol, y gweinyddydd a ddewisir gan berson awdurdodedig y claf, a

(b)pan fo gan y claf weinyddydd enwebedig—

(i)gweinyddydd yn lle gweinyddydd arall, neu

(ii)gweinyddydd ychwanegol,

a ddewisir gan y claf neu, pan fo’n briodol, a ddewisir gan berson awdurdodedig y claf.

(2Nid yw is-baragraff (1)(b)(ii) yn gymwys pe byddai nifer y gweinyddwyr enwebedig o ganlyniad yn fwy na’r uchafswm a ganiateir gan y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig.

(3O ran contractwr—

(a)ni chaiff geisio perswadio claf neu berson awdurdodedig claf i enwebu gweinyddydd y mae’r rhagnodydd neu’r contractwr yn ei argymell, a

(b)os yw claf neu berson awdurdodedig claf yn gofyn iddo argymell fferyllydd GIG y gallai’r claf neu berson awdurdodedig y claf ei enwebu fel gweinyddydd y claf, rhaid iddo ddarparu i’r claf neu, yn ôl y digwydd, i berson awdurdodedig y claf, y rhestr a roddwyd i’r contractwr gan y Bwrdd Iechyd Leol yn cynnwys yr holl fferyllwyr GIG yn yr ardal sy’n darparu Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig.

Gwasanaethau amlragnodi

52.—(1Ni chaiff contractwr ond darparu gwasanaethau amlragnodi i berson sydd ar ei restr o gleifion os yw’r contractwr—

(a)yn bodloni’r amodau yn is-baragraff (2), a

(b)wedi hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol am ei fwriad i ddarparu gwasanaethau amlragnodi yn unol ag is-baragraffau (3) a (4).

(2Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(a) yw—

(a)bod gan y contractwr fynediad at systemau cyfrifiadurol a meddalwedd sy’n ei alluogi i ddyroddi presgripsiynau amlroddadwy anelectronig a swpddyroddiadau, a

(b)bod y mangre practis y mae’r gwasanaethau amlragnodi i’w darparu ynddi wedi ei lleoli mewn ardal o’r Bwrdd Iechyd Lleol y mae mangre o leiaf un fferyllydd GIG sydd wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau amlweinyddu, neu sydd wedi ymrwymo i drefniant i ddarparu gwasanaethau amlweinyddu, wedi ei lleoli ynddi hefyd.

(3Mae’r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b) yn hysbysiad ysgrifenedig gan y contractwr i’r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol ei fod—

(a)yn dymuno darparu gwasanaethau amlragnodi,

(b)yn bwriadu dechrau darparu’r gwasanaethau hynny o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad, ac

(c)yn bodloni’r amodau yn is-baragraff (2).

(4Rhaid i’r dyddiad a bennir gan y contractwr o dan baragraff (3)(b) fod o leiaf 10 niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad a bennir yn is-baragraff (1).

(5Nid oes dim yn y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gontractwr neu ragnodydd ddarparu gwasanaethau amlragnodi i unrhyw berson.

(6Ni chaiff rhagnodydd ond darparu gwasanaethau amlragnodi i berson ar achlysur penodol—

(a)os yw’r person hwnnw wedi cytuno i gael gwasanaethau o’r fath ar yr achlysur hwnnw, a

(b)os yw’r rhagnodydd yn ystyried ei bod yn briodol yn glinigol i ddarparu gwasanaethau o’r fath i’r person hwnnw ar yr achlysur hwnnw.

(7Ni chaiff y contractwr ddarparu gwasanaethau amlragnodi i unrhyw berson ar ei restr o gleifion y mae unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (8) wedi ei awdurdodi neu o dan ofyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol i ddarparu gwasanaethau fferyllol iddo yn unol â threfniadau o dan adran 80 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol) ac adran 86 (personau sydd wedi eu hawdurdodi i ddarparu gwasanaethau fferyllol) o’r Ddeddf.

(8Y personau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (7) yw—

(a)yn achos contract gydag ymarferydd meddygol unigol, yr ymarferydd meddygol hwnnw,

(b)yn achos contract gyda dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth, unrhyw ymarferydd meddygol sy’n bartner,

(c)yn achos contract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau, unrhyw ymarferydd meddygol sy’n gyfranddaliwr cyfreithiol a llesiannol yn y cwmni hwnnw, neu

(d)unrhyw ymarferydd meddygol sydd wedi ei gyflogi gan y contractwr.

Presgripsiynau amlroddadwy

53.—(1Rhaid i ragnodydd sy’n dyroddi presgripsiwn amlroddadwy anelectronig ddyroddi’r nifer priodol o swpddyroddiadau yr un pryd.

(2Pan fo rhagnodydd am wneud newid i fath, swm, cryfder neu ddogn cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar a archebir ar bresgripsiwn amlroddadwy person, rhaid i’r rhagnodydd—

(a)yn achos presgripsiwn amlroddadwy anelectronig—

(i)rhoi hysbysiad i’r person, a

(ii)gwneud ymdrechion rhesymol i roi hysbysiad i’r fferyllydd GIG sy’n darparu gwasanaethau amlweinyddu i’r person hwnnw,

nad yw’r presgripsiwn amlroddadwy gwreiddiol i’w ddefnyddio mwyach i gael nac i ddarparu gwasanaethau amlweinyddu, a gwneud trefniadau ar gyfer dyroddi presgripsiwn amlroddadwy newydd i’r person yn ei le, neu

(b)yn achos presgripsiwn amlroddadwy electronig—

(i)trefnu gyda’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig i ddileu’r presgripsiwn amlroddadwy gwreiddiol, a

(ii)creu presgripsiwn amlroddadwy newydd mewn cysylltiad â’r person yn ei le, a rhoi hysbysiad i’r person fod hyn wedi ei wneud.

(3Pan fo rhagnodydd wedi creu presgripsiwn amlroddadwy electronig ar gyfer person, rhaid i’r rhagnodydd, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, drefnu gyda’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig i’w ganslo os yw’r rhagnodydd, cyn i’r presgripsiwn hwnnw ddod i ben—

(a)yn ystyried nad yw’n ddiogel neu’n briodol mwyach i’r person—

(i)cael y cyffuriau, y meddyginiaethau neu’r cyfarpar sydd wedi eu harchebu neu wedi ei archebu ar bresgripsiwn amlroddadwy electronig y person, neu

(ii)parhau i gael gwasanaethau amlragnodi,

(b)wedi dyroddi presgripsiwn amlroddadwy anelectronig i’r person yn lle’r presgripsiwn amlroddadwy electronig, neu

(c)yn cael ei hysbysu bod y person y cafodd y presgripsiwn ei ddyroddi ar ei ran wedi cael ei ddileu o restr y contractwr o gleifion.

(4Pan fo rhagnodydd wedi canslo presgripsiwn amlroddadwy electronig mewn cysylltiad â pherson yn unol ag is-baragraff (3), rhaid i’r rhagnodydd roi hysbysiad o’r canslo i’r person cyn gynted ag y bo modd.

(5Rhaid i ragnodydd sydd wedi dyroddi presgripsiwn amlroddadwy anelectronig mewn cysylltiad â pherson, cyn gynted ag y bo modd, wneud ymdrechion rhesymol i roi hysbysiad i’r fferyllydd GIG na chaniateir defnyddio’r presgripsiwn amlroddadwy hwnnw mwyach i ddarparu gwasanaethau amlweinyddu i’r person hwnnw os yw’r rhagnodydd, cyn i’r presgripsiwn amlroddadwy hwnnw ddod i ben,—

(a)yn ystyried nad yw’n ddiogel neu’n briodol mwyach i’r person—

(i)cael y cyffuriau, y meddyginiaethau neu’r cyfarpar sydd wedi eu harchebu neu wedi ei archebu ar bresgripsiwn amlroddadwy y person, neu

(ii)parhau i gael gwasanaethau amlragnodi,

(b)yn dyroddi neu’n creu presgripsiwn amlroddadwy ychwanegol mewn cysylltiad â’r person i ddisodli’r presgripsiwn amlroddadwy gwreiddiol, ac eithrio o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff 2(a) (er enghraifft, oherwydd bod y person yn awyddus i gael y cyffuriau, y meddyginiaethau neu’r cyfarpar gan fferyllydd GIG gwahanol), neu

(c)yn cael ei hysbysu bod y person y cafodd y presgripsiwn ei ddyroddi ar ei ran wedi cael ei ddileu o restr y contractwr o gleifion.

(6Pan fo’r amgylchiadau yn is-baragraff 5(a) i (c) yn gymwys mewn cysylltiad â pherson, rhaid i’r rhagnodydd, cyn gynted ag y bo modd, roi hysbysiad i’r person hwnnw na chaniateir defnyddio ei bresgripsiwn amlroddadwy mwyach i gael gwasanaethau amlweinyddu.

Rhagnodi ar gyfer amlweinyddu’n electronig

54.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau 49, 50, 52, a 53(2)(b) i (4), pan fo rhagnodydd yn archebu cyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar drwy gyfrwng presgripsiwn amlroddadwy electronig, rhaid i’r rhagnodydd ddyroddi’r presgripsiwn mewn fformat sy’n briodol ar gyfer amlweinyddu’n electronig pan fo’n briodol yn glinigol i wneud hynny ar gyfer y claf hwnnw ar yr achlysur hwnnw.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “amlweinyddu’n electronig” yw gweinyddu fel rhan o wasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol sy’n ymwneud â darparu cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy electronig.

Cyfyngiadau ar ragnodi gan ymarferwyr meddygol

55.—(1Rhaid i ymarferydd meddygol, wrth drin claf y mae’r ymarferydd yn darparu triniaeth iddo o dan y contract, gydymffurfio â’r is-baragraffau a ganlyn.

(2Ni chaniateir i’r ymarferydd meddygol archebu ar docyn meddyginiaethau rhestredig, ffurflen bresgripsiwn na phresgripsiwn amlroddadwy gyffuriau, meddyginiaethau na sylweddau eraill y pennir mewn unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir o dan adran 46 o’r Ddeddf (contractau GMC: rhagnodi cyffuriau etc.) eu bod yn gyffuriau, yn feddyginiaethau neu’n sylweddau eraill na chaniateir iddynt gael eu harchebu ar gyfer cleifion wrth ddarparu gwasanaethau meddygol o dan y contract.

(3Ni chaniateir i’r ymarferydd meddygol archebu ar docyn meddyginiaethau rhestredig, ffurflen bresgripsiwn na phresgripsiwn amlroddadwy gyffuriau, meddyginiaethau na sylweddau eraill y pennir mewn unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 46 o’r Ddeddf (contractau GMC: rhagnodi cyffuriau etc) eu bod yn gyffuriau, yn feddyginiaethau neu yn sylweddau eraill na chaniateir ond eu harchebu ar gyfer cleifion penodedig ac at ddibenion penodedig oni bai—

(a)bod y claf yn berson o’r disgrifiad penodedig,

(b)y rhagnodir y cyffur, y feddyginiaeth neu’r sylwedd arall ar gyfer y claf hwnnw yn unig at y diben penodedig, ac

(c)os yw’r archeb ar ffurflen bresgripsiwn, bod yr ymarferydd yn cynnwys y cyfeirnod “SLS” ar y ffurflen.

(4Ni chaiff yr ymarferydd meddygol archebu cyfarpar argaeledd cyfyngedig ar ffurflen bresgripsiwn na phresgripsiwn amlroddadwy oni bai—

(a)bod y claf yn berson, neu fod y cyfarpar argaeledd cyfyngedig at ddiben, a bennir yn y Tariff Cyffuriau, a

(b)bod yr ymarferydd yn cynnwys y cyfeirnod “SLS” ar y ffurflen bresgripsiwn.

(5Ni chaiff yr ymarferydd meddygol archebu ar bresgripsiwn amlroddadwy gyffur a reolir o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (sy’n ymwneud â chyffuriau a reolir a’u dosbarthiad at ddibenion y Ddeddf honno), heblaw cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 (cyffuriau a reolir sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 22, 23, 26 a 27) neu Atodlen 5 (cyffuriau a reolir sydd wedi eu heithrio o’r gwaharddiad ar fewnforio, allforio a bod ym meddiant ac sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 24 a 26) i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001.

(6Yn ddarostyngedig i reoliad 21(2)(b) ac i is-baragraff (7), nid oes dim yn yr is-baragraffau blaenorol yn atal ymarferydd meddygol, wrth drin claf y mae’r is-baragraff hwn yn cyfeirio ato, rhag rhagnodi cyffur, meddyginiaeth neu sylwedd arall neu, yn ôl y digwydd, gyfarpar argaeledd cyfyngedig neu gyffur a reolir o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (sy’n ymwneud â chyffuriau a reolir a’u dosbarthiad at ddibenion y Ddeddf honno), ar gyfer trin y claf hwnnw o dan drefniant preifat.

(7O dan is-baragraff (6), pan ragnodir cyffur, meddyginiaeth neu sylwedd arall o dan drefniant preifat, os yw’r archeb i gael ei thrawsyrru fel cyfathrebiad electronig at fferyllydd GIG er mwyn i’r cyffur, y feddyginiaeth neu’r cyfarpar gael ei weinyddu neu ei gweinyddu—

(a)os nad yw’r archeb ar gyfer cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 2 (cyffuriau a reolir sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 14, 15, 16, 18, 19, 20, 21, 23, 26 a 27) neu Atodlen 3 (cyffuriau a reolir sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 14, 15, 16, 18, 22, 23, 24, 26 a 27) i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, caniateir iddi gael ei thrawsyrru drwy’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig, ond

(b)os yw’r archeb ar gyfer cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 2 (cyffuriau a reolir sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 14, 15, 16, 18, 19, 20, 21, 23, 26 a 27) neu Atodlen 3 (cyffuriau a reolir sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoliadau 14, 15, 16, 18, 22, 23, 24, 26 a 27) i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, rhaid iddi gael ei thrawsyrru drwy’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig.

Cyfyngiadau ar ragnodi gan ragnodwyr atodol

56.—(1Rhaid i’r contractwr gael trefniadau yn eu lle i sicrhau na chaiff unigolyn sy’n rhagnodydd atodol—

(a)dyroddi neu greu presgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig,

(b)rhoi meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig i’w roi drwy’r gwythiennau, neu

(c)rhoi cyfarwyddydau ar gyfer rhoi meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig i’w roi drwy’r gwythiennau,

fel rhagnodydd atodol ond o dan yr amodau a nodir yn is-baragraff (2).

(2Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

(a)bod yr unigolyn yn bodloni’r amodau cymwys a nodir yn rheoliad 215 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(2) (rhagnodi a gweinyddu gan ragnodwyr atodol), oni bai nad yw’r amodau hynny’n gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r esemptiadau a nodir yn narpariaethau dilynol y Rheoliadau hynny;

(b)nad yw’r cyffur, y feddyginiaeth neu’r sylwedd arall wedi ei bennu neu ei phennu mewn unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 46 o’r Ddeddf yn gyffur, yn feddyginiaeth neu’n sylwedd arall na chaniateir ei archebu neu ei harchebu ar gyfer cleifion wrth ddarparu gwasanaethau meddygol o dan y contract;

(c)nad yw’r cyffur, y feddyginiaeth neu’r sylwedd arall wedi ei bennu neu ei phennu mewn unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 46 o’r Ddeddf yn gyffur, yn feddyginiaeth neu’n sylwedd arall na chaniateir ei archebu neu ei harchebu ond ar gyfer cleifion penodedig ac at ddibenion penodedig oni bai—

(i)bod y claf yn berson o’r disgrifiad penodedig,

(ii)bod y feddyginiaeth yn cael ei rhagnodi ar gyfer y claf hwnnw yn unig at y dibenion penodedig, a

(iii)os yw’r rhagnodydd atodol yn rhoi presgripsiwn, ei fod yn arnodi wyneb y ffurflen â’r cyfeirnod “SLS”.

(3Pan fo swyddogaethau rhagnodydd atodol yn cynnwys rhagnodi, rhaid i’r contractwr gael trefniadau yn eu lle i sicrhau na chaiff y person hwnnw ond rhoi presgripsiwn ar gyfer—

(a)cyfarpar, neu

(b)meddyginiaeth nad yw’n feddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig,

fel rhagnodydd atodol o dan yr amodau a nodir yn is-baragraff (4).

(4Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—

(a)bod y rhagnodydd atodol yn gweithredu yn unol â chynllun rheoli clinigol sydd ar waith ar yr adeg y mae’r rhagnodydd atodol yn gweithredu ac sy’n cynnwys y manylion a ganlyn—

(i)enw’r claf y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef,

(ii)y salwch neu’r cyflyrau y caiff y rhagnodydd atodol eu trin,

(iii)y dyddiad y mae’r cynllun i gymryd effaith, a phryd y mae i gael ei adolygu gan yr ymarferydd meddygol neu’r deintydd sy’n barti i’r cynllun,

(iv)cyfeiriad at ddosbarth neu ddisgrifiad meddyginiaethau neu fathau o gyfarpar y caniateir eu rhagnodi neu eu rhoi o dan y cynllun,

(v)unrhyw gyfyngiadau neu derfynau o ran cryfder neu ddogn unrhyw feddyginiaeth y caniateir ei rhagnodi neu ei rhoi o dan y cynllun, ac unrhyw gyfnod o roi neu o ddefnyddio unrhyw feddyginiaeth neu gyfarpar y caniateir ei rhagnodi neu ei rhoi o dan y cynllun,

(vi)rhybuddion perthnasol ynghylch sensitifrwydd hysbys y claf i feddyginiaethau neu gyfarpar penodol, neu anawsterau hysbys y claf gyda meddyginiaethau neu gyfarpar penodol,

(vii)y trefniadau ar gyfer hysbysu am—

(aa)adweithiau niweidiol tybiedig neu hysbys i unrhyw feddyginiaeth y caniateir ei rhagnodi neu ei rhoi o dan y cynllun, ac adweithiau niweidiol tybiedig neu hysbys i unrhyw feddyginiaeth arall a gymerir yr un pryd ag unrhyw feddyginiaeth a ragnodir neu a roddir o dan y cynllun,

(bb)digwyddiadau sy’n digwydd gyda’r cyfarpar a allai arwain, y gallent fod wedi arwain neu sydd wedi arwain at farwolaeth y claf neu at ddirywiad difrifol yng nghyflwr iechyd y claf, ac

(viii)yr amgylchiadau y dylai’r rhagnodydd atodol gyfeirio at yr ymarferydd meddygol neu’r deintydd sy’n barti i’r cynllun, neu geisio ei gyngor, odanynt,

(b)bod gan y rhagnodydd atodol fynediad at gofnodion iechyd y claf y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef a ddefnyddir gan unrhyw ymarferydd meddygol neu ddeintydd sy’n barti i’r cynllun,

(c)os yw’n bresgripsiwn ar gyfer cyffur, meddyginiaeth neu sylwedd arall, nad yw’r cyffur hwnnw, y feddyginiaeth honno neu’r sylwedd arall hwnnw wedi ei bennu neu ei phennu mewn unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 46 o’r Ddeddf yn gyffur, yn feddyginiaeth neu’n sylwedd arall na chaniateir ei archebu neu ei harchebu ar gyfer cleifion wrth ddarparu gwasanaethau meddygol o dan y contract,

(d)os yw’n bresgripsiwn ar gyfer cyffur, meddyginiaeth neu sylwedd arall, nad yw’r cyffur hwnnw, y feddyginiaeth honno neu’r sylwedd arall hwnnw wedi ei bennu neu ei phennu mewn unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan Adran 46 o’r Ddeddf yn gyffur, yn feddyginiaeth neu’n sylwedd arall na chaniateir ei archebu neu ei harchebu ond ar gyfer cleifion penodedig ac at ddibenion penodedig oni bai—

(i)bod y claf yn berson o’r disgrifiad penodedig,

(ii)bod y feddyginiaeth yn cael ei rhagnodi ar gyfer y claf hwnnw yn unig at y dibenion penodedig, a

(iii)pan fydd y presgripsiwn yn cael ei roi, bod y rhagnodydd atodol yn arnodi wyneb y ffurflen gyda’r cyfeirnod “SLS”,

(e)os yw’n bresgripsiwn ar gyfer cyfarpar, bod y cyfarpar wedi ei restru yn Rhan 9 o’r Tariff Cyffuriau, ac

(f)os yw’n bresgripsiwn ar gyfer cyfarpar argaeledd cyfyngedig—

(i)bod y claf yn berson o ddisgrifiad a grybwyllir yn y cofnod yn Rhan 9 o’r Tariff Cyffuriau mewn cysylltiad â’r cyfarpar hwnnw,

(ii)nad yw’r cyfarpar yn cael ei ragnodi ond at y dibenion a bennir mewn cysylltiad â’r person hwnnw yn y cofnod hwnnw, a

(iii)bod y rhagnodydd atodol, pan fydd yn rhoi’r presgripsiwn, yn arnodi wyneb y ffurflen gyda’r cyfeirnod “SLS”.

(5Yn is-baragraff (4)(a), ystyr “cynllun rheoli clinigol” yw cynllun ysgrifenedig (y gellir ei ddiwygio o bryd i’w gilydd) sy’n ymwneud â thriniaeth claf unigol, y cytunir arno gan—

(a)y claf y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef,

(b)yr ymarferydd meddygol neu’r deintydd sy’n barti i’r cynllun, ac

(c)unrhyw ragnodydd atodol sydd i ragnodi, rhoi cyfarwyddydau ar gyfer rhoi, neu roi o dan y cynllun.

Swmpragnodi

57.—(1Caiff rhagnodydd ddefnyddio ffurflen bresgripsiwn anelectronig unigol—

(a)pan fo contractwr yn gyfrifol, o dan y contract, am drin 10 person neu ragor mewn ysgol neu sefydliad arall y mae o leiaf 20 person yn preswylio fel arfer ynddi neu ynddo, a

(b)pan fo’r rhagnodydd yn archebu, ar gyfer unrhyw 2 neu ragor o’r personau hynny y mae’r contractwr yn gyfrifol am eu triniaeth, gyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddynt.

(2Pan fo rhagnodydd yn defnyddio ffurflen bresgripsiwn anelectronig unigol at y diben a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b), rhaid i’r rhagnodydd (yn lle nodi ar y ffurflen enwau’r personau y mae’r cyffuriau, y meddyginiaethau neu’r cyfarpar yn cael eu harchebu neu ei archebu ar eu cyfer) nodi ar y ffurflen—

(a)enw’r ysgol y mae’r personau hynny yn preswylio ynddi neu enw sefydliad arall y mae’r personau hynny yn preswylio ynddo, a

(b)nifer y personau sy’n preswylio yno y mae’r contractwr yn gyfrifol am eu triniaeth.

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar y gellir ei gyflenwi neu ei chyflenwi fel rhan o wasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol nad yw, yn achos—

(a)cyffur neu feddyginiaeth, yn feddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig, neu

(b)cyfarpar, yn cynnwys cynnyrch o’r fath.

Rhagnodi’n ormodol

58.—(1Ni chaiff y contractwr ragnodi cyffuriau, meddyginiaethau na chyfarpar y mae eu cost neu eu swm, mewn perthynas â chlaf, oherwydd natur y cyffur, y feddyginiaeth neu’r cyfarpar o dan sylw, yn fwy na’r hyn a oedd yn rhesymol angenrheidiol ar gyfer trin y claf yn briodol.

(2Wrth ystyried pa un a yw contractwr wedi torri ei rwymedigaethau o dan baragraff (1), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol geisio barn y Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau o dan y contract ynddi.

Darparu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar ar gyfer rhoi triniaeth ar unwaith neu ar gyfer eu rhoi neu eu defnyddio ar y claf gan y meddyg ei hunan

59.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3)—

(a)rhaid i gontractwr ddarparu i glaf gyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar, nad yw’n gyffur Atodlen, pan fo angen darpariaeth o’r fath ar gyfer rhoi triniaeth i’r claf ar unwaith cyn y gellir cael darpariaeth fel arall, a

(b)caiff contractwr ddarparu i glaf gyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar, nad yw’n gyffur Atodlen, y mae’r contractwr ei hunan yn ei roi neu’n ei rhoi i’r claf neu’n ei ddodi neu’n ei dodi ar y claf.

(2Ni chaiff contractwr ond darparu cyfarpar argaeledd cyfyngedig o dan baragraff (1)(a) neu (b) os yw ar gyfer person neu at ddiben a bennir yn y Tariff Cyffuriau.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1) na (2) sy’n awdurdodi person i gyflenwi meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig i glaf heblaw yn unol â Rhan 12 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (sy’n ymwneud ag ymdrin â chynhyrchion meddyginiaethol).

Darparu gwasanaethau gweinyddu

60.—(1Ni chaiff y contractwr ond darparu, a rhaid iddo sicrhau nad yw’r rhai sydd wedi eu cyflogi neu eu cymryd ymlaen ganddo ond yn darparu, gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer yn y Rheoliadau Fferyllol.

(2Pan fo’r contractwr, neu berson sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan y contractwr, wedi ei gynnwys yn rhestr meddygon fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol, rhaid i’r contractwr sicrhau wrth ddarparu unrhyw wasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu fod y contractwr, a’r meddyg fferyllol (ac unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weinyddu ar ei ran o dan y Rheoliadau Fferyllol)—

(a)yn cydymffurfio â’r telerau gwasanaeth sy’n gymwys i’r person sy’n darparu’r gwasanaethau fferyllol neu’r gwasanaethau gweinyddu hynny yn rhinwedd rheoliad 12(2) o’r Rheoliadau Fferyllol, a

(b)yn sicrhau bod y claf y mae’n bwriadu darparu’r gwasanaethau hynny iddo yn ymwybodol nad oddi wrtho ef yn unig (neu oddi wrth berson y mae’r contractwr yn gysylltiedig ag ef) y mae’r cyffuriau neu’r cyfarpar perthnasol ar gael a bod gan y claf yr opsiwn i gael y cyffuriau neu’r cyfarpar hynny oddi wrth unrhyw fferyllydd GIG.

(2)

O.S. 2012/1916. Nid oes unrhyw ddiwygiadau i reoliad 215.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill