xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1Darpariaethau rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pensiynau Diffoddwyr Tân (Gwasanaeth Rhwymedïol) (Cymru) 2023.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru, neu o ran, Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2023.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod” (“member”) yw aelod actif, aelod gohiriedig, aelod ymadawedig, aelod â chredyd pensiwn neu aelod-bensiynwr(1) o gynllun pensiwn diffoddwyr tân;

ystyr “aelod dewis ar unwaith” (“immediate choice member”) yw aelod a chanddo wasanaeth rhwymedïol a oedd, yn union cyn 1 Hydref 2023, yn ymadawedig neu â hawlogaeth i daliad presennol pensiwn, ac eithrio pensiwn dewis gohiriedig, o dan gynllun 1992, cynllun 2007 neu gynllun 2015; ac ystyr “pensiwn dewis gohiriedig” (“deferred choice pension”) yw pensiwn—

(a)

nad yw ei gyfradd wedi ei ganfod (i unrhyw raddau) drwy gyfeirio at wasanaeth rhwymedïol yr aelod, a

(b)

nad effeithir ar ei gyfradd gan ddod i rym adran 2(1) o DPGCSB 2022;

ystyr “aelod dewis gohiriedig” (“deferred choice member”) yw aelod a chanddo wasanaeth rhwymedïol nad yw’n aelod dewis ar unwaith;

ystyr “aelod rhwymedi” (“remedy member”) yw aelod dewis gohiriedig neu aelod dewis ar unwaith;

ystyr “budd marwolaeth” (“death benefit”) yw budd sy’n daladwy o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân mewn perthynas ag aelod o’r cynllun hwnnw sydd wedi marw;

ystyr “Cyfarwyddydau PGC 2022” (“the PSP Directions 2022”) yw Cyfarwyddydau Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Arfer Pwerau, Digolledu a Gwybodaeth) 2022(2);

ystyr y “cynllun gwaddol” (“legacy scheme”), mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol aelod, yw pa un bynnag o Gynllun 1992 neu Gynllun 2007 yw’r cynllun gwaddol Pennod 1 perthnasol(3) ar gyfer yr aelod, ac—

(a)

ystyr “buddion cynllun gwaddol” yw buddion a gyfrifir yn unol â’r cynllun hwnnw;

(b)

ystyr “gwasanaeth cynllun gwaddol” yw gwasanaeth rhwymedïol(4) aelod mewn cyflogaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun gwaddol (pa un a yw hynny yn rhinwedd adran 2(1) o DPGCSB 2022 ai peidio);

ystyr “cynllun pensiwn diffoddwyr tân” (“firefighters’ pension scheme”) yw Cynllun 1992, Cynllun 2007 neu Gynllun 2015;

mae i “dewisiad adran 6” (“section 6 election”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10(1)(a);

mae i “dewisiad adran 10” (“section 10 election”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(1)(a);

mae i “dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan” (“opted-out service election”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(1);

ystyr “diwedd y cyfnod dewisiad adran 10” (“end of the section 10 election period”), mewn perthynas ag aelod dewis gohiriedig, yw’r adeg a ganfyddir yn unol ag—

(a)

pan mai’r aelod yw’r penderfynwr dewis gohiriedig, rheoliad 15(3)(b);

(b)

pan mai person heblaw’r aelod yw’r penderfynwr dewis gohiriedig, rheoliad 16(3)(b);

ystyr “DPGCSB 2022” (“PSPJOA 2022”) yw Deddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022;

ystyr “Gorchymyn 1992” (“the 1992 Order”) yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(5) ac ystyr “cynllun 1992” (“the 1992 scheme”) yw’r cynllun pensiwn a nodir yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw fel y mae’n cael effaith yng Nghymru;

ystyr “Gorchymyn 2007” (“the 2007 Order”) yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(6) ac ystyr “cynllun 2007” (“the 2007 scheme”) yw’r cynllun pensiwn a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny;

ystyr “gwasanaeth rhwymedïol” (“remediable service”), mewn perthynas ag aelod, yw gwasanaeth rhwymedïol yr aelod mewn cyflogaeth sy’n wasanaeth pensiynadwy o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân;

mae i “penderfyniad dewis ar unwaith” (“immediate choice decision”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10(1);

mae i “penderfyniad dewis gohiriedig” (“deferred choice decision”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(1);

ystyr “penderfynwr dewis ar unwaith” (“immediate choice decision-maker”) yw’r person a gaiff wneud penderfyniad dewis ar unwaith o dan reoliad 10(2);

ystyr “penderfynwr dewis gohiriedig” (“deferred choice decision-maker”) yw’r person a gaiff wneud penderfyniad dewisiad dewis gohiriedig o dan reoliad 14(2);

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015(7), ystyr “cynllun 2015” (“the 2015 scheme”) yw’r cynllun pensiwn a nodir yn y Rheoliadau hynny, ac—

(a)

ystyr “buddion cynllun 2015” yw buddion o dan Reoliadau 2015;

(b)

ystyr “gwasanaeth cynllun 2015”, mewn perthynas ag aelod, yw gwasanaeth rhwymedïol yr aelod mewn cyflogaeth sy’n wasanaeth pensiynadwy o dan Reoliadau 2015 (boed yn rhinwedd adran 2(1) o DPGCSB 2022 ai peidio).

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad yn DPGCSB 2022 at adran 2(1) o’r Ddeddf honno yn dod i rym yn gyfeiriad at yr adran honno yn dod i rym mewn perthynas ag aelodau o gynllun pensiwn diffoddwyr tân.

(3Mae i derm Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i derm Saesneg—

(a)sydd wedi ei ddiffinio mewn darpariaeth neu at ddibenion darpariaeth ym Mhennod 1 o Ran 1, adran 109 neu adran 110 o DPGCSB 2022, a

(b)nad yw wedi ei ddiffinio’n wahanol yn y Rheoliadau hyn,

yr ystyr a roddir i’r term hwnnw yn y ddarpariaeth honno neu at ddibenion y ddarpariaeth honno.

(4Mae i derm a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn (gan gynnwys term Cymraeg sy’n cyfateb i derm Saesneg)—

(a)sydd wedi ei ddiffinio yng Ngorchymyn 1992, yng Ngorchymyn 2007 neu yn Rheoliadau 2015 (“y Rheoliadau perthnasol”), a—

(b)nad yw wedi ei ddiffinio’n wahanol—

(i)yn y Rheoliadau hyn, na

(ii)mewn darpariaeth neu at ddibenion darpariaeth ym Mhennod 1 o Ran 1, adran 109 neu adran 110 o DPGCSB 2022,

mewn perthynas â’r cynllun a sefydlwyd gan y Rheoliadau perthnasol, yr ystyr a roddir i’r term hwnnw yn y Rheoliadau hynny.

Dirprwyo

3.  Caiff y rheolwr cynllun ddirprwyo unrhyw swyddogaethau sydd gan y rheolwr cynllun o dan y Rheoliadau hyn, gan gynnwys y pŵer hwn i ddirprwyo.

(1)

Gweler adran 109(3) o DPGCSB 2022 am ystyr “pensioner member”.

(2)

Gwneud ar 14 Rhagfyr 2022. Cyhoeddwyd ar 15 Rhagfyr 2022 ac ar gael ar-lein ar www.gov.uk. Mae copi caled ar gael drwy wneud cais ysgrifenedig i Drysorlys Ei Fawrhydi i His Majesty’s Treasury, 1 Horse Guards Road, London, SW1A 2HQ.

(3)

Gweler adran 4 o DPGCSB 2022 am ystyr “the relevant Chapter 1 legacy scheme”.

(4)

Gweler adran 1 o DPGCSB 2022 am ystyr “remediable service”.

(5)

O.S. 1992/129. Newidiwyd enw’r cynllun i Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) gan O.S. 2004/2918 (Cy. 257). Ddiwygiwyd ymhellach gan O.S. 2014/3242 (Cy. 329) a 2015/1016 (Cy. 71). Nid yw’r diwygiadau eraill a wnaed yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

O.S. 2007/1072 (Cy. 110), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

O.S. 2015/622 (Cy. 50); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2015/1016 (Cy. 71) ac O.S. 2018/576 (Cy. 103).