xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4Darpariaeth ynghylch trefniadau ysgaru a diddymu

PENNOD 1Aelodau â chredyd pensiwn ac aelodau â debyd pensiwn

ADRAN 1Cymhwyso a dehongli Pennod 1

Cymhwyso a dehongli Pennod 1

20.—(1Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)aelod â chredyd pensiwn (“C”),

(b)yr aelod â debyd pensiwn cyfatebol (“D”), ac

(c)y gorchymyn rhannu pensiwn y daeth C yn aelod â chredyd pensiwn yn ei rinwedd mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol D (y “gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol”).

(2Yn y Bennod hon—

ystyr “aelod â chredyd pensiwn” (“pension credit member”) yw aelod o gynllun pensiwn diffoddwyr tân sydd â hawliau o dan y cynllun—

(a)

y gellir eu priodoli (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) i gredyd pensiwn(1),

(b)

sy’n codi yn rhinwedd gorchymyn rhannu pensiwn sydd â dyddiad trosglwyddo ar 1 Ebrill 2015 neu ar ôl hynny, ac

(c)

y canfuwyd eu gwerth (i unrhyw raddau) drwy gyfeirio at werth buddion sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaeth rhwymedïol aelod arall;

ystyr “aelod â debyd pensiwn cyfatebol” (“corresponding pension debit member”) yw’r aelod y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) o’r diffiniad o “aelod â chredyd pensiwn”;

ystyr “buddion perthnasol rhwymedïol” (“remediable relevant benefits”) yw’r buddion neu’r buddion yn y dyfodol a ddisgrifir yn adran 29(4) a (5) o DDLlPh 1999(2) y mae gan D hawlogaeth iddynt yn rhinwedd hawliau rhanadwy rhwymedïol;

ystyr “C” (“C”) yw’r aelod â chredyd pensiwn a grybwyllir ym mharagraff (1)(a);

ystyr “cyfwerth ariannol” (“cash equivalent”) yw swm a gyfrifir yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 30 o DDLlPh 1999(3);

ystyr “D” (“D”) yw’r aelod â debyd pensiwn cyfatebol a grybwyllir ym mharagraff (1)(b);

mae i “diwrnod prisio” yr ystyr a roddir i “valuation day” yn adran 29(7) o DDLlPh 1999;

ystyr “diwrnod trosglwyddo” (“transfer day”) yw’r diwrnod y mae’r gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol yn cael effaith;

ystyr “gorchymyn rhannu pensiwn” (“pension sharing order”) yw’r gorchymyn neu’r ddarpariaeth y mae adran 29 o DDLlPh 1999 yn gymwys yn ei rinwedd neu yn ei rhinwedd mewn perthynas ag aelod â chredyd pensiwn a’r aelod â debyd pensiwn cyfatebol;

mae i “gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol” (“relevant pension sharing order”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (1)(c);

mae i “hawliau rhanadwy” yr ystyr a roddir i “shareable rights” yn adran 27(2) o DDLlPh 1999;

ystyr “hawliau rhanadwy rhwymedïol” (“remediable shareable rights”) yw hawliau rhanadwy D a sicrhawyd yn rhinwedd gwasanaeth rhwymedïol D yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2015 ac yn dod i ben ar y cynharaf o—

(a)

y diwrnod cyn y dyddiad trosglwyddo, neu

(b)

diwrnod olaf gwasanaeth rhwymedïol D;

ystyr “person priodol” (“appropriate person”) yw—

(a)

D, neu

(b)

pan fo D yn ymadawedig, cynrychiolwyr personol D.

(1)

Gweler adran 19(7) o DPGCSB 2022 am ystyron “pension debit” a “pension credit”.

(2)

Ystyr “DDLlPh 1999”, yn unol â’r diffiniad o “WRPA 1999” yn adran 110(1) o DPGCSB 2022, yw Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30).

(3)

Yn unol ag adran 110(1) o DPGCSB 2022, ystyr “WRPA 1999” yw Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30).