xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6Trosglwyddiadau

PENNOD 2Trosglwyddiadau ar sail cyfwerth ariannol

ADRAN 1Trosglwyddiadau cyn 1 Hydref 2023

Trosglwyddiadau allan cyn 1 Hydref 2023

36.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag aelod (“A”) y talodd y rheolwr cynllun werth trosglwyddo rhwymedïol mewn cysylltiad ag ef cyn 1 Hydref 2023.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, gyfrifo gwerth trosglwyddo hawliau rhwymedïol A fel pe baent wedi eu sicrhau—

(a)yng nghynllun gwaddol A;

(b)yng nghynllun 2015.

(3Rhaid i’r rheolwr cynllun hysbysu’r cynllun sy’n derbyn am ganlyniadau’r cyfrifiad a grybwyllir ym mharagraff (2).

(4Pan fo—

(a)y mwyaf o’r symiau a gyfrifir o dan baragraff (2) (“x”) yn fwy na

(b)swm y gwerth trosglwyddo rhwymedïol (“y”),

rhaid i’r rheolwr cynllun gymryd camau rhesymol i dalu swm (“y swm rhwymedïol”) sy’n hafal i x - y i’r cynllun sy’n derbyn.

(5Mae taliad o dan baragraff (4) yn ddarostyngedig i’r un amodau â’r gwerth trosglwyddo rhwymedïol.

(6Pan fo—

(a)paragraff (4) yn gymwys, a’r

(b)y rheolwr cynllun, wedi iddo gymryd camau rhesymol, yn methu â gwneud y taliad sy’n ofynnol gan y paragraff hwnnw,

mae ar y rheolwr cynllun i A neu, pan fo A yn ymadawedig, gynrychiolwyr personol A swm fel digollediad sy’n hafal i x – y (“y swm y gellir digolledu amdano”) sydd wedi ei leihau yn unol â pharagraff (7).

(7Os talwyd y swm y gellir digolledu amdano yn union ar ôl i’r gofyniad i’w dalu godi, ac yn achos y taliad—

(a)y byddai’n daliad a ddisgrifir yn rheoliad 6 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Cofrestredig (Taliadau Awdurdodedig) 2009(1) (“Rheoliadau 2009”) fel pe bai rheoliad 6(1)(a) o’r Rheoliadau hynny wedi ei hepgor, mae’r swm y gellir digolledu amdano i’w leihau yn ôl y swm sy’n hafal i’r dreth incwm y byddai modd ei chodi arno fel pe bai rheoliad 3(b) o Reoliadau 2009 yn gymwys iddo;

(b)na fyddai’n daliad a ddisgrifir felly, mae’r swm y gellir digolledu amdano i’w leihau yn ôl swm sy’n hafal i’r dreth incwm a fyddai’n cael ei chodi ar y swm ar gyfradd ymylol A o dan y Deddfau Treth Incwm.

(8Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “y Deddfau Treth Incwm” yw’r holl ddeddfiadau sy’n ymwneud â threth incwm, gan gynnwys unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Deddfau Treth Gorfforaeth sy’n ymwneud â threth incwm, ac

(b)ystyr “y Deddfau Treth Gorfforaeth” yw’r deddfiadau sy’n ymwneud â threthiant incwm ac enillion trethadwy cwmnïau a dosbarthiadau cwmnïau (gan gynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â threth incwm).

Trosglwyddiadau i mewn cyn 1 Hydref 2023

37.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob taliad o werth trosglwyddo rhwymedïol mewn cysylltiad ag aelod (“A”) a dderbyniwyd gan y rheolwr cynllun cyn 1 Hydref 2023.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, ganfod—

(a)hawliau cyffredinol A mewn perthynas â’r gwerth trosglwyddo rhwymedïol yn y cynllun gwaddol;

(b)buddion A pe cymhwysid y gwerth trosglwyddo rhwymedïol, ynghyd ag unrhyw daliad a dderbyniwyd o dan baragraff (3), mewn cysylltiad â hawliau yng nghynllun 2015.

(3Pan mai cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus oedd y cynllun sy’n anfon, caiff y rheolwr cynllun dderbyn taliad—

(a)mewn cysylltiad â’r hawliau rhwymedïol y mae’r gwerth trosglwyddo rhwymedïol yn ymwneud â hwy, a

(b)a wneir gan y cynllun sy’n anfon yn unol â DPGCSB 2022 neu yn unol â darpariaeth a wneir odani.

(4Mae taliad a dderbynnir o dan baragraff (3) i’w ddefnyddio at ddiben canfod buddion A o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân ar yr un telerau â’r gwerth trosglwyddo rhwymedïol.

ADRAN 2Trosglwyddiadau ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny

Cymhwyso Adran 2

38.—(1Mae’r Adran hon yn gymwys mewn cysylltiad ag aelod (“A”) sydd—

(a)yn aelod dewis gohiriedig, ac nad oes buddion pensiwn wedi dod yn daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, neu

(b)yn aelod dewis ar unwaith, ac—

(i)nad yw diwedd y cyfnod dewisiad adran 6 wedi mynd heibio mewn perthynas ag A, a

(ii)nad oes penderfyniad dewis ar unwaith wedi ei wneud mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.

Trosglwyddiadau allan ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny

39.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i daliad gwerth trosglwyddo rhwymedïol sydd i’w dalu mewn perthynas ag A gan y rheolwr cynllun ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, gyfrifo gwerth trosglwyddo hawliau rhwymedïol A fel pe bai’r hawliau hynny—

(a)yng nghynllun gwaddol A;

(b)yng nghynllun 2015.

(3Swm y gwerth trosglwyddo rhwymedïol yw’r mwyaf o’r symiau a gyfrifir o dan baragraff (2).

Trosglwyddiadau i mewn o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny

40.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â gwerth trosglwyddo rhwymedïol—

(a)a dderbynnir gan y rheolwr cynllun ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny, a

(b)pan fo’r cynllun sy’n anfon yn gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, ganfod—

(a)hawliau cyffredinol A mewn perthynas â’r gwerth trosglwyddo rhwymedïol yn y cynllun gwaddol;

(b)buddion A pe cymhwysid y gwerth trosglwyddo rhwymedïol mewn cysylltiad â hawliau yng nghynllun 2015.

(1)

O.S. 2009/1171. Diwygiwyd rheoliad 6 gan adran 42(6)(a) o Ddeddf Cyllid 2014 (p. 26).