xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9Atebolrwyddau a thalu

PENNOD 4Talu atebolrwyddau net

Cymhwyso a dehongli Pennod 4

68.  Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn cysylltiad â swm perthnasol (ynghyd ag unrhyw log ar y swm perthnasol hwnnw) sy’n ddyledus ar ôl ystyried effaith rheoliadau 59 i 67, os oes effaith iddynt (“atebolrwydd net”).

Talu symiau sy’n ddyledus i’r rheolwr cynllun

69.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo atebolrwydd net yn ddyledus gan berson (“P”) i’r rheolwr cynllun.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun anfon hysbysiad yn ysgrifenedig at P yn nodi—

(a)sut y mae’r atebolrwydd net wedi ei gyfrifo,

(b)eglurhad o’r amgylchiadau pan ganiateir lleihau neu hepgor yr atebolrwydd net o dan reoliadau 64 i 66,

(c)pan gyfrifir yr atebolrwydd net drwy gyfeirio at swm fel digollediad o dan adran 16(3) o DPGCSB 2022, eglurhad o’r cytundeb y caniateir ei wneud o dan reoliad 67,

(d)pryd a sut y mae rhaid talu’r atebolrwydd net, ac

(e)canlyniadau peidio â thalu’r atebolrwydd net.

(3Pan fo—

(a)y rheolwr cynllun wedi anfon hysbysiad o dan baragraff (2), a

(b)swm yr atebolrwydd net wedi ei addasu wedi hynny,

rhaid i’r rheolwr cynllun anfon hysbysiad arall yn ysgrifenedig at P o dan baragraff (2).

(4Rhaid i P dalu swm yr atebolrwydd net i’r rheolwr cynllun—

(a)pan fo’r atebolrwydd net yn ymwneud â gwasanaeth rhwymedïol—

(i)aelod dewis ar unwaith, cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y caiff P yr hysbysiad diweddaraf o dan baragraff (2);

(ii)aelod dewis gohiriedig, cyn y diwrnod y daw buddion yn daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol aelod, neu

(b)yn unol â chytundeb o dan baragraff (5), ac o fewn cyfnod o 10 o flynyddoedd sy’n dechrau ar ddyddiad cytundeb o’r fath.

(5Caiff P a’r rheolwr cynllun gytuno bod yr atebolrwydd net i’w dalu’n rhannol neu’n llawn fel—

(a)cyfandaliad, neu

(b)rhandaliadau, pan fo’r atebolrwydd net yn £100 neu ragor.

(6Os yw P, yn ystod cyfnod cytundeb o dan baragraff (4)—

(a)yn ymddeol ar unrhyw sail, neu

(b)yn marw,

caniateir talu’r balans sy’n ddyledus o dan y cytundeb fel didyniadau o unrhyw fuddion (gan gynnwys budd cyfandaliad) y mae gan P hawlogaeth iddynt o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân.

(7Pan na fo P yn talu unrhyw swm sy’n dod yn ddyledus yn rhinwedd paragraff (4) neu gytundeb o dan baragraff (5), caiff y rheolwr cynllun ddidynnu o fuddion sy’n daladwy i P o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân unrhyw symiau sy’n ymddangos yn rhesymol i’r rheolwr cynllun at ddiben rhyddhau atebolrwydd P.

Talu symiau sy’n ddyledus i berson

70.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo atebolrwydd net yn ddyledus gan y rheolwr cynllun i berson (“P”).

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun dalu swm yr atebolrwydd net i P—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r rheolwr cynllun ganfod swm yr atebolrwydd net, neu

(b)pan fo’r rheolwr cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i P ddarparu gwybodaeth yn unol â pharagraff (3), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth honno.

(3Cyn talu swm atebolrwydd net sy’n ddyledus i P, caiff y rheolwr cynllun, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r rheolwr cynllun ganfod swm yr atebolrwydd net, ei gwneud yn ofynnol i P ddarparu gwybodaeth mewn perthynas â thalu’r atebolrwydd net sydd—

(a)yn wybodaeth sydd ym meddiant P, neu

(b)yn wybodaeth y gellir disgwyl yn rhesymol i P gael gafael arni.