- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
15.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan mai A yw’r penderfynwr dewis gohiriedig.
(2) Rhaid i A hysbysu’r rheolwr cynllun ei fod yn bwriadu hawlio buddion mewn perthynas â’i wasanaeth rhwymedïol—
(a)yn ystod y cyfnod rhwng 3 a 6 mis cyn y dyddiad y mae A yn bwriadu i fuddion o’r fath ddod yn daladwy, neu
(b)yn ystod unrhyw gyfnod arall y mae’r rheolwr cynllun yn ystyried ei fod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.
(3) Ni chaniateir gwneud penderfyniad dewis gohiriedig ond yn ystod y cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddir datganiad o wasanaeth rhwymedïol o dan reoliad 4(2)(c)(i), a
(b)sy’n dod i ben—
(i)â’r diwrnod 12 o wythnosau ar ôl y dyddiad hwnnw,
(ii)yn ddarostyngedig i baragraff (5), ag unrhyw ddiwrnod arall y mae’r rheolwr cynllun yn ystyried ei fod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, neu
(iii)os yw’n gynharach na’r amser sy’n gymwys yn rhinwedd paragraff (i) neu (ii), â’r diwrnod cyn i fuddion ddod yn daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.
(4) Ni chaiff diwedd y cyfnod pan ganiateir gwneud penderfyniad dewisiad dewis gohiriedig fod yn fwy na blwyddyn cyn y diwrnod y disgwylir yn rhesymol y byddai buddion cynllun 2015, pe gwneid dewisiad adran 10, yn dod yn daladwy i A neu mewn cysylltiad ag A.
(5) O ran penderfyniad dewis gohiriedig a wneir gan A—
(a)caniateir ei ddirymu ar unrhyw adeg cyn y terfyn amser ar gyfer canslo, a
(b)mae’n darfod pan nad oes buddion cynllun wedi dod yn daladwy 12 mis ar ôl gwneud penderfyniad dewis gohiriedig.
(6) Rhaid i A roi gwybod i’r rheolwr cynllun yn ysgrifenedig fod penderfyniad dewis gohiriedig wedi ei ddirymu.
(7) Pan fo paragraff (5) yn gymwys caiff A wneud penderfyniad dewis gohiriedig newydd yn unol â pharagraff (3).
(8) Pan fo’r rheolwr cynllun yn cael hysbysiad bod A wedi marw a bo A wedi gwneud penderfyniad dewis gohiriedig, mae’r penderfyniad hwnnw’n ddi-alw’n-ôl.
(9) Ym mharagraff (5), ystyr “y terfyn amser ar gyfer canslo” yw—
(a)dechrau’r diwrnod ddwy wythnos cyn y diwrnod (“y diwrnod talu”) y mae’r taliad cyntaf o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân yn dod yn daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, neu
(b)unrhyw adeg ddiweddarach cyn y diwrnod talu y mae’r rheolwr cynllun yn ystyried ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys