Trefniadau heblaw gorchymyn rhannu pensiwn: cyfrifo gwerth buddion pensiwn
29.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan fo rhaid canfod gwerth hawliau rhwymedïol aelod (“A”) at ddiben achos sy’n gysylltiedig ag ysgariad neu ddirymiad A, neu ddiddymu partneriaeth sifil A,
(b)pan fo’r ysgariad, y dirymiad neu’r diddymiad i gael effaith—
(i)ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny, a
(ii)cyn y cynharaf o—
(aa)penderfyniad yn cael effaith mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, neu
(bb)diwedd y cyfnod dewisiad perthnasol, a
(c)pan nad yw gwerth hawliau rhwymedïol A i fod yn ddarostyngedig i orchymyn rhannu pensiwn.
(2) Gwerth hawliau rhwymedïol A at ddiben yr achos yw’r mwyaf o’r hawliau hynny a brisiwyd gan y rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, fel pe baent—
(a)wedi eu sicrhau yng nghynllun gwaddol A, neu
(b)wedi eu sicrhau yng nghynllun 2015.
(3) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfnod dewisiad perthnasol” (“relevant election period”) yw, pan fo A yn—
aelod dewis gohiriedig, y cyfnod gwneud dewisiad adran 10 mewn perthynas ag A;
aelod dewis ar unwaith, y cyfnod dewisiad adran 6 mewn perthynas ag A;
ystyr “gorchymyn rhannu pensiwn” (“pension sharing order”) yw gorchymyn neu ddarpariaeth sy’n atynnu adran 29 o DDLlPh 1999 mewn perthynas â hawliau rhwymedïol A;
ystyr “hawliau rhwymedïol” (“remediable rights”) yw’r hawliau a sicrhawyd yn rhinwedd gwasanaeth rhwymedïol A;
ystyr “penderfyniad” (“decision”) yw penderfyniad dewis ar unwaith neu benderfyniad dewis gohiriedig.