- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
31.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â thaliad blynyddoedd ychwanegol rhwymedïol a wnaed gan aelod rhwymedi (“A”).
(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Medi 2023 ac ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, ganfod y “swm y gellir digolledu amdano”, sef swm fel digollediad sy’n hafal i—
(a)gyfanred holl daliadau blynyddoedd ychwanegol rhwymedïol A, namyn
(b)swm mewn cysylltiad â gwerth rhyddhad treth yn unol â chyfarwyddydau 5(5) i (9) o Gyfarwyddydau PGC 2022.
(3) Pan wneir canfyddiad yn unol â chyfarwyddyd 5(8) o Gyfarwyddydau PGC 2022, mae’r canlynol yn gymwys—
(a)cyfarwyddyd 5(10) (darparu eglurhad);
(b)cyfarwyddyd 5(11) a (12) (apelau).
(4) Pan fo, yn rhinwedd dewisiad adran 6 (gan gynnwys dewisiad adran 6 tybiedig) neu ddewisiad adran 10, y buddion sy’n daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A yn fuddion cynllun 2015—
(a)mae’r swm y gellir digolledu amdano yn ddyledus gan y rheolwr cynllun i A neu, pan fo A yn ymadawedig, i gynrychiolwyr personol A, a
(b)mae’r hawliau i fuddion a fyddai fel arall wedi eu sicrhau gan y taliadau blynyddoedd ychwanegol rhwymedïol wedi eu diddymu.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “taliad blynyddoedd ychwanegol rhwymedïol” yw taliad i sicrhau rhagor o fuddion o dan Orchymyn 1992 neu Orchymyn 2007 sydd—
(a)yn gyfandaliad a wnaed yn ystod cyfnod gwasanaeth rhwymedïol A,
(b)yn gyfraniad cyfnodol a wnaed yn unol â threfniant a ddechreuodd yn ystod cyfnod gwasanaeth rhwymedïol A, neu
(c)yn gyfandaliad neu’n gyfraniad cyfnodol a wnaed yn unol â threfniant rhwymedïol o dan reoliad 32.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys