xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
61.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag—
(a)talu swm perthnasol fel digollediad o dan adran 23(1) o DPGCSB 2022;
(b)cynyddu buddion fel digollediad anuniongyrchol o dan reoliad 60.
(2) Nid yw’r swm perthnasol yn daladwy, neu (yn ôl y digwydd) nid yw’r buddion i’w cynyddu, ac eithrio—
(a)pan wneir cais yn unol â chyfarwyddyd 18(1) a (2) o Gyfarwyddydau PGC 2022;
(b)pan fo, yn dod gyda’r cais, unrhyw wybodaeth y mae’r rheolwr cynllun drwy hysbysiad ysgrifenedig yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gwneud y cais (“P”) ei darparu mewn perthynas â’r digollediad arfaethedig sydd—
(i)yn wybodaeth sydd ym meddiant P, neu
(ii)yn wybodaeth y gellir disgwyl yn rhesymol i P gael gafael arni, ac
(c)pan fo’r rheolwr cynllun yn gwneud canfyddiad yn unol â chyfarwyddyd 18(3) o’r Cyfarwyddydau hynny.
(3) Mae’r canlynol yn gymwys mewn perthynas â chanfyddiad o dan gyfarwyddyd 18(3) o Gyfarwyddydau PGC 2022—
(a)cyfarwyddyd 18(4) (darparu eglurhad);
(b)cyfarwyddyd 18(5) a (6) (apelau).