Rheoliadau Pensiynau Diffoddwyr Tân (Gwasanaeth Rhwymedïol) (Cymru) 2023

Rheoliadau 4(3), 6(2), 10(2) a 14(2)

YR ATODLENPenderfynwyr cymwys ar gyfer aelodau ymadawedig

Dehongli

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

ystyr “buddiolwr” (“beneficiary”) yw person sydd wedi cael hawlogaeth i gael unrhyw fudd marwolaeth;

ystyr “dewisiad” (“election”) yw dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan, penderfyniad dewisiad dewis ar unwaith neu benderfyniad dewisiad dewis gohiriedig;

ystyr “goroeswr sy’n blentyn cymwys” (“eligible child survivor”) yw “plentyn cymwys” (“eligible child”) o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 94(2) o Reoliadau 2015 ac sydd o dan 18 oed;

ystyr “goroeswr sy’n oedolyn cymwys” (“eligible adult survivor”) yw—

(a)

“partner sy’n goroesi” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 85(1) a (2) o Reoliadau 2015, neu

(b)

“plentyn” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 94(1) o Reoliadau 2015 ac sy’n 18 oed neu’n hŷn;

ystyr “penderfynwr cymwys” (“eligible decision-maker”) yw’r person a gaiff wneud—

(a)

dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan fel y crybwyllir yn rheoliad 6;

(b)

dewisiad dewis ar unwaith fel y crybwyllir yn rheoliad 10;

(c)

penderfyniad dewisiad dewis gohiriedig fel y crybwyllir yn rheoliad 14.

Unig fuddiolwr: goroeswr sy’n oedolyn cymwys

2.  Pan fo person—

(a)yn unig fuddiolwr, a

(b)yn oroeswr sy’n oedolyn cymwys,

y person hwnnw yw’r penderfynwr cymwys.

Unig fuddiolwr: goroeswr sy’n blentyn cymwys

3.  Pan fo person (“G”)—

(a)yn unig fuddiolwr, a

(b)yn oroeswr sy’n blentyn cymwys,

rhiant neu warcheidwad G yw’r penderfynwr cymwys.

Mwy nag un buddiolwr: goroeswyr sy’n oedolion cymwys

4.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan mai dau neu ragor o oroeswyr sy’n oedolion cymwys yw’r buddiolwyr.

(2Pan fo un o’r goroeswyr sy’n oedolion cymwys—

(a)yn briod,

(b)yn bartner sifil, neu

(c)yn bartner sy’n cyd-fyw

i’r ymadawedig, y person hwnnw yw’r penderfynwr cymwys.

(3Pan na fo’r un o’r goroeswyr sy’n oedolion cymwys yn berson a grybwyllir yn is-baragraff (2), y penderfynwr cymwys yw—

(a)y person y cytunir arno rhyngddynt, yn unol â pharagraff 6 isod, y mae rhaid iddo fod yn un ohonynt hwy, neu

(b)os nad oes cytundeb, y rheolwr cynllun.

Mwy nag un buddiolwr: goroeswyr sy’n blant cymwys

5.  Pan mai plant yw’r unig rai sy’n fuddiolwyr, y mae dau neu ragor ohonynt yn oroeswyr sy’n blant cymwys, y canlynol yw’r penderfynwr cymwys—

(a)pan fo pob un o’r goroeswyr sy’n blant cymwys yn byw ar yr un aelwyd, rhiant neu warcheidwad y plant cymwys;

(b)pan fo’r goroeswyr sy’n blant cymwys yn byw ar aelwydydd gwahanol, y person y cytunir arno gan rieni neu warcheidwaid y goroeswyr sy’n blant cymwys, yn unol â pharagraff 6 isod, y mae rhaid iddo fod yn un ohonynt hwy, neu

(c)os nad oes cytundeb, y rheolwr cynllun.

Mwy nag un buddiolwr: gofynion ychwanegol

6.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo, o dan baragraffau 4(3)(a) a 5(b), y penderfynwr cymwys i’w gytuno naill ai gan fwy nag un goroeswr sy’n oedolyn cymwys, neu, yn ôl y digwydd, fwy nag un rhiant neu warcheidwad goroeswyr sy’n blant cymwys (“y penderfynwyr a all fod yn gymwys”).

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)ceisio cael gwybod pwy yw’r holl benderfynwyr a all fod yn gymwys hynny a’u hysbysu bod angen iddynt gytuno pwy yw’r penderfynwr cymwys mewn cysylltiad â’r ymadawedig yn unol â’r paragraff hwn, a

(b)darparu hysbysiad mewn cysylltiad â’r ymadawedig i bob penderfynwr a all fod yn gymwys, sy’n nodi—

(i)yr wybodaeth y byddai’n ofynnol ei darparu o dan reoliad 4, pe bai’r hysbysiad yn ddatganiad gwasanaeth rhwymedïol, a

(ii)eglurhad o’r broses a nodir yn is-baragraff (3).

(3Rhaid i’r penderfynwyr a all fod yn gymwys—

(a)cytuno’n unfrydol ar y penderfynwr cymwys (“y penderfynwr cymwys y cytunwyd arno”), a

(b)rhoi gwybod gyda’i gilydd i’r rheolwr cynllun pwy yw’r penderfynwr cymwys y cytunwyd arno, yn ysgrifenedig, o fewn 6 mis i gael yr hysbysiad a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b).

(4Os nad yw’r rheolwr cynllun yn cael hysbysiad yn unol ag is-baragraff (3)(b) uchod, y penderfynwr cymwys fydd y rheolwr cynllun yn union ar ôl i’r dyddiad ar gyfer hysbysiad yn yr is-baragraff hwnnw ddod i ben.

Achosion eraill

7.  Mewn unrhyw achos nas cwmpesir gan baragraffau 2 i 6, y rheolwr cynllun yw’r penderfynwr cymwys.