Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 at y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau 2001 i ddarparu ar gyfer maint, cyfansoddiad, a thrafodion pwyllgorau safonau cyd-bwyllgorau corfforedig a chywiro gwallau yn y testun Cymraeg.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau a gorchmynion cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar adeg gwneud y rheoliadau sefydlu hynny a dibynnir arno at ddiben y Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.