- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio, o ran Cymru, Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol (EUR 2019/1793).
Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth i ddiweddaru’r rhestrau o fwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid yn Atodiadau 1 a 2 i EUR 2019/1793. Mae rheoliad 2(4) a (5), ac Atodlenni 1 a 2, yn amnewid yr Atodiadau hynny. Amnewidir Atodiad 1 drwy ddefnyddio pwerau yn Erthyglau 47(2)(b) a 54(4)(a) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion (EUR 2017/625). Amnewidir Atodiad 2 drwy ddefnyddio pwerau yn Erthygl 53 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (EUR 2002/178) ac Erthygl 54(4)(b) o EUR 2017/625.
Mae rheoliad 2(2), (3) a (6), ac Atodlen 3, yn diwygio EUR 2019/1793 i wneud darpariaeth mewn perthynas â samplu a dadansoddi ar gyfer y perygl Listeria. Nodir y weithdrefn samplu ragnodedig a’r dull cyfeirio dadansoddol rhagnodedig ar gyfer rheoli presenoldeb Listeria mewn bwyd yn yr Atodiad 3a newydd i EUR 2019/1793 (a fewnosodir gan reoliad 2(6) ac Atodlen 3).
Mae rheoliad 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/1330 (Cy. 269), i ddileu diwygiadau cynharach i EUR 2019/1793 a ddisodlir gan y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn.
Mae Atodiad 1 i EUR 2019/1793 yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid sy’n ddarostyngedig i gynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin neu mewn safleoedd rheoli ym Mhrydain Fawr. Mae’r newidiadau a wneir i Atodiad 1 fel a ganlyn.
Cofnod newydd ar gyfer past cnau daear o Bolivia (ar gyfer afflatocsinau). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 50%.
Mae’r cofnodion ar gyfer cnau daear (pysgnau) a chynhyrchion cysylltiedig, o Frasil, (ar gyfer afflatocsinau) wedi eu dileu.
Cywiriad i gyfeirnod troednodyn y tabl yn y cofnod ar gyfer cnau daear (pysgnau) a chynhyrchion cysylltiedig, o Frasil (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid).
Cofnod newydd ar gyfer past cnau daear o Frasil (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 20%.
Cofnod newydd ar gyfer past cnau daear o Tsieina (ar gyfer afflatocsinau). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%.
Mae amlder y gwiriadau ar bupurau melys (Capsicum annum) o Tsieina (ar gyfer Salmonella) wedi ei leihau i 10% (o 20%).
Cofnod newydd ar gyfer granadila (Passiflora ligularis) a ffrwyth y dioddefaint (Passiflora edulis) o Colombia (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%.
Cywiriad i’r cofnod ar gyfer ffa llathen o Weriniaeth Dominica (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid).
Cofnod newydd ar gyfer bananas o Ecuador (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 5%.
Cofnod newydd ar gyfer orenau o’r Aifft (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%.
Mae amlder y gwiriadau ar olew palmwydd o Ghana (ar gyfer llifynnau Sudan) wedi ei ostwng i 20% (o 50%).
Cofnod newydd ar gyfer sinamon a blodau coed sinamon o India (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%.
Cofnod newydd ar gyfer clofs (ffrwythau cyfan, ewinedd a choesynnau) o India (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%.
Cofnod newydd ar gyfer drymffyn (Moringa oleifera) o India (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 20%.
Cofnod newydd ar gyfer sinsir, saffrwm, tyrmerig (Curcuma), teim, dail llawryf, cyrri a sbeisys eraill, o India (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%.
Cofnod newydd ar gyfer nytmeg, mas a chardamoms o India (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%.
Cofnodion newydd ar gyfer reis o India (ar gyfer afflatocsinau ac ocratocsin A, ac ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlderau’r gwiriadau ar gyfer afflatocsinau ac ocratocsin A, ac ar gyfer gweddillion plaleiddiaid wedi eu rhagnodi ar 5%.
Cofnod newydd ar gyfer hadau anis, badian, ffenigl, coriander, cwmin neu garwe, ac ar gyfer aeron meryw, o India (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%.
Cofnod newydd ar gyfer hadau melon o Iran (ar gyfer afflatocsinau). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%.
Cofnod newydd ar gyfer pupurau o’r genws Capsicum (ac eithrio pupurau melys) o Kenya (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%.
Cywiriad i’r cofnod ar gyfer ffa llathen o Cambodia (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid).
Cofnod newydd ar gyfer ffa llygatddu (Vigna unguiculata subspp.) o Madagascar (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%.
Cofnodion newydd ar gyfer reis o Bacistan (ar gyfer afflatocsinau ac ocratocsin A, ac ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlderau’r gwiriadau ar gyfer afflatocsinau ac ocratocsin A, ac ar gyfer gweddillion plaleiddiaid wedi eu rhagnodi ar 5%.
Mae’r cofnod ar gyfer cymysgeddau sbeis o Bacistan (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei ddileu. Trosglwyddir y cofnod i Atodiad 2, Tabl 1 gyda lleihad i amlder y gwiriadau (o 50% i 10%).
Cofnod newydd ar gyfer past cnau daear o Senegal (ar gyfer afflatocsinau). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 50%.
Cofnod newydd ar gyfer hadau Sesamum o Syria. Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%.
Cofnod newydd ar gyfer tahini a halfa o hadau Sesamum, o Syria. Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%.
Mae amlder y gwiriadau ar gyfer pupurau o’r genws Capsicum (ac eithrio pupurau melys) o Wlad Thai wedi ei gynyddu i 50% (o 20%).
Mae’r cofnodion ar gyfer cnau cyll (Corylus spp.) a chynhyrchion cysylltiedig, o Türkiye, (ar gyfer afflatocsinau) wedi eu dileu.
Cofnod newydd ar gyfer past cnau daear o’r Unol Daleithiau (ar gyfer afflatocsinau). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%.
Cofnod newydd ar gyfer pitahaya (ffrwyth y ddraig) o Fietnam (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 50%. Trosglwyddir y cofnod i Atodiad 1 (o Atodiad 2, Tabl 1) gyda chynnydd yn amlder y gwiriadau (o 10%).
Yn Atodiad 2 i EUR 2019/1793, mae Tabl 1 yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid y mae amodau arbennig wedi eu rhagnodi ar eu cyfer sy’n rheoli eu mynediad i Brydain Fawr. Mae’r newidiadau a wneir i Atodiad 2, Tabl 1, fel a ganlyn.
Cofnod newydd ar gyfer madarch enoki o Tsieina (ar gyfer Listeria). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 20%.
Cofnod newydd ar gyfer past cnau daear o’r Aifft (ar gyfer afflatocsinau). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 20%.
Cofnod newydd ar gyfer dail gwinwydd o’r Aifft (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 20%.
Cofnod newydd ar gyfer past cnau daear o Ghana (ar gyfer afflatocsinau). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 50%.
Cofnod newydd ar gyfer past cnau daear o’r Gambia (ar gyfer afflatocsinau). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 50%.
Mae amlder y gwiriadau ar nytmeg (Myristica fragrans) o Indonesia (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei leihau i 10% (o 20%).
Cofnod newydd ar gyfer past cnau daear o India (ar gyfer afflatocsinau). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 50%.
Cofnod newydd ar gyfer pupurau o’r genws Capsicum (pupurau melys neu bupurau heblaw pupurau melys) (bwyd – wedi eu sychu, eu rhostio, eu gwasgu neu eu malu) o India (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 20%.
Mae amlder y gwiriadau ar bupurau o’r genws Capsicum (ac eithrio pupurau melys) (bwyd – ffres, wedi eu hoeri neu wedi eu rhewi) o India (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu i 20% (o 10%).
Cofnod newydd ar gyfer madarch enoki o Dde Korea (ar gyfer Listeria). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 20%.
Cofnod newydd ar gyfer cymysgeddau sbeis o Bacistan (ar gyfer afflatocsinau). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%. Trosglwyddir y cofnod i Atodiad 2, Tabl 1 (o Atodiad 1) gyda lleihad i amlder y gwiriadau (o 50%).
Cofnod newydd ar gyfer past cnau daear o Sudan (ar gyfer afflatocsinau). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 50%.
Mae’r cofnod ar gyfer pitahaya (ffrwyth y ddraig) o Fietnam (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei ddileu. Trosglwyddir y cofnod i Atodiad 1 gyda chynnydd yn amlder y gwiriadau (o 10% i 50%).
Yn Atodiad 2 i EUR 2019/1793, mae Tabl 2 yn cynnwys rhestr o fwyd cyfansawdd sy’n cynnwys unrhyw fwyd a restrir yn Nhabl 1 yn Atodiad 2 oherwydd y risg o halogi gan afflatocsinau mewn swm sy’n fwy na 20% o naill ai cynnyrch unigol neu swm y cynhyrchion hynny. Mae Tabl 2 yn cael ei ailddatgan heb unrhyw newidiadau.
Mae Atodiad 2a i EUR 2019/1793 yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid sydd wedi eu gwahardd rhag dod i Brydain Fawr. Nid oes unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i Atodiad 2a.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys