Diwygio rheoliad 15
10. Yn rheoliad 15 (datgymhwyso rhag penodi cadeirydd, is-gadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol)—
(a)yn lle paragraff (1)(d) rhodder—
“(d)os yw’r person hwnnw mewn cyflogaeth am dâl, neu wedi bod mewn cyflogaeth am dâl o fewn y 12 mis cyn y penodiad, gydag—
(i)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o’r Ddeddf,
(ii)ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd o dan adran 18 o’r Ddeddf, neu
(iii)Awdurdod Iechyd Arbennig o ran Cymru a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o’r Ddeddf.”;
(b)hepgorer paragraff (1)(dd);
(c)yn lle paragraff (4) rhodder—
“(4) At ddibenion paragraff (1)(d)—
(a)nid yw person i’w drin fel pe bai wedi bod mewn cyflogaeth am dâl oherwydd ei fod wedi dal swydd cadeirydd neu is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol, neu aelod nad yw’n swyddog ohono; cadeirydd neu is-gadeirydd ymddiriedolaeth GIG, neu gyfarwyddwr anweithredol iddi; neu gadeirydd neu is-gadeirydd Awdurdod Iechyd Arbennig, neu aelod nad yw’n swyddog ohono;
(b)mae person yn cael ei ddatgymhwyso rhag bod yn cadeirydd, is-gadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol os yw’r person hwnnw, yn dilyn ei benodi’n cadeirydd, is-gadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol, yn ymgymryd â chyflogaeth am dâl gydag unrhyw un neu ragor o’r cyrff a restrir ym mharagraff (1)(d) ac eithrio o dan yr amgylchiadau a bennir yn y paragraff hwn.”