- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, oni bai bod rhesymau eithriadol, dynnu cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog oddi ar y cyd-bwyllgor ar unwaith os ydynt yn penderfynu—
(a)nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, neu
(b)nad yw’n ffafriol i reolaeth dda ar y cyd-bwyllgor,
i’r cadeirydd hwnnw neu’r aelod nad yw’n swyddog hwnnw barhau i ddal ei swydd.
(2) Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog wedi dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru, oni bai bod rhesymau eithriadol, ei ddiswyddo.
(3) Rhaid i gadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog hysbysu Gweinidogion Cymru a’r cyd-bwyllgor ar unwaith os yw’n dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
(4) Os yw cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o’r cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu ragor, caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo’r aelod hwnnw oni bai eu bod wedi eu bodloni—
(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb, a
(b)y bydd y cadeirydd neu’r aelod nad yw’n swyddog yn gallu bod yn bresennol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol o fewn unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn rhesymol.
(5) Caiff cadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog ymddiswyddo o’i swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, ond yn ddarostyngedig i delerau penodiad y cadeirydd hwnnw neu’r aelod nad yw’n swyddog hwnnw. Rhaid i’r cadeirydd neu’r aelod nad yw’n swyddog hefyd hysbysu’r cyd-bwyllgor am ei ymddiswyddiad.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys