Gorchymyn Diwygio Harbwr ar gyfer Harbwr Port Talbot (Estyn Terfynau) 2024

Cymhwyso deddfwriaeth bresennol

4.—(1Mae Deddf 1847 yn cael effaith yn yr ardal ychwanegol fel y’i hymgorfforir â Deddf 1964 mewn perthynas â gweithfeydd Port Talbot a awdurdodir gan y Ddeddf honno.

(2Ni fydd is-ddeddfau presennol yr harbwr yn gymwys i’r ardal ychwanegol.

(3Ni ellir codi tollau llongau, nwyddau na theithwyr o fewn ystyr Deddf Harbyrau 1964 ar unrhyw long nac ar nwyddau a gludir ar y llong honno dim ond am fod y llong yn pasio drwodd yr ardal ychwanegol neu’n angori yn yr ardal ychwanegol ar fordaith i le, ac o le, y tu allan i Harbwr Port Talbot.

(4Ni chaniateir codi taliadau llywio o dan adran 10 (taliadau llywio) o Ddeddf Llywio 1987(1) ar unrhyw lestr sy’n pasio drwodd yr ardal ychwanegol neu’n angori yn yr ardal ychwanegol sy’n teithio i ardal awdurdod harbwr cymwys arall neu oddi yno, ac sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd llywio gorfodol a wneir gan yr awdurdod hwnnw.

(5Yn yr erthygl hon, ystyr “awdurdod harbwr cymwys” yw awdurdod harbwr cymwys at ddibenion Deddf Llywio 1987, ac ystyr “cyfarwyddyd llywio gorfodol” yw cyfarwyddyd a wneir o dan adran 7 (cyfarwyddydau llywio) o’r Ddeddf honno.

(1)

1987 p. 21.