xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 238 (Cy. 48)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024

Gwnaed

28 Chwefror 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

1 Mawrth 2024

Yn dod i rym

6 Ebrill 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 1(1), 46A(4) a 54B(5) o Ddeddf Adeiladu 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 14(7)(2) o Ddeddf Adeiladu 1984, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu ac unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

Enwi, cymhwyso a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2024.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “adeilad” yr ystyr a roddir i “building” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2010;

ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984;

mae i “gwaith adeiladu” yr ystyr a roddir i “building work” yn rheoliad 3 o Reoliadau 2010;

ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 2010(3);

ystyr “y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy” (“the Approved Inspectors Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010(4).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (1), mae i eiriau ac ymadroddion Cymraeg yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i eiriau ac ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf 1984 yr un ystyr â’r geiriau a’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno.

Awdurdodau rheolaeth adeiladu: gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig

3.—(1At ddibenion adran 46A(1) o Ddeddf 1984, mae’r gweithgareddau a ganlyn wedi eu rhagnodi’n weithgaredd cyfyngedig—

(a)pan gyflwynir cynlluniau sy’n ymwneud ag unrhyw waith adeiladu i awdurdod lleol o dan unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau 2010, gwirio bod y cynlluniau hynny yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu(5) sy’n gymwys i’r gwaith adeiladu hwnnw;

(b)pan fo arolygiad o waith adeiladu i’w gynnal gan awdurdod lleol at ddiben gwirio y cydymffurfir ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu sy’n gymwys i’r gwaith, cynnal yr arolygiad hwnnw ac amserlennu’r camau neu’r pwyntiau ar gyfer arolygiadau.

(2At ddibenion adran 46A(2) o Ddeddf 1984, mae’r swyddogaethau a ganlyn wedi eu rhagnodi’n swyddogaeth gyfyngedig—

(a)penderfynu cais am gyfarwyddyd o dan adran 8 o Ddeddf 1984 (llacio rheoliadau adeiladu);

(b)pasio neu wrthod cynlluniau o dan adran 16 o Ddeddf 1984 (pasio neu wrthod cynlluniau) gan gynnwys arfer, mewn perthynas â’r cynlluniau hynny, bŵer yn—

(i)adran 19(1) o Ddeddf 1984 (defnyddio deunyddiau byrhoedlog),

(ii)adran 21(4) o Ddeddf 1984 (darparu draenio), neu

(iii)adran 25(1) o Ddeddf 1984 (darparu cyflenwad dŵr);

(c)pennu cyfnod y mae rhaid cael gwared ar adeilad neu waith adeiladu pan fo’r cyfnod hwnnw yn dod i ben, estyn y cyfnod hwnnw, gosod amodau mewn perthynas ag adeilad neu amrywio’r amodau hynny, o dan adran 19(2) neu (3) o Ddeddf 1984 (defnyddio deunyddiau byrhoedlog);

(d)ei gwneud yn ofynnol i adeilad gael ei ddraenio ar y cyd o dan adran 22 o Ddeddf 1984 (draenio adeiladau ar y cyd);

(e)rhoi cydsyniad o dan adran 23 o Ddeddf 1984 (darparu cyfleusterau ar gyfer sbwriel);

(f)rhoi hysbysiad neu roi tystysgrif o dan adran 25(3) o Ddeddf 1984 (darparu cyflenwad dŵr);

(g)arfer unrhyw bŵer o dan adran 33 o Ddeddf 1984 (profion i ganfod a gydymffurfir â rheoliadau adeiladu);

(h)penderfynu, at ddibenion adran 35 o Ddeddf 1984 (cosb am dorri rheoliadau adeiladu), a yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn rheoliadau adeiladu wedi ei thorri;

(i)rhoi hysbysiad adran 36(6) neu benderfynu tynnu i lawr neu gael gwared ar waith neu wneud addasiadau iddo fel y’i tybir yn angenrheidiol o dan adran 36(3) o Ddeddf 1984 (cael gwared ar waith tramgwyddus neu ei addasu);

(j)penderfynu a ddylid tynnu hysbysiad adran 36 yn ôl pan roddir adroddiad ysgrifenedig o dan adran 37(1)(a) o Ddeddf 1984 (cael adroddiad pan roddir hysbysiad adran 36);

(k)rhoi hysbysiad canslo o dan adran 52A(4) o Ddeddf 1984 (canslo hysbysiad cychwynnol pan fo gwaith yn dod yn waith adeilad risg uwch)(7);

(l)rhoi tystysgrif gwblhau o dan reoliad 17 o Reoliadau 2010 (tystysgrifau cwblhau);

(m)rhoi tystysgrif gwblhau o dan reoliad 17A o Reoliadau 2010 (tystysgrif ar gyfer adeilad a feddiennir cyn cwblhau’r gwaith)(8);

(n)penderfynu, pan fo rheoliad 18 o Reoliadau 2010 (gwaith adeiladu anawdurdodedig) yn gymwys—

(i)a ganiateir rhoi tystysgrif unioni o dan reoliad 18 o Reoliadau 2010;

(ii)a oes angen cymryd unrhyw gamau rhesymol o dan reoliad 18(3) o Reoliadau 2010;

(o)penderfynu, pan fo rheoliad 19(1) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy (gwaith sydd wedi ei gwblhau yn rhannol) yn gymwys—

(i)a yw cynlluniau a roddwyd o dan reoliad 19(2)(a) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn ddigonol i ddangos na fyddai’r gwaith a fwriedir yn torri unrhyw ofyniad yn Rheoliadau 2010;

(ii)a ddylai fod yn ofynnol i berchennog, mewn perthynas ag unrhyw ran o’r gwaith, dorri i mewn iddo, ei agor neu ei dynnu i lawr o dan reoliad 19(2)(b) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy.

Cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu: gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig

4.—(1At ddibenion adran 54B(2) o Ddeddf 1984, mae’r gweithgareddau a ganlyn wedi eu rhagnodi’n weithgaredd cyfyngedig—

(a)pan fo hysbysiad cychwynnol(9), hysbysiad diwygio(10) neu dystysgrif cynlluniau(11) i’w roi neu i’w rhoi mewn perthynas ag unrhyw waith adeiladu, gwirio bod cynlluniau y mae’r hysbysiad neu’r dystysgrif yn ymwneud â hwy yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu sy’n gymwys i’r gwaith;

(b)pan fo arolygiad o waith adeiladu i’w gynnal gan y cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu at ddiben gwirio y cydymffurfir ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu sy’n gymwys i’r gwaith, cynnal yr arolygiad hwnnw (gan gynnwys amserlennu’r camau neu’r pwyntiau ar gyfer arolygiadau).

(2At ddibenion adran 54B(3) o Ddeddf 1984, mae’r swyddogaethau a ganlyn wedi eu rhagnodi’n swyddogaeth gyfyngedig—

(a)rhoi hysbysiad cychwynnol i awdurdod lleol o dan adran 47 o Ddeddf 1984 (hysbysiadau cychwynnol) gan gynnwys hysbysiad cychwynnol wedi ei gyfuno â thystysgrif cynlluniau neu hysbysiad cychwynnol newydd o dan adran 53(7) o Ddeddf 1984 (hysbysiadau cychwynnol newydd);

(b)rhoi tystysgrif cynlluniau i awdurdod lleol o dan adran 50 o Ddeddf 1984 (tystysgrifau cynlluniau);

(c)rhoi tystysgrif derfynol i awdurdod lleol o dan adran 51 o Ddeddf 1984 (tystysgrifau terfynol);

(d)rhoi hysbysiad diwygio i awdurdod lleol o dan adran 51A o Ddeddf 1984 (amrywio gwaith y mae hysbysiad cychwynnol yn ymwneud ag ef);

(e)rhoi hysbysiad i awdurdod lleol o dan adran 52(1)(c) neu 52A(1) o Ddeddf 1984 (canslo hysbysiad cychwynnol);

(f)rhoi tystysgrif drosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo i awdurdod lleol o dan adran 53B(3) o Ddeddf 1984 (hysbysiad cychwynnol newydd: newid cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu).

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

28 Chwefror 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gweithgareddau a swyddogaethau awdurdodau rheolaeth adeiladu a chymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu sydd wedi eu cyfyngu o dan adrannau 46A a 54B o Ddeddf Adeiladu 1984 (p. 55) (“Deddf 1984”).

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig awdurdod rheolaeth adeiladu at ddibenion adran 46A o Ddeddf 1984.

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu at ddibenion adran 54B o Ddeddf 1984.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru .

(1)

1984 p. 55. Diwygiwyd adran 1 gan adran 1 o Ddeddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel 2004 (p. 22) ac adran 55 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (p. 30) (“Deddf 2022”), a pharagraff 2 o Atodlen 5 iddi, sydd, ymhlith pethau eraill, yn rhoi “appropriate national authority” yn lle cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 1(1) o Ddeddf Adeiladu 1984 (“Deddf 1984”). Ystyr “appropriate national authority” o ran Cymru yw Gweinidogion Cymru (gweler adran 126 o Ddeddf 1984, a ddiwygiwyd gan adran 55 o Ddeddf 2022, a pharagraff 81 o Atodlen 5 iddi). Mewnosodwyd adrannau 46A a 54B gan adran 44 o Ddeddf 2022. Gweler y diffiniad o “prescribed” yn adran 126 o Ddeddf 1984.

(2)

Diwygiwyd adran 14(7) gan baragraff 17(3) o Atodlen 5 i Ddeddf 2022. Cymerodd y diwygiad hwn effaith o 5 Medi 2023 ac mae’n ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a bennir yn rheoliad 5 o Reoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 3, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/914 (Cy. 141)). Dechreuwyd yr ymgynghoriad y cyfeirir ato yn y rhaglith i’r Rheoliadau hyn cyn 5 Medi 2023.

(3)

O.S. 2010/2214, a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/747 (Cy. 89), O.S. 2013/2621 (Cy. 258), O.S. 2014/110 (Cy. 10), O.S. 2015/1486 (Cy. 165), O.S. 2016/611 (Cy. 168), O.S. 2018/558 (Cy. 97); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(4)

O.S. 2010/2215, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(5)

Gweler y diffiniad o “building regulations” yn adran 122 o Ddeddf 1984.

(6)

Gweler y diffiniad o “section 36 notice” yn adran 36(4) o Ddeddf 1984.

(7)

Mewnosodwyd adran 52A yn Neddf 1984 gan adran 46 o Ddeddf 2022.

(8)

Mewnosodwyd rheoliad 17A yn Rheoliadau Adeiladu 2010 (O.S. 2010/2214) gan O.S. 2012/3119.

(9)

Gweler y diffiniad o “initial notice” yn adran 47(1) o Ddeddf 1984.

(10)

Gweler y diffiniad o “amendment notice” yn adran 51A(2) o Ddeddf 1984.

(11)

Gweler y diffiniad o “plans certificate” yn adran 50(1) o Ddeddf 1984.