- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) At ddibenion adran 54B(2) o Ddeddf 1984, mae’r gweithgareddau a ganlyn wedi eu rhagnodi’n weithgaredd cyfyngedig—
(a)pan fo hysbysiad cychwynnol(1), hysbysiad diwygio(2) neu dystysgrif cynlluniau(3) i’w roi neu i’w rhoi mewn perthynas ag unrhyw waith adeiladu, gwirio bod cynlluniau y mae’r hysbysiad neu’r dystysgrif yn ymwneud â hwy yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu sy’n gymwys i’r gwaith;
(b)pan fo arolygiad o waith adeiladu i’w gynnal gan y cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu at ddiben gwirio y cydymffurfir ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu sy’n gymwys i’r gwaith, cynnal yr arolygiad hwnnw (gan gynnwys amserlennu’r camau neu’r pwyntiau ar gyfer arolygiadau).
(2) At ddibenion adran 54B(3) o Ddeddf 1984, mae’r swyddogaethau a ganlyn wedi eu rhagnodi’n swyddogaeth gyfyngedig—
(a)rhoi hysbysiad cychwynnol i awdurdod lleol o dan adran 47 o Ddeddf 1984 (hysbysiadau cychwynnol) gan gynnwys hysbysiad cychwynnol wedi ei gyfuno â thystysgrif cynlluniau neu hysbysiad cychwynnol newydd o dan adran 53(7) o Ddeddf 1984 (hysbysiadau cychwynnol newydd);
(b)rhoi tystysgrif cynlluniau i awdurdod lleol o dan adran 50 o Ddeddf 1984 (tystysgrifau cynlluniau);
(c)rhoi tystysgrif derfynol i awdurdod lleol o dan adran 51 o Ddeddf 1984 (tystysgrifau terfynol);
(d)rhoi hysbysiad diwygio i awdurdod lleol o dan adran 51A o Ddeddf 1984 (amrywio gwaith y mae hysbysiad cychwynnol yn ymwneud ag ef);
(e)rhoi hysbysiad i awdurdod lleol o dan adran 52(1)(c) neu 52A(1) o Ddeddf 1984 (canslo hysbysiad cychwynnol);
(f)rhoi tystysgrif drosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo i awdurdod lleol o dan adran 53B(3) o Ddeddf 1984 (hysbysiad cychwynnol newydd: newid cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu).
Gweler y diffiniad o “initial notice” yn adran 47(1) o Ddeddf 1984.
Gweler y diffiniad o “amendment notice” yn adran 51A(2) o Ddeddf 1984.
Gweler y diffiniad o “plans certificate” yn adran 50(1) o Ddeddf 1984.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys