xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLEN

RHAN 2YR WYBODAETH SY’N OFYNNOL MEWN CAIS

2.  Pan fo’r perchennog yn unigolyn—

(a)enw llawn yr unigolyn ac unrhyw enwau blaenorol y mae wedi cael ei adnabod wrthynt;

(b)cyfeiriad preswyl arferol yr unigolyn, ei rif ffôn, ei gyfeiriad e-bost, ei ddyddiad geni a’i rif Yswiriant Gwladol;

(c)manylion hanes cyflogaeth yr unigolyn, gan gynnwys—

(i)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;

(ii)pan fo unrhyw gyflogaeth neu unrhyw swydd flaenorol wedi cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o’r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu’r swydd i ben;

(iii)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol a, phan fo’n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;

(d)manylion unrhyw fusnes y mae’r unigolyn yn ei gynnal neu wedi ei gynnal;

(e)enw a chyfeiriad dau ganolwr y mae’r canlynol yn wir amdanynt—

(i)nid ydynt yn berthnasau i’r unigolyn,

(ii)gall y ddau ohonynt ddarparu geirda ynghylch cymhwysedd yr unigolyn i weithredu fel perchennog ysgol annibynnol, a

(iii)pan fo’n bosibl, un ohonynt yw cyflogwr diweddaraf yr unigolyn.

3.  Pan fo’r perchennog yn gorff corfforedig—

(a)ei enw;

(b)cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig;

(c)os yw’n wahanol i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu os nad oes swyddfa gofrestredig, cyfeiriad ei brif swyddfa;

(d)ei gyfeiriad e-bost a’i rif ffôn;

(e)os yw’n gwmni, rhif y cwmni;

(f)os yw’n elusen, rhif yr elusen;

(g)pan fo’n gwmni ac yn is-gwmni i gwmni daliannol—

(i)enw a chyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni daliannol;

(ii)cyfeiriad e-bost a rhif ffôn y cwmni daliannol;

(iii)rhif cwmni’r cwmni daliannol;

(iv)os yw’r cwmni daliannol yn elusen, rhif elusen y cwmni daliannol;

(v)enw a chyfeiriad unrhyw is-gwmni arall i’r cwmni daliannol;

(vi)cyfeiriad e-bost a rhif ffôn unrhyw is-gwmni arall i’r cwmni daliannol;

(vii)rhif cwmni unrhyw is-gwmni arall i’r cwmni daliannol;

(viii)os yw’r is-gwmni yn elusen, rhif elusen unrhyw is-gwmni i’r cwmni daliannol.

4.  Pan fo’r perchennog yn bartneriaeth—

(a)enw’r bartneriaeth;

(b)cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)cyfeiriad e-bost a rhif ffôn y bartneriaeth.

5.  Pan fo’r perchennog yn gorff anghorfforedig—

(a)ei enw;

(b)cyfeiriad ei brif swyddfa;

(c)ei gyfeiriad e-bost a’i rif ffôn.

6.  Ym mhob achos pan fo’r perchennog yn sefydliad—

(a)manylion ynghylch ei drefniadau llywodraethu, gan gynnwys manylion unrhyw gyfrifoldebau’r sefydliad sydd wedi eu dirprwyo;

(b)ar gyfer pob aelod o’r sefydliad, gan gynnwys y cadeirydd, y manylion sy’n ofynnol o dan baragraff 2 ac eithrio pan fo’r perchennog yn gwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau (o fewn ystyr Deddf Cwmnïau 2006(1)), nid yw person i’w drin fel pe bai’n aelod o’r sefydliad oni bai ei fod yn dal o leiaf 5% o gyfalaf cyfranddaliadau’r cwmni.

7.  Enw a chyfeiriad yr ysgol annibynnol, ei chyfeiriad e-bost a’i rhif ffôn.

8.  Pan fo gan yr ysgol annibynnol gorff llywodraethu, enw llawn, cyfeiriad preswyl arferol, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost Cadeirydd y corff hwnnw.

9.—(1Ystod oedran arfaethedig y disgyblion.

(2Uchafswm nifer arfaethedig y disgyblion.

(3Pa un a fydd yr ysgol annibynnol ar gyfer disgyblion sy’n fechgyn, disgyblion sy’n ferched neu ar gyfer y ddau.

(4Pa un a fydd yr ysgol annibynnol yn darparu llety byrddio ar gyfer disgyblion.

(5Y math neu’r mathau o—

(a)darpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir gan yr ysgol annibynnol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (os oes rhai), a

(b)darpariaeth addysgol arbennig a wneir gan yr ysgol annibynnol ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig (os oes rhai).

10.  Pa un a fydd yr ysgol annibynnol yn darparu gofal dydd o fewn ystyr erthygl 14 o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010(2) ar gyfer unrhyw blentyn sy’n derbyn gofal yn yr ysgol.

11.  Plan sy’n dangos cynllun y fangre a’r llety byrddio.

12.  Cynlluniau cwricwlwm manwl, cynlluniau gwaith manwl a gweithdrefnau asesu disgyblion manwl.

13.  Copïau o’r polisïau ysgrifenedig sy’n ofynnol gan baragraffau 2(1)(a), 6(b), 7(b), 8(a), 11(a), 12, 13 a 15 o’r Atodlen i Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024(3).

14.  Copi o’r weithdrefn gwyno sy’n ofynnol gan baragraff 29 o’r Atodlen i Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024.

15.  Pa un a yw’r perchennog yn bwriadu darparu i unrhyw blentyn lety byrddio yn yr ysgol annibynnol (neu yn rhywle arall yn unol â threfniadau a wneir ganddo) am fwy na 295 o ddiwrnodau mewn unrhyw flwyddyn.

16.  Ethos crefyddol yr ysgol annibynnol, os oes un.

17.  Pa un a yw mangre’r ysgol annibynnol, gan gynnwys llety byrddio, mewn dau neu ragor o leoliadau ar wahân ac, os felly, cyfeiriad pob un o’r lleoliadau hynny.

18.  Copi o asesiad risg yr ysgol annibynnol o dan reoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(4) i’r graddau y mae’n ymwneud â rhwymedigaethau o dan Ran 2 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005(5).