xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLEN

RHAN 4YR WYBODAETH SY’N OFYNNOL MEWN DATGANIAD BLYNYDDOL

25.  Yr holl wybodaeth a bennir gan Rannau 2 a 3 o’r Atodlen hon ac eithrio’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau 9(5), 10, 11, 12 ,13, 16 a 23.

26.  Ar gyfer pob person sydd wedi dechrau cael ei gyflogi yn yr ysgol annibynnol neu y mae ei gyflogaeth wedi dod i ben ers dyddiad y datganiad diwethaf i’r awdurdod cofrestru—

(a)ei enw llawn ac unrhyw enwau blaenorol y mae wedi cael ei adnabod wrthynt,

(b)ei ryw, ei ddyddiad geni, ei rif Yswiriant Gwladol ac ym mha swyddogaeth y caiff ei gyflogi,

(c)yn achos pob athro neu athrawes, ei gymwysterau neu ei chymwysterau a datganiad ynghylch a yw’n bennaeth, yn athro llawnamser neu’n athrawes lawnamser, neu’n athro rhan-amser neu’n athrawes ran-amser (ac eithrio nad yw gwybodaeth ynghylch cymwysterau yn ofynnol yn achos athro neu athrawes y mae ei gyflogaeth neu ei chyflogaeth wedi dod i ben), a

(d)yn achos person sydd wedi dechrau cael ei gyflogi, cadarnhad y cydymffurfiwyd â pharagraff 20(2)(e) o’r Atodlen i Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024(1).

27.  Cadarnhad y cydymffurfiwyd â pharagraff 23(2) o’r Atodlen i Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024.

28.  Yn y ddwy flynedd cyn dyddiad y datganiad, ac eithrio yn achos datganiad blynyddol cyntaf, nifer y disgyblion sy’n mynychu’r ysgol annibynnol ac y darparwyd llety byrddio ar eu cyfer yno (neu yn rhywle arall yn unol â threfniadau a wnaed gan y perchennog) am fwy na 295 o ddiwrnodau yn y flwyddyn honno.

29.—(1Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn o ddisgyblion 15, 16, 17 a 18 oed sy’n dilyn cyrsiau ar gyfer arholiadau neu asesiadau sy’n arwain at gymhwyster.

(2Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn o ddisgyblion 15, 16, 17 a 18 oed sydd wedi cwblhau cyrsiau ar gyfer arholiad Tystysgrif Addysg Gyffredinol (Safon Uwch neu Safon Uwch Gyfrannol), neu Dystysgrif Addysg Alwedigaethol Uwch (TAAU), ond sy’n aros yn yr ysgol annibynnol at ddiben heblaw dilyn unrhyw gwrs pellach o’r math hwnnw.

(3Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn o ddisgyblion 15, 16, 17 a 18 oed (ac eithrio’r rhai sy’n dod o fewn y categori o ddisgyblion y cyfeirir ato yn is-baragraff (2)) sy’n mynychu’r ysgol annibynnol at ddiben heblaw dilyn cyrsiau ar gyfer arholiad neu asesiadau perthnasol sy’n arwain at gymhwyster.

(4Rhaid i’r nifer a bennir yn y datganiad blynyddol o dan is-baragraff (1) a (2) gael ei ddatgan ar wahân ar gyfer—

(a)cyrsiau mewn pynciau mathemategol neu wyddonol yn unig,

(b)cyrsiau mewn pynciau eraill yn unig,

(c)cyrsiau mewn pynciau mathemategol neu wyddonol yn rhannol ac mewn pynciau eraill yn rhannol, a

(d)disgyblion sy’n fechgyn a disgyblion sy’n ferched.

30.  Pan fo newid wedi digwydd i fangre’r ysgol neu i lety byrddio yn yr ysgol annibynnol ers y dyddiad y llanwyd y datganiad blynyddol yn union o’i flaen hyd ato (neu, yn achos y datganiad blynyddol cyntaf, ers y dyddiad y llanwyd yr wybodaeth a gynhwyswyd yn y cais i gofrestru’r ysgol annibynnol hyd ato), manylion y newid hwnnw.

31.  Pan fo newid wedi digwydd i aelodaeth unrhyw sefydliad a enwir fel y perchennog yn y gofrestr, neu mewn cais i gynnwys yr ysgol annibynnol yn y gofrestr, ar gyfer unrhyw aelod newydd, yr wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraffau 3 i 6 o’r Atodlen hon.

32.—(1Nifer y disgyblion yn yr ysgol annibynnol sy’n Fyfyrwyr neu’n Fyfyrwyr sy’n blant.

(2At ddibenion y paragraff hwn—

(a)ystyr “Myfyriwr sy’n blentyn” yw person a chanddo, neu yr oedd ganddo, ganiatâd o dan Atodiad Myfyriwr sy’n blentyn (Appendix CS: Child Student) o dan y Rheolau Mewnfudo a oedd mewn grym cyn 1 Rhagfyr 2020, neu fel Myfyriwr Haen 4 (Plentyn) o dan y Rheolau Mewnfudo a oedd mewn grym cyn 5 Hydref 2020;

(b)ystyr “Rheolau Mewnfudo” yw rheolau o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(3);

(c)ystyr “Myfyriwr” yw person a chanddo, neu yr oedd ganddo, ganiatâd o dan Atodiad Myfyriwr (Appendix ST: Student) o’r Rheolau Mewnfudo a oedd mewn grym yn union cyn 1 Rhagfyr 2020, neu fel Myfyriwr Haen 4 (Cyffredinol) o dan y Rheolau Mewnfudo a oedd mewn grym cyn 5 Hydref 2020.

(1)

Mae paragraff 20(2)(e) yn ei gwneud yn ofynnol cael tystysgrif GDG neu i wiriad gael ei wneud gyda gwasanaeth diweddaru’r GDG.

(2)

Mae paragraff 23 yn ei gwneud yn ofynnol i dystysgrifau GDG neu wiriadau gwasanaeth diweddaru’r GDG gael eu diweddaru ar gyfer pob person perthnasol o leiaf bob tair blynedd.