xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 28 (Cy. 11)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2024

Gwnaed

11 Ionawr 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

15 Ionawr 2024

Yn dod i rym

14 Chwefror 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 167A, 167B(2) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1) ac adrannau 171(1) a (2) a 181(2) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(2).

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2024 a deuant i rym ar 14 Chwefror 2024.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cyfarwyddyd adran 167A” (“section 167A direction”) yw cyfarwyddyd a roddir o dan adran 167A o Ddeddf 2002;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006;

mae i “rhybuddiad” yr ystyr a roddir i “caution” gan adran 8A(2) o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974(3);

mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” gan adran 463 o Ddeddf Addysg 1996(4).

Y seiliau rhagnodedig dros gyfarwyddyd adran 167A

2.—(1Y seiliau rhagnodedig y caniateir i gyfarwyddyd adran 167A gael ei roi mewn cysylltiad â pherson arnynt yw—

(a)bod y person—

(i)wedi ei euogfarnu o drosedd berthnasol,

(ii)wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol,

(iii)yn ddarostyngedig i ganfyddiad perthnasol mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, neu

(iv)wedi ymgymryd ag ymddygiad perthnasol, a

(b)bod yr awdurdod priodol yn ystyried bod y person, oherwydd yr euogfarn honno, y rhybuddiad hwnnw, y canfyddiad hwnnw neu’r ymddygiad hwnnw, yn anaddas i gymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol.

(2At ddibenion paragraff (1), mae trosedd yn berthnasol os yw’n berthnasol i addasrwydd person i gymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol.

(3Mae cyfeiriadau ym mharagraff (1) at euogfarn yn cynnwys cyfeiriadau at y canlynol—

(a)euogfarn o drosedd sy’n dod o fewn adran 308(3)(a) o’r Cod Dedfrydu(5), a

(b)euogfarn o drosedd yn y lluoedd arfog o fewn yr ystyr a roddir i “service offence” yn Neddf y Lluoedd Arfog 2006(6) gan gynnwys unrhyw beth sydd o dan adran 376(1) a (2) o’r Ddeddf honno i’w drin fel euogfarn.

(4At ddibenion paragraff (1), mae person yn ddarostyngedig i “ganfyddiad perthnasol” mewn cysylltiad â throsedd berthnasol—

(a)os yw’r person wedi ei gael yn ddieuog o’r drosedd oherwydd gorffwylledd,

(b)os cafwyd bod y person o dan anabledd a’i fod wedi cyflawni’r weithred y mae wedi ei gyhuddo ohoni mewn cysylltiad â’r drosedd, neu

(c)os yw llys, o dan y gyfraith sydd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, wedi gwneud canfyddiad sy’n cyfateb i’r hyn a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b).

(5At ddibenion paragraff (1), bydd ymddygiad yn berthnasol os yw’n ymddygiad—

(a)sydd â’r nod o danseilio gwerthoedd sylfaenol democratiaeth a chymorth i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, rheolaeth y gyfraith, rhyddid yr unigolyn, a pharch a goddefgarwch y rhai sydd â ffydd a chredoau gwahanol at ei gilydd,

(b)y mae corff proffesiynol wedi dyfarnu ei fod yn groes i safonau proffesiynol, neu

(c)sydd mor amhriodol ei fod, ym marn yr awdurdod priodol, yn gwneud person yn anaddas i gymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol.

(6Yn ddarostyngedig i adrannau 4 ac 8A o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974(7) ac Atodlen 2 iddi ac i unrhyw orchmynion a wneir o dan y darpariaethau hynny, mae cyfeiriadau ym mharagraff (1) at euogfarn neu rybuddiad yn cynnwys cyfeiriadau at euogfarn neu rybuddiad sydd wedi ei disbyddu neu wedi ei ddisbyddu (o fewn yr ystyr a roddir i “spent conviction” neu “spent caution” yn Neddf Adsefydlu Troseddwyr 1974).

(7At ddibenion paragraff (1), mae person (“P”) wedi ei euogfarnu o drosedd, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd, os yw P wedi ei euogfarnu neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd—

(a)mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, neu

(b)o dan y gyfraith sydd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(8At ddibenion paragraff (7) mae P yn cyflawni trosedd o dan y gyfraith sydd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig os yw P yn cyflawni gweithred y gellir ei chosbi o dan y gyfraith sydd mewn grym yn y wlad honno ni waeth sut y disgrifir y weithred honno yn y gyfraith honno.

Y weithdrefn ar gyfer rhoi cyfarwyddyd adran 167A

3.—(1Cyn rhoi cyfarwyddyd adran 167A mewn cysylltiad â pherson rhaid i’r awdurdod priodol roi’r cyfle i’r person i gyflwyno sylwadau o ran pam na ddylai’r awdurdod priodol roi’r cyfarwyddyd.

(2Rhaid i’r awdurdod priodol roi hysbysiad i’r person y caiff y person gyflwyno sylwadau o’r fath.

(3Rhaid i’r awdurdod priodol roi’r hysbysiad o dan baragraff (2) drwy ei anfon at y person drwy’r post.

(4Caiff person y rhoddir hysbysiad iddo o dan baragraff (2) gyflwyno sylwadau ar ffurf ysgrifenedig o fewn y cyfnod o 60 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod yr anfonwyd yr hysbysiad.

(5Os—

(a)yw person y rhoddir hysbysiad iddo o dan baragraff (2) yn gofyn am gael cyflwyno sylwadau ar ôl i’r cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (4) ddod i ben, a

(b)yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni bod rhesymau da pam y methodd y person â chyflwyno sylwadau mewn pryd,

caiff yr awdurdod priodol ganiatáu cyfnod pellach y mae’r awdurdod priodol yn ystyried ei fod yn rhesymol i’r person i gyflwyno sylwadau.

(6Nid yw paragraffau (1), (2) na (3) yn gymwys pan na fo’r awdurdod priodol yn gwybod a phan na fo modd iddo ganfod yn rhesymol ymhle y mae’r person o dan sylw.

(7Os rhoddir cyfarwyddyd adran 167A mewn cysylltiad â pherson rhaid i’r awdurdod priodol gymryd pob cam rhesymol i hysbysu’r person am y ffaith honno.

Achosion pan gaiff yr awdurdod priodol amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd adran 167A

4.  Yr achosion rhagnodedig pan gaiff yr awdurdod priodol amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd adran 167A yw—

(a)pan fo’r person y rhoddwyd y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef wedi ceisio ei gael wedi ei amrywio neu wedi ei ddirymu ar un o’r seiliau a nodir yn rheoliad 5(1),

(b)pan fo’r awdurdod priodol yn meddu ar wybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad i roi’r cyfarwyddyd cynharach nad oedd gan yr awdurdod priodol ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad, neu

(c)pan fo’r awdurdod priodol yn meddu ar dystiolaeth o newid perthnasol yn amgylchiadau’r person y rhoddwyd y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef, sy’n digwydd ers i’r cyfarwyddyd gael ei roi,

a phan fo’r awdurdod priodol yn ystyried ei bod yn briodol amrywio neu ddirymu’r cyfarwyddyd.

Y seiliau y caniateir ceisio amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd adran 167A arnynt

5.—(1Y seiliau rhagnodedig y caiff person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd adran 167A geisio ei gael wedi ei amrywio neu wedi ei ddirymu arnynt yw—

(a)bod euogfarn, rhybuddiad neu ganfyddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd ar ei sail wedi ei diddymu neu wedi ei ddiddymu,

(b)bod euogfarn neu rybuddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd ar ei sail, ers i’r cyfarwyddyd gael ei roi, wedi ei disbyddu neu wedi ei ddisbyddu o fewn yr ystyr a roddir i “spent conviction” neu “spent caution” yn Neddf Adsefydlu Troseddwyr 1974,

(c)bod euogfarn neu rybuddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd ar ei sail, ers i’r cyfarwyddyd gael ei roi, wedi dod yn euogfarn warchodedig neu’n rhybuddiad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected conviction” neu “protected caution” yng Ngorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(8),

(d)yn achos cyfarwyddyd a roddir ar sail canfyddiad perthnasol, fod o leiaf bum mlynedd wedi mynd heibio ers i’r canfyddiad gael ei wneud,

(e)bod y person y rhoddwyd y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef yn gallu darparu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad i roi’r cyfarwyddyd cynharach nad oedd gan yr awdurdod priodol ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad, neu

(f)bod y person y rhoddwyd y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef yn gallu darparu tystiolaeth o newid perthnasol mewn amgylchiadau sy’n digwydd ers i’r cyfarwyddyd gael ei roi.

(2At ddibenion paragraff (1)(e) ac (f), ni chaiff person geisio cael cyfarwyddyd adran 167A wedi ei amrywio na wedi ei ddirymu i’r graddau y mae achos y person yn anghyson â bod y person wedi ei euogfarnu o drosedd, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, rhoddir cyfarwyddyd adran 167A ar sail euogfarn, rhybuddiad, canfyddiad neu ymddygiad os bodlonir y sail yn rheoliad 2(1) yn rhinwedd yr euogfarn, y rhybuddiad, y canfyddiad neu’r ymddygiad (yn ôl y digwydd).

Apelau: cyfyngu ar bŵer y Tribiwnlys Haen Gyntaf i ystyried apêl

6.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chyfarwyddyd adran 167A a roddir ar sail euogfarn am drosedd.

(2Ni chaiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf ystyried apêl o dan adran 167B(1) o Ddeddf 2002 yn erbyn y penderfyniad i roi’r cyfarwyddyd, neu i beidio ag amrywio neu ddirymu’r cyfarwyddyd, i’r graddau y mae achos yr apelydd yn anghyson â bod yr apelydd wedi ei euogfarnu o drosedd.

(3At ddibenion paragraff (1) rhoddir cyfarwyddyd adran 167A ar sail euogfarn am drosedd os bodlonir y sail yn rheoliad 2(1) yn rhinwedd euogfarn am y drosedd.

Apelau: pwerau’r Tribiwnlys Haen Gyntaf

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo apêl wedi ei gwneud i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 167B(1) o Ddeddf 2002 mewn cysylltiad â phenderfyniad i roi cyfarwyddyd adran 167A, neu benderfyniad i beidio ag amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd adran 167A, a

(b)pan fo’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn ystyried nad yw’r penderfyniad yn briodol.

(2Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf orchymyn i’r awdurdod priodol amrywio neu ddirymu’r cyfarwyddyd.

(3Oni bai bod y partïon i apêl yn cytuno fel arall, rhaid i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf, drwy arfer ei bwerau o dan y rheoliad hwn, beidio ag ystyried—

(a)unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad i roi cyfarwyddyd, neu i beidio ag amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd, nad oedd gan yr awdurdod priodol ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad;

(b)unrhyw dystiolaeth o newid perthnasol yn amgylchiadau’r person o dan sylw sy’n digwydd ers i’r penderfyniad i roi cyfarwyddyd neu i beidio ag amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd gael ei wneud.

Cyfarwyddydau a roddwyd o dan adran 142 o Ddeddf 2002

8.—(1Mae’r seiliau rhagnodedig at ddibenion adran 171(1)(a) o Ddeddf 2006 y rhoddwyd cyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf 2002 (gwahardd rhag addysgu, etc.)(9) mewn cysylltiad â’r person arnynt yn seiliau sy’n ymwneud â chamymddygiad y person.

(2Yr amod rhagnodedig y mae rhaid ei fodloni mewn cysylltiad â’r person (at ddibenion adran 171(1)(b) o Ddeddf 2006) yw na chaiff y person, o ganlyniad i’r cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 142 o Ddeddf 2002, gymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol.

(3Gan ddechrau â 14 Chwefror 2024, mae personau sy’n dod o fewn adran 171(1) o Ddeddf 2006 i’w trin fel pe bai’r cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 142 o Ddeddf 2002 yn gyfarwyddyd a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 167A o Ddeddf 2002 at ddiben unrhyw ddeddfiad.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

11 Ionawr 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ar ba seiliau y caniateir i gyfarwyddyd gael ei roi o dan adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 (“cyfarwyddyd adran 167A”) sy’n gwahardd person rhag cymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol yng Nghymru, neu sy’n cyfyngu ar allu person i wneud hynny. Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer rhoi cyfarwyddyd adran 167A, yr amgylchiadau y caniateir i gyfarwyddyd adran 167A gael ei amrywio neu ei ddirymu odanynt a darpariaeth ynghylch apelau mewn cysylltiad â chyfarwyddydau adran 167A.

Caniateir i gyfarwyddydau adran 167A gael eu rhoi mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei euogfarnu o drosedd berthnasol, sydd wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, neu sy’n ddarostyngedig i ganfyddiad perthnasol mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, neu sydd wedi ymgymryd ag ymddygiad perthnasol, os yw’r awdurdod priodol (Gweinidogion Cymru) yn ystyried bod y person felly yn anaddas i gymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol (rheoliad 2). Mae adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu’r pwerau i’r “appropriate authority” i ddyroddi cyfarwyddyd. Ystyr “appropriate authority” (“awdurdod priodol”) yw awdurdod cofrestru neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall a ragnodir. Yr awdurdod cofrestru yw Gweinidogion Cymru ac felly yr awdurdod priodol at ddibenion y cyfarwyddyd adran 167A yw Gweinidogion Cymru.

Mae rheoliad 2 yn rhagnodi ar ba seiliau y caniateir i gyfarwyddyd adran 167A gael ei roi ac yn disgrifio’r hyn a olygir gan drosedd berthnasol, canfyddiad perthnasol, ac ymddygiad perthnasol at y diben hwn. Mae rheoliad 2 hefyd yn darparu bod cyfeiriadau at euogfarnau a rhybuddiadau yn cynnwys y rheini sydd wedi eu disbyddu ar yr amod bod gorchymyn wedi ei wneud sy’n eithrio gweithredu darpariaethau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 sy’n gwahardd euogfarnau a rhybuddiadau sydd wedi eu disbyddu rhag cael eu defnyddio fel sail dros eithrio person o unrhyw swydd, proffesiwn, galwedigaeth neu gyflogaeth.

Cyn gwneud cyfarwyddyd adran 167A, rhaid i’r awdurdod priodol roi cyfle i’r person i gyflwyno sylwadau o ran pam na ddylid rhoi’r cyfarwyddyd a hysbysiad am y cyfle hwnnw (rheoliad 3). Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhoi’r hysbysiad a’r cyfnod y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno ynddo. Rhaid cymryd pob cam rhesymol i hysbysu person y mae cyfarwyddyd adran 167A wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef.

Caiff yr awdurdod priodol amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd pan fo person yn ceisio ei gael wedi ei ddirymu ar un o’r seiliau a nodir yn rheoliad 5, neu pan na fo person yn ceisio ei gael wedi ei amrywio neu wedi ei ddirymu, pan fo gwybodaeth newydd yn dod i law neu pan fo newid perthnasol wedi bod yn amgylchiadau’r person sy’n ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd, ar yr amod ym mhob achos fod yr awdurdod priodol yn ystyried ei bod yn briodol ei amrywio neu ei ddirymu (rheoliad 4).

O dan reoliad 5, caiff person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd adran 167A geisio ei gael wedi ei amrywio neu wedi ei ddirymu ar y sail bod yr euogfarn, y rhybuddiad neu’r canfyddiad o dan sylw wedi ei diddymu neu wedi ei ddiddymu, bod yr euogfarn neu’r rhybuddiad o dan sylw wedi ei disbyddu neu wedi ei ddisbyddu neu’n dod yn warchodedig, neu fod cyfnod o bum mlynedd wedi mynd heibio ers i’r canfyddiad o dan sylw gael ei wneud. Caiff person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd ar sail ymddygiad geisio ei gael wedi ei amrywio neu wedi ei ddirymu ar y sail bod gwybodaeth newydd wedi dod i law neu pan fo newid perthnasol wedi bod yn amgylchiadau’r person sy’n ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd.

Mae adran 167B(1) o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu ar gyfer hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau mewn cysylltiad â chyfarwyddydau adran 167A. Mae rheoliad 6 yn cynnwys cyfyngiad ar bŵer y Tribiwnlys Haen Gyntaf i ystyried apelau mewn perthynas â chyfarwyddydau adran 167A a roddir ar sail euogfarnau. Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer pwerau’r Tribiwnlys Haen Gyntaf ar ganiatáu apêl mewn perthynas â chyfarwyddyd adran 167A. Pan fo’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn ystyried nad yw’r penderfyniad i roi’r cyfarwyddyd, neu nad yw’r penderfyniad i beidio â’i amrywio neu ei ddirymu, yn briodol caiff orchymyn i’r awdurdod priodol amrywio neu ddirymu’r cyfarwyddyd.

Mae rheoliad 8 yn nodi’r amgylchiadau y bydd person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 yn union cyn i adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 ddod i rym yn cael ei drin fel pe bai’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd adran 167A gan ddechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru.

(1)

2002 p. 32. Mewnosodwyd adrannau 167A a 167B yn Neddf Addysg 2002 gan adran 169 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006. Diwygiwyd adran 167A gan baragraffau 13, 22(a) a (b) o Atodlen 1(1) i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25) a chan Atodlen 2 iddi. Diwygiwyd adran 167B gan baragraffau 192 a 196 o Atodlen 3 i Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2008 (O.S. 2008/2833). Diwygiwyd adran 210(7) gan adran 21(3) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Am ystyr “appropriate authority” (“awdurdod priodol”) gweler adran 167A(6)(b). Am ystyr “registration authority” (“awdurdod cofrestru”) gweler adran 171. Am ystyr “prescribed” (“rhagnodedig”) a “regulations” (“rheoliadau”) gweler adran 212(1). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(2)

2006 p. 40. Diwygiwyd adran 171 gan erthygl 13(1) a (2)(f) o Orchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (Trosglwyddo Swyddogaethau i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) 2012 (O.S. 2012/3006) a pharagraffau 37 a 40(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25). Diwygiwyd adran 181(2) gan adran 23(3) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2).

(3)

1974 p. 53. Mewnosodwyd adran 8A gan adran 49 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4) a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 10 iddi. Diwygiwyd is-adran (2) o adran 8A gan adrannau 135 a 141 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (p. 10), paragraffau 1 a 2 o Atodlen 24 iddi a pharagraffau 1 ac 8 o Atodlen 25 iddi, a chan adran 119 o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (p. 32) a pharagraffau 1 a 2(b) o Atodlen 11 iddi.

(4)

1996 p. 56. Amnewidiwyd adran 463 gan adran 172 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Diwygiwyd is-adran (1) gan adran 26 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2) a pharagraff 4 o Atodlen 1 iddi, a chan O.S. 2010/1158 ac O.S. 2016/463 (Cy. 131). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r rheoliadau hyn.

(5)

Deddf Dedfrydu 2020 p. 17

(6)

2006 p. 52. Am ystyr “service offence” gweler adran 50(2). Diwygiwyd adran 50(2) gan adran 30 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2011 (p. 8) a pharagraff 3 o Atodlen 4 iddi, a chan adran 76 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 (p. 2) a pharagraffau 4 a 5 o Atodlen 14 iddi.

(7)

Mewnosodwyd Atodlen 2 gan adran 49 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4) a pharagraffau 1 a 6 o Atodlen 10 iddi. Diwygiwyd Atodlen 2 gan adrannau 119 a 193 o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (p. 32) a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 11 iddi, a chan adrannau 135 a 141 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (p. 10) a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 24 iddi.

(8)

O.S. 1975/1023, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1373; mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Diffinnir “protected caution” a “protected conviction” yn erthygl 2A, a fewnosodwyd gan erthyglau 2 a 4 o Orchymyn Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2013 (2013/1198).

(9)

Diddymwyd adran 142 yn rhannol gan adran 63(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, a chan Atodlen 10 iddi, ar 12 Hydref 2009. Mae erthygl 4 o Orchymyn Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009 yn arbed gweithredu adran 142 mewn perthynas â chyfarwyddydau i wahardd personau rhag cymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol ar sail camymddygiad.