Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ar ba seiliau y caniateir i gyfarwyddyd gael ei roi o dan adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 (“cyfarwyddyd adran 167A”) sy’n gwahardd person rhag cymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol yng Nghymru, neu sy’n cyfyngu ar allu person i wneud hynny. Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer rhoi cyfarwyddyd adran 167A, yr amgylchiadau y caniateir i gyfarwyddyd adran 167A gael ei amrywio neu ei ddirymu odanynt a darpariaeth ynghylch apelau mewn cysylltiad â chyfarwyddydau adran 167A.

Caniateir i gyfarwyddydau adran 167A gael eu rhoi mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei euogfarnu o drosedd berthnasol, sydd wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, neu sy’n ddarostyngedig i ganfyddiad perthnasol mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, neu sydd wedi ymgymryd ag ymddygiad perthnasol, os yw’r awdurdod priodol (Gweinidogion Cymru) yn ystyried bod y person felly yn anaddas i gymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol (rheoliad 2). Mae adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu’r pwerau i’r “appropriate authority” i ddyroddi cyfarwyddyd. Ystyr “appropriate authority” (“awdurdod priodol”) yw awdurdod cofrestru neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall a ragnodir. Yr awdurdod cofrestru yw Gweinidogion Cymru ac felly yr awdurdod priodol at ddibenion y cyfarwyddyd adran 167A yw Gweinidogion Cymru.

Mae rheoliad 2 yn rhagnodi ar ba seiliau y caniateir i gyfarwyddyd adran 167A gael ei roi ac yn disgrifio’r hyn a olygir gan drosedd berthnasol, canfyddiad perthnasol, ac ymddygiad perthnasol at y diben hwn. Mae rheoliad 2 hefyd yn darparu bod cyfeiriadau at euogfarnau a rhybuddiadau yn cynnwys y rheini sydd wedi eu disbyddu ar yr amod bod gorchymyn wedi ei wneud sy’n eithrio gweithredu darpariaethau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 sy’n gwahardd euogfarnau a rhybuddiadau sydd wedi eu disbyddu rhag cael eu defnyddio fel sail dros eithrio person o unrhyw swydd, proffesiwn, galwedigaeth neu gyflogaeth.

Cyn gwneud cyfarwyddyd adran 167A, rhaid i’r awdurdod priodol roi cyfle i’r person i gyflwyno sylwadau o ran pam na ddylid rhoi’r cyfarwyddyd a hysbysiad am y cyfle hwnnw (rheoliad 3). Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhoi’r hysbysiad a’r cyfnod y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno ynddo. Rhaid cymryd pob cam rhesymol i hysbysu person y mae cyfarwyddyd adran 167A wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef.

Caiff yr awdurdod priodol amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd pan fo person yn ceisio ei gael wedi ei ddirymu ar un o’r seiliau a nodir yn rheoliad 5, neu pan na fo person yn ceisio ei gael wedi ei amrywio neu wedi ei ddirymu, pan fo gwybodaeth newydd yn dod i law neu pan fo newid perthnasol wedi bod yn amgylchiadau’r person sy’n ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd, ar yr amod ym mhob achos fod yr awdurdod priodol yn ystyried ei bod yn briodol ei amrywio neu ei ddirymu (rheoliad 4).

O dan reoliad 5, caiff person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd adran 167A geisio ei gael wedi ei amrywio neu wedi ei ddirymu ar y sail bod yr euogfarn, y rhybuddiad neu’r canfyddiad o dan sylw wedi ei diddymu neu wedi ei ddiddymu, bod yr euogfarn neu’r rhybuddiad o dan sylw wedi ei disbyddu neu wedi ei ddisbyddu neu’n dod yn warchodedig, neu fod cyfnod o bum mlynedd wedi mynd heibio ers i’r canfyddiad o dan sylw gael ei wneud. Caiff person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd ar sail ymddygiad geisio ei gael wedi ei amrywio neu wedi ei ddirymu ar y sail bod gwybodaeth newydd wedi dod i law neu pan fo newid perthnasol wedi bod yn amgylchiadau’r person sy’n ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd.

Mae adran 167B(1) o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu ar gyfer hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau mewn cysylltiad â chyfarwyddydau adran 167A. Mae rheoliad 6 yn cynnwys cyfyngiad ar bŵer y Tribiwnlys Haen Gyntaf i ystyried apelau mewn perthynas â chyfarwyddydau adran 167A a roddir ar sail euogfarnau. Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer pwerau’r Tribiwnlys Haen Gyntaf ar ganiatáu apêl mewn perthynas â chyfarwyddyd adran 167A. Pan fo’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn ystyried nad yw’r penderfyniad i roi’r cyfarwyddyd, neu nad yw’r penderfyniad i beidio â’i amrywio neu ei ddirymu, yn briodol caiff orchymyn i’r awdurdod priodol amrywio neu ddirymu’r cyfarwyddyd.

Mae rheoliad 8 yn nodi’r amgylchiadau y bydd person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 yn union cyn i adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 ddod i rym yn cael ei drin fel pe bai’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd adran 167A gan ddechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru.