xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Y seiliau y caniateir ceisio amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd adran 167A arnynt

5.—(1Y seiliau rhagnodedig y caiff person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd adran 167A geisio ei gael wedi ei amrywio neu wedi ei ddirymu arnynt yw—

(a)bod euogfarn, rhybuddiad neu ganfyddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd ar ei sail wedi ei diddymu neu wedi ei ddiddymu,

(b)bod euogfarn neu rybuddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd ar ei sail, ers i’r cyfarwyddyd gael ei roi, wedi ei disbyddu neu wedi ei ddisbyddu o fewn yr ystyr a roddir i “spent conviction” neu “spent caution” yn Neddf Adsefydlu Troseddwyr 1974,

(c)bod euogfarn neu rybuddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd ar ei sail, ers i’r cyfarwyddyd gael ei roi, wedi dod yn euogfarn warchodedig neu’n rhybuddiad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected conviction” neu “protected caution” yng Ngorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(1),

(d)yn achos cyfarwyddyd a roddir ar sail canfyddiad perthnasol, fod o leiaf bum mlynedd wedi mynd heibio ers i’r canfyddiad gael ei wneud,

(e)bod y person y rhoddwyd y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef yn gallu darparu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad i roi’r cyfarwyddyd cynharach nad oedd gan yr awdurdod priodol ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad, neu

(f)bod y person y rhoddwyd y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef yn gallu darparu tystiolaeth o newid perthnasol mewn amgylchiadau sy’n digwydd ers i’r cyfarwyddyd gael ei roi.

(2At ddibenion paragraff (1)(e) ac (f), ni chaiff person geisio cael cyfarwyddyd adran 167A wedi ei amrywio na wedi ei ddirymu i’r graddau y mae achos y person yn anghyson â bod y person wedi ei euogfarnu o drosedd, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, rhoddir cyfarwyddyd adran 167A ar sail euogfarn, rhybuddiad, canfyddiad neu ymddygiad os bodlonir y sail yn rheoliad 2(1) yn rhinwedd yr euogfarn, y rhybuddiad, y canfyddiad neu’r ymddygiad (yn ôl y digwydd).

(1)

O.S. 1975/1023, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1373; mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Diffinnir “protected caution” a “protected conviction” yn erthygl 2A, a fewnosodwyd gan erthyglau 2 a 4 o Orchymyn Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2013 (2013/1198).