- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4. Yn rheoliad 2—
(a)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
“ystyr “adroddiad aelwydydd islaw’r incwm cyfartalog” (“households below average income report”) yw’r data a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar incymau aelwydydd ac unigolion o dan adran 4 o Ddeddf Diwygio Lles a Gwaith 2016(1);
ystyr “aelwyd incwm is” (“lower income household”) yw aelwyd sydd ag incwm net, ac eithrio unrhyw incwm o fudd-daliadau neu daliadau sy’n gysylltiedig ag anabledd, sy’n llai na 60% o incwm cyfwerthedig net canolrifol aelwydydd cyn costau tai yn seiliedig ar y data diweddaraf a gyhoeddwyd yn yr adroddiad aelwydydd islaw’r incwm cyfartalog;
ystyr “meini prawf cymhwystra iechyd” (“health eligibility criteria”) yw person sy’n byw â chyflwr anadlol cronig, cyflwr cylchrediad y gwaed cronig neu gyflwr iechyd meddwl cronig;;”;
(b)yn y diffiniad o “budd-daliad sy’n dibynnu ar brawf modd”—
(i)ym mharagraff (e), ar y diwedd hepgorer “ac”;
(ii)ym mharagraff (f), ar y diwedd mewnosoder “ac”;
(iii)ar ôl paragraff (f), mewnosoder—
“(g)lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm (fel y diffinnir “income-based jobseeker’s allowance” yn adran 1(4) o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(2));”.
2016 p. 7. Cyhoeddir cyfres yr adroddiad aelwydydd islaw’r incwm cyfartalog ar-lein yn Households below average income (HBAI) statistics - GOV.UK (www.gov.uk) a gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1995 p. 18. Diwygiwyd adran 1(4) gan adran 59 o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30) ac Atodlen 7 iddi. Mae diwygiadau eraill i’r adran hon, ond nid yw yr un ohonynt yn berthnasol at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys