xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Gwnaed yr Offeryn Statudol hwn o ganlyniad i ddiffyg yn O.S. 2023/1154 (Cy. 199) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 37 (Cy. 12)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024

Gwnaed

15 Ionawr 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

17 Ionawr 2024

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3) a (4)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b) a 44(9)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) (“Deddf 1988”) ac a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1 a 2(2)(a) ac (ga) o Atodlen 9 i’r Ddeddf(2) honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(3), a thrwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan baragraff 8(1) a (4)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Ardrethu (Eiddo Gwag) 2007(4), adran 236(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011(5) ac adran 17(2) o Ddeddf Ardrethu Annomestig 2023(6).

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw Rhannau 1 a 2 i rym ar 19 Ionawr 2024.

(4Daw Rhan 3 i rym ar 1 Ebrill 2024.

RHAN 2Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n dod i rym ar 19 Ionawr 2024

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989

2.  Yn rheoliad 3(1) (dehongli) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989(7), yn y diffiniad o “the amount payable”, yn is-baragraff (a), yn lle “paragraphs 1 to 7, and 10 of Schedule 4ZA or paragraphs 1 to 3 of Schedule 4ZB to” rhodder “section 43(4) to (6) or 45(4) to (6) of”.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017

3.—(1Mae Atodlen 1 (materion i’w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu) i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017(8) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 4—

(a)yn lle “rheoliadau o dan baragraff 1(2)(b) a 3(9) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fyddant mewn grym” rhodder “gorchymyn o dan adran 45(4A) o Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fydd mewn grym”;

(b)yn lle “rheoliadau o gymharu â’r swm pe bai paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i” rhodder “gorchymyn o gymharu â’r swm pe bai adran 45(4) o”.

(3Ym mharagraff 5—

(a)yn lle “paragraff 2 o Atodlen 4ZB i” rhodder “adran 45A o”;

(b)yn lle “paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i” rhodder “adran 45(4) o”.

(4Ym mharagraff 6—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “baragraff 2(1) neu 4(1) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 43(4A)(b) neu (5) o”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 44(2) a (2A) o”;

(c)yn lle “paragraff 1 o Atodlen 4ZA, heb ei addasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA heb ei amnewid” rhodder “adran 43(4), heb ei haddasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) adran 44(2) heb ei hamnewid”.

Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017

4.—(1Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017(9) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2 (dehongli), yn y diffiniad o “hereditament a eithrir”, ym mharagraff (c), yn lle “baragraff 2(2)(a) neu (b) o Atodlen 4ZA i” rhodder “baragraff (a) neu (b) o adran 43(6) o”.

(3Yn erthygl 5 (uchafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi), yn lle “paragraff 4(2)(b)(i) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 43(4B)(b)(i) o”.

(4Yn erthygl 6 (amodau rhyddhad), yn lle “paragraff 4(2)(b)(ii) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 43(4B)(b)(ii) o”.

(5Yn erthygl 10 (swm E), yn lle “paragraff 10(6) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 44(9) o”.

Diwygio Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2023

5.—(1Mae Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2023(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(2) (diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989), hepgorer is-baragraff (a).

(3Yn rheoliad 4 (diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017)—

(a)hepgorer paragraff (2);

(b)hepgorer paragraff (3);

(c)hepgorer is-baragraffau (a), (b) a (d) o baragraff (4).

(4Hepgorer rheoliad 5 (diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017).

RHAN 3Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2024

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989

6.  Yn rheoliad 3(1) (dehongli) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989, yn y diffiniad o “the amount payable”, yn is-baragraff (a), yn lle “section 43(4) to (6) or 45(4) to (6) of” rhodder “any provision of or made under Schedule 4ZA or Schedule 4ZB to”.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 1990

7.  Yn rheoliad 3(7) (cydberchnogion a chydfeddianwyr) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 1990(11), yn lle “section 43(6), 45(6) and 47(2)(a) of” rhodder “paragraph 2(2) of Schedule 4ZA to”.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017

8.—(1Mae Atodlen 1 (materion i’w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu) i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 4—

(a)yn lle “gorchymyn o dan adran 45(4A) o Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fydd mewn grym” rhodder “rheoliadau o dan baragraffau 1(2)(b) a 3(9) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fyddant mewn grym”;

(b)yn lle “gorchymyn o gymharu â’r swm pe bai adran 45(4) o” rhodder “rheoliadau o gymharu â’r swm pe bai paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i”.

(3Ym mharagraff 5—

(a)yn lle “adran 45A o” rhodder “paragraff 2 o Atodlen 4ZB i”;

(b)yn lle “adran 45(4) o” rhodder “paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i”.

(4Ym mharagraff 6—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “adran 43(4A)(b) neu (5) o” rhodder “baragraff 2(1) neu 4(1) o Atodlen 4ZA i”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “adran 44(2) a (2A) o” rhodder “baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA i”;

(c)yn lle “adran 43(4), heb ei haddasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) adran 44(2) heb ei hamnewid” rhodder “paragraff 1 o Atodlen 4ZA, heb ei addasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA heb ei amnewid”.

Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017

9.—(1Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2 (dehongli), yn y diffiniad o “hereditament a eithrir”, ym mharagraff (c), yn lle “baragraff (a) neu (b) o adran 43(6) o” rhodder “baragraff 2(2)(a) neu (b) o Atodlen 4ZA i”.

(3Yn erthygl 5 (uchafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi), yn lle “adran 43(4B)(b)(i) o” rhodder “paragraff 4(2)(b)(i) o Atodlen 4ZA i”.

(4Yn erthygl 6 (amodau rhyddhad), yn lle “adran 43(4B)(b)(ii) o” rhodder “paragraff 4(2)(b)(ii) o Atodlen 4ZA i”.

(5Yn erthygl 10 (swm E), yn lle “adran 44(9) o” rhodder “paragraff 10(6) o Atodlen 4ZA i”.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

15 Ionawr 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn hepgor darpariaethau penodol yn rheoliadau 2 a 4, a rheoliad 5 o Reoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2023 (“Rheoliadau 2023”) ac yn gwneud diwygiadau i wahanol offerynnau statudol.

Mae rheoliadau 2, 4 a 5 o Reoliadau 2023 yn gwneud newidiadau i is-ddeddfwriaeth benodol o ran Cymru o ganlyniad i Ddeddf Ardrethu Annomestig 2023 (“Deddf 2023”). Mae adrannau 1 a 2 o Ddeddf 2023 yn diddymu darpariaethau penodol yn Rhan 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) ac yn ailddeddfu’r darpariaethau hynny yn Atodlenni newydd 4ZA a 4ZB i Ddeddf 1988.

Daeth rheoliadau 2, 4 a 5 o Reoliadau 2023 i rym ar 27 Hydref 2023 ond ni wnaethant ddatgan yn benodol eu bod yn cael effaith o 1 Ebrill 2024, yn unol â phryd y mae’r newidiadau perthnasol yn Neddf 2023 hefyd yn cael effaith.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn hepgor darpariaethau penodol yn rheoliadau 2 a 4, a rheoliad 5 o Reoliadau 2023 ac yn ailddatgan darpariaethau o’r offerynnau statudol a ganlyn o ran Cymru (“yr Is-ddeddfwriaeth”) fel yr oeddent yn gymwys yn union cyn i reoliadau 2, 4 a 5 ddod i rym:

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau canlyniadol i’r Is-ddeddfwriaeth a Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (“Rheoliadau 1990”) i adlewyrchu’r darpariaethau a ailddeddfwyd yn Atodlenni 4ZA a 4ZB i Ddeddf 1988. Yn achos Rheoliadau 1990, hepgorir cyfeiriadau at adrannau 45(6) a 47(2)(a) o Ddeddf 1988 gan fod y darpariaethau hyn wedi eu diddymu gan Ddeddfau cynharach.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.

(1)

1988 p. 41. Gweler adran 146(6) am y diffiniad o “prescribed”. Mewnosodwyd is-adran (4B) yn adran 43 gan adran 61(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26) (“Deddf 2003”). Mewnosodwyd is-adran (9) yn adran 44 gan adran 61(5) o Ddeddf 2003. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(2)

Diwygiwyd paragraff 1 gan baragraff 89(2) o Atodlen 13 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15). Mewnosodwyd paragraff 2(2)(ga) gan baragraff 44(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42).

(3)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru wedi hynny yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

2007 p. 9. Caniateir arfer y pŵer i wneud gorchymyn o dan baragraff 8(1) o Ddeddf Ardrethu (Eiddo Gwag) 2007 er mwyn gwneud rheoliadau yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).

(5)

2011 p. 20. Gweler adran 236(2)(a)(ii) am y diffiniad o “appropriate authority”.

(6)

2023 p. 53. Gweler adran 17(3) am y diffiniad o “the appropriate national authority”.

(7)

O.S. 1989/1058; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1991/141, O.S. 1993/616 ac O.S. 2023/1154 (Cy. 199).

(8)

O.S. 2017/113 (Cy. 39), a ddiwygiwyd gan O.S. 2023/1154 (Cy. 199); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(9)

O.S. 2017/1229 (Cy. 293), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/1192 (Cy. 243) ac O.S. 2023/1154 (Cy. 199); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(11)

O.S. 1990/145, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.