xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
65.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd i’r darparwr gwasanaeth am ddigonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau yn Rhannau 2 i 12 o’r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i adroddiadau o’r fath gael eu gwneud yn chwarterol.
(3) Ond nid yw’r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
66.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol, yn ddi-oed, adrodd i’r darparwr gwasanaeth—
(a)am unrhyw bryderon ynghylch rheoli neu ddarparu’r gwasanaeth;
(b)am unrhyw newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli neu ei ddarparu;
(c)am unrhyw bryderon nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.
(2) Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
67.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle ar gyfer cael safbwyntiau—
(a)yr unigolion sy’n cael gofal a chymorth,
(b)rhieni a gofalwyr yr unigolion hynny,
(c)unrhyw awdurdod lleoli, a
(d)staff sydd wedi eu cyflogi yn y gwasanaeth,
ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir a sut y gellir gwella hyn.
(2) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd am y safbwyntiau a geir i’r darparwr gwasanaeth er mwyn i’r safbwyntiau hyn allu cael eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.