Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024

Defnyddio rheolaeth ac ataliaeth yn briodol

26.—(1Ni chaniateir darparu gofal a chymorth mewn ffordd sy’n cynnwys gweithredoedd y bwriedir iddynt reoli neu atal unigolyn oni bai bod y gweithredoedd hynny—

(a)yn angenrheidiol i atal risg o niwed a berir i’r unigolyn neu i unigolyn arall, a

(b)yn ymateb cymesur i risg oʼr fath.

(2Ni chaniateir defnyddio rheolaeth neu ataliaeth oni bai ei bod yn cael ei chyflawni gan staff sydd wedi eu hyfforddi yn y dull rheolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir.

(3Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi ar ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth a sicrhau bod unrhyw reolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir yn cael ei chyflawni yn unol â’r polisi hwn.

(4Rhaid i gofnod o unrhyw ddigwyddiad y defnyddir rheolaeth neu ataliaeth ynddo gael ei wneud o fewn 24 awr.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn rheoli neu’n atal unigolyn os yw’r person hwnnw—

(a)yn defnyddio, neu’n bygwth defnyddio, grym i sicrhau bod gweithred yn cael ei gwneud y mae’r unigolyn yn ei gwrthsefyll, neu

(b)yn cyfyngu ar ryddid symud yr unigolyn, pa un a yw’r unigolyn yn gwrthsefyll ai peidio, gan gynnwys defnyddio dulliau corfforol, mecanyddol neu gemegol.