Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2024

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 447 (Cy. 75) (C. 26)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2024

Gwnaed

2 Ebrill 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

4 Ebrill 2024

Yn dod i rym

25 Ebrill 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 167(1), (2)(a) a (3)(a) ac adran 170(4)(b)(vi) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022(1).