xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 502 (Cy. 80)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio) (Cymru) 2024

Gwnaed

11th April 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

12 Ebrill 2024

Yn dod i rym

28 Ebrill 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(1).

Enwi, cymhwyso a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio) (Cymru) 2024.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 28 Ebrill 2024.

Diwygio Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC

2.  Ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC sy’n gosod amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystiad milfeddygol ar gyfer mewnforio briwgig a pharatoadau cig o drydydd gwledydd ac sy’n diddymu Penderfyniad 97/29/EC(2) hepgorer Erthygl 3(3).

Dirymiadau canlyniadol

3.  Mae’r canlynol wedi eu dirymu—

(a)‌rheoliad 3 o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021(3),

(b)Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2021(4),

(c)‌Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) (Rhif 2) 2021(5),

(d)‌rheoliad 3 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021(6),

(e)‌Rheoliadau Paratoadau Cig (Cymru) (Diwygio) 2022(7),

(f)‌rheoliad 3 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) (Cymru) 2022(8), ac

(g)Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Diwygio) 2024(9).

Huw Irranca-Davies

Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

11 Ebrill 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC (“2000/572/EC”) sy’n gosod amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystiad milfeddygol ar gyfer mewnforio paratoadau cig o drydydd gwledydd.

Mae rheoliad 2 yn diwygio 2000/572/EC i ddileu’r amod mewnforio bod paratoadau cig o drydydd gwledydd wedi eu rhewi’n ddwfn yn y safle neu’r safleoedd cynhyrchu tarddiad.

Mae rheoliad 3 yn dirymu, o ganlyniad, offerynnau eraill neu ddarpariaethau offerynnau eraill a addasodd yr amod mewnforio hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

O.S. 2011/2379 (Cy. 252). Mewnosodwyd paragraff 11A yn Atodlen 2 gan reoliad 2(2) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1639) (Cy. 344) ac mae’n galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio, addasu neu ddirymu unrhyw fân ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd a wnaed o dan Erthygl 8(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC sy’n gosod y rheolau iechyd anifeiliaid sy’n llywodraethu’r broses o gynhyrchu, prosesu, dosbarthu a chyflwyno cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i’w bwyta gan bobl (OJ Rhif L 18, 23.1.2003, t. 11) (“Cyfarwyddeb 2002”). Mae O.S. 2021/1 (Cy. 1), a ddiwygir gan reoliad 3 o’r offeryn hwn, yn addasu Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC sy’n gosod amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystiad milfeddygol ar gyfer mewnforio briwgig a pharatoadau cig o drydydd gwledydd (EUDN 2000/572). Mabwysiadwyd Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC (OJ Rhif L 240, 23.9.2000, t. 19) o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 94/65/EC sy’n gosod y gofynion ar gyfer cynhyrchu a gosod ar y farchnad friwgig a pharatoadau cig (OJ Rhif L 368, 31.12.1994, t. 10) (“Cyfarwyddeb 1994”), ond mae i’w ddehongli fel pe bai’n cael ei wneud o dan Gyfarwyddeb 2002 yn rhinwedd darpariaeth yng Nghyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 157, 30.4.2004, t. 33) (“Cyfarwyddeb 2004”). Bu i Gyfarwyddeb 2004, a ddiddymodd Gyfarwyddeb 1994, ddarparu yn Erthygl 4 y dylid dehongli cyfeiriadau at Gyfarwyddebau penodol, gan gynnwys Cyfarwyddeb 1994, fel pe baent yn cael eu gwneud, yn ôl y cyd-destun, at Gyfarwyddeb 2002; yn unol â hynny, mae’r rheol ddehongli honno yn cael yr effaith bod y pŵer ym mharagraff 11A o Atodlen 2 i O.S. 2011/2379 (Cy. 252) i addasu mân ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan Erthygl 8(4) o Gyfarwyddeb 2002 yn ymestyn i addasu Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC.

(2)

EUDN 2000/572, a ddiwygiwyd gan O.S 2020/1462 a 2021/1 (Cy. 1).