Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ac Atodlen 1B iddi.

Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau sydd i fod yn gymwys i symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu gan ddosbarthau ar bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.

Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod hwnnw yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.

Mae rheoliad 3 yn mewnosod diffiniadau newydd yn y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig o ganlyniad i ddiwygiadau eraill a wneir gan y Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 12 yn gwneud yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae rheoliadau 4(c) (ond gweler ymhellach isod), 6(a)(i) i (v) a (vii), 7(c) a 9(a)(i) i (v) a (vii) yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig er mwyn creu diystyriadau newydd mewn perthynas â thaliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Swyddfa’r Post at ddiben darparu digollediad neu gymorth mewn cysylltiad â methiannau system gyfrifiadurol Horizon Swyddfa’r Post, neu sydd fel arall yn daladwy yn dilyn y dyfarniad yn Bates and Others v Post Office Ltd ((No. 3) “Common Issues”) [2019] EWHC 606 (QB), neu mewn perthynas â thaliadau a wneir o dan Ddeddf Taliadau Niwed Drwy Frechiad 1979. Gwneir yr un diwygiadau gan reoliadau 13(c), 17(a)(i) i (v) a (vii), a 18(a)(i) i (v) a (vii) o’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae rheoliad 4(c) yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig i gywiro hepgoriad blaenorol yn y Rheoliadau hynny er mwyn sicrhau bod y rhestr o faterion y mae rhaid eu diystyru mewn perthynas â didyniadau annibynyddion sy’n gymwys i bersonau o oedran gweithio hefyd yn gymwys i bensiynwyr. Mae’r un rheoliad hefyd yn cynnwys diwygiad sy’n darparu ar gyfer diystyriad mewn perthynas â thaliadau digollediad Swyddfa’r Post (gweler uchod).

Mae rheoliad 5(d) yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig er mwyn sicrhau, pan fo ceisydd neu bartner ceisydd yn gyfrifol am berson ifanc sy’n aelod o aelwyd y ceisydd, a phan fo’r person ifanc hwnnw yn cael taliad annibyniaeth y lluoedd arfog, fod taliad o’r fath yn cael ei ystyried wrth benderfynu swm y premiwm sy’n gymwys at ddiben penderfynu swm unrhyw ostyngiad. Gwneir yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 15(d).

Mae rheoliadau 6(a)(vi) a 9(a)(vi) yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig i alluogi i daliadau penodol a wneir o ystad person ymadawedig gael eu diystyru at ddiben penderfynu cymhwystra am ostyngiad. Mae’r diystyriad yn gymwys i daliadau sy’n deillio o daliad a wnaed o gynllun gwaed cymeradwy, neu o Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, sydd i fodloni argymhelliad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ei adroddiad interim a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022. Argymhellodd yr adroddiad hwnnw y dylid gwneud taliad interim i bawb sydd wedi ei heintio gan waed neu gynhyrchion gwaed halogedig, a’r holl bartneriaid mewn profedigaeth sydd wedi eu cofrestru ar gynlluniau cymorth gwaed heintiedig y DU, a’r rheini sy’n cofrestru cyn dechreuad unrhyw gynllun yn y dyfodol. Pan fo person sydd wedi ei heintio neu ei bartner mewn profedigaeth wedi cofrestru â chynllun o’r fath ond wedi marw cyn y gellid gwneud y taliad interim, bydd yn cael ei dalu i’w ystad. Bydd taliad sy’n deillio o daliad interim a delir o ystad person ymadawedig yn cael ei ddiystyru at ddiben penderfynu cymhwystra am ostyngiad os caiff ei wneud i fab, merch, llysfab neu lysferch y person ymadawedig. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17(a)(vi) a 18(a)(vi).

Mae rheoliadau 6(b) ac (c) a 9(b) ac (c) yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig o ganlyniad i Orchymyn Budd-daliadau Profedigaeth (Rhwymedïol) 2023 (O.S. 2023/134) (“y Gorchymyn Rhwymedïol”) a ddaeth i rym ar 9 Chwefror 2023. Yn rhinwedd y Gorchymyn Rhwymedïol, estynnir hawlogaeth i fudd-daliadau profedigaeth i oroeswyr partneriaethau cyd-fyw a chanddynt blant dibynnol. Yn flaenorol, nid oedd y taliadau hyn ond ar gael i rieni cymwys mewn profedigaeth a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Diystyrir cyfandaliadau penodol o daliad cymorth profedigaeth a lwfans rhiant gweddw a wneir i oroeswyr partneriaethau cyd-fyw wrth gyfrifo cyfalaf ceisydd at ddibenion hawlogaeth i ostyngiad o ran y dreth gyngor. Bydd unrhyw gyfandaliad o daliad cymorth profedigaeth ar y gyfradd uwch fel y nodir yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017 yn cael ei ddiystyru am gyfnod o 52 o wythnosau, o 1 Ebrill 2024 neu o ddyddiad cael y taliad, pa un bynnag sydd ddiweddaraf. Bydd unrhyw gyfandaliad o daliad lwfans rhiant gweddw, a wneir i’r partner sy’n goroesi partneriaeth cyd-fyw o ganlyniad i farwolaeth sy’n digwydd cyn i’r Gorchymyn Rhwymedïol ddod i rym, yn cael ei ddiystyru. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17(b) ac (c) a 18(b) ac (c).

Mae rheoliad 10 yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig o ganlyniad i Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Mae’r diwygiad yn sicrhau, pan delir cronfeydd mynediad i fyfyrwyr ar sail ddisgresiynol gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, fod cronfeydd o’r fath yn cael eu hystyried wrth benderfynu cymhwystra am ostyngiad o ran y dreth gyngor. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 14.

Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 4(a) a (b), 5(a) i (c) ac (e), 7(a) a (b) ac 8 yn uwchraddio ffigurau penodol a ddefnyddir i gyfrifo a oes gan berson hawl i ostyngiad, ac os felly, swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigurau uwchraddedig yn gymwys i ddidyniadau annibynyddion (addasiadau a wneir i uchafswm y gostyngiad y gall person ei gael gan ystyried oedolion sy’n byw yn yr annedd nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd) ac i’r swm cymwysadwy (y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef er mwyn penderfynu swm y gostyngiad, os oes un, y gall fod gan y ceisydd hawl i’w gael). Mae nifer o ffigurau eraill hefyd yn cael eu huwchraddio i adlewyrchu newidiadau i amryw hawlogaethau eraill. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 13(a) a (b), 15(a) i (c) ac (e) ac 16.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru .

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill