Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024

Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013

12.  Ym mharagraff 2(1) (dehongli)—

(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “Swyddfa’r Post” (“the Post Office”) yw Post Office Limited (rhif cofrestredig 02154540);;

ystyr “y system Horizon” (“the Horizon system”) yw unrhyw fersiwn o’r system gyfrifiadurol a ddefnyddir gan Swyddfa’r Post, a elwir yn Horizon, Horizon Legacy, Horizon Online neu’n HNG-X;;

ystyr “taliad digollediad Swyddfa’r Post” (“Post Office compensation payment”) yw taliad a wneir gan Swyddfa’r Post neu’r Ysgrifennydd Gwladol at ddiben darparu digollediad neu gymorth sydd—

(a)

mewn cysylltiad â methiannau’r system Horizon, neu

(b)

fel arall yn daladwy yn dilyn y dyfarniad yn Bates and Others v Post Office Ltd ((No. 3) “Common Issues”);;

ystyr “taliad niwed drwy frechiad” (“vaccine damage payment”) yw taliad a wneir o dan Ddeddf Taliadau Niwed Drwy Frechiad 1979;;

(b)yn y diffiniad o “person cymwys”, ar ôl “yw person” mewnosoder “sy’n cael taliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad neu berson”.