Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013

17.  Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 16—

(i)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad.;

(ii)yn is-baragraff (2), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(iii)yn is-baragraff (3), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(iv)yn is-baragraff (5), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(v)yn is-baragraff (6), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(vi)ar ôl is-baragraff (6) mewnosoder—

(6A) Unrhyw daliad allan o ystad person, sy’n deillio o daliad i fodloni argymhelliad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ei adroddiad interim a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022 a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person, pan wneir y taliad i fab, merch, llysfab neu lysferch y person.;

(vii)yn is-baragraff (7), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(b)ym mharagraff 28C—

(i)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

(ii)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(2) Pan fo taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 yn cael ei dalu i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn ystyr adran 30(6B) o’r Ddeddf honno) mewn cysylltiad â marwolaeth sy’n digwydd cyn 9 Chwefror 2023, unrhyw swm o’r taliad hwnnw—

(a)sydd mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017, a

(b)a delir fel cyfandaliad am fwy nag un ailddigwyddiad misol o’r diwrnod o’r mis y bu farw ei bartner a oedd yn cyd-fyw,

ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau o 1 Ebrill 2024 neu o ddyddiad cael y taliad, pa un bynnag sydd ddiweddaraf.;

(c)ar ôl paragraff 28E mewnosoder—

28F.  Unrhyw daliad o lwfans rhiant gweddw a wneir o dan adran 39A o DCBNC—

(a)i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn yr ystyr a roddir i “cohabiting partnership” yn adran 39A(7) o’r Ddeddf honno) sydd â hawl i gael lwfans rhiant gweddw am gyfnod cyn 9 Chwefror 2023, a

(b)mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o amser yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben â’r diwrnod cyn i’r goroeswr wneud hawliad am lwfans rhiant gweddw.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill