- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9. Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a)ym mharagraff 29—
(i)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad.”;
(ii)yn is-baragraff (2), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(iii)yn is-baragraff (3), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(iv)yn is-baragraff (4), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(v)yn is-baragraff (5), ar ôl “is-baragraff (1)” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(vi)ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—
“(5A) Unrhyw daliad allan o ystad person, sy’n deillio o daliad i fodloni argymhelliad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ei adroddiad interim a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022 a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person, pan wneir y taliad i fab, merch, llysfab neu lysferch y person.”;
(vii)yn is-baragraff (6), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;
(b)ym mharagraff 65—
(i)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);
(ii)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—
“(2) Pan fo taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 yn cael ei dalu i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn ystyr adran 30(6B) o’r Ddeddf honno) mewn cysylltiad â marwolaeth sy’n digwydd cyn 9 Chwefror 2023, unrhyw swm o’r taliad hwnnw—
(a)sydd mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017, a
(b)a delir fel cyfandaliad am fwy nag un ailddigwyddiad misol o’r diwrnod o’r mis y bu farw ei bartner a oedd yn cyd-fyw,
ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau o 1 Ebrill 2024 neu o ddyddiad cael y taliad, pa un bynnag sydd ddiweddaraf.”;
(c)ar ôl paragraff 67 mewnosoder—
“68. Unrhyw daliad o lwfans rhiant gweddw a wneir o dan adran 39A o DCBNC—
(a)i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn yr ystyr a roddir i “cohabiting partnership” yn adran 39A(7) o’r Ddeddf honno) sydd â hawl i gael lwfans rhiant gweddw am gyfnod cyn 9 Chwefror 2023, a
(b)mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o amser yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben â’r diwrnod cyn i’r goroeswr wneud hawliad am lwfans rhiant gweddw.”
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys