- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
8 Mai 2024
Yn dod i rym
10 Mai 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 5(1), 12(1)(1), 13(1)(2), 15(1)(3), 46 a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(4) a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi, ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol ag adran 47(2)(a), (c) ac (e) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(5).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 10 Mai 2024.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “addysg bellach” (“further education”) yw addysg (heblaw addysg uwch) sy’n addas i ofynion personau sydd dros yr oedran ysgol gorfodol;
ystyr “addysg uwch (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988(6);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “Comisiwn” (“Commission”) yw’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022(7);
ystyr “Cyngor” (“Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg, sef y corff corfforedig a ailenwyd gan adran 2 o Ddeddf 2014;
ystyr “darparwr dysgu oedolion cymunedol” (“community-based adult learning provider”) yw darparwr (heblaw ysgol, sefydliad addysg bellach neu sefydliad addysg uwch) addysg bellach a hyfforddiant ar gyfer oedolion sy’n seiliedig yn y gymuned ac sydd wedi ei ariannu neu ei ddarparu fel arall gan awdurdod lleol, y Comisiwn neu Weinidogion Cymru;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996(8);
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014(9);
ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sy’n 18 oed neu drosodd;
ystyr “pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach” (“principal or senior leader in further education”) yw person sy’n ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru;
ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015(10);
ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017(11);
ystyr “Rheoliadau 2023” (“the 2023 Regulations”) yw Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023(12);
mae i “sefydliad addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education institution” yn adran 140 o Ddeddf Addysg 2002(13);
ystyr “sefydliad addysg uwch” (“higher education institution”) yw sefydliad sy’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(14);
ystyr “ymarferydd dysgu oedolion” (“adult learning practitioner”) yw person sy’n darparu addysg bellach a hyfforddiant i oedolion ar gyfer neu ar ran darparwr dysgu oedolion cymunedol;
ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru neu ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.
3. Ni chaiff person ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu mewn nac ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru oni bai bod y person wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yng nghategori pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach.
4.—(1) Ni chaiff person weithio fel ymarferydd dysgu oedolion ar gyfer nac ar ran unrhyw ddarparwr dysgu oedolion cymunedol oni bai—
(a)bod yr amodau ym mharagraffau (2) a (3) wedi eu bodloni, neu
(b)bod paragraff (4) yn gymwys.
(2) Yr amod cyntaf yw bod rhaid i’r person fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori ymarferydd dysgu oedolion.
(3) Yr ail amod yw bod rhaid—
(a)bod gan y person o leiaf un o’r cymwysterau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen, neu
(b)i’r person ddiwallu’r gofyniad arall a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen.
(4) Caiff person sy’n cydymffurfio â’r amod cyntaf ond nad yw’n cydymffurfio â’r ail amod, os yw’n gweithio tuag at gymhwyster a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen, weithio fel ymarferydd dysgu oedolion am gyfnod nad yw’n hwy na—
(a)3 blynedd o’r dyddiad y dechreuodd weithio tuag at y cymhwyster pan fo’r person wedi ei gyflogi’n llawnamser, neu
(b)5 mlynedd o’r dyddiad y dechreuodd weithio tuag at y cymhwyster pan fo’r person wedi ei gyflogi’n rhan-amser.
(5) Wrth gyfrifo’r cyfnodau a bennir ym mharagraff 4(a) a (b), mae unrhyw gyfnod o absenoldeb o’r gwaith i gael ei ddiystyru os yw’n codi—
(a)wrth i berson arfer—
(i)ei hawl i absenoldeb mamolaeth a roddir gan adran 71 neu 73 o Ddeddf 1996(15) neu gontract cyflogaeth a phan fydd gan y person hwnnw yr hawl i ddychwelyd i’r gwaith yn rhinwedd y naill neu’r llall o’r adrannau hyn neu gontract cyflogaeth;
(ii)ei hawl i absenoldeb rhiant a roddir gan adran 76 o Ddeddf 1996(16);
(iii)ei hawl i absenoldeb tadolaeth a roddir gan adran 80A neu 80B o Ddeddf 1996(17);
(iv)ei hawl i absenoldeb mabwysiadu a roddir gan adran 75A neu 75B o Ddeddf 1996(18);
(v)ei hawl i absenoldeb rhiant a rennir a roddir gan adran 75E neu 75G o Ddeddf 1996(19); neu
(vi)ei hawl i absenoldeb profedigaeth rhiant a roddir gan adran 80EA o Ddeddf 1996(20); neu
(b)oherwydd beichiogrwydd.
5. Rhaid i’r Cyngor adolygu’r rhestr o gymwysterau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen ac adrodd i Weinidogion Cymru yn flynyddol ar unrhyw ddiwygiadau y mae’n ystyried y gallant fod yn ofynnol.
6.—(1) Mae Atodlen 2 (categorïau cofrestru) i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Nhabl 1 ym mharagraff 1, ar ôl y cofnod ar gyfer “Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” mewnosoder—
Categori | Disgrifiad |
---|---|
“Ymarferydd dysgu oedolion | Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) addysg bellach a hyfforddiant i oedolion ar gyfer neu ar ran darparwr dysgu oedolion cymunedol. |
Pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach | Person sy’n ymgymryd (neu sy’n dymuno ymgymryd) â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru.” |
(3) Ym mharagraff 3, yn y lleoedd priodol, mewnosoder—
“ystyr “addysg bellach” (“further education”) yw addysg (heblaw addysg uwch) sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol;”;
“ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988(21);”;
“ystyr “darparwr dysgu oedolion cymunedol” (“community-based adult learning provider”) yw darparwr (heblaw ysgol, sefydliad addysg bellach neu sefydliad addysg uwch) addysg bellach a hyfforddiant ar gyfer oedolion sy’n seiliedig yn y gymuned ac sydd wedi ei ariannu neu ei ddarparu fel arall gan awdurdod lleol, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil(22) neu Weinidogion Cymru;”;
“ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sy’n 18 oed neu drosodd;”;
“ystyr “sefydliad addysg uwch” (“higher education institution”) yw sefydliad sy’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(23);”.
7.—(1) Mae Atodlen 4 (mynegai o eiriau ac ymadroddion wedi eu diffinio) i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Nhabl 3, yn y lleoedd priodol, mewnosoder—
Gair neu ymadrodd | Gair neu ymadrodd yn y Saesneg | Darpariaeth berthnasol |
---|---|---|
“Addysg bellach | Further education | Atodlen 2” |
“Addysg uwch | Higher education | Atodlen 2” |
“Darparwr dysgu oedolion cymunedol | Community-based adult learning provider | Atodlen 2” |
“Oedolyn | Adult | Atodlen 2” |
“Pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach | Principal or senior leader in further education | Atodlen 2” |
“Sefydliad addysg uwch | Higher education institution | Atodlen 2” |
“Ymarferydd dysgu oedolion | Adult learning practitioner | Atodlen 2” |
8. Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio yn unol ag erthyglau 9 i 12.
9. Yn lle’r pennawd i Ran 4 (Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon addysg bellach), rhodder “Y gofynion sy’n ymwneud ag athrawon addysg bellach)”.
10.—(1) Mae rheoliad 19 o Reoliadau 2015 wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (6).
(2) Yn lle’r pennawd, rhodder “Y gofynion sy’n ymwneud ag athrawon addysg bellach”.
(3) Yn lle paragraff (1), rhodder—
“(1A) Ni chaiff person ddarparu addysg mewn nac ar gyfer sefydliad addysg bellach oni bai—
(a)bod yr amodau ym mharagraffau (1B) ac (1C) wedi eu bodloni, neu
(b)bod paragraff (1D) yn gymwys.
(1B) Yr amod cyntaf yw bod rhaid i’r person fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes addysg bellach.
(1C) Yr ail amod yw bod rhaid—
(a)bod gan y person o leiaf un o’r cymwysterau penodedig, neu
(b)i’r person ddiwallu’r gofyniad arall a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 6.
(1D) Caiff person sy’n cydymffurfio â’r amod cyntaf ond nad yw’n cydymffurfio â’r ail amod, os yw’n gweithio tuag at gymhwyster penodedig, weithio fel athro neu athrawes addysg bellach am gyfnod nad yw’n hwy na—
(a)3 blynedd o’r dyddiad y dechreuodd weithio tuag at y cymhwyster pan fo’r person wedi ei gyflogi’n llawnamser, neu
(b)5 mlynedd o’r dyddiad y dechreuodd weithio tuag at y cymhwyster pan fo’r person wedi ei gyflogi’n rhan-amser.”
(1E) Wrth gyfrifo’r cyfnodau a bennir ym mharagraff 1D(a) a (b), mae unrhyw gyfnod o absenoldeb o’r gwaith i gael ei ddiystyru os yw’n codi—
(a)wrth i berson arfer—
(i)ei hawl i absenoldeb mamolaeth a roddir gan adran 71 neu 73 o Ddeddf 1996(24) neu gontract cyflogaeth a phan fydd gan y person hwnnw yr hawl i ddychwelyd i’r gwaith yn rhinwedd y naill neu’r llall o’r adrannau hyn neu gontract cyflogaeth;
(ii)ei hawl i absenoldeb rhiant a roddir gan adran 76 o Ddeddf 1996(25);
(iii)ei hawl i absenoldeb tadolaeth a roddir gan adran 80A neu 80B o Ddeddf 1996(26);
(iv)ei hawl i absenoldeb mabwysiadu a roddir gan adran 75A neu 75B o Ddeddf 1996(27);
(v)ei hawl i absenoldeb rhiant a rennir a roddir gan adran 75E neu 75G o Ddeddf 1996(28); neu
(vi)ei hawl i absenoldeb profedigaeth rhiant a roddir gan adran 80EA o Ddeddf 1996(29); neu
(b)oherwydd beichiogrwydd.”
(4) Ym mharagraff (2)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (c) hepgorer “neu”;
(b)ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—
“(e)yn gweithredu fel gwirfoddolwr; neu
(f)yn darparu ar sail dros dro neu achlysurol hyfforddiant mewn perthynas â phroffesiwn a phan fo’r person yn dal y cymwysterau neu’r profiad sy’n angenrheidiol er mwyn ymarfer y proffesiwn hwnnw.”
(5) Ar ôl paragraff (2), mewnosoder yr hyn a ganlyn—
“(3) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 19ZA, ystyr cymhwyster penodedig yw cymhwyster a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 6.”
11. Ar ôl rheoliad 19 o Reoliadau 2015, mewnosoder—
19ZA. Rhaid i’r Cyngor adolygu’r rhestr o gymwysterau penodedig ac adrodd i Weinidogion Cymru yn flynyddol ar unrhyw ddiwygiadau y mae’n ystyried y gallant fod yn ofynnol.”
12. Ar ôl Atodlen 5 i Reoliadau 2015 mewnosoder—
Rheoliad 19
1. Tabl 1: Cymru
Cymwysterau o ran Cymru | Corff dyfarnu |
---|---|
Addysg (Cymru) (MA) | Coleg Prifysgol Dewi Sant Coleg Prifysgol y Drindod Prifysgol Abertawe Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Abertawe Prifysgol Cymru, Aberystwyth Prifysgol Cymru, Casnewydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan Prifysgol De Cymru Prifysgol Fetropolitan Abertawe Prifysgol Morgannwg |
Addysg (Doethur mewn Addysg) | Prifysgol Bangor Prifysgol Cymru, Bangor |
Addysg (MA) | Coleg Prifysgol Dewi Sant Y Brifysgol Agored Prifysgol Abertawe Prifysgol Bangor Prifysgol Cymru, Abertawe Prifysgol Cymru, Bangor Prifysgol Cymru, Casnewydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan Prifysgol Fetropolitan Abertawe Prifysgol Glyndŵr Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam Prifysgol Morgannwg Prifysgol Wrecsam |
Addysg (MPhil) | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Bangor Prifysgol Cymru, Aberystwyth Prifysgol Cymru, Bangor |
Addysg (PhD) | Prifysgol Abertawe Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
Addysg a Drama a Theatr (BA) | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
Addysg a Hanes (BA) | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
Addysg a Llenyddiaeth Saesneg (BA) | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
Addysg a Mathemateg (BA) | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
Addysg gyda Mathemateg (BSc) | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
Addysg a Sbaeneg (BA) | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
Addysg a Seicoleg (BSc) | Prifysgol Abertawe Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Abertawe Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
Addysg a’r Gymraeg (BA) | Prifysgol Abertawe Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Caerdydd Prifysgol Cymru, Aberystwyth Prifysgol Cymru, Caerdydd |
Addysg gyda Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig (BSc) | Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd |
Addysg Cenedlaethol (Cymru) (MA) | Prifysgol Bangor Prifysgol Cymru, Bangor |
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (MA) | Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd Coleg Prifysgol Dewi Sant Coleg Prifysgol y Drindod Prifysgol Abertawe Prifysgol Cymru, Abertawe Prifysgol Cymru, Casnewydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan Prifysgol De Cymru Prifysgol Fetropolitan Abertawe Prifysgol Metropolitan Caerdydd Prifysgol Morgannwg |
Astudiaethau Addysg (BA) | Coleg Prifysgol Dewi Sant Coleg Prifysgol y Drindod Prifysgol Abertawe Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Caerdydd Prifysgol Cymru, Abertawe Prifysgol Cymru, Aberystwyth Prifysgol Cymru, Caerdydd Prifysgol Cymru, Casnewydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan Prifysgol De Cymru Prifysgol Fetropolitan Abertawe Prifysgol Glyndŵr Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam Prifysgol Morgannwg Prifysgol Wrecsam |
Astudiaethau Addysg (BSc) | Prifysgol Caerdydd Prifysgol Cymru, Caerdydd |
Astudiaethau Addysg (MSc) | Prifysgol Caerdydd Prifysgol Cymru, Caerdydd |
Astudiaethau Addysg (Diploma Ôl-raddedig – PGDip) | Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd |
Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (BA) | Coleg Prifysgol Dewi Sant Coleg Prifysgol y Drindod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant |
Astudiaethau Proffesiynol mewn Addysg (PgDip) | Y Brifysgol Agored |
Cymdeithaseg ac Addysg (BSc) | Prifysgol Caerdydd Prifysgol Cymru, Caerdydd |
Daearyddiaeth Ffisegol ac Addysg (BA) | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
Diploma mewn Addysg a Hyfforddiant | AIM Qualifications AoFA Qualifications Ascentis AQA City & Guilds of London Institute Gateway Qualifications iCan Qualifications Ltd NCFE National Open College Network Pearson Education Ltd Qualsafe Awards Skills and Education Group Awards SFJ Awards Training Qualifications UK Vocational Training Charitable Trust |
Diploma mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes | City & Guilds of London Institute Oxford, Cambridge and RSA Examinations |
Dysgu ac Addysgu (Addysg Uwch) (PGCert) | Prifysgol Glyndŵr Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam Prifysgol Wrecsam |
Hanes ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (BA) | Prifysgol Bangor Prifysgol Cymru, Bangor |
Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) | Prifysgol Abertawe Prifysgol Cymru, Abertawe |
Ieithoedd Modern ac Addysg (BA) | Prifysgol Abertawe Prifysgol Cymru, Abertawe |
Llenyddiaeth Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) | Prifysgol Abertawe Prifysgol Cymru, Abertawe |
Seicoleg ac Addysg (BSc) | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
Mathemateg ac Addysg (BSc) | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
Mathemateg gydag Addysg (BSc) | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
Tystysgrif Addysg | AQA Y Brifysgol Agored City & Guilds of London Institute Prifysgol Bangor Prifysgol Cymru, Bangor TEC Partnership |
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PGCE) | Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd Coleg Prifysgol Dewi Sant Coleg Prifysgol y Drindod Prifysgol Bangor Prifysgol Caerdydd Prifysgol Cymru, Bangor Prifysgol Cymru, Caerdydd Prifysgol Cymru, Casnewydd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan Prifysgol De Cymru Prifysgol Fetropolitan Abertawe Prifysgol Metropolitan Caerdydd Prifysgol Morgannwg |
Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg, mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCE) | Coleg Gwent Coleg Prifysgol Dewi Sant Coleg Prifysgol y Drindod Prifysgol Cymru, Casnewydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan Prifysgol De Cymru Prifysgol Morgannwg |
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg, mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PGCE) | Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd Coleg Prifysgol Dewi Sant Coleg Prifysgol y Drindod Prifysgol Caerdydd Prifysgol Cymru, Aberystwyth Prifysgol Cymru, Caerdydd Prifysgol Cymru, Casnewydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan Prifysgol De Cymru Prifysgol Fetropolitan Abertawe Prifysgol Metropolitan Caerdydd Prifysgol Morgannwg Prifysgol Wrecsam |
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg Uwch (PGCertHE) | Prifysgol Metropolitan Caerdydd |
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PGCE) gyda QTS | Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd Y Brifysgol Agored Coleg Prifysgol Dewi Sant Coleg Prifysgol y Drindod Prifysgol Abertawe Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Bangor Prifysgol Caerdydd Prifysgol Cymru, Abertawe Prifysgol Cymru, Aberystwyth Prifysgol Cymru, Bangor Prifysgol Cymru, Caerdydd Prifysgol Cymru, Casnewydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan Prifysgol De Cymru Prifysgol Fetropolitan Abertawe Prifysgol Metropolitan Caerdydd Prifysgol Morgannwg |
2. Tabl 2: Lloegr
Cymwysterau o ran Lloegr | Corff dyfarnu |
---|---|
Addysg – Arweinyddiaeth a Rheolaeth (MA) | Bath Spa University |
Addysg (EdD Doethur mewn Addysg) | Birmingham City University Canterbury Christ Church University Edge Hill University Kingston University Liverpool John Moores University London South Bank University Oxford Brookes University Sheffield University Staffordshire University University of Bath University of Brighton University of Buckingham University of Chester University of Derby University of East London University of Gloucestershire University of Hertfordshire University of Huddersfield University of Nottingham University of Warwick |
Addysg (MEd) | Northumbria University, Newcastle University of Leicester |
Addysg (MPhil) | UCL (University College London) University of Cambridge Newcastle University University of Worcester |
Addysg (Persbectifau Cymharol a Rhyngwladol) (MA) | University of Birmingham |
Addysg (PhD) | Birmingham City University Goldsmiths, University of London Keele University University of Bath University of Birmingham University of Bristol University of Cambridge University of East London University of Exeter University of Gloucestershire University of Huddersfield University of Lincoln University of Manchester University of Nottingham University of Oxford University of Sussex University of Warwick University of York |
Addysg a Blynyddoedd Cynnar (BA) | Sheffield Hallam University |
Addysg a Choreeg (BA) | University of Central Lancashire |
Addysg a Chrefydd (BA) | Edge Hill University |
Addysg a Chyfiawnder Cymdeithasol (MA) | University of Bedfordshire Lancaster University |
Addysg a Chyfiawnder Cymdeithasol (MSc) | Birkbeck University, London University of York |
Addysg a Chymdeithaseg (BA) | Bishop Grosseteste University Edge Hill University Goldsmiths, University of London Keele University Oxford Brookes University University of Bedfordshire University of Birmingham University of Central Lancashire University of Gloucestershire University of Worcester |
Addysg a Datblygiad (BA) | University of Worcester |
Addysg a Datblygiad (MA) | University of East Anglia |
Addysg a Datblygu Cynaliadwy Byd-eang (BA) | University of Warwick |
Addysg a Datblygu Rhyngwladol (MA) | UCL (University College London) |
Addysg a Datblygu Rhyngwladol (PhD) | |
Addysg a Diwinyddiaeth, Athroniaeth a Moeseg (BA) | Bishop Grosseteste University |
Addysg a Dysgu (BA) | University of Bolton |
Addysg a Dysgu Gydol Oes (BA) | Oxford Brookes University |
Addysg a Ffrangeg (BA) | University of Central Lancashire |
Addysg a Hanes (BA) | Bishop Grosseteste University Keele University University of Central Lancashire |
Addysg a Japaneeg (BA) | University of Central Lancashire |
Addysg a Llenyddiaeth (BA) | Liverpool Hope University |
Addysg a Llenyddiaeth Saesneg (BA) | Keele University University of Winchester University of Worcester |
Addysg a Mandarin (BA) | De Montfort University |
Addysg a Mathemateg (BSc) | Edge Hill University |
Addysg a Phlentyndod Cynnar (BA) | University of Winchester |
Addysg a Rwsieg (BA) | University of Central Lancashire |
Addysg a Saesneg (BA) | Bishop Grosseteste University University of Bedfordshire University of Central Lancashire University of Derby University of Worcester |
Addysg ac Anghenion Addysgol Arbennig (BA) | Liverpool Hope University Liverpool John Moores University University of Winchester |
Addysg ac Anghenion Addysgol Arbennig, Anabledd a Chynhwysiant (SENDI) (BA) | Bishop Grosseteste University |
Addysg ac Astudiaethau Crefyddol (BA) | Liverpool Hope University |
Addysg ac Astudiaethau Ieuenctid (BA) | University of Roehampton University of Winchester |
Addysg ac Athroniaeth (BA) | Keele University |
Addysg ac Ymarfer Proffesiynol (BA) | Bath Spa University Bristol University University of the West of England |
Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (MA) | University of Manchester |
Addysg ar gyfer Dinasyddiaeth Ddemocrataidd a Hawliau Dynol (MA) | Leeds Beckett University |
Addysg Barhaus (PhD) | University of Oxford |
Addysg Bellach a Sgiliau (PGDip) | Edge Hill University |
Addysg Ddigidol (MA) | University of Leeds |
Addysg Fyd-eang ac Arweinyddiaeth (MA) | University of Bolton |
Addysg gyda Seicoleg (BA) | DE Montfort University Nottingham Trent University University of Bath University of Bedfordshire University of Central Lancashire University of Durham University of Lincoln University of Southampton University of Worcester |
Addysg gyda Seicoleg a Chwnsela (BA) | Sheffield Hallam University |
Addysg gyda TESOL neu SEND (BA) | University of Derby |
Addysg gyda TESOL (MA) | Keele University Bishop Grosseteste University |
Addysg Gymdeithasol a Chynhwysol (MA) | University of Nottingham |
Addysg Gynhwysol (MA) | Bath Spa University University of Bolton University of Gloucestershire |
Addysg Oedolion a Dysgu Gydol Oes (PhD) | University of Warwick |
Addysg Ryngwladol (MA) | Keele University University of Bedfordshire University of Exeter University of Sunderland |
Addysg Ryngwladol (MSc) | University of Leicester University of Manchester |
Addysg Ryngwladol a Datblygu (PhD) | University of Sussex |
Addysg STEM (MA) | Kings College London, University of London |
Addysg Uwch (PhD) | University of Kent Lancaster University |
Addysg Uwch a Phroffesiynol (PGCert) | Staffordshire University |
Addysg, Anghenion Arbennig, ac Anabledd (BA) | University of Chichester |
Addysg, Arweinyddiaeth a Diwylliant (BA) | University of Manchester |
Addysg, Athroniaeth a Chrefydd (BA) | University of Central Lancashire |
Addysg, Cymdeithas a Diwylliant (BA) | University College London |
Addysg, Cymdeithas a Phlentyndod (BA) | Bath Spa University |
Addysg, Cynhwysiant ac Anghenion Addysgol Arbennig (BA) | University of Gloucestershire |
Addysg, Diwylliant a Phlentyndod (BA) | University of Sheffield |
Addysg, Iechyd Meddwl a SEND (BA) | Leeds Trinity University York St John University |
Addysg, Plentyndod a Diwylliant (BA) | University of East Anglia (UEA) |
Addysg, Plentyndod ac Ieuenctid (BA) | University of Wolverhampton |
Addysg, Polisi a Chymdeithas | Kings College London, University of London |
Addysg, Ymarfer a Chymdeithas (EdD) | UCL (University College London) |
Addysg, Ymarfer a Chymdeithas (MPhil) | UCL (University College London) |
Addysgu Iaith Saesneg (ELT) (MA) | De Montfort University Edge Hill University London Metropolitan University Queen Mary University of London University of Huddersfield |
Addysgu Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol (PhD) | University of Warwick |
Addysgu Saesneg a TESOL (MSc) | University of Southampton |
Addysgu Saesneg fel Iaith Ychwanegol (EAL) (MA) | Leeds Beckett University |
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (PhD) | University of York |
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (MA) | Aston University, Birmingham Bath Spa University Canterbury Christchurch University Edge Hill University King’s College London Lancaster University Leeds Beckett University Nottingham Trent University Sheffield Hallam University Teesside University University College London University of Birmingham University of Central Lancaster University of Chester University of East Anglia University of Essex University of Hertfordshire University of Huddersfield University of Hull University of Kent University of London University of Leeds University of Leicester University of Liverpool University of Northampton University of Nottingham University of Reading University of Southampton University of Sunderland University of Westminster University of Warwick University of York |
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL)(MSc) | University of Bath University of Bristol |
Addysgwr Ymarfer (PGCert) | University of Hull |
Almaeneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) | University of Central Lancashire |
Astudiaethau Addysg (BA) | Bath Spa University Birmingham City University Bishop Grosseteste University Brunel University London Canterbury Christ Church University De Montfort University Edge Hill University Goldsmiths University of London Keele University Lancaster University Leeds Beckett University Liverpool Hope University London Metropolitan University London South Bank University Manchester Metropolitan University Middlesex University Newcastle University Nottingham Trent University Oxford Brookes University Solent University (Southampton) University of Bedfordshire University of Birmingham University of Brighton University of Cambridge University of Central Lancashire University of Chester University of Chichester University of Cumbria University of Durham University of East Anglia University of East London University of Gloucestershire University of Greenwich University of Hertfordshire University of Huddersfield University of Hull University of Leeds University of Lincoln University of Nottingham University of Plymouth University of Reading University of West England, Bristol University of West London University of Winchester University of Wolverhampton University of Worcester University of York |
Astudiaethau Addysg (BSc) | University of Bristol University of Central Lancashire |
Astudiaethau Addysg (MA) | Anglia Ruskin University Birmingham City University Birmingham Newman University Bishop Grosseteste University Brunel University Burnley College Canterbury Christ Church University De Montfort University Edge Hill University Keele University Kings College London Leeds Beckett University Leeds Trinity University Liverpool Hope University Liverpool John Moores University London Metropolitan University Middlesex University Newcastle University Northumbria University Nottingham Trent University University of Nottingham Open University Oxford Brookes University Plymouth Margon University Sheffield Hallam University Staffordshire University Teesside University University Campus Oldham UCL (University College London) University of Bath University of Bedfordshire University of Birmingham University of Bolton University of Brighton University of Buckingham University of Chester University of Derby University of Durham University of East Anglia University of East London University of Exeter University of Gloucestershire University of Greenwich University of Hertfordshire University of Huddersfield University of Hull University of London University of Leeds University of Lincoln University of Northampton University of Plymouth University of Portsmouth University of Reading University of Roehampton University of Sheffield University of Sunderland University of Sussex University of Warwick University of Winchester University of Wolverhampton University of Worcester University of York |
Astudiaethau Addysg (MSc) | University of Bristol University of Oxford University of Southampton |
Astudiaethau Addysg (PGDip) | University of Chester University of Suffolk |
Astudiaethau Addysg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) | Bishop Grosseteste University University of Central Lancashire University of Wolverhampton |
Astudiaethau Addysg gyda Daearyddiaeth (BA) | University of Durham |
Astudiaethau Addysg Uwch (MA) | UCL (University College London) University of Huddersfield University of Kent University of Sunderland |
Coreeg gydag Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) | University of Central Lancashire |
Cyfathrebu Rhyngddiwylliannol ac Addysg (MA) | University of Exeter |
Datblygu Byd-eang ac Addysg (MA) | University of Leeds |
Datblygu Rhyngwladol ac Addysg (MA) | Newcastle University |
Diploma Lefel 7 mewn Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill | Cambridge English Trinity College London |
Diploma mewn Addysg a Hyfforddiant | AQA City & Guilds of London Institute Pearson Education Ltd Training Qualifications UK |
Diploma mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes | City & Guilds of London Institute Oxford, Cambridge and RSA Examinations |
Diploma Ôl-raddedig (PgDip) mewn Addysg (PGCE Uwch mewn Dysgu Gydol Oes) | University of Huddersfield |
Dysgu ac Addysgu (Addysg Uwch) (PGCert) | Anglia Ruskin University Kingston University |
Ffrangeg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) | Manchester Metropolitan University University of Central Lancashire |
Ffrangeg gydag Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) | Sheffield Hallam University |
Hanes gydag Addysg Uwchradd (QTS) (BA) | University of Wolverhampton |
Iaith Saesneg ac Addysgu (BA) | Bishop Grosseteste University |
Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) | De Montfort University University of Wolverhampton |
Ieithoedd Modern ac Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (BA) | University of Essex |
Ieithyddiaeth Gymhwysol a TESOL (PGCert) | Anglia Ruskin University |
Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Addysgu Iaith Saesneg (MA) | University of Nottingham University of Southampton |
Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Addysgu Iaith Saesneg (PhD) | University of Nottingham |
Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (MA) | Anglia Ruskin University Newcastle University Northumbria University, Newcastle University of Leicester University of Liverpool University of Plymouth |
Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer Addysgu Iaith (MA) | University of York |
Japaneeg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) | University of Central Lancashire |
Llenyddiaeth Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) | Bishop Grosseteste University University of Central Lancashire |
Mathemateg gydag Addysg Uwchradd (QTS) (BA) | University of Wolverhampton |
Saesneg – Addysgu Dysgwyr Amlieithog (PGCert) | Oxford Brookes University |
Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) | Manchester Metropolitan University |
Saesneg gydag Addysg Uwchradd (QTS) (BA) | University of Wolverhampton |
Seicoleg ac Addysg (MA) | University of Sheffield |
SEND ac Addysg Gynhwysol (MA) | University of Roehampton |
Tsieineeg gydag Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA) | University of Central Lancashire |
Tystysgrif Addysg mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes | University of Huddersfield |
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Addysg Bellach (PGCE) | Canterbury Christ Church University University of Brighton University of Exeter University of Greenwich University of Worcester |
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Addysg Bellach a Hyfforddiant (PGCE) | Canterbury Christ Church University University of Brighton University of Exeter University of Greenwich University of Worcester |
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Rhyngwladol (PGCE) | University of Nottingham University of Warwick |
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PcET) (PGCE) | Oxford Brookes University Staffordshire University UCL (University College London) |
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PGCE) | Birmingham City University Burnley College Canterbury Christchurch University Edge Hill University University King’s College London Kingston University Newcastle University University of Brighton University of Buckingham University of Chester University of Greenwich University of Hertfordshire University of Huddersfield University of London University of Manchester University of Oxford University of Reading University of Warwick University of Winchester University of Worcester |
Tystysgrif Ôl-raddedig PGCert mewn Addysg Uwch (PGHE) | Falmouth University Middlesex University University of Nottingham |
Tystysgrif Ôl-raddedig Ryngwladol mewn Addysg | University of Sheffield |
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol (PgCE, PrGCE, ProfGCE neu PGCE (Proffesiynol)) mewn Astudiaethau Addysg | De Montfort University Edge Hill University University of Greenwich University of Huddersfield University of Suffolk TEC Partnership |
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (Addysg Ôl-orfodol) | Leeds Trinity University |
Ymarfer Addysg Uwch (MA) | University of Hull |
Ymarfer Proffesiynol (Addysgu a Dysgu) (MSc) | University of Kent |
Ymarfer Proffesiynol mewn Addysg (MA) | University of Hull |
3. Tabl 3: Yr Alban
Cymwysterau o ran yr Alban | Corff dyfarnu |
---|---|
Addysg Gynhwysol (MEd) | University of Dundee University of Glasgow |
Addysg Iaith (MSc) | University of Edinburgh |
Addysg ac Astudiaethau Cwricwlaidd gyda Chymhwyster Addysgu (BSc) | University of Strathclyde |
Addysg ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy yng Nghyd-destunau Oedolion, y Gymuned ac Ieuenctid (MSc) | University of Glasgow |
Addysg a TESOL (BA) | University of Strathclyde |
Addysg (BA) | Queen Margaret University, Edinburgh University of the West of Scotland |
Addysg (Doethur mewn Addysg EdD) | University of Dundee |
Addysg (MA) | Queen Margaret University, Edinburgh University of Dundee |
Addysg (Meistr mewn Addysg MEd) | University of Dundee University of Strathclyde |
Addysg (MSc) | University of Edinburgh University of Glasgow University of Stirling University of Strathclyde |
Addysg (PhD/DPhil) | University of Dundee University of Edinburgh |
Addysg (Uwchradd) (BA) | University of Stirling |
Addysg (Uwchradd) (BSc) | University of Stirling |
Addysg, Polisi Cyhoeddus a Thegwch (MSc) | University of Glasgow |
Addysg Broffesiynol (BA) | University of Stirling |
Addysg Broffesiynol (MEd PgCert PGDip) | University of Aberdeen |
Addysg Broffesiynol ac Arweinyddiaeth (MA) | University of Stirling |
Addysg Broffesiynol ac Uwch (PGCert) | Queen Margaret University, Edinburgh |
Addysg Drydyddol ac Uwch (MEd) | University of the Highlands and Islands |
Addysg Dylunio a Thechnoleg (MD Tech Ed) | University of Glasgow |
Addysg Gyfunol ac Ar-lein (MSc) | Edinburgh Napier University |
Addysg Gymunedol (BA) | University of Dundee |
Addysg Gymunedol (Phd) | University of Dundee |
Addysg Gynhwysol (PGCert) | University of Edinburgh |
Addysg Oedolion, Datblygu Cymunedol a Gwaith Ieuenctid (MEd/PgDip) | University of Glasgow |
Addysg Ryngwladol (MEd) | University of Dundee |
Addysg Ryngwladol (MSc) | University of St Andrews |
Addysgeg Ddigidol (MEd) | University of the Highlands and Islands |
Addysgu a Dysgu Trawsffurfiol (MSc) | University of Edinburgh, Moray House School of Education and Sport |
Addysgu Iaith Saesneg ac Arweinyddiaeth (MA) | University of Stirling |
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (MEd) | University of Dundee University of Glasgow |
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (MSc) | University of Aberdeen University of Glasgow University of St Andrews University of Stirling |
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (MSc PgCert PgDip) | University of Aberdeen University of Edinburgh University of St Andrews |
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (MEd) | University of Dundee University of Glasgow |
Cemeg gydag Addysg (BA) | University of the West of Scotland |
Cymhwyster Addysgu ar gyfer Addysg Bellach (PgCert) | University of the Highlands and Islands |
Cymhwyster Addysgu ar gyfer Addysg Bellach (BA) | University of Dundee University of the Highlands and Islands University of Stirling |
Cymhwyster Addysgu ar gyfer Addysg Bellach (PgCert) | University of Aberdeen |
Datblygu Cymunedol (BA) | University of Glasgow |
DCLD Dysgu a Datblygu Cymunedol (Doethuriaeth Broffesiynol) | University of Dundee |
Diploma Graddedig Proffesiynol mewn Addysg –- Uwchradd (PGDE) | University of Aberdeen University of Edinburgh, Moray House School of Education and Sport University of Glasgow University of the Highlands and Islands University of Strathclyde |
Diploma Graddedig Proffesiynol mewn Addysg (Yr Alban) (PGDE) | University of Dundee University of Glasgow University of Edinburgh |
Dysgu mewn Cymunedau (MA) | University of Edinburgh, Moray House School of Education and Sport |
Ffiseg gydag Addysg (BSc) | University of the West of Scotland |
Gwyddor ac Addysg Dawns (MSc/PgDip) | University of Edinburgh |
Mathemateg gydag Addysg (BSc) | University of the West of Scotland |
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Addysg Bellach (PGCE) | University of the Highlands and Islands |
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Addysg Bellach a Hyfforddiant (PGCE) | University of the Highlands and Islands |
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Rhyngwladol (PGCE) | University of Strathclyde |
Ymarfer Uwch mewn Addysg (MSc) | University of Glasgow |
4. Tabl 4: Gogledd Iwerddon
Cymwysterau o ran Gogledd Iwerddon | Corff dyfarnu |
---|---|
Addysg (BA) | University of Ulster |
Addysg (Meistr mewn Addysg – MEd) | St Mary’s University College Belfast Stranmillis University College |
Addysg gydag arbenigaethau (MEd) | University of Ulster |
Addysg – Ôl-gynradd – Astudiaethau Crefyddol (BEd) | Stranmillis University College |
Addysg – Ôl-gynradd (BEd) | St Mary’s University College Belfast |
Addysg – Ôl-gynradd – Busnes a menter (BEd) | Stranmillis University College |
Addysg – Ôl-gynradd – Mathemateg (BEd) | Stranmillis University College |
Addysg – Ôl-gynradd – Technoleg a Dylunio (BEd) | Stranmillis University College |
Addysg (PhD/DPhil) | Queen’s University Belfast |
Addysgu (MTeach) | Stranmillis University College |
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (MA) | University of Ulster |
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill ac Ieithyddiaeth Gymhwysol (MSc) | Queen’s University Belfast |
Astudiaethau Addysg (MEd) | Stranmillis University College |
Astudiaethau Crefyddol gydag Addysg (BEd) | Stranmillis University College |
Busnes a Menter gydag Addysg (BEd) | Stranmillis University College |
Busnes gydag Addysg (BA) | University of Ulster |
Cerddoriaeth gydag Addysg (BA) | University of Ulster |
Cyfrifiadureg gydag Addysg (BA) | University of Ulster |
Daearyddiaeth gydag Addysg (BSc) | University of Ulster |
Diploma Ôl-raddedig mewn Addysg Bellach ac Uwch | University of Ulster |
Drama gydag Addysg (BA) | University of Ulster |
Gwyddeleg gydag Addysg (BA) | University of Ulster |
Gwyddor yr Amgylchedd gydag Addysg (BSc) | University of Ulster |
Hanes gydag Addysg (BA) | University of Ulster |
Newyddiaduraeth gydag Addysg (BA) | University of Ulster |
Opsiwn Arbenigwr Llythrennedd AAA (MEd) | Stranmillis University College |
Saesneg gydag Addysg (BA) | University of Ulster |
Technoleg a Dylunio gydag Addysg (BEd) | Stranmillis University College |
Tystysgrif Addysgu | University of Ulster |
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PGCE) | Queen’s University Belfast University of Ulster |
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Addysg Bellach (PGCE) | University of Ulster |
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Astudiaethau Awtistiaeth (PGCE) | Stranmillis University College |
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Uwchradd (PGCE) | University of Ulster |
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu Cyfunol a Sgiliau Digidol | Stranmillis University College |
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg | University of Ulster |
5. Mae person yn bodloni’r gofyniad arall os oes gan y person hwnnw, mewn cysylltiad â phroffesiwn athro neu athrawes addysg bellach, hawlogaeth i ymarfer yn unol â Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023.”
13. Yn rheoliad 4 o Reoliadau 2017, ar ôl paragraff (1)(k) mewnosoder—
“(l)£46 y flwyddyn ar gyfer ymarferydd dysgu oedolion(30);
(m)£46 y flwyddyn ar gyfer pennaeth neu uwch-arweinydd addysg bellach(31).”
14. Yn Atodlen 1 i Reoliadau 2023—
(a)ar ddechrau’r rhestr mewnosoder—
“A1. Ymarferydd dysgu oedolion”,
(b)ar ôl y cofnod ar gyfer “Archwilydd bwyd” mewnosoder—
“3A. Athro neu athrawes addysg bellach”.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
8 Mai 2024
erthygl 4(3)(a)
1. Cymhwyster a bennir fel cymwysterau athrawon addysg bellach yn Atodlen 6 i Reoliadau 2015.
2. Cymhwyster yn y tabl a ganlyn.
Cymwysterau | Corff dyfarnu |
---|---|
Diploma Arbenigol Uwch IVQ Lefel 3 mewn Addysgu, Hyfforddi ac Asesu Dysgu | City & Guilds of London Institute |
Diploma Lefel 5 mewn Addysg a Hyfforddiant | Aim Qualifications and Assessment Group AoFA Qualifications Ascentis Gateway Qualifications iCan Qualifications Ltd NCFE National Open College Network Pearson Education Ltd Qualsafe Awards Skills and Education Group Awards SFJ Awards Training Qualifications UK Ltd Vocational Training Charitable Trust University of Huddersfield |
Diploma Lefel 5 mewn Addysg a Hyfforddiant (gan gynnwys Addysgu Saesneg: Llythrennedd) (RQF) | Training Qualifications UK |
Diploma Lefel 5 mewn Addysg a Hyfforddiant (gan gynnwys gan gynnwys Mathemateg Athrawon: Rhifedd) | Training Qualifications UK |
Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) (Premier TEFL) | Highfield Qualifications |
Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) (The TEFL Institute) | Highfield Qualifications |
Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg: Llythrennedd | Ascentis City & Guilds of London Institute Pearson BTEC |
Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg: Llythrennedd a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill | City & Guilds of London Institute Pearson BTEC Training Qualifications UK |
Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg: Llythrennedd a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn y Sector Dysgu Gydol Oes (QCF) | City & Guilds of London Institute |
Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg: Llythrennedd yn y Sector Dysgu Gydol Oes (QCF) | City & Guilds of London Institute Oxford, Cambridge and RSA Examinations |
Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg: Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill | Ascentis City & Guilds of London Institute Pearson BTEC |
Diploma Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg: Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn y Sector Dysgu Gydol Oes (QCF) | City & Guilds of London Institute |
Diploma mewn Addysg a Hyfforddiant (DET) | AQA City & Guilds of London Institute Pearson Education Ltd |
Diploma Uwch IVQ Lefel 3 mewn Addysgu, Hyfforddi ac Asesu Dysgu | City & Guilds of London Institute |
Diploma Uwch Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) (Premier TEFL) | Highfield Qualifications |
Diploma Uwch Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) (The TEFL Institute) | Highfield Qualifications |
Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant (AET) | 1st4Sport Active IQ Agored Cymru AIM Qualifications and Assessment Group Ascentis Awards for Training and Higher Education BIIAB Qualifications Chartered Institute of Environmental Health City & Guilds of London Institute FDQ Focus Awards Gateway Qualifications Highfield Qualifications Industry Qualifications iCan Qualifications Ltd Innovate Awarding ITC First National Open College Network NCFE Pearson Education Ltd Prince’s Trust Qualsafe Awards SFJ Awards Skills and Education Group Awards Swim England Qualifications Safety Training Awards Training Qualifications UK Vocational Training Charitable Trust YMCA Awards |
Dyfarniad Lefel 3 mewn Mathemateg ar gyfer Addysgu Rhifedd | Ascentis City & Guilds of London Institute Training Qualifications UK |
Dyfarniad Lefel 3 mewn Saesneg ar gyfer Addysgu Llythrennedd ac Iaith | Ascentis City & Guilds of London Institute Training Qualifications UK |
Dyfarniad Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) Addysgu Pynciau Eraill yn y Saesneg (CLIL) | Highfield Qualifications |
Dyfarniad Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) Saesneg ar gyfer Arholiadau | Highfield Qualifications |
Dyfarniad Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) Saesneg Ar-lein ac Un-i-Un | Highfield Qualifications |
Dyfarniad Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) Saesneg Busnes | Highfield Qualifications |
Lefel 3 Paratoi i Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes (PTLLS) | Active IQ AIM Qualifications and Assessment Group City & Guilds of London Institute Highfield Qualifications National Open College Network NCFE Open Awards Oxford, Cambridge and RSA Examinations Pearson Education Ltd ProQual Awarding Body Skills and Education Group Awards SFEDI Awards Swim England Qualifications Vocational Training Charitable Trust YMCA Awards |
Lefel 4 Paratoi i Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes (PTLLS) | Active IQ City & Guilds of London Institute National Open College Network NCFE Oxford, Cambridge and RSA Examinations Pearson Education Ltd ProQual Awarding Body Vocational Training Charitable Trust |
Tystysgrif Addysg (CertEd) | Prifysgol Bangor Prifysgol Cymru, Bangor TEC Partnership University of Bolton University of Greenwich University of Portsmouth |
Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (PCE/ ProfCE) | Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd Prifysgol Cymru, Casnewydd Prifysgol De Cymru Prifysgol Metropolitan Caerdydd Prifysgol Morgannwg University of Greenwich |
Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol | City & Guilds of London Institute |
Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol (Cyflogadwyedd) | Agored Cymru |
Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol (Llythrennedd) | Agored Cymru |
Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol (Llythrennedd Digidol) | Agored Cymru City & Guilds of London Institute |
Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol (Rhifedd) | Agored Cymru |
Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) | Agored Cymru |
Tystysgrif Lefel 3 mewn Addysgu a Hyfforddi | ProQual Awarding Body |
Tystysgrif Lefel 3 mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes (QCF) | Active IQ City & Guilds of London Institute National Open College Network NCFE Oxford, Cambridge and RSA Examinations Pearson Education Ltd Swim England Qualifications Vocational Training Charitable Trust |
Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol | 1st4Sport Active IQ Agored Cymru AIM Qualifications and Assessment Group Ascentis Association of First Aiders Qualifications BIIAB Qualifications Ltd Chartered Institution of Wastes Management Chartered Management Institute City & Guilds of London Institute Excellence, Achievement & Learning Ltd Future (Awards and Qualifications) Ltd Focus Awards Gateway Qualifications GQA Qualifications Highfield Qualifications i-Can Qualifications Ltd Innovate Awarding The Institute of Motor Industry ITC First Mineral Products Qualifications Council National Open College Network NCFE Open College Network West Midlands Oxford, Cambridge and RSA Examinations Pearson EDI Prince’s Trust Process Awards Authority Qualsafe Awards Royal Society for Public Health Safety Training Awards SFJ Awards Scottish Qualifications Authority Skills and Education Group Awards Skillsfirst Awards Ltd. Swim England Qualifications Training Qualifications UK Vocational Training Charitable Trust YMCA Awards |
Tystysgrif Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu | Agored Cymru Chartered Institute of Personnel and Development City & Guilds of London Institute Future (Awards and Qualifications) Ltd GQA Qualifications Ltd i-Can Qualifications Ltd Oxford, Cambridge and RSA Examinations Pearson Education Ltd Process Awards Authority SFJ Awards Training Qualifications UK Vocational Training Charitable Trust |
Tystysgrif Lefel 4 mewn Addysg a Hyfforddiant | Active IQ Agored Cymru AIM Qualifications and Assessment Group Ascentis Association of First Aiders Qualifications BIIAB Qualifications Ltd City & Guilds of London Institute Future (Awards and Qualifications) Ltd Gateway Qualifications Highfields Qualifications i-Can Qualifications Ltd Industry Qualifications Innovate Awarding Organisation National Open College Network NCFE Pearson BTEC Qualsafe Awards SFJ Awards Skills and Education Group Swim England Qualifications Training Qualifications UK Vocational Training Charitable Trust Vocational Training Charitable Trust (ITEC) |
Tystysgrif Lefel 4 mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes (CTLLS) | Active IQ Aim Qualifications and Assessment Group City & Guilds of London Institute National Open College Network NCFE Oxford, Cambridge and RSA Examinations Pearson Education Ltd Vocational Training Charitable Trust YMCA Awards |
Tystysgrif Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (QCF) | Pearson LCCI |
Tystysgrif Lefel 5 mewn Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (Cert TESOL) | Cambridge English - Cambridge Assessment English National Open College Network Trinity College London |
Tystysgrif Lefel 3 mewn Darparu Sgiliau Sylfaenol i Oedolion | City & Guilds of London Institute |
Tystysgrif mewn Addysg (Dysgu Gydol Oes) Cyn Gwasanaethu (CertEd) | University of Huddersfield |
Tystysgrif mewn Addysg mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes | University of Huddersfield |
Tystysgrif mewn Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (CELTA) | Cambridge English |
3. Mae person yn bodloni’r gofyniad arall os oes gan y person hwnnw, mewn cysylltiad â phroffesiwn ymarferydd dysgu oedolion, hawlogaeth i ymarfer yn unol â Rheoliadau 2023.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”). Mae Rhan 2 o Ddeddf 2014 yn rhoi swyddogaethau i’r Cyngor mewn perthynas â chofrestru categorïau penodol o’r gweithlu addysg.
Maeʼr categorïau o bersonau cofrestredig wedi eu nodi yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer ym mharagraff 2 o’r Atodlen honno i ychwanegu, diwygio neu ddileu categori cofrestru.
Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu categori cofrestru newydd ar gyfer penaethiaid ac uwch-arweinwyr sy’n gweithio mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru.
Mae Rhan 3 o’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu categori cofrestru pellach ar gyfer ymarferwyr dysgu oedolion ac mae’n nodi’r amodau sydd i’w bodloni er mwyn gweithio yn y rôl honno yng Nghymru. Mae’r amodau yn ei gwneud yn ofynnol i berson fod wedi ei gofrestru gyda’r Cyngor a hefyd i ddal cymhwyster penodedig, a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn. Mae’r Rhan hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor adolygu’r rhestr o gymwysterau ymarferwyr dysgu oedolion ac adrodd i Weinidogion Cymru, yn flynyddol, ar unrhyw ddiwygiadau y mae’n argymell eu gwneud i’r rhestr o gymwysterau.
Mae Rhan 4 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Tabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 i gynnwys cofnodion ar gyfer y ddau gategori cofrestru newydd sy’n cael eu creu gan y Gorchymyn hwn. Mae’r Rhan hon hefyd yn diwygio Atodlen 4 i Ddeddf 2014 (mynegai o eiriau ac ymadroddion wedi eu diffinio) i fewnosod diffiniadau mewn perthynas â’r categorïau newydd.
Mae adran 15 o Ddeddf 2014 yn nodi’r gofynion i’w bodloni gan athrawon addysg bellach sy’n dymuno gweithio yng Nghymru. Mae’r adran honno hefyd yn grymuso Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddarparu na chaniateir i addysg gael ei darparu gan berson oni bai bod gan y person gymhwyster penodedig a’i fod wedi ei gofrestru yn y categori athro neu athrawes addysg bellach. Gwnaed Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) gan ddefnyddio’r pŵer hwn, ymysg eraill.
Mae Rhan 5 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau i reoliad 19 o Reoliadau 2015 i ddarparu na chaiff person ddarparu addysg mewn nac ar gyfer sefydliad addysg bellach oni bai ei fod yn dal “cymhwyster penodedig” ac mae’n diffinio ystyr “cymhwyster penodedig”. Mae’r Rhan hon hefyd yn diwygio rheoliad 19(2) o Reoliadau 2015 i ddarparu nad yw’n ofynnol i wirfoddolwyr na’r rhai sy’n darparu hyfforddiant mewn perthynas â phroffesiwn ar sail dros dro neu achlysurol gofrestru gyda’r Cyngor na dal cymhwyster penodedig er mwyn darparu addysg mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach.
Mae’r Rhan hon hefyd yn gosod dyletswydd newydd ar y Cyngor i adolygu’r rhestr o gymwysterau athrawon addysg bellach. Rhaid i’r Cyngor adrodd i Weinidogion Cymru, yn flynyddol, ar unrhyw ddiwygiadau y mae’n argymell eu gwneud i’r rhestr o gymwysterau a nodir yn Atodlen 6 i Reoliadau 2015.
Mae Rhan 6 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) i wneud darpariaeth mewn perthynas â swm y ffi gofrestru sy’n daladwy gan y categorïau cofrestru newydd. Mae’r ffioedd sy’n daladwy ar gyfer pob categori cofrestru wedi eu nodi yn rheoliad 4 o Reoliadau 2017. Mae rheoliad 4 hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu swm y cymhorthdal a roddir tuag at y ffioedd cofrestru hynny ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gyhoeddi swm y cymhorthdal hwnnw ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Rhan 7 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023 i ychwanegu ymarferydd dysgu oedolion ac athro neu athrawes addysg bellach at y rhestr o broffesiynau a reoleiddir yng Nghymru yn Atodlen 1. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o dan adran 3(1) o Ddeddf Cymwysterau Proffesiynol 2022 er mwyn gweithredu o ran Cymru ddarpariaethau sy’n ymwneud â chydnabod cymwysterau proffesiynol sydd wedi eu cynnwys yn y cytundeb masnach rydd rhwng Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Liechtenstein a Theyrnas Norwy a Theyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Ystyriwyd cod ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
Caniateir arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 12(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 er mwyn gwneud gorchymyn yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).
Caniateir arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 13(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 er mwyn gwneud gorchymyn yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
Caniateir arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 15(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 er mwyn gwneud gorchymyn yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
Mae’r cyfeiriad yn adran 47(2) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
p. 40.
dsc 1.
p. 18.
dccc 5.
O.S. 2015/140 (Cy. 8), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/6 (Cy. 4), O.S. 2019/444 (Cy. 107) ac O.S. 2023/551 (Cy. 86).
O.S. 2017/92 (Cy. 34), a ddiwygiwyd gan O.S. 2023/551 (Cy. 86).
p. 34.
p. 13.
Amnewidiwyd adrannau 71 a 73 gan Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 (p. 29). Diwygiwyd adran 71 gan baragraff 31, ac adran 73 gan baragraff 32, o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18) a diwygiwyd y ddwy adran gan adran 17 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22). Diwygiwyd adran 71 ymhellach gan adran 118(1), (2)(a) a (b) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6). Diwygiwyd adran 73 ymhellach gan adran 118(1), (3)(a), (b) ac (c) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.
Amnewidiwyd adran 76 gan Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 (p. 29).
Mewnosodwyd adrannau 80A a 80B gan adran 1 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22). Diwygiwyd adran 80A ymhellach gan adran 118(1) a (6) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, a pharagraffau 29 a 32 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 80B ymhellach gan adrannau 118(1) a (7), 121(2)(a) a (b), 122(4) a 128(2)(b) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 a pharagraffau 29 a 33 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno a chan reoliad 147(a), (b) ac (c) o Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016/413.
Mewnosodwyd adrannau 75A a 75B gan adran 3 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22). Diwygiwyd adran 75A gan baragraff 33 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18) a chan adrannau 118(1), 4(a), (b) ac (c) a 121(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, gan reoliad 145 o Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016/413 a chan baragraff 11(10) o Orchymyn Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 (Rhwymedïol) 2018/1413. Diwygiwyd adran 75B ymhellach gan baragraff 34 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18), gan adran 118(1), (5)(a), (b) ac (c) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 a chan baragraff 11(11) o Orchymyn Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 (Rhwymedïol) 2018/1413.
Mewnosodwyd adrannau 75E a 75G yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18) gan adran 117(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6). Diwygiwyd adran 75G gan reoliad 146(a) a (b) o O.S. 2016/413 (Cy. 131).
Mewnosodwyd adran 80EA gan baragraff 2 o Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf Profedigaeth Rhiant (Absenoldeb a Thâl) 2018 (p. 24).
p. 40.
Fe’i sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (dsc 1).
p. 31.
Amnewidiwyd adrannau 71 a 73 gan Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 (p. 29). Diwygiwyd adran 71 gan baragraff 31, ac adran 73 gan baragraff 32, o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18) a diwygiwyd y ddwy adran gan adran 17 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22). Diwygiwyd adran 71 ymhellach gan adran 118(1), (2)(a) a (b) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6). Diwygiwyd adran 73 ymhellach gan adran 118(1), (3)(a), (b) ac (c) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.
Amnewidiwyd adran 76 gan Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 (p. 29).
Mewnosodwyd adrannau 80A a 80B gan adran 1 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22).Diwygiwyd adran 80A ymhellach gan adran 118(1) a (6) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, a pharagraffau 29 a 32 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 80B ymhellach gan adrannau 118(1) a (7), 121(2)(a) a (b), 122(4) a 128(2)(b) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 a pharagraffau 29 a 33 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno a chan reoliad 147(a), (b) ac (c) o Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016/413..
Mewnosodwyd adrannau 75A a 75B gan adran 3 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22). Diwygiwyd adran 75A gan baragraff 33 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18) a chan adrannau 118(1), 4(a), (b) ac (c) a 121(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, gan reoliad 145 o Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016/413 a chan baragraff 11(10) o Orchymyn Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 (Rhwymedïol) 2018/1413. Diwygiwyd adran 75B ymhellach gan baragraff 34 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18), gan adran 118(1), (5)(a), (b) ac (c) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 a chan baragraff 11(11) o Orchymyn Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 (Rhwymedïol) 2018/1413.
Mewnosodwyd adrannau 75E a 75G yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18) gan adran 117(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6). Diwygiwyd adran 75G gan reoliad 146(a) a (b) o O.S. 2016/413 (Cy. 131).
Mewnosodwyd adran 80EA gan baragraff 2 o Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf Profedigaeth Rhiant (Absenoldeb a Thâl) 2018 (p. 24).
Fel y’i diffinnir yn y cofnod ar gyfer ymarferydd dysgu oedolion yn Nhabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014.
Fel y’u diffinnir yn y cofnod ar gyfer pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach yn Nhabl 1 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: