RHAN 4Diwygiadau i Ddeddf 2014
Diwygiadau i Atodlen 2 i Ddeddf 2014
6.—(1) Mae Atodlen 2 (categorïau cofrestru) i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Nhabl 1 ym mharagraff 1, ar ôl y cofnod ar gyfer “Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” mewnosoder—
Categori | Disgrifiad |
---|---|
“Ymarferydd dysgu oedolion | Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) addysg bellach a hyfforddiant i oedolion ar gyfer neu ar ran darparwr dysgu oedolion cymunedol. |
Pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach | Person sy’n ymgymryd (neu sy’n dymuno ymgymryd) â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru.” |
(3) Ym mharagraff 3, yn y lleoedd priodol, mewnosoder—
“ystyr “addysg bellach” (“further education”) yw addysg (heblaw addysg uwch) sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol;”;
“ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1);”;
“ystyr “darparwr dysgu oedolion cymunedol” (“community-based adult learning provider”) yw darparwr (heblaw ysgol, sefydliad addysg bellach neu sefydliad addysg uwch) addysg bellach a hyfforddiant ar gyfer oedolion sy’n seiliedig yn y gymuned ac sydd wedi ei ariannu neu ei ddarparu fel arall gan awdurdod lleol, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil(2) neu Weinidogion Cymru;”;
“ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sy’n 18 oed neu drosodd;”;
“ystyr “sefydliad addysg uwch” (“higher education institution”) yw sefydliad sy’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3);”.
Diwygiadau i Atodlen 4 i Ddeddf 2014
7.—(1) Mae Atodlen 4 (mynegai o eiriau ac ymadroddion wedi eu diffinio) i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Nhabl 3, yn y lleoedd priodol, mewnosoder—
Gair neu ymadrodd | Gair neu ymadrodd yn y Saesneg | Darpariaeth berthnasol |
---|---|---|
“Addysg bellach | Further education | Atodlen 2” |
“Addysg uwch | Higher education | Atodlen 2” |
“Darparwr dysgu oedolion cymunedol | Community-based adult learning provider | Atodlen 2” |
“Oedolyn | Adult | Atodlen 2” |
“Pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach | Principal or senior leader in further education | Atodlen 2” |
“Sefydliad addysg uwch | Higher education institution | Atodlen 2” |
“Ymarferydd dysgu oedolion | Adult learning practitioner | Atodlen 2” |
p. 40.
Fe’i sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (dsc 1).
p. 31.