- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (ffioedd arolygu mewnforio)—
(a)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Y ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad mewn cysylltiad â gwiriad dogfennol o bob tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda’r llwyth yw—
(a)yn achos llwyth sy’n tarddu o Liechtenstein sy’n cynnwys unrhyw blanhigion neu gynhyrchion planhigion sy’n dod o fewn y tabl yn Atodlen 2B a hefyd o fewn yr Atodlen i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) 2022(2), £5.25;
(b)yn achos llwyth nad yw is-baragraff (a) yn gymwys iddo, sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir ac nad yw ond yn cynnwys planhigion neu gynhyrchion planhigion sydd i gyd yn dod o fewn y tabl yn Atodlen 2B, £0.15;
(c)mewn unrhyw achos arall, £5.25.” ;
(b)yn lle paragraff (2E) rhodder—
“(2E) Nid yw ffi yn daladwy o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag—
(a)unrhyw lwyth sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir a gyflwynir i Gymru drwy borthladd perthnasol cyn 31 Hydref 2024, neu
(b)unrhyw blanhigion a restrir yn y tabl yn Atodlen 2A i Reoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020 a gynhwysir mewn unrhyw lwyth sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir a gyflwynir i Gymru cyn 31 Hydref 2024.
(2EA) Nid yw paragraff (2E) yn gymwys i unrhyw nwyddau—
(a)mewn llwyth sy’n tarddu o Liechtenstein, a
(b)sy’n dod o fewn yr Atodlen i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) 2022.”
(c)ym mharagraff (2G), o flaen is-baragraff (a), yn lle “, y tabl ac Atodlen 2A” rhodder “a’r tabl”;
(d)ym mharagraff (3)—
(i)ar ôl is-baragraff (d), mewnosoder—
“(da)ystyr “porthladd perthnasol” yw unrhyw un neu ragor o’r porthladdoedd môr a ganlyn—
(i)y Barri;
(ii)Caerdydd;
(iii)Abergwaun;
(iv)Caergybi;
(v)Casnewydd;
(vi)Doc Penfro;
(vii)Abertawe;
(viii)Port Talbot;” ;
(ii)hepgorer is-baragraff (g).
(3) Yn lle Atodlen 1 (ffioedd arolygu mewnforio), rhodder —
Rheoliad 3(2A) a (2C)
Colofn 1 Categori a disgrifiad o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall | Colofn 2 Gwlad tarddiad | Colofn 3 Ffi: Gwiriad ffisegol (£) | Colofn 4 Ffi: Gwiriad adnabod (£) | ||
---|---|---|---|---|---|
(1) Ystyr “a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol” yw y’i bwriedir, drwy dystiolaeth o’r pecyn, y label neu drwy ddulliau eraill, i’w gyflenwi yn uniongyrchol i ddefnyddwyr terfynol. | |||||
(2) Ystyr “planhigion prennaidd” yw planhigion sydd â choesyn prennaidd neu rannol brennaidd, ac mae’n cynnwys pob coeden, deunydd lluosogi coedwigaeth (ac eithrio had), llwyni a phalmwydd, a’r gwinwydd a’r perlysiau lluosflwydd hynny sydd â choesynnau prennaidd neu rannol brennaidd; ac at y diben hwn mae “perlysiau lluosflwydd” yn golygu perlysiau y mae eu hoedran cyfartalog yn fwy na dwy flynedd. | |||||
(3) Ystyr “planhigion nad ydynt yn brennaidd” yw planhigion nad ydynt yn blanhigion prennaidd. | |||||
(4) Ystyr “planhigion dan do” yw planhigion yr ymddengys o’u pecyn, eu label neu drwy ddulliau eraill y’u bwriedir i’w cyflenwi’n uniongyrchol i ddefnyddwyr terfynol i’w defnyddio o dan do neu i’w defnyddio mewn acwaria. | |||||
(5) Ystyr “trydydd gwledydd Ewropeaidd” yw Albania, Andorra, Armenia, Azerbaijan, Belarws, Bosnia-Herzegovina, Georgia, Gogledd Macedonia, Gwlad yr Iâ, Moldofa, Monaco, Montenegro, Norwy, Rwsia (dim ond y rhannau a ganlyn: y Rhanbarth Ffederal Canolog (Tsentralny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y Gogledd-orllewin (Severo-Zapadny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y De (Yuzhny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws (Severo-Kavkazsky federalny okrug) a Rhanbarth Ffederal y Folga (Privolzhsky federalny okrug)), San Marino, Serbia, Twrci, Wcráin, yr Ynysoedd Dedwydd ac Ynysoedd Ffaro.” | |||||
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws), winwns, sialóts, garlleg, cennin a llysiau garllegaidd eraill, planhigion cwsg, nad ydynt mewn swbstrad | |||||
Pob genws a fwriedir ar gyfer plannu, ac eithrio cynhyrchu blodau masnachol, ac nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol (1) | Unrhyw drydedd wlad | 205.04 | 5.25 | ||
Pob genws a fwriedir ar gyfer plannu, ac a fwriedir ar gyfer cynhyrchu blodau masnachol, neu ar gyfer defnyddwyr terfynol | Unrhyw drydedd wlad | 20.50 | 0.52 | ||
Toriadau, eginblanhigion a fwriedir ar gyfer plannu, nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn | |||||
Pob genws | Unrhyw drydedd wlad | 32.15 | 1.57 | ||
Planhigion ar gyfer plannu | |||||
Planhigion prennaidd (2) (ac eithrio unrhyw rai a bennir neu a gynhwysir mewn lle arall yn y tabl hwn), a fwriedir ar gyfer plannu ac a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol (1) . Pob genws | Unrhyw drydedd wlad | 32.15 | 1.57 | ||
Planhigion nad ydynt yn brennaidd (3) (ac eithrio unrhyw rai a bennir neu a gynhwysir mewn lle arall yn y tabl hwn), a fwriedir ar gyfer plannu. Pob genws | Unrhyw drydedd wlad | 32.15 | 1.57 | ||
Planhigion dan do (4) . Pob genws | Unrhyw drydedd wlad | 32.15 | 1.57 | ||
Planhigion eraill (ac eithrio unrhyw rai a bennir neu a gynhwysir mewn lle arall yn y tabl hwn), a fwriedir ar gyfer plannu. Pob genws | Unrhyw drydedd wlad | 32.15 | 1.57 | ||
Blodau wedi eu torri | |||||
Dendranthema (DC.) Des Moul. (Chrysanthemum L.) | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.28 | 0.15 | ||
Colombia neu Ecuador | 21.37 | 2.62 | |||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Colombia, Ecuador, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.13 | 0.26 | |||
Eryngium Tournier ex Linnaeus. | Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, trydedd wlad Ewropeaidd, Liechtenstein neu’r Swistir | 4.27 | 0.52 | ||
Lisianthus L | Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, trydedd wlad Ewropeaidd, Liechtenstein neu’r Swistir | 4.27 | 0.52 | ||
Rosa L. | Colombia neu Ecuador | 1.28 | 0.15 | ||
Canada, India, Mecsico neu UDA | 21.37 | 2.62 | |||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Canada, Colombia, Ecuador, India, Liechtenstein, Mecsico, y Swistir neu UDA | 2.13 | 0.26 | |||
Solidago L. | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.28 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 4.27 | 0.52 | |||
Genera eraill nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.28 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.13 | 0.26 | |||
Canghennau â deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio rhisgl neu goed Nadolig wedi eu torri) | |||||
Pob genws | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.01 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.69 | 0.26 | |||
Ffrwythau, llysiau, dail | |||||
Momordica L. | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 26.55 | 2.62 | |||
Ocimum L. | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.15 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 35.84 | 2.62 | |||
Solanaceae Juss. (ac eithrio Solanum tuberosum L. Solanum lycopersicum L, Solanum melongena L. a Capsicum sp.) | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 26.55 | 2.62 | |||
Solanum lycopersicum L. | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Morocco | 2.65 | 0.26 | |||
Yr Ynysoedd Dedwydd | 13.27 | 1.31 | |||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ynysoedd Dedwydd, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, Morocco neu’r Swistir | 53.10 | 5.25 | |||
Solanum melongena L. | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Twrci | 15.93 | 1.57 | |||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, y Swistir neu Dwrci | 26.55 | 2.62 | |||
Capsicum | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 53.10 | 5.25 | |||
Zea mays | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 53.10 | 5.25 | |||
Ipomoea batatas | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio Cameroon, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.65 | 0.26 | |||
Cameroon | 53.10 | 5.25 | |||
Persea americana | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.65 | 0.26 | |||
Vitis | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.65 | 0.26 | |||
Malus | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Trydydd gwledydd Ewropeaidd (5) | 7.96 | 0.78 | |||
Yr Ariannin | 18.58 | 1.83 | |||
Chile | 2.65 | 0.26 | |||
Seland Newydd | 5.31 | 0.52 | |||
De Affrica | 7.96 | 0.78 | |||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Chile, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, Seland Newydd, De Affrica, y Swistir neu drydydd gwledydd Ewropeaidd (5) | 53.10 | 5.25 | |||
Pyrus | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Yr Ariannin | 13.27 | 1.31 | |||
Chile | 7.96 | 0.78 | |||
De Affrica | 5.31 | 0.52 | |||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Chile, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, De Affrica neu’r Swistir | 53.10 | 5.25 | |||
Fragaria | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.65 | 0.26 | |||
Rubus | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.65 | 0.26 | |||
Vaccinium | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Trydydd gwledydd Ewropeaidd (5) | 26.55 | 2.62 | |||
Yr Ariannin | 13.27 | 1.31 | |||
Chile | 5.31 | 0.52 | |||
Periw | 5.31 | 0.52 | |||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Ariannin, Chile, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein, Periw, y Swistir neu Drydydd Gwledydd Ewropeaidd (5) | 53.10 | 5.25 | |||
Zingiber officinale | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio Cameroon, un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.65 | 0.26 | |||
Cameroon | 53.10 | 5.25 | |||
Asparagus officinalis | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 53.10 | 5.25 | |||
Genera neu rywogaethau eraill o ffrwythau neu lysiau nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 1.59 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.65 | 0.26 | |||
Dail eraill nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.15 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 3.58 | 0.26 | |||
Hadau (ar gyfer hau), meithriniad meinwe | |||||
Pob genws, ar gyfer treialon neu brofi | Unrhyw drydedd wlad | 12.81 | 0.52 | ||
Brassicaceae (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) | Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay | 128.13 | 5.25 | ||
Capsicum spp. L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) | Unrhyw drydedd wlad | 128.13 | 5.25 | ||
Poaceae (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) | Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay | 128.13 | 5.25 | ||
Solanum lycopersicum L. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) | Unrhyw drydedd wlad | 128.13 | 5.25 | ||
Solanum tuberosum L. (Gwir had) (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) | Unrhyw drydedd wlad | 128.13 | 5.25 | ||
Trifolium spp. (ac eithrio ar gyfer treialon neu brofi) | Yr Ariannin, Awstralia, Bolivia, Brasil, Chile, Seland Newydd neu Uruguay | 128.13 | 5.25 | ||
Genera neu rywogaethau eraill nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn | Unrhyw drydedd wlad | 6.40 | 0.26 | ||
Grawn (ac eithrio hadau ar gyfer hau) | |||||
Secale L. | Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA | 142.98 | 5.25 | ||
Triticum L. | Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA | 142.98 | 5.25 | ||
X Triticosecale Wittm. ex A. Camus | Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA | 142.98 | 5.25 | ||
Cloron tatws | |||||
Solanum tuberosum L. (tatws hadyd) | Unrhyw drydedd wlad | 156.69 | 5.25 | ||
Solanum tuberosum L. (tatws bwyta) | Yr Aifft, Gwlad Pwyl, Portiwgal neu Rwmania | 78.34 | 2.62 | ||
Sbaen | 156.69 | 5.25 | |||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Aifft, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania neu Sbaen | 4.70 | 0.15 | |||
Coed Nadolig wedi eu torri (llai na 3 metr o uchder) | |||||
Pob genws | Unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 3.58 | 0.15 | ||
Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 5.98 | 0.26 | |||
Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth | Unrhyw drydedd wlad | 5.98 | 0.26 |
(4) Hepgorer Atodlen 2A (rhestr o blanhigion a chynhyrchion planhigion sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir sy’n ddarostyngedig i ffioedd ar gyfer gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod o ddiwedd y cyfnod graddoli trosiannol).
(5) O flaen Atodlen 3, mewnosoder—
Rheoliad 3(2)(a) a (b)
Categori a disgrifiad o blanhigyn neu gynnyrch planhigyn |
---|
Blodau wedi eu Torri |
Dendranthema (DC.) Des Moul. ( Chrysanthemum L.) |
Rosa L. |
Solidago L. |
Genera eraill nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwysmewn lle arall yn y tabl hwn |
Canghennau â deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio rhisgl neu goed Nadolig wedi eu torri) |
Pob genws |
Ffrwythau, llysiau, dail |
Momordica L. |
Ocimum L. |
Solanaceae Juss. (ac eithrio Solanum tuberosum L.) |
Solanum melongena L. |
Genera neu rywogaethau eraill o ffrwythau neu lysiau nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn |
Dail eraill nad ydynt wedi eu pennu na’u cynnwys mewn lle arall yn y tabl hwn |
Coed Nadolig wedi eu torri (llai na 3 metr o uchder) |
Pob genws” |
3. Yn Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019(3), yn y tabl yn Atodlen 1 (ffioedd am arolygiadau mewn cysylltiad ag awdurdodiad pasbort planhigion), yn rhes gyntaf y golofn gyntaf (math o arolygiad), yn lle “Arolygiad ffisegol” rhodder “Arolygiad”.
O.S. 2018/1179 (Cy. 238), a ddiwygiwyd gan O.S. 2022/804 (Cy. 180); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2022/739, a ddiwygiwyd gan O.S. 2023/959.
O.S. 2019/497 (Cy. 114); a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/838 (Cy. 195). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys