NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, o ran Cymru, ynghylch awdurdodiadau cynhyrchion bwyd rheoleiddiedig.
Gwneir Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn (rheoliadau 2 a 3 ac Atodlenni 1 i 3) drwy arfer pwerau yn Rheoliad (EC) Rhif 1331/2008 sy’n sefydlu gweithdrefn awdurdodi gyffredin ar gyfer ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd (EUR 2008/1331). Mae rheoliad 2 ac Atodlen 1 yn diweddaru, o ran Cymru, y rhestr ddomestig o ychwanegion bwyd sydd wedi eu cymeradwyo i’w defnyddio mewn bwydydd yn Atodiad 2 i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 ar ychwanegion bwyd (EUR 2008/1333). Mae rheoliad 3 ac Atodlenni 2 a 3 yn diwygio, o ran Cymru, Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012 sy’n gosod manylebau ar gyfer ychwanegion bwyd a restrir yn Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 (EUR 2012/231).
Mae’r diwygiadau a wneir yn Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer—
awdurdodi, o ran Cymru, osod ar y farchnad a defnyddio’r ychwanegyn bwyd E 960b glycosidau stefiol o eplesu (Yarrowia lipolytica);
awdurdodi, o ran Cymru, ddull cynhyrchu newydd ar gyfer ychwanegyn awdurdodedig sy’n bodoli eisoes: E 960c glycosidau stefiol a gynhyrchir yn ensymatig. Mae’r fanyleb ar gyfer y dull cynhyrchu sy’n bodoli eisoes yn yr Atodiad i EUR 2012/231 wedi ei hailrifo’n E 960c(i). Mae’r fanyleb ar gyfer y dull cynhyrchu newydd wedi ei mewnosod fel “E 960c(ii) rebaudioside M, AM and D produced via enzymatic conversion of highly purified steviol glycosides from Stevia leaf extracts”;
awdurdodi, o ran Cymru, ddefnydd newydd (iâ bwytadwy) ar gyfer yr ychwanegyn bwyd E 476 polyglyserol polyrisinolead, a diwygio defnydd awdurdodedig sy’n bodoli eisoes (sawsiau);
cyflwyno uchafswm terfyn gweddillion o 0.1 mg/kg ar gyfer gweddillion ethylen ocsid sy’n gymwys i bob ychwanegyn bwyd awdurdodedig;
mân gywiriadau amrywiol i Atodiad 2 i EUR 2008/1333.
Gwneir Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn hefyd drwy arfer pwerau yn EUR 2008/1331. Mae rheoliad 4 yn dileu, o ran Cymru, 22 o sylweddau cyflasu o’r rhestr ddomestig o sylweddau cyflasu awdurdodedig yn Atodiad 1 i Reoliad (EC) Rhif 1334/2008 ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol â phriodoleddau cyflasu sydd i’w defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd (EUR 2008/1334). Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth drosiannol i ganiatáu i gynhyrchion sy’n bodoli eisoes sy’n cynnwys y sylweddau hyn barhau i gael eu marchnata a’u defnyddio tan eu dyddiad parhauster lleiaf (dyddiad ‘ar ei orau cyn’) neu ddyddiad ‘defnyddio erbyn’.
Gwneir Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn (rheoliad 6 ac Atodlenni 4 i 8) drwy arfer pwerau yn Rheoliad (EU) 2015/2283 ar fwydydd newydd (EUR 2015/2283). Mae Rhan 4 yn diweddaru, o ran Cymru, y rhestr o fwydydd newydd awdurdodedig yn yr Atodiad i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2470 sy’n sefydlu rhestr yr Undeb o fwydydd newydd (EUR 2017/2470)—
Mae Atodlen 4 yn mewnosod cofnod newydd, sy’n awdurdodi rhoi ar y farchnad brotein wedi ei hydroleiddio’n rhannol o haidd a ddisbyddwyd (Hordeum vulgare) a reis a ddisbyddwyd (Oryza sativa) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio yn y categorïau bwyd penodedig.
Mae Atodlen 5 yn mewnosod cofnod newydd, sy’n awdurdodi rhoi ar y farchnad asidau brasterog wedi eu setyleiddio fel bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd ar gyfer oedolion yn unig.
Mae Atodlen 6 yn mewnosod cofnod newydd, sy’n awdurdodi rhoi ar y farchnad 3-ffwcosyl-lactos (3-FL) (o straen o Escherichia coli K-12 DH1) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio yn y categorïau bwyd penodedig.
Mae Atodlen 7 yn mewnosod cofnod newydd, sy’n awdurdodi rhoi ar y farchnad gymysgedd lacto-N-ffwcopentaos I (LNFP-I) a 2’-ffwcosyl-lactos (2’-FL) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio yn y categorïau bwyd penodedig.
Mae Atodlen 8 yn cywiro gwallau mewn cofnodion presennol—
Yn Nhabl 1 yn unig, disodlir y cofnod presennol ar gyfer “bovine milk basic whey protein isolate” er mwyn mynd i’r afael â gwallau fformadu yn y cofnod presennol.
Yn Nhabl 2 yn unig, diwygir y fanyleb ar gyfer Sylo-oligosacaridau er mwyn ychwanegu’r paramedr ar gyfer “Dry material (%)”, a oedd ar goll o’r cofnod presennol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.