- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r erthygl hon ac erthyglau 2 i 34 ac erthyglau 42 i 48 i rym ar 1 Gorffennaf 2024.
(4) Daw erthyglau 35 i 41 i rym ar 1 Gorffennaf 2025.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “anifail buchol” (“bovine animal”) yw anifail domestig o’r genws Bos neu’r rhywogaeth Bubalus bubalis neu Bison bison;
mae i “arolygydd” yr un ystyr ag “inspector” yn adran 89 o’r Ddeddf;
mae i “arolygydd milfeddygol” yr un ystyr â “veterinary inspector” yn adran 89 o’r Ddeddf;
ystyr “buches” (“bovine herd”) yw grŵp o ddau anifail buchol neu ragor;
ystyr “BVD” (“BVD”) yw dolur rhydd feirysol buchol;
ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw’r person sydd â gofal o ddydd i ddydd am anifail buchol, ac mae’r person hwnnw’n parhau i fod y ceidwad pan roddir yr anifail o dan reolaeth person arall dros dro (gan gynnwys pan y’i rhoddir o dan reolaeth cludwr);
ystyr “daliad” (“holding”) yw daliad neu ran o ddaliad y mae rhif CPH wedi ei roi iddo;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul nac yn ddiwrnod a bennir fel gŵyl banc ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981;
ystyr “feirws BVD” (“BVDV”) yw feirws BVD;
ystyr “labordy cymeradwy” (“approved laboratory”) yw labordy a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 8;
ystyr “llo” (“calf”) yw anifail buchol 18 mis oed neu’n iau;
ystyr “mangre” (“premises”) yw unrhyw dir, unrhyw adeilad neu unrhyw gerbyd, o unrhyw ddisgrifiad;
ystyr “milfeddyg cymeradwy” (“approved veterinary surgeon”) yw milfeddyg a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 7;
ystyr “rhif CPH” (“CPH number”) yw rhif y daliad ym mhlwyf y sir, a roddir i ddaliad neu ran o ddaliad gan Weinidogion Cymru;
ystyr “rhif tag clust swyddogol” (“official ear tag number”) yw’r rhif sydd wedi ei argraffu ar dag clust swyddogol;
ystyr “statws BVD ar y cyd” (“collective BVD status”) yw statws BVD buches fel y’i penderfynir yn unol ag erthygl 20;
ystyr “statws BVD unigol” (“individual BVD status”) yw statws BVD anifail buchol unigol fel y’i penderfynir yn unol ag erthygl 19;
ystyr “tag clust swyddogol” (“official ear tag”) yw tag clust a osodir o dan Reoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007(2);
ystyr “tag rheoli” (“management tag”) yw tag clust, ac eithrio tag clust swyddogol, sy’n addas i’w osod ar anifail buchol at ddiben cymryd sampl o feinwe.
3. Mae’r diffiniad o “disease” yn adran 88(1) o’r Ddeddf wedi ei estyn i gynnwys BVD.
4.—(1) O ran unrhyw hysbysiad, unrhyw drwydded neu unrhyw gymeradwyaeth a roddir gan Weinidogion Cymru neu arolygydd o dan y Gorchymyn hwn—
(a)rhaid ei roi neu ei rhoi mewn ysgrifen,
(b)caiff fod yn ddarostyngedig i amodau, ac
(c)oni phennir fel arall, caniateir ei ddiwygio neu ei diwygio, ei atal dros dro neu ei hatal dros dro neu ei ddirymu neu ei dirymu mewn ysgrifen ar unrhyw adeg.
(2) Pan fo unrhyw beth o dan y Gorchymyn hwn i’w wneud mewn ysgrifen, mae hynny’n cynnwys cyfathrebiad electronig fel y diffinnir “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(3), sydd wedi ei recordio ac yn gallu cael ei atgynhyrchu o ganlyniad i hynny.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy’n symud anifail buchol o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan y Gorchymyn hwn—
(a)cadw’r drwydded neu gopi ohoni gydag ef bob amser yn ystod y symudiad,
(b)dangos y drwydded neu gopi ohoni pan fydd arolygydd milfeddygol, arolygydd neu un o swyddogion Llywodraeth Cymru yn gofyn amdani neu amdano, a chaniatáu cymryd copi ohoni neu ohono, ac
(c)cadw’r drwydded neu gopi ohoni am y cyfnod o 6 mis ar ôl i’r symudiad gael ei gwblhau.
5.—(1) Caiff y ceidwad presennol ddibynnu ar unrhyw waith samplu a wnaed gan geidwad blaenorol at ddibenion cydymffurfio â rhwymedigaethau ceidwad o dan y Gorchymyn hwn, os yw’r ceidwad presennol yn dewis gwneud hynny, at ddibenion penderfynu cydymffurfedd gan y ceidwad presennol â’r rhwymedigaethau yn y Gorchymyn hwn.
(2) Caiff y ceidwad, os yw’n dewis gwneud hynny, gyflawni unrhyw rwymedigaeth sydd ar geidwad o dan y Gorchymyn hwn i gymryd neu gyflwyno sampl drwy drefnu i berson arall gymryd neu gyflwyno’r sampl ar ei ran.
6. Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo fel arall mewn ysgrifen, rhaid i’r costau y mae unrhyw berson yn mynd iddynt wrth gymryd unrhyw gamau sy’n ofynnol, neu wrth ymatal rhag cymryd camau a waherddir, gan neu o dan y Gorchymyn hwn gael eu talu gan y person hwnnw.
O.S. 2007/842 (Cy. 74), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/92 (Cy. 24).
2000 p. 7. Diwygiwyd gan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys