Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 775 (Cy. 116)

Llesiant, Cymru

Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024

Gwnaed

27 Mehefin 2024

Yn dod i rym

30 Mehefin 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 52(1)(a), 54(1)(b) a 54(3)(b) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”)(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r cyrff cyhoeddus a restrir o dan reoliad 2, fel sy’n ofynnol o dan adran 52(4) o’r Ddeddf.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 54(4)(a) o’r Ddeddf.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2024.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Diwygio adran 6 o’r Ddeddf

2.—(1Mae adran 6(1)(2) (ystyr “corff cyhoeddus”) o’r Ddeddf wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff (d)(ii) mewnosoder—

(iii)Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;.

(3Ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)yr awdurdodau iechyd arbennig a ganlyn a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006—

(i)Iechyd a Gofal Digidol Cymru;

(ii)Addysg a Gwella Iechyd Cymru;.

(4Ar ôl paragraff (l) mewnosoder—

(m)Gofal Cymdeithasol Cymru;

(n)Awdurdod Cyllid Cymru;

(o)Trafnidiaeth Cymru (sef Transport for Wales (rhif y cwmni 09476013));

(p)Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (sef Centre for Digital Public Services Limited (rhif y cwmni 09341679));

(q)Cymwysterau Cymru.

Gosod a chyhoeddi amcanion llesiant ar gyfer cyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf gan reoliad 2

3.  Wrth ei gymhwyso i’r cyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf gan reoliad 2, mae paragraff (a) o adran 9(2) (amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r paragraff hwnnw—

(a)heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2025, a.

Ymchwiliad ac adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn perthynas â chyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf gan reoliad 2

4.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys am y cyfnod—

(a)sy’n dechrau ar 30 Mehefin 2024, a

(b)sy’n dod i ben ar y dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ar ôl Mai 2026 i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(3).

(2Mae adran 15 o’r Ddeddf yn cael effaith mewn perthynas â’r cyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf gan reoliad 2 fel pe bai’r is-adran ganlynol wedi ei rhoi yn lle is-adran (6)—

(6) Mae’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-adrannau (2) a (3)—

(a)yn dechrau ar 30 Mehefin 2024, a

(b)yn dod i ben ar y dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ar ôl Mai 2026 i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Mehefin 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 6 (ystyr “corff cyhoeddus”) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”) yn rhestru personau penodol sy’n “gorff cyhoeddus” at ddibenion Rhan 2 (gwella llesiant) a Rhan 3 (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru) o’r Ddeddf.

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu wyth person ychwanegol (“y cyrff cyhoeddus ychwanegol”) at y rhestr o gyrff cyhoeddus yn adran 6 o’r Ddeddf: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru; Iechyd a Gofal Digidol Cymru; Addysg a Gwella Iechyd Cymru; Gofal Cymdeithasol Cymru; Awdurdod Cyllid Cymru; Trafnidiaeth Cymru (sef Transport for Wales (rhif y cwmni 09476013)); Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (sef Centre for Digital Public Services Limited (rhif y cwmni 09341679)) a Cymwysterau Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd y cyrff cyhoeddus ychwanegol yn agored i gydymffurfio â Rhannau 2 a 3 o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adran 9 (amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill) o’r Ddeddf, i bennu bod rhaid i’r cyrff cyhoeddus ychwanegol osod a chyhoeddi amcanion llesiant erbyn 31 Mawrth 2025.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adran 15 (yr egwyddor datblygu cynaliadwy: ymchwiliadau’r Archwilydd Cyffredinol) o’r Ddeddf, sy’n diffinio’r cyfnod adrodd ar gyfer ymchwiliadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (“ACC”). O dan adran 15 o’r Ddeddf, mae cyfnod adrodd yr ACC yn dechrau ar y dyddiad sy’n digwydd un flwyddyn cyn y dyddiad y mae etholiad cyffredinol arferol i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac mae’n dod i ben ar y dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad nesaf o’r fath i’w gynnal. Oherwydd y cyrff ychwanegol a ychwanegir at y Ddeddf ar 30 Mehefin 2024 ac y mae’n ofynnol iddynt osod amcanion llesiant erbyn 31 Mawrth 2025, mae’r rheoliad hwn yn diwygio cyfnod adrodd cyntaf yr ACC mewn perthynas â’r cyrff cyhoeddus ychwanegol, gan olygu y bydd yn ofynnol i’r ACC adrodd ar y cyrff cyhoeddus ychwanegol o 30 Mehefin 2024 hyd at ddiwedd y cyfnod adrodd nesaf, sydd wedi ei osod o dan adran 15(6)(b). Bydd y cyrff cyhoeddus ychwanegol wedyn yn ddarostyngedig i’r cyfnod adrodd o dan adran 15(6) o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol a gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru.

(2)

2015 dccc 2. Diwygiwyd adran 6(1) gan O.S. 2021/1360 (Cy. 356).