Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

PENNOD 2Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir

35.  Yn rheoliad 16—

(a)ym mharagraff (1)(b)(viii), yn lle “chaniatâd i aros fel partner a ddiogelir” rhodder “chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel partner a ddiogelir”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle’r term “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” rhodder ““person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to enter or remain as a protected partner”);”.

36.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2B (categori 2B - personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel partner a ddiogelir a’u plant)—

(a)yn y pennawd, yn lle “caniatâd iddynt aros” rhodder “caniatâd iddynt ddod i mewn neu aros”;

(b)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “caniatâd iddo aros” rhodder “caniatâd iddo ddod i mewn neu aros”;

(c)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “caniatâd iddo aros” rhodder “caniatâd iddo ddod i mewn neu aros”;

(d)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “caniatâd iddo aros” rhodder “caniatâd iddo ddod i mewn neu aros”;

(e)yn is-baragraff (2)(c), yn lle “caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig” rhodder “caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi”;

(f)yn is-baragraff (3)(a), yn lle “caniatâd iddo aros” rhodder “caniatâd iddo ddod i mewn neu aros”;

(g)yn is-baragraff (3)(b)—

(i)yn lle “caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” rhodder “caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel partner a ddiogelir” ac yn lle “caniatâd iddo aros yn y Deyrnas Unedig” rhodder “caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi”;

(ii)yn lle “o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo” rhodder “o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r rheolau mewnfudo a bennir yn y naill neu’r llall o’r achosion a ganlyn”;

(iii)o flaen is-baragraff (i) mewnosoder—

Achos 1

Yn achos person y rhoddwyd caniatâd iddo aros cyn 31 Ionawr 2024, unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—;

(iv)ar ôl is-baragraff (vii) mewnosoder—

Achos 2

Yn achos person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros ar neu ar ôl 31 Ionawr 2024, y naill neu’r llall o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—

(i)

paragraff VDA 9.1 o’r Atodiad Dioddefwr Cam-drin Domestig, neu

(ii)

paragraff BP 11.1 o’r Atodiad Partner sydd wedi cael Profedigaeth.

37.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 1, yn Nhabl 3, yn lle’r diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” rhodder “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel partner a ddiogelir”.

Yn ôl i’r brig

Options/Help