Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016
75. Yn yr Atodlen i Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016(1)—
(a)ym mharagraff 1, yn lle “adran 2(3)” hyd at y diwedd rhodder “adran 13(1) a (2) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (awdurdodi gwaith drwy gydsyniad heneb gofrestredig).”;
(b)ym mharagraff 3, yn lle “adran 8(1)” hyd at y diwedd rhodder “adran 89(1) neu (2) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (awdurdodi gwaith drwy gydsyniad adeilad rhestredig).”;
(c)ym mharagraff 4, yn lle “adran 74(1)” hyd at y diwedd rhodder “adran 162(1) neu (2) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (awdurdodi dymchweliad drwy gydsyniad ardal gadwraeth).”