xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2025 Rhif 99 (Cy. 23)

Gwasanaethau Iechyd, Cymru

Caffael Cyhoeddus, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025

Gwnaed

30 Ionawr 2025

Yn dod i rym

24 Chwefror 2025

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 10A(1), (2) a (3), 203(9) a (10), a 205(a) a (b) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) ac adran 120A(1) o Ddeddf Caffael 2023(2).

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad priodol ac wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a gafwyd yn unol ag adran 10A(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

Yn unol ag adran 203(6A) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(3) ac adran 122(10)(na) o Ddeddf Caffael 2023(4), gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(5).

Yn unol ag adran 10A(5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, mae deunydd esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Rheoliadau hyn yn nodi sut y mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth at ddibenion adran 10A(3).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Chwefror 2025.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i gaffael gwasanaethau iechyd perthnasol yng Nghymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant authority” gan adran 10A(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(6);

ystyr “caffaeliad” (“procurement”) yw dyfarnu contract, ymrwymo iddo a’i reoli, ac mae unrhyw gyfeiriad at gaffaeliad yn cynnwys cyfeiriad at y canlynol—

(a)

unrhyw gam a gymerir at ddiben dyfarnu’r contract, ymrwymo iddo neu ei reoli;

(b)

rhan o’r caffaeliad;

(c)

terfynu’r caffaeliad cyn dyfarnu;

mae i “cyfnod segur” (“standstill period”) yr ystyr a roddir gan reoliad 12;

ystyr “cytundeb fframwaith” (“framework agreement”) yw cytundeb rhwng un neu ragor o awdurdodau perthnasol ac un neu ragor o ddarparwyr a gwblheir ac a weithredir o dan Ran 3;

ystyr “cytundeb fframwaith un darparwr” (“single-provider framework agreement”) yw cytundeb rhwng un neu ragor o awdurdodau perthnasol ac un darparwr a gwblheir ac a weithredir o dan Ran 3;

ystyr “darparwr” (“provider”) yw person sy’n darparu, neu sy’n cynnig darparu, gwasanaethau iechyd perthnasol at ddibenion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru;

ystyr “darparwr gwaharddadwy” (“excludable provider”) yw darparwr neu is-gontractwr a fyddai’n gyflenwr gwaharddadwy yn unol ag adrannau 57 (ystyr cyflenwr gwaharddedig a gwaharddadwy) a 58 (ystyried a yw cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig neu’n gyflenwr gwaharddadwy) o Ddeddf 2023, pe digwyddai mai’r awdurdod contractio oedd yr awdurdod perthnasol a phe bai’r darparwr yn gyflenwr o dan y Ddeddf honno, a phe bai unrhyw gyfeiriadau at berson â chyswllt yn yr adrannau hynny wedi eu hepgor;

ystyr “darparwr gwaharddedig” (“excluded provider”) yw darparwr neu is-gontractwr a fyddai’n gyflenwr gwaharddedig yn unol ag adrannau 57 a 58 o Ddeddf 2023, pe digwyddai mai’r awdurdod contractio oedd yr awdurdod perthnasol a phe bai’r darparwr yn gyflenwr o dan y Ddeddf honno, a phe bai unrhyw gyfeiriadau at berson â chyswllt yn yr adrannau hynny wedi eu hepgor;

o ran “darparwr presennol” (“existing provider”)—

(a)

ei ystyr yw darparwr y mae gan awdurdod perthnasol gontract gydag ef ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd perthnasol nad yw wedi dod i ben nac wedi ei derfynu fel arall, ac

(b)

mae’n cynnwys darparwr o’r fath yn ei hunaniaeth newydd mewn achos pan fo disgwyl i hunaniaeth darparwr o’r fath newid oherwydd, er enghraifft, olyniaeth i mewn i sefyllfa darparwr o’r fath yn dilyn newidiadau corfforaethol, gan gynnwys meddiannu, uno, caffael, neu ansolfedd;

ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf Caffael 2023;

ystyr “egwyddorion caffael” (“procurement principles”) yw’r egwyddorion yn rheoliad 5;

ystyr “GGG” (“CPV”) yw’r Eirfa Gaffael Gyffredin fel y’i mabwysiadwyd gan Erthygl 1 ac Atodiad 1 i Reoliad (EC) Rhif 2195/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Tachwedd 2002(7);

mae i “y gwasanaeth iechyd” yr ystyr a roddir i “the health service” gan adran 206(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(8);

mae i “gwasanaethau iechyd” yr ystyr a roddir i “health services” gan adran 10A(1)(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “gwasanaethau iechyd perthnasol” (“relevant health services”) yw gwasanaethau iechyd sy’n dod o dan un neu ragor o’r codau GGG a bennir yn Atodlen 1, i’r graddau a ddisgrifir yn y tabl hwnnw, yn ddarostyngedig i reoliad 3(7);

ystyr “gwerth oes amcangyfrifedig” (“estimated lifetime value”) yw gwerth contract neu gytundeb fframwaith sydd am y tro wedi ei amcangyfrif gan yr awdurdod perthnasol o dan reoliad 4;

ystyr “is-gontractwr” (“sub-contractor”) yw person y mae darparwr yn bwriadu is-gontractio ag ef, neu’n is-gontractio ag ef, ar gyfer y cyfan neu ran o gontract ar gyfer gwasanaethau iechyd perthnasol at ddibenion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru;

ystyr “meini prawf allweddol” (“key criteria”) yw’r meini prawf a nodir yn rheoliad 6;

ystyr “meini prawf dethol sylfaenol” (“basic selection criteria”) yw’r meini prawf dethol a bennir gan yr awdurdod perthnasol o dan reoliad 22 ac Atodlen 18;

ystyr “meini prawf dyfarnu contract neu fframwaith” (“contract or framework award criteria”) yw’r meini prawf sy’n sail i ddyfarnu contract neu gwblhau cytundeb fframwaith;

ystyr “Proses Darparwr Mwyaf Addas” (“Most Suitable Provider Process”) yw’r broses a nodir yn rheoliad 10 ar gyfer dyfarnu contract heb gystadleuaeth;

ystyr “Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1” (“Direct Award Process 1”) yw’r broses a nodir yn rheoliad 8 ar gyfer dyfarnu contract heb gystadleuaeth;

ystyr “Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2” (“Direct Award Process 2”) yw’r broses a nodir yn rheoliad 9 ar gyfer dyfarnu contract heb gystadleuaeth;

ystyr “Proses Gystadleuol” (“Competitive Process”) yw’r broses a nodir yn rheoliad 11 ar gyfer dyfarnu contract gyda chystadleuaeth.

Cymhwyso i gaffael gwasanaethau iechyd

3.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i gaffaeliad awdurdod perthnasol o wasanaethau iechyd perthnasol at ddibenion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, pa un ai yn unigol neu fel rhan o gaffaeliad cymysg.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “caffaeliad cymysg” yw caffael—

(a)gwasanaethau iechyd perthnasol at ddibenion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a

(b)nwyddau neu wasanaethau eraill sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau iechyd hynny,

pan fo’r ddau faen prawf ym mharagraff (3) wedi eu bodloni.

(3Y meini prawf yw—

(a)mai prif bwnc y caffaeliad yw gwasanaethau iechyd perthnasol at ddibenion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a

(b)bod yr awdurdod perthnasol yn penderfynu na ellid cyflenwi’r nwyddau neu’r gwasanaethau eraill yn rhesymol o dan gontract ar wahân.

(4At ddibenion y meini prawf ym mharagraff (3)(a), pennir y prif bwnc gan y gwerth uchaf o’r canlynol—

(a)gwerth oes amcangyfrifedig y gwasanaethau iechyd perthnasol ym mharagraff (2)(a), neu

(b)gwerth oes amcangyfrifedig y nwyddau neu’r gwasanaethau eraill ym mharagraff (2)(b).

(5At ddibenion y meini prawf ym mharagraff (3)(b), mae’r awdurdod perthnasol yn penderfynu na ellid cyflenwi’r nwyddau neu’r gwasanaethau eraill yn rhesymol o dan gontract ar wahân pan fyddai caffael y gwasanaethau iechyd perthnasol a’r nwyddau a’r gwasanaethau eraill ar wahân yn cael effaith andwyol sylweddol ar allu’r awdurdod perthnasol i weithredu yn unol â’r egwyddorion caffael, neu pan fyddai’n debygol o gael yr effaith honno.

(6Pan fo caffaeliad gan awdurdod perthnasol ar gyfer gwasanaethau iechyd perthnasol yn rhan o gaffaeliad cymysg, mae’r term “gwasanaethau iechyd perthnasol” yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio’r rheoliad hwn, yn cynnwys unrhyw nwyddau neu wasanaethau sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau iechyd perthnasol hynny.

(7Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn atal dyfarnu contract i fwy nag un darparwr, naill ai ar y cyd neu fel arall.

Dulliau ar gyfer cyfrifo gwerth oes amcangyfrifedig

4.—(1Rhaid i awdurdod perthnasol gyfrifo’r gwerth oes amcangyfrifedig yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Mae’r gwerth oes amcangyfrifedig i’w gyfrifo—

(a)yn achos contract cyfnod penodol, fel yr uchafswm y gallai’r awdurdod perthnasol ddisgwyl ei dalu o dan y contract gan gynnwys, pan fo’n gymwys, symiau a dalwyd eisoes;

(b)yn achos contractau heb gyfnod penodol, fel yr uchafswm y gallai’r awdurdod perthnasol ddisgwyl ei dalu o dan y contract mewn unrhyw gyfnod o fis, wedi ei luosi â 48;

(c)yn achos cytundeb fframwaith, fel cyfanswm gwerth oes amcangyfrifedig yr holl gontractau sydd wedi cael eu dyfarnu neu y gellir eu dyfarnu o dan y fframwaith hwnnw, fel y’i cyfrifir o dan (a) a (b) uchod.

(3Ym mharagraff (1), mae’r swm y gallai awdurdod perthnasol ddisgwyl ei dalu yn cynnwys y canlynol—

(a)gwerth unrhyw wasanaethau a ddarperir gan y darparwr o dan y contract heblaw ar gyfer talu;

(b)symiau a fyddai’n daladwy pe bai opsiwn yn y contract i’r darparwr gyflenwi gwasanaethau ychwanegol yn cael ei arfer;

(c)symiau a fyddai’n daladwy pe bai opsiwn yn y contract i estyn neu adnewyddu cyfnod y contract yn cael ei arfer;

(d)symiau sy’n cynrychioli premiymau, ffioedd, comisiynau neu log a allai fod yn daladwy o dan y contract;

(e)symiau sy’n cynrychioli gwobrau neu daliadau a allai fod yn daladwy i ddarparwyr sy’n cymryd rhan yn y caffaeliad.

(4Wrth amcangyfrif gwerth contract, rhaid i awdurdod perthnasol ystyried yr holl ffeithiau sy’n berthnasol i’r amcangyfrif ac sydd ar gael i’r awdurdod ar yr adeg y mae’n gwneud yr amcangyfrif.

Egwyddorion caffael

5.  Wrth gaffael gwasanaethau iechyd perthnasol, rhaid i awdurdod perthnasol weithredu—

(a)gyda golwg ar—

(i)sicrhau anghenion y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau,

(ii)gwella ansawdd y gwasanaethau, a

(iii)gwella effeithlonrwydd wrth ddarparu’r gwasanaethau;

(b)yn dryloyw, yn deg ac yn gymesur;

(c)gan roi sylw i ddatganiad polisi caffael Cymru a gyhoeddir o dan adran 14 o Ddeddf 2023.

Meini prawf allweddol

6.  Y meini prawf allweddol yw—

(a)ansawdd, hynny yw yr angen i sicrhau gwasanaethau o ansawdd da,

(b)gwerth, hynny yw yr angen i ymdrechu i gyflawni gwerth da o ran cydbwysedd costau, manteision cyffredinol a goblygiadau ariannol trefniant contractio arfaethedig,

(c)cydweithredu a chynaliadwyedd gwasanaethau, hynny yw y graddau y gellir darparu gwasanaethau—

(i)mewn ffordd gydweithredol, a

(ii)mewn ffordd gynaliadwy,

er mwyn gwella canlyniadau iechyd, sy’n cynnwys sefydlogrwydd gwasanaethau iechyd o ansawdd da neu barhad gwasanaeth gwasanaethau iechyd,

(d)gwella mynediad a lleihau anghydraddoldebau iechyd, hynny yw sicrhau hygyrchedd o ran gwasanaethau a thriniaethau ar gyfer pob claf cymwys, ac

(e)cyfrifoldeb cymdeithasol, hynny yw a allai’r hyn a gynigir wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn yr ardal ddaearyddol sy’n berthnasol i drefniant contractio arfaethedig.

RHAN 2Prosesau caffael

Penderfynu ar y broses gaffael briodol

7.—(1Pan fo’r awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu contract am wasanaethau iechyd perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn y broses a bennir o dan baragraffau (4) i (7).

(2Pan fo’r awdurdod perthnasol yn bwriadu cwblhau cytundeb fframwaith, rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn y Broses Gystadleuol.

(3Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliadau 13 (addasu contractau a chytundebau fframwaith yn ystod eu cyfnod), 15 (rhoi’r gorau i gaffaeliad neu ailadrodd camau mewn proses gaffael) a 18 (contractau sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith).

(4Rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 i ddyfarnu contract pan fo’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni.

Gofyniad 1

Mae darparwr presennol ar gyfer y gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r trefniadau contractio arfaethedig yn ymwneud â hwy.

Gofyniad 2

Mae’r awdurdod perthnasol wedi ei fodloni, oherwydd natur y gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r trefniadau contractio arfaethedig yn ymwneud â hwy, fod y trefniant contractio arfaethedig yn gallu cael ei ddarparu gan y darparwr presennol yn unig.

(5Rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn un o blith Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2, y Broses Darparwr Mwyaf Addas, neu’r Broses Gystadleuol, gyda’r dewis hwnnw yn ôl disgresiwn yr awdurdod perthnasol, i ddyfarnu contract pan fo’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni.

Gofyniad 1

Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ddilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 yn unol â pharagraff (4).

Gofyniad 2

Mae cyfnod contract presennol i fod i ddod i ben ac mae’r awdurdod perthnasol yn cynnig contract newydd i ddisodli’r contract presennol hwnnw ar ddiwedd ei gyfnod.

Gofyniad 3

Nid yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol (gweler paragraffau (9) i (12)).

Gofyniad 4

Mae’r awdurdod perthnasol yn ystyried bod y darparwr presennol yn bodloni’r contract presennol ac yn debygol o fodloni’r trefniadau contractio arfaethedig i safon ddigonol.

(6Rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn naill ai’r Broses Darparwr Mwyaf Addas, neu’r Broses Gystadleuol, gyda’r dewis hwnnw yn ôl disgresiwn yr awdurdod perthnasol, i ddyfarnu contract pan fo’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni.

Gofyniad 1

Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ddilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 yn unol â pharagraff (4).

Gofyniad 2

Nid yw paragraff (5) yn gymwys.

Gofyniad 3

Mae’r awdurdod perthnasol yn ystyried, gan ystyried y darparwyr tebygol a’r holl wybodaeth berthnasol sydd ar gael i’r awdurdod perthnasol ar y pryd, ei fod yn debygol o allu nodi’r darparwr mwyaf addas.

(7Rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn y Broses Gystadleuol i ddyfarnu contract pan fo’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni.

Gofyniad 1

Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ddilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 yn unol â pharagraff (4).

Gofyniad 2

Nid yw paragraff (5) na (6) yn gymwys.

(8Pan fo’r awdurdod perthnasol, ar ôl cymryd camau i ddilyn proses gaffael benodol o dan naill ai baragraff (5) neu baragraff (6), yn penderfynu y byddai proses gaffael wahanol yn fwy addas, caniateir i’r awdurdod perthnasol—

(a)penderfynu rhoi’r gorau i’r caffaeliad o dan reoliad 15, a

(b)dethol proses gaffael wahanol yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(9Mae’r trefniadau contractio arfaethedig yn “newid sylweddol” at ddibenion paragraff (5) yn y naill neu’r llall o’r canlynol—

Senario 1

Pan fo’r trefniadau contractio arfaethedig yn sylweddol wahanol o ran cymeriad i’r contract presennol pan ymrwymwyd i’r contract presennol hwnnw, neu

Senario 2

Pan fo’r trothwy newid sylweddol ym mharagraff (10) wedi ei fodloni.

(10Mae’r trothwy newid sylweddol at ddibenion paragraff (9) wedi ei fodloni pan fo’r holl ofynion a ganlyn yn gymwys—

Gofyniad 1

Mae modd priodoli’r newidiadau yn y gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r trefniadau contractio arfaethedig yn ymwneud â hwy (o gymharu â’r contract presennol) i benderfyniad yr awdurdod perthnasol.

Gofyniad 2

Mae gwerth oes amcangyfrifedig y trefniadau contractio arfaethedig yn £500,000 neu’n fwy na gwerth oes amcangyfrifedig y contract presennol, fel y’i cyfrifwyd pan ymrwymwyd i’r contract presennol hwnnw.

Gofyniad 3

Mae gwerth oes amcangyfrifedig y trefniadau contractio arfaethedig yn 25% neu’n fwy na gwerth oes amcangyfrifedig y contract presennol, fel y’i cyfrifwyd pan ymrwymwyd i’r contract presennol hwnnw.

(11Nid yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol at ddibenion paragraff (5)—

(a)pan fo’r trefniadau contractio arfaethedig yn sylweddol wahanol o ran cymeriad i’r contract presennol pan ymrwymwyd i’r contract presennol hwnnw, ond nid yw hynny ond o ganlyniad i newid yn hunaniaeth y darparwr oherwydd olyniaeth i mewn i sefyllfa darparwr yn dilyn newidiadau corfforaethol gan gynnwys meddiannu, uno, caffael, neu ansolfedd a bo’r awdurdod perthnasol wedi ei fodloni bod y darparwr yn bodloni’r meini prawf dethol sylfaenol, a

(b)pan na fo’r trothwy newid sylweddol ym mharagraff (10) wedi ei fodloni.

(12Nid yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol at ddibenion paragraff (5)—

(a)pan na fo’r trefniadau contractio arfaethedig yn sylweddol wahanol o ran cymeriad i’r contract presennol pan ymrwymwyd i’r contract presennol hwnnw, a

(b)pan fo’r trothwy newid sylweddol ym mharagraff (10) wedi ei fodloni, ond bo’r newid rhwng y trefniadau contractio presennol a’r trefniadau contractio arfaethedig yn ymateb i ffactorau allanol sydd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod perthnasol a’r darparwr gan gynnwys newidiadau yn nifer cleifion neu ddefnyddwyr gwasanaethau neu newidiadau mewn prisiau yn unol â fformiwla y darperir ar ei chyfer yn nogfennau’r contract, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.

Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 yn unol â rheoliad 7(4).

(2Rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)dilyn y camau a nodir yn y rheoliad hwn, a

(b)dyfarnu unrhyw gontract heb gystadleuaeth.

Cam 1

(3Rhaid i’r awdurdod perthnasol benderfynu a yw’r trefniant contractio arfaethedig, oherwydd natur y gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r trefniadau contractio arfaethedig yn ymwneud â hwy, yn gallu cael ei ddarparu gan y darparwr presennol yn unig.

Cam 2

(4Os yw’r awdurdod perthnasol yn penderfynu bod y trefniant contractio arfaethedig yn gallu cael ei ddarparu gan y darparwr presennol yn unig, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad o fwriad i wneud dyfarniad i’r darparwr presennol.

(5Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 2.

(6Yn dilyn cyhoeddi’r hysbysiad ym mharagraff (4), mae’r cyfnod segur yn dechrau yn unol â rheoliad 12(4).

Cam 3

(7Pan gyflwynir sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)cydymffurfio â’r gofynion a bennir yn rheoliad 12(7) a (9), a

(b)cyfleu’r penderfyniad pellach a wneir o dan reoliad 12(10) ac unrhyw benderfyniadau dilynol pellach a wneir o dan reoliad 12(12), yn unol â rheoliad 12(11) a (13).

(8Pan na chyflwynir unrhyw sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), caniateir i’r awdurdod perthnasol symud o gam 2 i gam 4.

Cam 4

(9Caniateir i’r awdurdod perthnasol ymrwymo i’r contract ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben yn unol â rheoliad 12(14) neu (15).

Cam 5

(10Os yw’r awdurdod perthnasol yn dyfarnu contract o dan gam 4, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad am ddyfarnu’r contract o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyfarnu’r contract.

(11Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (10) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 3.

Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod perthnasol wedi penderfynu dilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2 yn unol â rheoliad 7(5).

(2Rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)dilyn y camau a nodir yn y rheoliad hwn, a

(b)dyfarnu unrhyw gontract heb gystadleuaeth.

Cam 1

(3Rhaid i’r awdurdod perthnasol benderfynu a yw’r darparwr presennol yn bodloni’r contract presennol ac a yw’n debygol o fodloni’r trefniadau contract arfaethedig i safon ddigonol.

(4Wrth ddod i benderfyniad yng ngham 1, rhaid i’r awdurdod perthnasol ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso’r meini prawf dethol sylfaenol.

Cam 2

(5Os yw’r awdurdod perthnasol yn penderfynu bod y darparwr presennol yn bodloni’r contract presennol a’i fod yn debygol o fodloni’r trefniadau contractio arfaethedig i safon ddigonol, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad o fwriad i wneud dyfarniad i’r darparwr presennol.

(6Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 4.

(7Yn dilyn cyhoeddi’r hysbysiad ym mharagraff (5), mae’r cyfnod segur yn dechrau yn unol â rheoliad 12(4).

Cam 3

(8Pan gyflwynir sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)cydymffurfio â’r gofynion a bennir yn rheoliad 12(7) a (9), a

(b)cyfleu’r penderfyniad pellach a wneir o dan reoliad 12(10) ac unrhyw benderfyniadau dilynol pellach a wneir o dan reoliad 12(12), yn unol â rheoliad 12(11) a (13).

(9Pan na chyflwynir unrhyw sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), caniateir i’r awdurdod perthnasol symud o gam 2 i gam 4.

Cam 4

(10Caniateir i’r awdurdod perthnasol ymrwymo i’r contract ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben yn unol â rheoliad 12(14) neu (15).

Cam 5

(11Os yw’r awdurdod perthnasol yn dyfarnu contract o dan gam 4, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad am ddyfarnu’r contract o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyfarnu’r contract.

(12Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (11) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 5.

Y Broses Darparwr Mwyaf Addas

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod perthnasol wedi penderfynu dilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas yn unol â rheoliad 7(5) neu (6).

(2Rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)dilyn y camau a nodir yn y rheoliad hwn, a

(b)dyfarnu unrhyw gontract heb gystadleuaeth.

Cam 1

(3Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad o fwriad i ddilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas.

(4Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 6.

Cam 2

(5Rhaid i’r awdurdod perthnasol nodi darparwyr posibl a allai fod y darparwr mwyaf addas.

(6Wrth nodi unrhyw ddarparwyr posibl ym mharagraff (5), rhaid i’r awdurdod perthnasol ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso’r meini prawf dethol sylfaenol.

(7Ni chaiff yr awdurdod perthnasol gwblhau cam 2 cyn y diwrnod sydd 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o fwriad i ddilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas i’w gyhoeddi yn unol â cham 1.

Cam 3

(8Rhaid i’r awdurdod perthnasol asesu’r darparwyr posibl a nodwyd yng ngham 2 a dewis y darparwr mwyaf addas i wneud dyfarniad iddo.

(9Wrth asesu darparwyr posibl a dewis y darparwr mwyaf addas, rhaid i’r awdurdod perthnasol ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso’r meini prawf dethol sylfaenol.

Cam 4

(10Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad o fwriad i wneud dyfarniad i’r darparwr a ddewiswyd fel y darparwr mwyaf addas.

(11Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (10) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 7.

(12Yn dilyn cyhoeddi’r hysbysiad ym mharagraff (10), mae’r cyfnod segur yn dechrau yn unol â rheoliad 12(4).

Cam 5

(13Pan gyflwynir sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)cydymffurfio â’r gofynion a bennir yn rheoliad 12(7) a (9), a

(b)cyfleu’r penderfyniad pellach a wneir o dan reoliad 12(10) ac unrhyw benderfyniadau dilynol pellach a wneir o dan reoliad 12(12), yn unol â rheoliad 12(11) a (13).

(14Pan na chyflwynir unrhyw sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), caniateir i’r awdurdod perthnasol symud o gam 4 i gam 6.

Cam 6

(15Caniateir i’r awdurdod perthnasol ymrwymo i’r contract ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben yn unol â rheoliad 12(14) neu (15).

Cam 7

(16Pan fo’r awdurdod perthnasol yn ymrwymo i gontract o dan gam 6, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad am ddyfarnu’r contract o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyfarnu’r contract.

(17Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (16) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 8.

Y Broses Gystadleuol

11.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn y Broses Gystadleuol o dan reoliad 7(2) neu (7), neu

(b)pan fo’r awdurdod perthnasol yn penderfynu dilyn y Broses Gystadleuol yn unol â rheoliad 7(5) neu (6).

(2Rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn y camau a nodir yn y rheoliad hwn.

Cam 1

(3Rhaid i’r awdurdod perthnasol benderfynu ar feini prawf dyfarnu’r contract neu’r fframwaith.

(4Wrth benderfynu ar feini prawf dyfarnu’r contract neu’r fframwaith, rhaid i’r awdurdod perthnasol ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso’r meini prawf dethol sylfaenol.

Cam 2

(5Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad sy’n gwahodd cynigion i ddarparu’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r contract i’w ddyfarnu, neu y mae’r cytundeb fframwaith i’w gwblhau, mewn perthynas â hwy.

(6Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 9.

Cam 3

(7Rhaid i’r awdurdod perthnasol asesu unrhyw gynigion a ddaw i law yn unol â meini prawf dyfarnu’r contract neu’r fframwaith.

(8Caniateir i awdurdod perthnasol asesu cynigion a ddaw i law o dan gam 3 fesul cam.

Cam 4

(9Rhaid i’r awdurdod perthnasol wneud penderfyniad ynghylch y darparwr a ddewiswyd.

Cam 5

(10Rhaid i’r awdurdod perthnasol hysbysu’n brydlon, yn ysgrifenedig—

(a)y darparwr llwyddiannus fod ei gynnig wedi bod yn llwyddiannus, a bod yr awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu contract neu gwblhau’r cytundeb fframwaith;

(b)pob darparwr aflwyddiannus fod ei gynnig wedi bod yn aflwyddiannus, a rhaid i hysbysiad o’r fath gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 10.

Cam 6

(11Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad o fwriad i wneud dyfarniad i’r darparwr a ddewiswyd neu i gwblhau cytundeb fframwaith.

(12Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (11) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 11.

(13Yn dilyn cyhoeddi’r hysbysiad ym mharagraff (11), mae’r cyfnod segur yn dechrau yn unol â rheoliad 12(4).

Cam 7

(14Pan gyflwynir sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)cydymffurfio â’r gofynion a bennir yn rheoliad 12(7) a (9), a

(b)hysbysu darparwyr posibl am y penderfyniad pellach a wneir o dan reoliad 12(10) ac unrhyw benderfyniadau dilynol pellach a wneir o dan reoliad 12(12), yn unol â rheoliad 12(11) a (13).

(15Pan na chyflwynir unrhyw sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), caniateir i’r awdurdod perthnasol symud o gam 6 i gam 8.

Cam 8

(16Caniateir i’r awdurdod perthnasol ymrwymo i’r contract neu gwblhau’r cytundeb fframwaith ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben yn unol â rheoliad 12(14) neu (15).

Cam 9

(17Pan fo’r awdurdod perthnasol yn ymrwymo i gontract neu’n cwblhau cytundeb fframwaith o dan gam 8, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad am ddyfarnu’r contract neu am gwblhau’r cytundeb fframwaith o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyfarnu’r contract neu gwblhau’r cytundeb fframwaith.

(18Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (17) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 12.

Y cyfnod segur

12.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod perthnasol—

(a)yn dilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1, Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2, y Broses Darparwr Mwyaf Addas neu’r Broses Gystadleuol,

(b)yn dyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth, neu

(c)yn dyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth.

(2Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod perthnasol yn dyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith un darparwr.

(3Ni chaiff yr awdurdod perthnasol ymrwymo i’r contract na chwblhau’r cytundeb fframwaith cyn diwedd y cyfnod segur.

(4Mae’r cyfnod segur yn dechrau ar y diwrnod y mae’r awdurdod perthnasol yn cyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad o fwriad i ddyfarnu contract neu gwblhau cytundeb fframwaith yn unol â rheoliad 8(4) (proses dyfarniad uniongyrchol 1), 9(5) (proses dyfarniad uniongyrchol 2), 10(10) (y broses darparwr mwyaf addas) neu 11(11) (y broses gystadleuol).

(5Caniateir i ddarparwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r awdurdod perthnasol pan fo’r darparwr—

(a)wedi ei dramgwyddo gan benderfyniad awdurdod perthnasol i ddyfarnu contract i ddarparwr arall neu i gwblhau cytundeb fframwaith â darparwr o’r fath fel y nodir yn yr hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (4), a

(b)yn credu y bu methiant i gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(6Rhaid cyflwyno sylwadau ysgrifenedig ym mharagraff (5) i’r awdurdod perthnasol cyn hanner nos ar ddiwedd yr wythfed diwrnod gwaith(9) ar ôl y diwrnod y mae’r cyfnod segur yn dechrau.

(7Pan fo sylwadau yn dod i law’r awdurdod perthnasol yn unol â pharagraff (5), rhaid iddo—

(a)caniatáu cyfle pellach i’r darparwr a dramgwyddwyd i esbonio neu egluro’r sylwadau a wnaed fel y mae’r awdurdod perthnasol yn ystyried ei bod yn briodol, a

(b)darparu yn brydlon unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani gan y darparwr a dramgwyddwyd pan fo gan yr awdurdod perthnasol ddyletswydd i gofnodi’r wybodaeth honno o dan reoliad 30 (gofynion gwybodaeth).

(8Nid yw paragraff (7)(b) yn ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth pan fyddai ei darparu—

(a)yn rhagfarnu buddiannau masnachol dilys unrhyw berson, gan gynnwys rhai’r awdurdod perthnasol,

(b)o bosibl yn rhagfarnu cystadleuaeth deg rhwng darparwyr, neu

(c)yn groes i fudd y cyhoedd mewn rhyw fodd arall.

(9Pan fo’n ofynnol, ar ôl i’r awdurdod perthnasol gydymffurfio â’r gofynion ym mharagraff (7), rhaid i’r awdurdod perthnasol adolygu’r penderfyniad i ddyfarnu’r contract neu gwblhau’r cytundeb fframwaith, gan ystyried y sylwadau a gyflwynwyd.

(10Yn dilyn yr adolygiad ym mharagraff (9), rhaid i’r awdurdod perthnasol wneud penderfyniad pellach ynghylch pa un ai—

(a)i ymrwymo i’r contract neu gwblhau’r cytundeb fframwaith yn unol â’r bwriad ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben,

(b)i fynd yn ôl i gam cynharach yn y broses ddethol ac ailadrodd y cam hwnnw a’r camau dilynol yn unol â rheoliad 15, neu

(c)i roi’r gorau i’r caffaeliad yn unol â rheoliad 15.

(11Rhaid cyfleu’r penderfyniad pellach ym mharagraff (10) yn brydlon, yn ysgrifenedig, gyda rhesymau—

(a)i bob darparwr a dramgwyddwyd a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig yn unol â pharagraff (5), a

(b)i bob darparwr yr oedd yr awdurdod perthnasol yn bwriadu, ar ddechrau’r cyfnod segur, dyfarnu’r contract iddo neu gwblhau’r cytundeb fframwaith ag ef.

(12Yn dilyn penderfyniad pellach o dan baragraff (11), caiff yr awdurdod perthnasol wneud unrhyw nifer o benderfyniadau dilynol pellach, a phob un yn disodli’r penderfyniad blaenorol—

(a)i ymrwymo i’r contract neu gwblhau’r cytundeb fframwaith yn unol â’r bwriad ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben,

(b)i fynd yn ôl i gam cynharach yn y broses ddethol ac ailadrodd y cam hwnnw a’r camau dilynol yn unol â rheoliad 15, neu

(c)i roi’r gorau i’r caffaeliad yn unol â rheoliad 15.

(13Rhaid cyfleu pob penderfyniad dilynol pellach o dan baragraff (12) yn brydlon, yn ysgrifenedig, gyda rhesymau—

(a)i bob darparwr a dramgwyddwyd a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig yn unol â pharagraff (5), a

(b)i bob darparwr yr oedd yr awdurdod perthnasol yn bwriadu, ar ddechrau’r cyfnod segur, dyfarnu’r contract iddo neu gwblhau’r cytundeb fframwaith ag ef.

(14Pan na ddaw unrhyw sylwadau ysgrifenedig i law yn unol â pharagraff (5), daw’r cyfnod segur i ben am hanner nos ar ddiwedd yr wythfed diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y dechreuodd y cyfnod segur.

(15Pan ddaw sylwadau ysgrifenedig i law yn unol â pharagraff (5), daw’r cyfnod segur i ben—

(a)ar y diwrnod—

(i)y mae’r awdurdod perthnasol wedi penderfynu ei fod yn barod i ymrwymo i’r contract neu gwblhau’r cytundeb fframwaith,

(ii)y mae’r awdurdod perthnasol wedi cyflawni’r gofynion a nodir ym mharagraffau (7), (9) a (10),

(iii)y mae’r awdurdod perthnasol wedi rhoi gwybod i ddarparwyr am ei benderfyniad pellach yn unol â pharagraff (11) ac unrhyw benderfyniadau dilynol pellach yn unol â pharagraff (13),

(iv)nad yw’r awdurdod perthnasol yn bwriadu gwneud unrhyw benderfyniadau dilynol pellach, neu ragor o benderfyniadau dilynol pellach, yn unol â pharagraff (12), a

(v)nad oes llai na 5 diwrnod gwaith wedi mynd heibio ers i’r awdurdod perthnasol roi gwybod i ddarparwyr am ei benderfyniad pellach diwethaf yn unol â pharagraff (11) neu (13), neu

(b)ar y diwrnod—

(i)y mae’r awdurdod perthnasol wedi penderfynu rhoi’r gorau i’r caffaeliad yn unol â rheoliad 15,

(ii)y mae’r awdurdod perthnasol wedi cyflawni’r gofynion a nodir ym mharagraffau (7), (9) a (10),

(iii)y mae’r awdurdod perthnasol wedi rhoi gwybod i ddarparwyr am ei benderfyniad pellach yn unol â pharagraff (11) ac unrhyw benderfyniadau pellach dilynol yn unol â pharagraff (13),

(iv)nad yw’r awdurdod perthnasol yn bwriadu gwneud unrhyw benderfyniadau pellach dilynol, neu ragor o benderfyniadau pellach dilynol, yn unol â pharagraff (12), a

(v)nad oes llai na 5 diwrnod gwaith wedi mynd heibio ers i’r awdurdod perthnasol roi gwybod i ddarparwyr am ei benderfyniad pellach diwethaf yn unol â pharagraff (11) neu (13), neu

(c)ar y diwrnod—

(i)y mae’r awdurdod perthnasol wedi penderfynu mynd yn ôl i gam cynharach yn y broses ddethol ac ailadrodd y cam hwnnw a chamau dilynol yn unol â’r weithdrefn berthnasol,

(ii)y mae’r awdurdod perthnasol wedi cyflawni’r gofynion a nodir ym mharagraffau (7), (9) a (10),

(iii)y mae’r awdurdod perthnasol wedi rhoi gwybod i ddarparwyr am ei benderfyniad pellach yn unol â pharagraff (11) ac unrhyw benderfyniadau pellach dilynol yn unol â pharagraff (13),

(iv)nad yw’r awdurdod perthnasol yn bwriadu gwneud unrhyw benderfyniadau pellach dilynol, neu ragor o benderfyniadau pellach dilynol, yn unol â pharagraff (12), a

(v)nad oes llai na 5 diwrnod gwaith wedi mynd heibio ers i’r awdurdod perthnasol roi gwybod i ddarparwyr am ei benderfyniad pellach diwethaf yn unol â pharagraff (11) neu (13).

(16Ym mharagraffau (10)(b), (12)(b) a (15)(c)(i), mae cyfeiriad at gam yn y broses ddethol yn gyfeiriad at gam y cyfeirir ato yn rheoliad 8 (proses dyfarniad uniongyrchol 1), 9 (proses dyfarniad uniongyrchol 2), 10 (y broses darparwr mwyaf addas) neu 11 (y broses gystadleuol).

Addasu contractau a chytundebau fframwaith yn ystod eu cyfnod

13.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan ddilynwyd Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 ar gyfer dyfarnu contract yn wreiddiol. Caniateir addasu’r contract yn ystod ei gyfnod heb ddilyn proses gaffael newydd o dan y Rheoliadau hyn pan na fo’r addasiad yn gwneud y contract yn sylweddol wahanol o ran cymeriad.

(2Mae paragraff (3) yn gymwys pan ddilynwyd Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2, y Broses Darparwr Mwyaf Addas neu’r Broses Gystadleuol ar gyfer dyfarnu contract neu gwblhau cytundeb fframwaith yn wreiddiol.

(3Ni chaniateir addasu’r contract neu’r cytundeb fframwaith am wasanaethau iechyd perthnasol yn ystod ei gyfnod heb ddilyn proses gaffael newydd o dan y Rheoliadau hyn ond pan fo un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (4) yn gymwys.

(4Yr amodau yw—

(a)y darperir ar gyfer yr addasu yn glir ac yn ddiamwys yn y contract neu’r cytundeb fframwaith,

(b)bod yr addasiad yn newid yn hunaniaeth y darparwr yn unig oherwydd olyniaeth i mewn i sefyllfa darparwr yn dilyn newidiadau corfforaethol gan gynnwys, er enghraifft, meddiannu, uno, caffael, neu ansolfedd a bod yr awdurdod perthnasol wedi ei fodloni bod y darparwr yn bodloni’r meini prawf dethol sylfaenol,

(c)nad yw’r addasiad yn gwneud y contract na’r cytundeb fframwaith yn sylweddol wahanol o ran cymeriad a’i fod wedi ei wneud mewn ymateb i ffactorau allanol sydd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod perthnasol a’r darparwr gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig—

(i)i newidiadau yn nifer y cleifion neu ddefnyddwyr gwasanaethau, neu

(ii)i newidiadau mewn prisiau yn unol â fformiwla y darperir ar ei chyfer yn y contract, neu

(d)y bo modd priodoli’r addasiad i benderfyniad yr awdurdod perthnasol a bod y ddau faen prawf ym mharagraff (5) wedi eu bodloni.

(5Y meini prawf yw—

(a)nad yw’r addasiad yn gwneud y contract neu’r cytundeb fframwaith yn sylweddol wahanol o ran cymeriad, a

(b)bod y newid cronnus yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith ers ymrwymo iddo neu ers ei gwblhau—

(i)yn llai na £500,000, neu

(ii)yn llai na 25% o werth oes amcangyfrifedig y contract presennol neu’r cytundeb fframwaith presennol pan ymrwymwyd iddo neu y’i cwblhawyd.

(6Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad am yr addasiad—

(a)pan fo addasiad yn cael ei wneud i gontract neu gytundeb fframwaith yn unol â pharagraff (1) neu (3),

(b)pan fo modd priodoli’r addasiad i benderfyniad yr awdurdod perthnasol, ac

(c)pan fo’r newid cronnus yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract ers ymrwymo iddo, neu’r cytundeb fframwaith ers ei gwblhau, yn £500,000 neu fwy.

(7Rhaid i’r hysbysiad ym mharagraff (6)—

(a)cynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 13, a

(b)cael ei gyflwyno i’w gyhoeddi o fewn 30 o ddiwrnodau i addasu’r contract neu’r cytundeb fframwaith.

Dyfarnu neu addasu contract ar frys

14.—(1Caniateir i’r awdurdod perthnasol ddyfarnu neu addasu contract heb fodloni’r gofynion yn rheoliadau 7 i 13 pan fo’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.

(2Yr amodau yw pan fo awdurdod perthnasol yn ystyried—

(a)bod rhaid dyfarnu neu addasu contract ar frys,

(b)na wnaeth yr awdurdod perthnasol rag-weld y rheswm dros y brys ac nad oedd modd priodoli’r rheswm dros y brys i’r awdurdod perthnasol, ac

(c)y byddai gohirio dyfarnu neu addasu’r contract er mwyn bodloni gofynion rheoliadau 7 i 13 yn debygol o beri risg i ddiogelwch cleifion neu ddiogelwch y cyhoedd.

(3Caniateir i’r awdurdod perthnasol addasu contract presennol heb fodloni’r gofynion yn rheoliadau 7 i 13 pan fo’r amodau ym mharagraff (4) wedi eu bodloni.

(4Yr amodau yw—

(a)bod awdurdod perthnasol wedi cychwyn proses gaffael o dan y Rheoliadau hyn i ddyfarnu contract,

(b)bod cyfnod segur wedi dechrau yn unol â rheoliad 12(4),

(c)bod yr awdurdod perthnasol wedi ceisio cyngor arbenigol annibynnol yn unol â rheoliad 29 yn y cyfnod segur,

(d)bod contract presennol am y gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r trefniant contractio arfaethedig yn berthnasol iddynt a bod yr awdurdod perthnasol yn ystyried bod cyfnod y contract hwnnw yn debygol o ddod i ben cyn diwedd y cyfnod segur,

(e)bod yr awdurdod perthnasol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus addasu’r contract presennol cyn i’r contract newydd gymryd effaith er mwyn sicrhau parhad rhwng y contract presennol a dyfarniad arfaethedig y contract newydd, ac

(f)bod yr awdurdod perthnasol yn ystyried nad yw’n bosibl bodloni gofynion rheoliadau 7 i 13 cyn i gyfnod y contract presennol ddod i ben.

(5Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno hysbysiad am ddyfarnu’r contract, neu’r addasiad, i’w gyhoeddi.

(6Rhaid i’r hysbysiad ym mharagraff (5)—

(a)cael ei gyflwyno i’w gyhoeddi o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyfarnu’r contract ar frys neu addasu’r contract ar frys, a

(b)yn achos—

(i)dyfarniad brys, gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 14;

(ii)addasiad brys, gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 15.

Rhoi’r gorau i gaffaeliad neu ailadrodd camau mewn proses gaffael

15.—(1Ar unrhyw adeg cyn dyfarnu contract neu gwblhau cytundeb fframwaith, caniateir i awdurdod perthnasol—

(a)dewis peidio â dyfarnu contract neu beidio â chwblhau cytundeb fframwaith a rhoi’r gorau i gaffael gwasanaethau iechyd perthnasol o dan y Rheoliadau hyn, neu

(b)mynd yn ôl i gam cynharach yn y broses ddethol ac ailadrodd y cam hwnnw a chamau dilynol.

(2Ni chaniateir i awdurdod perthnasol ond penderfynu rhoi’r gorau i gaffaeliad o dan baragraff (1)(a) neu fynd yn ôl i gam cynharach o dan baragraff (1)(b) yn ystod y cyfnod segur pan fo’r penderfyniad hwnnw yn unol â’r weithdrefn a’r gofynion yn rheoliad 12.

(3Pan fo awdurdod perthnasol yn gwneud penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2), ni chaiff yr awdurdod perthnasol ond rhoi’r gorau i’r caffaeliad neu ailadrodd y camau hynny ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben.

(4Pan fo awdurdod perthnasol yn dewis peidio â dyfarnu contract neu beidio â chwblhau cytundeb fframwaith ac yn rhoi’r gorau i’r caffaeliad o dan baragraff (1)(a), rhaid iddo gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw.

(5O ran yr hysbysiad ym mharagraff (4)—

(a)pan fo’r penderfyniad wedi ei wneud mewn cyfnod segur, rhaid ei gyflwyno i’w gyhoeddi—

(i)ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben, a

(ii)o fewn 30 o ddiwrnodau i ddiwedd y cyfnod segur hwnnw;

(b)mewn unrhyw achos arall, rhaid ei gyflwyno i’w gyhoeddi o fewn 30 o ddiwrnodau i’r penderfyniad i roi’r gorau i’r caffaeliad;

(c)rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 17.

(6Pan fo awdurdod perthnasol yn penderfynu ailadrodd cam o dan baragraff (1)(b), rhaid i’r awdurdod perthnasol hysbysu darparwyr perthnasol am y penderfyniad hwnnw yn ysgrifenedig.

(7Mae paragraff (6) wedi ei fodloni naill ai—

(a)pan fo penderfyniad i ailadrodd cam neu gamau wedi ei wneud yn unol â rheoliad 12(10)(b) ac wedi ei gyfleu i ddarparwr yn unol â rheoliad 12(11), neu

(b)pan fo penderfyniad i ailadrodd cam neu gamau wedi ei wneud yn unol â rheoliad 12(12)(b) ac wedi ei gyfleu i ddarparwr yn unol â rheoliad 12(13).

(8Yn y rheoliad hwn—

(a)mae cyfeiriad at gam yn y broses ddethol yn gyfeiriad at gam y cyfeirir ato yn rheoliad 8 (proses dyfarniad uniongyrchol 1), 9 (proses dyfarniad uniongyrchol 2), 10 (y broses darparwr mwyaf addas) neu 11 (y broses gystadleuol);

(b)ystyr “darparwyr perthnasol” ym mharagraff (6) yw unrhyw ddarparwr sydd wedi cael gwybod yn y broses ddethol ei fod yn cael ei ystyried ar gyfer dyfarnu contract neu i fod yn barti i gytundeb fframwaith.

RHAN 3Cytundebau fframwaith

Cytundebau fframwaith

16.—(1Yn y Rheoliadau hyn, cytundeb fframwaith yw cytundeb rhwng un neu ragor o awdurdodau perthnasol ac un neu ragor o ddarparwyr sy’n darparu ar gyfer dyfarnu yn y dyfodol un neu ragor o gontractau ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd perthnasol yn ystod cyfnod y cytundeb fframwaith.

(2Caniateir i awdurdod perthnasol gwblhau cytundeb fframwaith.

(3Rhaid i gytundeb fframwaith nodi’r awdurdodau perthnasol y caniateir iddynt ddyfarnu contractau ar sail y cytundeb fframwaith.

(4Ni chaiff cyfnod cytundeb fframwaith fod yn hwy nag 8 mlynedd, heblaw mewn achosion eithriadol pan fo’r awdurdod perthnasol wedi ei fodloni bod pwnc y cytundeb fframwaith yn cyfiawnhau tymor hwy.

(5Mae cyfeiriadau yn Rhan 2 at gwblhau cytundeb fframwaith i’w trin fel rhai sy’n cynnwys cyfeiriadau at ddethol darparwyr pellach i fod yn bartïon i gytundeb fframwaith.

Ychwanegu darparwyr ychwanegol i gytundeb fframwaith

17.—(1Rhaid i awdurdod perthnasol, yn ystod cyfnod cytundeb fframwaith, ddilyn y Broses Gystadleuol er mwyn caniatáu i ddarparwyr ychwanegol gael eu dethol i fod yn bartïon i’r cytundeb fframwaith.

(2Rhaid cychwyn y Broses Gystadleuol y cyfeirir ati ym mharagraff (1) o leiaf unwaith—

(a)yn ystod y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y cytundeb fframwaith ei gwblhau, a

(b)yn ystod y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y mae’r Broses Gystadleuol ar gyfer dethol darparwyr ychwanegol i fod yn barti i’r cytundeb fframwaith, o dan baragraff (2)(a), wedi cael ei chwblhau.

Contractau sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith

18.—(1Dim ond yn unol â’r rheoliad hwn y caniateir i awdurdod perthnasol ddyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith.

(2Caniateir i awdurdod perthnasol ddyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith.

(3Ni chaiff contractau rhwng awdurdod perthnasol a darparwr sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith beri addasiadau sylweddol i’r telerau sydd wedi eu gosod yn y cytundeb fframwaith hwnnw.

(4Pan fo cytundeb fframwaith wedi ei gwblhau rhwng awdurdod perthnasol ac un darparwr, caniateir i awdurdod perthnasol ddyfarnu contract heb gystadleuaeth yn unol â’r cytundeb fframwaith hwnnw.

(5Pan fo cytundeb fframwaith wedi ei gwblhau gyda mwy nag un darparwr, caniateir i awdurdod perthnasol ddyfarnu contract gyda chystadleuaeth neu heb gystadleuaeth.

(6Mae’r penderfyniad o dan baragraff (5) yn ôl disgresiwn yr awdurdod perthnasol ond rhaid ei wneud yn unol â’r cytundeb fframwaith.

Dyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith un darparwr

19.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cytundeb fframwaith wedi ei gwblhau rhwng awdurdod perthnasol ac un darparwr, a bo’r awdurdod perthnasol yn dyfarnu contract heb gystadleuaeth.

(2Rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)dyfarnu unrhyw gontract heb gystadleuaeth, a

(b)cyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad am ddyfarnu’r contract o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyfarnu’r contract.

(3Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 3.

Dyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth

20.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod perthnasol yn penderfynu dyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth.

(2Rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)dilyn y camau yn y rheoliad hwn, a

(b)dyfarnu unrhyw gontract gyda chystadleuaeth.

Cam 1

(3Rhaid i’r awdurdod perthnasol benderfynu ar feini prawf dyfarnu’r contract.

(4Wrth benderfynu ar feini prawf dyfarnu’r contract, rhaid i’r awdurdod perthnasol ystyried y meini prawf allweddol.

Cam 2

(5Rhaid i’r awdurdod perthnasol wahodd pob darparwr perthnasol sy’n barti i’r cytundeb fframwaith i gyflwyno cynnig i ddarparu’r gwasanaethau iechyd perthnasol.

(6O dan baragraff (5), mae darparwr perthnasol yn ddarparwr y mae’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ei wahodd yn unol â’r cytundeb fframwaith.

(7Rhaid i’r gwahoddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 16.

Cam 3

(8Rhaid i’r awdurdod perthnasol asesu unrhyw gynigion a ddaw i law yn unol â meini prawf dyfarnu’r contract.

(9Caniateir i awdurdod perthnasol asesu cynigion a ddaw i law o dan gam 3 fesul cam.

Cam 4

(10Rhaid i’r awdurdod perthnasol wneud penderfyniad ynghylch y darparwr a ddewiswyd.

Cam 5

(11Rhaid i’r awdurdod perthnasol hysbysu’n brydlon, yn ysgrifenedig—

(a)y darparwr llwyddiannus fod ei gynnig wedi bod yn llwyddiannus, a bod yr awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu contract;

(b)pob darparwr aflwyddiannus fod ei gynnig wedi bod yn aflwyddiannus, a rhaid i hysbysiad o’r fath gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 10.

Cam 6

(12Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad o fwriad i wneud dyfarniad i’r darparwr a ddewiswyd.

(13Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (12) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 11.

(14Yn dilyn cyhoeddi’r hysbysiad ym mharagraff (12), mae’r cyfnod segur yn dechrau yn unol â rheoliad 12(4).

Cam 7

(15Pan gyflwynir sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)cydymffurfio â’r gofynion a bennir yn rheoliad 12(7) a (9), a

(b)hysbysu darparwyr posibl am y penderfyniad pellach a wneir o dan reoliad 12(10) ac unrhyw benderfyniadau dilynol pellach a wneir o dan reoliad 12(12), yn unol â rheoliad 12(11) a (13).

(16Pan na chyflwynir unrhyw sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), caniateir i’r awdurdod perthnasol symud o gam 6 i gam 8.

Cam 8

(17Caniateir i’r awdurdod perthnasol ymrwymo i’r contract ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben yn unol â rheoliad 12(14) neu (15).

Cam 9

(18Pan fo’r awdurdod perthnasol yn ymrwymo i gontract o dan gam 8, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad am ddyfarnu’r contract o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyfarnu’r contract.

(19Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (18) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 12.

Dyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth

21.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo cytundeb fframwaith yn caniatáu dyfarnu contract ar sail y cytundeb fframwaith hwnnw heb gystadleuaeth, a

(b)pan fo awdurdod perthnasol yn penderfynu dyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth.

(2Rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)dilyn y camau a nodir yn y rheoliad hwn, a

(b)dyfarnu unrhyw gontract heb gystadleuaeth.

Cam 1

(3Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad o fwriad i wneud dyfarniad i’r darparwr.

(4Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 2.

(5Yn dilyn cyhoeddi’r hysbysiad ym mharagraff (4), mae’r cyfnod segur yn dechrau yn unol â rheoliad 12(4).

Cam 2

(6Pan gyflwynir sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)cydymffurfio â’r gofynion a bennir yn rheoliad 12(7) a (9), a

(b)cyfleu’r penderfyniad pellach a wneir o dan reoliad 12(10) ac unrhyw benderfyniadau dilynol pellach a wneir o dan reoliad 12(12), yn unol â rheoliad 12(11) a (13).

(7Pan na chyflwynir unrhyw sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 12(5), caniateir i’r awdurdod perthnasol symud o gam 1 i gam 3.

Cam 3

(8Caniateir i’r awdurdod perthnasol ymrwymo i’r contract ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben yn unol â rheoliad 12(13) neu (14).

Cam 4

(9Os yw’r awdurdod perthnasol yn dyfarnu contract o dan gam 4, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyflwyno i’w gyhoeddi hysbysiad am ddyfarnu’r contract o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyfarnu’r contract.

(10Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (9) gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 3.

RHAN 4Gofynion pellach wrth gaffael gwasanaethau iechyd perthnasol

Meini prawf dethol sylfaenol

22.—(1Ni chaiff awdurdod perthnasol ddyfarnu contract am wasanaethau iechyd perthnasol i ddarparwr nad yw’n bodloni’r meini prawf dethol sylfaenol, na chwblhau cytundeb fframwaith â darparwr o’r fath.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i gontract—

(a)pan fo’r awdurdod perthnasol yn dilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1;

(b)sy’n gontract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith yn unol â rheoliad 18(2).

(3Rhaid i’r awdurdod perthnasol benderfynu ar y meini prawf dethol sylfaenol yn unol ag Atodlen 18.

Esemptiad cyffredinol rhag dyletswyddau i gyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif

23.—(1Nid yw’n ofynnol i awdurdod perthnasol gyhoeddi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn os yw’r awdurdod perthnasol wedi ei fodloni bod yr wybodaeth yn wybodaeth fasnachol sensitif ac nad yw ei chyhoeddi o’r budd mwyaf i’r cyhoedd.

(2O ran “gwybodaeth fasnachol sensitif” mae’n wybodaeth—

(a)sy’n gyfrinach fasnach, neu

(b)a fyddai’n debygol o ragfarnu buddiannau masnachol unrhyw berson pe bai’n cael ei chyhoeddi.

(3Os nad yw awdurdod perthnasol yn cyhoeddi gwybodaeth o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi’r ffaith bod gwybodaeth yn cael ei dal yn ôl yn yr hysbysiad perthnasol.

(4Nid yw’r rheoliad hwn yn atal awdurdod perthnasol rhag datgelu gwybodaeth fasnachol sensitif yn y broses o geisio cyngor o dan reoliad 29.

Cyhoeddi hysbysiadau

24.—(1Mae unrhyw ofyniad o dan reoliad a bennir ym mharagraff (13) i awdurdod perthnasol gyflwyno hysbysiad i’w gyhoeddi wedi ei fodloni drwy iddo gael ei gyhoeddi ar y platfform digidol canolog gan yr awdurdod perthnasol.

(2Mae’r gofyniad ym mharagraff (1) wedi ei fodloni pan fo’r awdurdod perthnasol wedi cyflwyno’r hysbysiad i’r platfform digidol Cymreig yn gyntaf a—

(a)bo’r Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet wedi rhoi gwybod i’r awdurdod perthnasol fod yr hysbysiad wedi ei gyflwyno’n llwyddiannus i’w gyhoeddi i’r platfform digidol canolog, neu

(b)bo modd i ddarparwyr ac aelodau o’r cyhoedd gyrchu’r hysbysiad ar y platfform digidol canolog.

Y platfform digidol Cymreig heb fod ar gael

(3Mae paragraff (4) yn gymwys os yw awdurdod perthnasol wedi ceisio cydymffurfio â pharagraff (2), ond bod y platfform digidol Cymreig heb fod ar gael fel na ellir bodloni’r gofyniad ym mharagraff (2).

(4Caiff awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad—

(a)ar y platfform digidol canolog, neu

(b)ar y platfform digidol canolog drwy ddefnyddio system ar-lein arall.

(5Pan fo paragraff (4) yn gymwys bydd y gofyniad ym mharagraff (1) wedi ei fodloni—

(a)pan fo’r Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet wedi rhoi gwybod i’r awdurdod perthnasol fod yr hysbysiad wedi ei gyflwyno’n llwyddiannus i’w gyhoeddi, neu fod yr wybodaeth wedi ei chyflwyno’n llwyddiannus i’w chyhoeddi, i’r platfform digidol canolog, neu

(b)pan fo modd i ddarparwyr ac aelodau o’r cyhoedd gyrchu’r hysbysiad neu’r wybodaeth ar y platfform digidol canolog.

Y platfform digidol canolog heb fod ar gael

(6Mae paragraff (7) yn gymwys pan fo awdurdod perthnasol wedi ceisio cydymffurfio â pharagraff (2), ond—

(a)nad yw’r awdurdod perthnasol wedi cael cadarnhad gan y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet fod yr hysbysiad wedi ei gyhoeddi yn llwyddiannus ar y platfform digidol canolog, a

(b)nad oes modd i ddarparwyr ac aelodau o’r cyhoedd gyrchu’r hysbysiad ar y platfform digidol canolog.

(7Caniateir i’r awdurdod perthnasol gyflwyno hysbysiad i’w gyhoeddi ar y platfform digidol Cymreig yn unig neu, os yw heb fod ar gael, ar system ar-lein arall—

(a)yn achos hysbysiad am ddyfarnu contract neu hysbysiad am addasu contract o dan reoliad 14 (dyfarnu neu addasu contract ar frys), ar ôl i 4 awr fynd heibio ers cyflwyno’r hysbysiad i’w gyhoeddi i’r platfform digidol canolog, neu

(b)yn achos unrhyw hysbysiad arall, ar ôl i 48 awr fynd heibio ers cyflwyno’r hysbysiad i’w gyhoeddi i’r platfform digidol canolog.

(8Pan fo paragraff (7) yn gymwys, mae’r awdurdod perthnasol i’w drin fel pe bai am y tro yn bodloni’r gofyniad ym mharagraff (1).

(9Nid yw’r awdurdod perthnasol i’w drin mwyach fel pe bai am y tro yn bodloni’r gofyniad ym mharagraff (1) os yw’r Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet yn rhoi gwybod i’r awdurdod perthnasol fod cyflwyno’r hysbysiad i’r platfform digidol canolog wedi ei wrthod.

(10Rhaid i awdurdod perthnasol sy’n defnyddio’r platfform digidol Cymreig neu system ar-lein arall o dan baragraff (7) gydweithredu â’r Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet i sicrhau wedi hynny—

(a)y cyhoeddir yr hysbysiad ar y platfform digidol canolog, a

(b)bod modd i ddarparwyr ac aelodau o’r cyhoedd gyrchu’r hysbysiad ar y system honno.

(11Ystyr “system ar-lein arall” yw system ar-lein ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am gaffael—

(a)sy’n system rad ac am ddim ac ar gael yn rhwydd i ddarparwyr ac aelodau o’r cyhoedd,

(b)sy’n system hygyrch i bobl anabl, ac

(c)nad y platfform digidol canolog na’r platfform digidol Cymreig mohoni.

(12Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod perthnasol rhag cyhoeddi’r hysbysiad yn rhywle heblaw ar y platfform digidol canolog, y platfform digidol Cymreig neu ar system ar-lein arall, ond ni chaiff yr awdurdod perthnasol wneud hynny cyn cydymffurfio â’r gofynion ym mharagraff (1).

(13Y rheoliadau a bennir ym mharagraff (1) yw—

(a)rheoliad 8(4) (hysbysiad o fwriad i wneud dyfarniad o dan Broses Dyfarniad Uniongyrchol 1),

(b)rheoliad 8(10) (hysbysiad am ddyfarnu’r contract o dan Broses Dyfarniad Uniongyrchol 1),

(c)rheoliad 9(5) (hysbysiad o fwriad i wneud dyfarniad o dan Broses Dyfarniad Uniongyrchol 2),

(d)rheoliad 9(11) (hysbysiad am ddyfarnu’r contract o dan Broses Dyfarniad Uniongyrchol 2),

(e)rheoliad 10(3) (hysbysiad o fwriad i ddilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas),

(f)rheoliad 10(10) (hysbysiad o fwriad i wneud dyfarniad i’r darparwr a ddewiswyd o dan y Broses Darparwr Mwyaf Addas),

(g)rheoliad 10(16) (hysbysiad am ddyfarnu’r contract o dan y Broses Darparwr Mwyaf Addas),

(h)rheoliad 11(5) (hysbysiad sy’n gwahodd cynigion i ddarparu gwasanaethau iechyd perthnasol ar gyfer contract neu gytundeb fframwaith gan ddefnyddio’r Broses Gystadleuol),

(i)rheoliad 11(11) (hysbysiad o fwriad i wneud dyfarniad i’r darparwr a ddewiswyd neu i gwblhau cytundeb fframwaith gan ddefnyddio’r Broses Gystadleuol),

(j)rheoliad 11(17) (hysbysiad am ddyfarnu’r contract neu am gwblhau cytundeb fframwaith gan ddilyn y Broses Gystadleuol),

(k)rheoliad 13(6) (hysbysiad am addasiad),

(l)rheoliad 14(5) (hysbysiad am ddyfarnu neu addasu ar frys),

(m)rheoliad 15(4) (hysbysiad am benderfyniad i roi’r gorau i gaffaeliad),

(n)rheoliad 19(2)(b) (hysbysiad am ddyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith un darparwr),

(o)rheoliad 20(11) (hysbysiad o fwriad i ddyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth),

(p)rheoliad 20(18) (hysbysiad am ddyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth),

(q)rheoliad 21(3) (hysbysiad o fwriad i ddyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth), ac

(r)rheoliad 21(9) (hysbysiad am ddyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth).

(14Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “heb fod ar gael” yw nad yw’r platfform digidol Cymreig wedi bod yn weithredol am ddim llai na 4 awr;

(b)ystyr “platfform digidol canolog” yw’r system ar-lein a sefydlwyd gan y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet(10);

(c)ystyr “platfform digidol Cymreig” yw’r system ar-lein a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i’w defnyddio gan awdurdodau perthnasol y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt(11).

Gwaharddiadau

25.—(1Ni chaiff awdurdod perthnasol ddyfarnu contract i ddarparwr gwaharddedig na chwblhau cytundeb fframwaith ag ef a rhaid iddo wahardd darparwr gwaharddedig rhag proses gaffael o dan y Rheoliadau hyn.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo’r awdurdod perthnasol yn ystyried bod dyfarnu contract i ddarparwr gwaharddedig, neu gwblhau cytundeb fframwaith ag ef, yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

(3Caiff yr awdurdod perthnasol wahardd darparwr gwaharddadwy rhag proses gaffael o dan y Rheoliadau hyn.

(4Pan fo darparwr yn darparu unrhyw dystiolaeth yn unol ag adran 58 o Ddeddf 2023, a bo’r awdurdod perthnasol yn ystyried bod mesurau o’r fath yn annigonol, rhaid i’r awdurdod perthnasol roi i’r darparwr ddatganiad o’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(5Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gontract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith.

Gwaharddiadau: is-gontractwyr

26.—(1Fel rhan o broses gaffael, rhaid i awdurdod perthnasol—

(a)gofyn am wybodaeth ynghylch a yw darparwr yn bwriadu is-gontractio’r gwaith o gyflawni’r cyfan neu ran o’r contract, a

(b)ceisio canfod a yw unrhyw is-gontractwr bwriadedig ar y rhestr o ragwaharddiadau.

(2Caiff awdurdod perthnasol, fel rhan o broses gaffael, ofyn am wybodaeth at ddiben canfod a yw unrhyw is-gontractwr bwriadedig yn ddarparwr gwaharddedig neu’n ddarparwr gwaharddadwy.

(3Os yw awdurdod perthnasol, ar ôl gofyn am wybodaeth o dan baragraff (1) neu (2), yn ystyried bod darparwr yn bwriadu is-gontractio i is-gontractwr sy’n ddarparwr gwaharddedig, rhaid i’r awdurdod perthnasol wahardd y darparwr rhag y broses gaffael.

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys pan fo’r awdurdod perthnasol yn ystyried bod angen dyfarnu contract i ddarparwr gwaharddedig neu fod angen cwblhau cytundeb fframwaith â darparwr o’r fath er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

(5Os yw awdurdod perthnasol, ar ôl gofyn am wybodaeth o dan baragraff (1) neu (2), yn ystyried bod darparwr yn bwriadu is-gontractio i is-gontractwr sy’n ddarparwr gwaharddadwy, caiff yr awdurdod perthnasol wahardd y darparwr rhag y broses gaffael.

(6Cyn gwahardd darparwr o dan baragraff (3) neu (4), rhaid i awdurdod perthnasol—

(a)hysbysu’r darparwr am ei fwriad, a

(b)rhoi cyfle rhesymol i’r darparwr ddod o hyd i is-gontractwr arall i is-gontractio iddo.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhestr o ragwaharddiadau” yw’r rhestr a gedwir o dan adran 62 (rhestr o ragwaharddiadau) o Ddeddf 2023.

Gwrthdaro buddiannau

27.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod perthnasol yn cynnal proses gaffael o dan y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i awdurdod perthnasol gymryd mesurau priodol i atal, nodi ac unioni yn effeithiol wrthdaro buddiannau sy’n codi wrth gynnal prosesau caffael o dan y Rheoliadau hyn.

(3At ddibenion paragraff (2), mae gwrthdaro buddiannau yn cynnwys unrhyw sefyllfa pan fo gan unigolyn, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, fuddiant ariannol, buddiant economaidd neu fuddiant personol arall y gellid canfod ei fod yn peryglu ei ddidueddrwydd a’i annibyniaeth yng nghyd-destun y broses gaffael.

(4Pan fo gan unigolyn wrthdaro buddiannau o ran cynnal proses gaffael, mae’n ofynnol i unigolyn o’r fath ymesgusodi o’r broses gaffael honno.

(5Os yw’r naill amod neu’r llall neu’r ddau ym mharagraff (6) yn gymwys—

(a)nid yw’n ofynnol i’r unigolyn ymesgusodi, o dan baragraff (4), o’r broses gaffael, a

(b)rhaid i awdurdod perthnasol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw’r gwrthdaro buddiannau yn rhoi mantais annheg i ddarparwr neu’n rhoi darparwr o dan anfantais annheg yn y broses gaffael.

(6Yr amodau yw—

(a)mai’r unigolyn yw’r unig berson ag arbenigedd mewn maes y mae’n ofynnol ei asesu yn unol â meini prawf dyfarnu’r contract neu’r fframwaith;

(b)mai’r unigolyn yw’r unig berson a chanddo’r cymwysterau priodol neu’r wybodaeth briodol sydd ar gael i weithredu mewn proses gaffael.

(7Gall camau rhesymol gynnwys ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw unrhyw wrthdaro buddiannau a nodir yn rhoi mantais annheg i’r darparwr nac yn rhoi darparwr o dan anfantais annheg yn y broses gaffael.

(8Mae paragraff (9) yn gymwys os yw awdurdod perthnasol yn ystyried—

(a)bod gwrthdaro buddiannau yn rhoi mantais annheg i ddarparwr mewn proses gaffael, a

(b)na fydd y darparwr yn cymryd camau y mae’r awdurdod perthnasol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw darparwr yn cael mantais annheg.

(9Rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)trin y darparwr fel darparwr gwaharddedig yn y broses gaffael at ddiben—

(i)dyfarnu contract o dan reoliad 8 (proses dyfarniad uniongyrchol 1) neu reoliad 9 (proses dyfarniad uniongyrchol 2),

(ii)asesu unrhyw ddarparwyr posibl a nodwyd o dan reoliad 10 (y broses darparwr mwyaf addas), neu

(iii)asesu unrhyw gynigion sydd wedi dod i law o dan reoliad 11 (y broses gystadleuol);

(b)gwahardd y darparwr rhag y broses gaffael.

(10Cyn gwahardd darparwr o dan baragraff (9), rhaid i awdurdod perthnasol—

(a)hysbysu’r darparwr am ei fwriad, a

(b)rhoi cyfle rhesymol i’r darparwr i gymryd y camau rhesymol y mae’r awdurdod perthnasol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau na roddir mantais annheg i ddarparwr.

(11Nid yw paragraff (9) yn gymwys pan fo’r awdurdod perthnasol yn ystyried bod angen dyfarnu contract i ddarparwr o’r fath neu fod angen cwblhau cytundeb fframwaith â darparwr o’r fath er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

Terfynu contractau

28.—(1Rhaid i awdurdod perthnasol sicrhau bod pob contract y mae’n ei ddyfarnu yn cynnwys darpariaethau sy’n galluogi’r awdurdod perthnasol i derfynu’r contract—

(a)pan fo’n ofynnol gwneud addasiad i’r contract na ellir ei wneud o dan reoliad 14 heb broses gaffael newydd;

(b)pan ddylai’r darparwr, ar adeg dyfarnu’r contract, fod wedi ei wahardd rhag y broses gaffael yn unol â rheoliad 25(1) neu 26(3);

(c)pan fo’r darparwr, ers i’r contract gael ei ddyfarnu, wedi dod yn ddarparwr gwaharddedig neu’n ddarparwr gwaharddadwy;

(d)pan fo is-gontractwr y mae’r darparwr yn is-gontractio’r gwaith o gyflawni’r cyfan neu ran o’r contract iddo yn ddarparwr gwaharddedig neu’n ddarparwr gwaharddadwy.

(2Caniateir i’r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)datgan sut y mae’r pŵer i gael ei arfer;

(b)mynd i’r afael â materion canlyniadol a allai godi o’r terfynu.

(3Os nad yw contract a ddyfernir o dan y Rheoliadau hyn yn cynnwys y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), mae pŵer i’r awdurdod perthnasol wneud hynny o roi rhybudd rhesymol i’r darparwr yn un o delerau ymhlyg y contract hwnnw.

RHAN 5Cyngor, gwybodaeth ac archwilio

Cyngor

29.—(1Wrth wneud penderfyniadau yn unol â’r Rheoliadau hyn, caiff awdurdod perthnasol geisio neu fel arall gael cyngor arbenigol annibynnol.

(2O ran darparu gwybodaeth i arbenigwr annibynnol gan awdurdod perthnasol at ddiben paragraff (1)—

(a)nid yw’n torri unrhyw rwymedigaeth cyfrinachedd sy’n ddyledus gan yr awdurdod perthnasol, ond

(b)mae’n ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad datganedig ar ddatgelu a osodir gan unrhyw ddeddfiad (heblaw cyfyngiad sy’n caniatáu datgelu os y’i hawdurdodir gan ddeddfiad).

(3At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyngor arbenigol annibynnol” yw cyngor sy’n ymwneud â chaffael gwasanaethau iechyd perthnasol o dan y Rheoliadau hyn gan berson a chanddo arbenigedd, cymwysterau neu brofiad perthnasol sydd wedi ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru, neu wedi ei gymeradwyo ganddynt, at y diben hwnnw.

(4Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal yr awdurdod perthnasol rhag ceisio neu fel arall gael cyngor, gan gynnwys cyngor sy’n ymwneud â chaffael gwasanaethau iechyd perthnasol o dan y Rheoliadau hyn, ar unrhyw adeg.

Gofynion gwybodaeth

30.—(1Rhaid i awdurdod perthnasol gadw cofnod o’r canlynol—

(a)enw unrhyw ddarparwr y mae’n dyfarnu contract iddo;

(b)enw unrhyw ddarparwr sy’n barti i gytundeb fframwaith;

(c)cyfeiriad naill ai swyddfa gofrestredig neu brif fan busnes pob darparwr y cyfeirir ato ym mharagraff (a) neu (b);

(d)y broses gaffael a ddilynwyd;

(e)hunaniaeth unigolion sy’n ymwneud â’r broses gaffael;

(f)pan ddilynwyd Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2 neu’r Broses Darparwr Mwyaf Addas—

(i)disgrifiad o’r ffordd y cafodd y meini prawf allweddol eu hystyried;

(ii)y meini prawf dethol sylfaenol a gafodd eu hasesu wrth wneud penderfyniad;

(g)pan ddilynwyd y Broses Gystadleuol—

(i)disgrifiad o’r ffordd y cafodd y meini prawf allweddol eu hystyried;

(ii)y meini prawf dethol sylfaenol a gafodd eu hasesu;

(iii)y meini prawf ar gyfer dyfarnu contract neu fframwaith a gafodd eu gwerthuso o dan y broses gaffael;

(h)y rhesymau dros benderfyniadau a wnaed o dan y Rheoliadau hyn;

(i)manylion unrhyw ddarparwyr gwaharddedig neu ddarparwyr gwaharddadwy;

(j)pan fo awdurdod perthnasol wedi dyfarnu contract i ddarparwr gwaharddedig, neu wedi cwblhau cytundeb fframwaith ag ef, oherwydd ystyriwyd bod hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, y rhesymau dros benderfyniad o’r fath;

(k)y rhesymau dros wahardd darparwr gwaharddadwy rhag proses gaffael neu beidio;

(l)manylion unrhyw wrthdaro buddiannau sydd wedi ei ddatgan neu ei nodi, pa un ai’n wirioneddol neu’n bosibl;

(m)sut y cafodd unrhyw wrthdaro buddiannau neu wrthdaro buddiannau posibl eu rheoli ar gyfer pob penderfyniad, neu sut y byddant yn cael eu rheoli;

(n)pan roddir y gorau i gaffaeliad o dan reoliad 15, y dyddiad y rhoddwyd y gorau iddo.

(2Rhaid cadw gwybodaeth o dan y rheoliad hwn—

(a)pan fo contract yn cael ei ddyfarnu neu gytundeb fframwaith yn cael ei gwblhau, tan ddiwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y dyfernir y contract neu y cwblheir y cytundeb fframwaith, neu

(b)pan na fo contract yn cael ei ddyfarnu neu na fo cytundeb fframwaith yn cael ei gwblhau, tan ddiwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod perthnasol yn cyflwyno’r hysbysiad i’w gyhoeddi o dan reoliad 15(4).

Crynodeb blynyddol

31.—(1Rhaid i awdurdod perthnasol gyhoeddi crynodeb blynyddol o gontractau a ddyfarnwyd a chytundebau fframwaith a gwblhawyd ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd perthnasol. Rhaid i’r awdurdod perthnasol ei gyhoeddi ar-lein, ar wefan sydd ar gael i’r cyhoedd am ddim.

(2Ar gyfer y flwyddyn y mae’r crynodeb yn ymwneud â hi, rhaid i’r crynodeb blynyddol gynnwys—

(a)nifer y contractau a ddyfarnwyd pan ddilynwyd Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 o dan reoliad 7(4);

(b)nifer y contractau a ddyfarnwyd pan ddilynwyd Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2 o dan reoliad 7(5);

(c)nifer y contractau a ddyfarnwyd pan ddilynwyd y Broses Darparwyr Mwyaf Addas o dan reoliad 7(5) neu (6);

(d)nifer y contractau a ddyfarnwyd pan ddilynwyd y Broses Gystadleuol o dan reoliad 7(5), (6), neu (7);

(e)nifer y cytundebau fframwaith a gwblhawyd o dan reoliad 16(2);

(f)nifer y contractau a ddyfarnwyd sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith, o dan reoliad 18(2);

(g)nifer y cytundebau fframwaith pan ddilynwyd y Broses Gystadleuol er mwyn caniatáu i ddarparwyr pellach gael eu dethol i fod yn bartïon i’r cytundeb fframwaith, o dan reoliad 17(1);

(h)nifer y darparwyr ychwanegol, os o gwbl, a ddetholwyd i fod yn bartïon i’r cytundeb fframwaith;

(i)nifer y contractau a ddyfarnwyd a’r addasiadau a wnaed gan ddibynnu ar reoliad 14 (dyfarnu neu addasu contract ar frys);

(j)nifer y darparwyr y dyfarnwyd contract iddynt nad yw contract wedi cael ei ddyfarnu iddynt gan awdurdod perthnasol yn flaenorol mewn blwyddyn adrodd flaenorol;

(k)nifer y darparwyr a oedd yn bartïon i gontract yn y flwyddyn yr oedd y crynodeb blynyddol blaenorol yn ymwneud â hi ond nad ydynt yn bartïon i unrhyw gontractau mwyach;

(l)nifer y sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd o dan reoliad 12(5) a chrynodeb o natur a chanlyniad y sylwadau hynny;

(m)nifer y darparwyr a gafodd eu gwahardd rhag proses gaffael o dan reoliad 25(1) neu 26(3);

(n)nifer y darparwyr a oedd yn waharddadwy rhag proses gaffael ac, o blith y darparwyr hynny, y nifer a gafodd eu gwahardd o dan reoliad 25(3) neu 26(5).

Gofynion monitro

32.—(1Rhaid i awdurdod perthnasol fonitro ei gydymffurfedd a nodi unrhyw achosion o beidio â chydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i awdurdod perthnasol gyhoeddi adroddiad blynyddol am ganlyniadau’r monitro hwnnw, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch sut y bydd achosion o beidio â chydymffurfio yn cael sylw.

(3Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi’r adroddiad blynyddol ar-lein, ar wefan sydd ar gael i’r cyhoedd am ddim.

RHAN 6Darpariaeth drosiannol

Darpariaeth drosiannol

33.—(1Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys—

(a)i unrhyw weithdrefn dyfarnu contractau pan gychwynnodd y broses gaffael, ond na wnaed y dyfarniad, cyn 24 Chwefror 2025;

(b)i gwblhad unrhyw gytundeb fframwaith pan gychwynnodd y broses gaffael, ond na chwblhawyd y cytundeb fframwaith, cyn 24 Chwefror 2025;

(c)i’r defnydd o system brynu ddynamig, neu system debyg, nad yw’n gytundeb fframwaith (pa un a yw’r system yn cael ei gweithredu o dan reoliad 34 o Reoliadau 2015(12) ai peidio) pan na fo’r cyfnod dilysrwydd wedi dod i ben ac na fo’r system wedi ei therfynu fel arall.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i addasu contract am wasanaethau iechyd perthnasol rhwng awdurdod perthnasol a darparwr sydd wedi ei wneud ar neu ar ôl 24 Chwefror 2025, pa un a ddyfarnwyd y contract o dan y Rheoliadau hyn neu cyn 24 Chwefror 2025 ai peidio.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i addasu unrhyw gytundeb fframwaith am wasanaethau iechyd perthnasol rhwng un neu ragor o awdurdodau perthnasol ac un neu ragor o ddarparwyr, pa un a gwblhawyd y cytundeb fframwaith o dan y Rheoliadau hyn neu cyn 24 Chwefror 2025 ai peidio.

(4Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw weithdrefn dyfarnu contractau a gychwynnwyd ar neu ar ôl 24 Chwefror 2025 ar gyfer dyfarnu contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith am wasanaethau iechyd perthnasol rhwng un neu ragor o awdurdodau perthnasol ac un neu ragor o ddarparwyr, pa un a gwblhawyd y cytundeb fframwaith o dan y Rheoliadau hyn neu cyn 24 Chwefror 2025 ai peidio.

(5Mae darpariaethau paragraffau (6) i (8) yn gymwys at ddibenion paragraff (1).

(6Mae gweithdrefn dyfarnu contractau wedi ei chychwyn cyn 24 Chwefror 2025—

(a)os yw hysbysiad contract o dan reoliad 49 o Reoliadau 2015(13), cyn y dyddiad hwnnw, wedi ei gyflwyno i’w gyhoeddi yn unol â rheoliad 51(1) o Reoliadau 2015(14);

(b)os yw’r awdurdod perthnasol wedi cysylltu ag unrhyw ddarparwr, cyn y dyddiad hwnnw, er mwyn—

(i)ceisio datganiadau o ddiddordeb neu gynigion mewn cysylltiad â threfniant contractio arfaethedig, neu

(ii)ymateb i ddatganiad o ddiddordeb neu gynnig digymell sydd wedi dod i law oddi wrth y darparwr hwnnw ynghylch trefniant contractio arfaethedig.

(7O ran y broses gaffael ar gyfer contract arfaethedig sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith neu dechneg neu offeryn arall ar gyfer caffaeliad electronig neu gaffaeliad mewn crynswth sydd wedi ei gwblhau o dan Reoliadau 2015 cyn 24 Chwefror 2025, mae’r broses honno wedi ei chychwyn cyn 24 Chwefror 2025 os yw unrhyw gam, cyn y dyddiad hwnnw, wedi ei gymryd gyda’r bwriad o wneud dyfarniad.

(8Mae’r weithdrefn gaffael ar gyfer cytundeb fframwaith wedi ei chychwyn cyn 24 Chwefror 2025—

(a)os yw’r awdurdod perthnasol, cyn y dyddiad hwnnw, wedi cyhoeddi unrhyw fath o hysbyseb sy’n ceisio cynigion neu ddatganiadau o ddiddordeb mewn cytundeb fframwaith arfaethedig, neu

(b)os yw’r awdurdod perthnasol, cyn y dyddiad hwnnw, wedi cysylltu ag unrhyw ddarparwr er mwyn—

(i)ceisio datganiadau o ddiddordeb neu gynigion mewn cysylltiad â chytundeb fframwaith arfaethedig, neu

(ii)ymateb i ddatganiad o ddiddordeb neu gynnig digymell sydd wedi dod i law oddi wrth y darparwr hwnnw ynghylch cytundeb fframwaith arfaethedig.

(9Yn y rheoliad hwn—

(a)mae “system brynu ddynamig” yn cynnwys system brynu ddynamig o fewn ystyr rheoliad 34 o Reoliadau 2015;

(b)mae “cytundeb fframwaith” yn cynnwys—

(i)cytundeb fframwaith o fewn yr ystyr a roddir i “framework agreement” yn rheoliad 33(2) o Reoliadau 2015;

(ii)cytundeb fframwaith y mae awdurdod perthnasol yn barti iddo ond na chafodd ei gwblhau o dan y Rheoliadau hyn;

(c)ystyr “Rheoliadau 2015” yw Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015(15).

RHAN 7Datgymhwyso Deddf Caffael 2023

Datgymhwyso Deddf Caffael 2023

34.—(1Nid yw Deddf 2023 yn gymwys i gaffael gwasanaethau iechyd rheoleiddiedig yng Nghymru.

(2Yn y rheoliad hwn, mae i “caffael gwasanaethau iechyd rheoleiddiedig yng Nghymru” yr ystyr a roddir i “regulated health service procurement in Wales” gan adran 120A(2)(a) o Ddeddf 2023.

Jeremy Miles

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

30 Ionawr 2025

YR ATODLENNI

Rheoliad 2

ATODLEN 1Gwasanaethau iechyd perthnasol: Codau GGG

Cod GGGDisgrifiad
85100000-0Gwasanaethau iechyd
85110000-3Gwasanaethau ysbyty a gwasanaethau cysylltiedig
85111000-0Gwasanaethau ysbyty
85111100-1Gwasanaethau ysbyty llawfeddygol
85111200-2Gwasanaethau ysbyty meddygol
85111300-3Gwasanaethau ysbyty gynaecolegol
85111310-6Gwasanaethau ffrwythloni in vitro
85111320-9Gwasanaethau ysbyty obstetrig
85111400-4Gwasanaethau ysbyty adsefydlu
85111500-5Gwasanaethau ysbyty seiciatrig
85111600-6Gwasanaethau orthoteg
85111700-7Gwasanaethau therapi ocsigen
85111800-8Gwasanaethau patholeg
85111810-1Gwasanaethau dadansoddi gwaed
85111820-4Gwasanaethau dadansoddi bacteriolegol
85111900-9Gwasanaethau dialysis ysbyty
85112200-9Gwasanaethau gofal i gleifion allanol
85120000-6Gwasanaethau ymarfer meddygol a gwasanaethau cysylltiedig
85121000-3Gwasanaethau ymarfer meddygol
85121100-4Gwasanaethau ymarfer cyffredinol
85121200-5Gwasanaethau arbenigol meddygol
85121210-8Gwasanaethau gynaecoleg neu obstetreg
85121220-1Gwasanaethau arbenigol arenneg neu’r system nerfol
85121230-4Gwasanaethau cardioleg neu wasanaethau arbenigol yr ysgyfaint
85121231-1Gwasanaethau cardioleg
85121232-8Gwasanaethau arbenigol yr ysgyfaint
85121240-7Gwasanaethau’r glust, y trwyn a’r gwddf neu wasanaethau awdiolegydd
85121250-0Gwasanaethau gastroenteroleg a geriatreg
85121251-7Gwasanaethau gastroenteroleg
85121252-4Gwasanaethau geriatreg
85121270-6Gwasanaethau seiciatreg neu seicoleg
85121271-3Gwasanaethau cartref ar gyfer pobl â phroblemau seicolegol
85121280-9Gwasanaethau offthalmoleg, dermatoleg neu orthopaedeg
85121281-6Gwasanaethau offthalmoleg
85121282-3Gwasanaethau dermatoleg
85121283-0Gwasanaethau orthopaedeg
85121290-2Gwasanaethau paediatreg neu wroleg
85121291-9Gwasanaethau paediatreg
85121292-6Gwasanaethau wroleg
85121300-6Gwasanaethau arbenigol llawfeddygol
85130000-9Gwasanaethau ymarfer deintyddol a gwasanaethau cysylltiedig
85131000-6Gwasanaethau ymarfer deintyddol
85131100-7Gwasanaethau orthodonteg
85131110-0Gwasanaethau llawfeddygaeth orthodontig
85140000-2Gwasanaethau iechyd amrywiol
85141000-9Gwasanaethau a ddarperir gan bersonél meddygol
85141100-0Gwasanaethau a ddarperir gan fydwragedd
85141200-1Gwasanaethau a ddarperir gan nyrsys
85141210-4Gwasanaethau triniaeth feddygol yn y cartref
85141211-1Gwasanaethau triniaeth feddygol dialysis yn y cartref
85141220-7Gwasanaethau cynghori a ddarperir gan nyrsys
85142000-6Gwasanaethau parafeddygol
85142100-7Gwasanaethau ffisiotherapi
85143000-3Gwasanaethau ambiwlans
85144000-0Gwasanaethau cyfleusterau iechyd preswyl
85144100-1Gwasanaethau gofal nyrsio preswyl
85145000-7Gwasanaethau a ddarperir gan labordai meddygol
85146000-4Gwasanaethau a ddarperir gan fanciau gwaed
85146100-5Gwasanaethau a ddarperir gan fanciau sberm
85146200-6Gwasanaethau a ddarperir gan fanciau organau trawsblannu
85148000-8Gwasanaethau dadansoddi meddygol
85149000-5Gwasanaethau fferylliaeth, ond heb gynnwys gwasanaethau fferylliaeth gymunedol a drefnir o dan Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 (16)
85150000-5Gwasanaethau delweddu meddygol
85160000-8Gwasanaethau optegydd
85323000-9Gwasanaethau iechyd cymunedol, ond dim ond mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd cymunedol a ddarperir i unigolion
85312330-1Gwasanaethau cynllunio teulu, ond dim ond i’r graddau y darperir y gwasanaethau hynny i unigolion i gefnogi iechyd rhywiol ac iechyd atgenhedlu
85312500-4Gwasanaethau adsefydlu, ond dim ond i’r graddau y darperir y gwasanaethau hynny i unigolion i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau neu ar gyfer adsefydlu iechyd meddwl neu iechyd corfforol unigolion

Rheoliad 8(5) ac 21(4)

ATODLEN 2Cynnwys hysbysiad o fwriad i ddyfarnu i ddarparwr presennol o dan Broses Dyfarniad Uniongyrchol 1 neu i ddarparwr ar sail cytundeb fframwaith heb gystadleuaeth

1.  Os yw’r awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu contract yn dilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1, datganiad i’r perwyl hwnnw.

2.  Os yw’r awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu contract i ddarparwr ar sail cytundeb fframwaith heb gystadleuaeth, datganiad i’r perwyl hwnnw.

3.  Enw a chyfeirnod y contract.

4.  Enw a chyfeiriad (naill ai swyddfa gofrestredig neu brif fan busnes) y darparwr y mae dyfarniad i’w wneud iddo.

5.  Disgrifiad o’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r contract yn ymwneud â hwy, ac un neu ragor o’r codau GGG sy’n berthnasol i’r contract.

6.  Os yw’r awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu contract yn dilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1, disgrifiad ynghylch pam y mae’r trefniant contractio arfaethedig yn gallu cael ei ddarparu gan y darparwr presennol yn unig, gan gyfeirio at natur y gwasanaethau iechyd perthnasol.

7.  Gwerth oes amcangyfrifedig y contract.

8.  Manylion penderfynwyr y dyfarniad.

9.  Datganiad yn esbonio rhesymau penderfynwyr y dyfarniad dros ddethol y darparwr sydd wedi ei ddewis.

10.  Datganiad ynghylch a gafodd unrhyw ddarparwyr eu gwahardd rhag y broses gaffael.

11.  Pan fo awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu’r contract i ddarparwr gwaharddedig oherwydd ystyriwyd bod hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, y rhesymau dros benderfyniad o’r fath.

12.  Manylion unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl sydd wedi ei ddatgan.

13.  Gwybodaeth am sut y cafodd unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl ei reoli, neu sut y mae i’w reoli.

14.  Unrhyw wybodaeth nad yw wedi cael ei chyhoeddi neu sydd wedi ei dal yn ôl fel arall o dan reoliad 23(1).

Rheoliadau 8(11), 19(3) ac 21(10)

ATODLEN 3Cynnwys hysbysiad i ddyfarnu i ddarparwr presennol o dan Broses Dyfarniad Uniongyrchol 1, i ddarparwr ar sail cytundeb fframwaith un darparwr, neu i ddarparwr ar sail cytundeb fframwaith heb gystadleuaeth

1.  Os yw’r dyfarniad yn dilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1, datganiad bod dyfarniad wedi ei wneud yn dilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1.

2.  Os yw’r dyfarniad yn seiliedig ar gytundeb fframwaith un darparwr ac yn cael ei wneud heb gystadleuaeth, datganiad i’r perwyl hwnnw.

3.  Os yw’r dyfarniad yn seiliedig ar gytundeb fframwaith ac yn cael ei wneud heb gystadleuaeth, datganiad i’r perwyl hwnnw.

4.  Enw a chyfeirnod y contract.

5.  Enw a chyfeiriad (naill ai swyddfa gofrestredig neu brif fan busnes) y darparwr y mae’r contract wedi ei ddyfarnu iddo.

6.  Disgrifiad o’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r contract yn ymwneud â hwy, ac un neu ragor o’r codau GGG sydd fwyaf perthnasol i’r contract.

7.  Gwerth oes amcangyfrifedig y contract.

8.  Y dyddiadau y mae’r contract yn darparu ar gyfer darparu’r gwasanaethau iechyd perthnasol rhyngddynt a hyd y contract gan gynnwys estyniadau posibl y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol.

9.  Manylion penderfynwyr y dyfarniad.

10.  Pan fo Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 wedi ei defnyddio a bo awdurdod perthnasol wedi dyfarnu’r contract i ddarparwr gwaharddedig oherwydd ystyriwyd bod hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, y rhesymau dros benderfyniad o’r fath.

11.  Manylion unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl sydd wedi ei ddatgan.

12.  Gwybodaeth am sut y cafodd unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl ei reoli, neu sut y mae i’w reoli.

13.  Unrhyw wybodaeth nad yw wedi cael ei chyhoeddi neu sydd wedi ei dal yn ôl fel arall o dan reoliad 23(1).

Rheoliad 9(6)

ATODLEN 4Cynnwys hysbysiad o fwriad i ddyfarnu i ddarparwr presennol o dan Broses Dyfarniad Uniongyrchol 2

1.  Datganiad bod yr awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu contract i ddarparwr presennol yn dilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2.

2.  Enw a chyfeirnod y contract.

3.  Enw a chyfeiriad (naill ai swyddfa gofrestredig neu brif fan busnes) y darparwr y mae dyfarniad i’w wneud iddo.

4.  Disgrifiad o’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r contract yn ymwneud â hwy, ac un neu ragor o’r codau GGG sy’n berthnasol i’r contract.

5.  Gwerth oes amcangyfrifedig y contract.

6.  Gwerth oes amcangyfrifedig y contract presennol ar yr adeg yr ymrwymwyd i’r contract presennol.

7.  Manylion penderfynwyr y dyfarniad.

8.  Datganiad yn esbonio rhesymau penderfynwyr y dyfarniad dros ddethol y darparwr sydd wedi ei ddewis, gan gyfeirio at y meini prawf allweddol a’r meini prawf dethol sylfaenol.

9.  Datganiad ynghylch a gafodd unrhyw ddarparwyr eu gwahardd rhag y broses gaffael.

10.  Pan fo awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu’r contract i ddarparwr gwaharddedig oherwydd ystyrir bod hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, y rhesymau dros benderfyniad o’r fath.

11.  Manylion unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl sydd wedi ei ddatgan.

12.  Gwybodaeth am sut y cafodd unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl ei reoli, neu sut y mae i’w reoli.

13.  Unrhyw wybodaeth nad yw wedi cael ei chyhoeddi neu sydd wedi ei dal yn ôl fel arall o dan reoliad 23(1).

Rheoliad 9(12)

ATODLEN 5Cynnwys hysbysiad am ddyfarnu i ddarparwr o dan Broses Dyfarniad Uniongyrchol 2

1.  Datganiad bod dyfarniad wedi ei wneud yn dilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2.

2.  Enw a chyfeirnod y contract.

3.  Enw a chyfeiriad (naill ai swyddfa gofrestredig neu brif fan busnes) y darparwr y mae’r contract wedi ei ddyfarnu iddo.

4.  Disgrifiad o’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r contract yn ymwneud â hwy, ac un neu ragor o’r codau GGG sydd fwyaf perthnasol i’r contract.

5.  Gwerth oes amcangyfrifedig y contract.

6.  Y dyddiadau y mae’r contract yn darparu ar gyfer darparu’r gwasanaethau iechyd perthnasol rhyngddynt a hyd y contract gan gynnwys estyniadau posibl y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol.

7.  Manylion penderfynwyr y dyfarniad.

8.  Datganiad ynghylch a gafodd unrhyw ddarparwyr eu gwahardd rhag y broses gaffael.

9.  Pan fo awdurdod perthnasol wedi dyfarnu’r contract i ddarparwr gwaharddedig oherwydd ystyriwyd bod hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, y rhesymau dros benderfyniad o’r fath.

10.  Manylion unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl sydd wedi ei ddatgan.

11.  Gwybodaeth am sut y cafodd unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl ei reoli, neu sut y mae i’w reoli.

12.  Unrhyw wybodaeth nad yw wedi cael ei chyhoeddi neu sydd wedi ei dal yn ôl fel arall o dan reoliad 23(1).

Rheoliad 10(4)

ATODLEN 6Cynnwys hysbysiad o fwriad i ddilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas

1.  Datganiad bod yr awdurdod perthnasol yn bwriadu dilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas i ddyfarnu contract.

2.  Enw a chyfeirnod y contract.

3.  Disgrifiad o’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r contract yn ymwneud â hwy, ac un neu ragor o’r codau GGG sydd fwyaf perthnasol i’r contract.

4.  Manylion penderfynwyr y dyfarniad.

Rheoliad 10(11)

ATODLEN 7Cynnwys hysbysiad o fwriad i ddyfarnu i ddarparwr o dan y Broses Darparwr Mwyaf Addas

1.  Datganiad bod yr awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu contract i ddarparwr yn dilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas.

2.  Enw a chyfeirnod y contract.

3.  Enw a chyfeiriad (naill ai swyddfa gofrestredig neu brif fan busnes) y darparwr y mae dyfarniad i’w wneud iddo.

4.  Disgrifiad o’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r contract yn ymwneud â hwy, ac un neu ragor o’r codau GGG sydd fwyaf perthnasol i’r contract.

5.  Gwerth oes amcangyfrifedig y contract.

6.  Manylion penderfynwyr y dyfarniad.

7.  Datganiad yn esbonio rhesymau penderfynwyr y dyfarniad dros ddethol y darparwr sydd wedi ei ddewis, gan gyfeirio at y meini prawf allweddol.

8.  Datganiad ynghylch a gafodd unrhyw ddarparwyr eu gwahardd rhag y broses gaffael.

9.  Pan fo awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu’r contract i ddarparwr gwaharddedig oherwydd ystyrir bod hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, y rhesymau dros benderfyniad o’r fath.

10.  Manylion unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl sydd wedi ei ddatgan.

11.  Gwybodaeth am sut y cafodd unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl ei reoli, neu sut y mae i’w reoli.

12.  Unrhyw wybodaeth nad yw wedi cael ei chyhoeddi neu sydd wedi ei dal yn ôl fel arall o dan reoliad 23(1).

Rheoliad 10(17)

ATODLEN 8Cynnwys hysbysiad am ddyfarnu i ddarparwr o dan y Broses Darparwr Mwyaf Addas

1.  Datganiad bod dyfarniad wedi ei wneud yn dilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas.

2.  Enw a chyfeirnod y contract.

3.  Enw a chyfeiriad (naill ai swyddfa gofrestredig neu brif fan busnes) y darparwr y mae’r contract wedi ei ddyfarnu iddo.

4.  Disgrifiad o’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r contract yn ymwneud â hwy, ac un neu ragor o’r codau GGG sydd fwyaf perthnasol i’r contract.

5.  Gwerth oes amcangyfrifedig y contract.

6.  Y dyddiadau y mae’r contract yn darparu ar gyfer darparu’r gwasanaethau iechyd perthnasol rhyngddynt a hyd y contract gan gynnwys estyniadau posibl y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol.

7.  Manylion penderfynwyr y dyfarniad.

8.  Datganiad ynghylch a gafodd unrhyw ddarparwyr eu gwahardd rhag y broses gaffael.

9.  Pan fo awdurdod perthnasol wedi dyfarnu’r contract i ddarparwr gwaharddedig oherwydd ystyriwyd bod hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, y rhesymau dros benderfyniad o’r fath.

10.  Manylion unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl sydd wedi ei ddatgan.

11.  Gwybodaeth am sut y cafodd unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl ei reoli, neu sut y mae i’w reoli.

12.  Unrhyw wybodaeth nad yw wedi cael ei chyhoeddi neu sydd wedi ei dal yn ôl fel arall o dan reoliad 23(1).

Rheoliad 11(6)

ATODLEN 9Cynnwys hysbysiad yn gwahodd cynigion o dan y Broses Gystadleuol

1.  Enw a chyfeirnod y contract neu’r cytundeb fframwaith.

2.  Disgrifiad o’r gwasanaethau iechyd perthnasol y bydd y contract neu’r cytundeb fframwaith yn ymwneud â hwy, ac un neu ragor o’r codau GGG sydd fwyaf perthnasol i’r contract neu’r cytundeb fframwaith.

3.  Y dyddiadau bwriadedig neu amcangyfrifedig—

(a)y mae’r gwasanaethau i’w darparu rhyngddynt a hyd y contract gan gynnwys estyniadau posibl y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol, neu

(b)ar gyfer cyfnod y cytundeb fframwaith.

4.  Gwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith.

5.  Meini prawf dyfarnu’r contract neu’r fframwaith.

6.  Pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chytundeb fframwaith arfaethedig, yr awdurdodau perthnasol a fydd yn gallu defnyddio’r cytundeb fframwaith.

7.  Esboniad ynghylch sut y mae rhaid gwneud cynigion, a rhaid i hynny fod drwy ddulliau electronig.

8.  Esboniad ynghylch sut y bydd cynigion yn cael eu hasesu, gan gynnwys esboniad cryno o’r weithdrefn asesu ac unrhyw gamau o’r asesiad, os yw’n gymwys.

Rheoliadau 11(10)(b) ac 20(11)(b)

ATODLEN 10Cynnwys hysbysiad i ddarparwyr aflwyddiannus o dan y Broses Gystadleuol neu i ddarparwyr aflwyddiannus o dan ddyfarniad contract sy’n seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth

1.  Enw a chyfeirnod y contract neu’r cytundeb fframwaith.

2.  Meini prawf dyfarnu’r contract neu’r fframwaith.

3.  Y rhesymau y bu’r darparwr llwyddiannus yn llwyddiannus.

4.  Y rhesymau y bu’r darparwr aflwyddiannus yn aflwyddiannus.

5.  Dyddiadau dechrau a diwedd y cyfnod y caniateir cyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynddo yn unol â rheoliad 12(6).

6.  Unrhyw wybodaeth nad yw wedi cael ei chyhoeddi neu sydd wedi ei dal yn ôl fel arall o dan reoliad 23(1).

Rheoliadau 11(12) ac 20(13)

ATODLEN 11Cynnwys hysbysiad o fwriad i ddyfarnu i ddarparwr neu gwblhau cytundeb fframwaith o dan y Broses Gystadleuol, neu i ddyfarnu contract i ddarparwr ar sail cytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth

1.  Os yw’r awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu contract i ddarparwr neu gwblhau cytundeb fframwaith o dan y Broses Gystadleuol, datganiad i’r perwyl hwnnw.

2.  Os yw’r awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu contract i ddarparwr ar sail cytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth, datganiad i’r perwyl hwnnw.

3.  Enw a chyfeirnod y contract neu’r cytundeb fframwaith.

4.  Enw a chyfeiriad (naill ai swyddfa gofrestredig neu brif fan busnes) y darparwr y mae contract i’w ddyfarnu iddo neu y mae cytundeb fframwaith i’w gwblhau ag ef.

5.  Disgrifiad o’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r contract neu’r cytundeb fframwaith yn ymwneud â hwy, ac un neu ragor o’r codau GGG sydd fwyaf perthnasol i’r contract neu’r cytundeb fframwaith.

6.  Pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chwblhau cytundeb fframwaith, hyd y cytundeb a’r awdurdodau perthnasol a fydd yn gallu defnyddio’r cytundeb fframwaith.

7.  Gwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith.

8.  Manylion penderfynwyr y dyfarniad.

9.  Datganiad yn esbonio rhesymau’r penderfynwyr dros ddethol y darparwr, gan gyfeirio at y meini prawf allweddol a’r meini prawf dethol sylfaenol.

10.  Pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â dyfarnu contract neu gwblhau cytundeb fframwaith, datganiad ynghylch a gafodd unrhyw ddarparwyr eu gwahardd rhag y broses gaffael.

11.  Pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â dyfarnu contract a bo awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu’r contract i ddarparwr gwaharddedig oherwydd ystyrir bod hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, y rhesymau dros benderfyniad o’r fath.

12.  Pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chwblhau cytundeb fframwaith a bo awdurdod perthnasol yn bwriadu cynnwys darparwr gwaharddedig ar gytundeb fframwaith oherwydd ystyriwyd bod hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, y rhesymau dros benderfyniad o’r fath.

13.  Manylion unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl sydd wedi ei ddatgan.

14.  Gwybodaeth am sut y cafodd unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl ei reoli, neu sut y mae i’w reoli.

15.  Pan fo’n briodol, datganiad bod yr awdurdod perthnasol yn dyfarnu’r contract o dan gytundeb fframwaith.

16.  Unrhyw wybodaeth nad yw wedi cael ei chyhoeddi neu sydd wedi ei dal yn ôl fel arall o dan reoliad 23(1).

Rheoliadau 11(18) ac 20(19)

ATODLEN 12Cynnwys hysbysiad am ddyfarnu contract i ddarparwr neu gwblhau cytundeb fframwaith gyda darparwr o dan y Broses Gystadleuol, neu am ddyfarnu contract i ddarparwr ar sail cytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth

1.  Os yw dyfarnu’r contract neu gwblhau cytundeb fframwaith yn dilyn cystadleuaeth o dan y Broses Gystadleuol, datganiad i’r perwyl hwnnw.

2.  Os yw dyfarnu’r contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth, datganiad i’r perwyl hwnnw.

3.  Enw a chyfeirnod y contract neu’r cytundeb fframwaith.

4.  Enw a chyfeiriad (naill ai swyddfa gofrestredig neu brif fan busnes) y darparwr y mae’r contract wedi ei ddyfarnu iddo neu y mae cytundeb fframwaith wedi ei gwblhau ag ef.

5.  Disgrifiad o’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r contract neu’r cytundeb fframwaith yn ymwneud â hwy, ac un neu ragor o’r codau GGG sydd fwyaf perthnasol i’r contract neu’r cytundeb fframwaith.

6.  Gwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith.

7.  Pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â dyfarnu contract, y dyddiadau y mae’r contract yn darparu ar gyfer darparu’r gwasanaethau iechyd perthnasol rhyngddynt gan gynnwys unrhyw opsiynau i estyn y cyfnod y mae’r gwasanaethau i’w darparu ynddo.

8.  Pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chwblhau cytundeb fframwaith, hyd y cytundeb fframwaith.

9.  Pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chwblhau cytundeb fframwaith, yr awdurdodau perthnasol a fydd yn gallu defnyddio’r cytundeb fframwaith.

10.  Manylion penderfynwyr y dyfarniad.

11.  Pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â dyfarnu contract neu gwblhau cytundeb fframwaith, datganiad ynghylch a gafodd unrhyw ddarparwyr eu gwahardd rhag y broses gaffael.

12.  Pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â dyfarnu contract neu gwblhau cytundeb fframwaith a bo awdurdod perthnasol wedi dyfarnu’r contract i ddarparwr gwaharddedig neu wedi cynnwys darparwr gwaharddedig ar gytundeb fframwaith oherwydd ystyriwyd bod hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, y rhesymau dros benderfyniad o’r fath.

13.  Manylion unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl sydd wedi ei ddatgan.

14.  Gwybodaeth am sut y cafodd unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl ei reoli, neu sut y mae i’w reoli.

15.  Unrhyw wybodaeth nad yw wedi cael ei chyhoeddi neu sydd wedi ei dal yn ôl fel arall o dan reoliad 23(1).

Rheoliad 13(7)(a)

ATODLEN 13Hysbysiad am addasu contract neu gytundeb fframwaith pan fo rheoliad 13(6) yn gymwys

1.  Enw a chyfeirnod y contract neu’r cytundeb fframwaith.

2.  Disgrifiad o’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r contract neu’r cytundeb fframwaith yn ymwneud â hwy, ac un neu ragor o’r codau GGG sydd fwyaf perthnasol i’r contract neu’r cytundeb fframwaith.

3.  Y dyddiad y mae’r addasiad yn cael effaith ohono.

4.  Disgrifiad byr o’r addasiad.

5.  Gwerth oes amcangyfrifedig yr addasiad i’r contract neu’r cytundeb fframwaith.

6.  Gwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith pan ymrwymwyd i’r contract hwnnw neu pan gwblhawyd y cytundeb fframwaith hwnnw.

7.  Gwerth oes amcangyfrifedig cronnus yr holl addasiadau a wnaed i’r contract neu’r cytundeb fframwaith ers ymrwymo iddo neu ers ei gwblhau.

8.  Unrhyw newid i hyd y contract neu’r cytundeb fframwaith.

9.  Manylion penderfynwyr y dyfarniad.

10.  Manylion unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl sydd wedi ei ddatgan.

11.  Gwybodaeth am sut y cafodd unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl ei reoli, neu sut y mae i’w reoli.

12.  Unrhyw wybodaeth nad yw wedi cael ei chyhoeddi neu sydd wedi ei dal yn ôl fel arall o dan reoliad 23(1).

Rheoliad 14(6)(b)(i)

ATODLEN 14Hysbysiad am ddyfarnu contract ar frys pan fo rheoliad 14(1) yn gymwys

1.  Datganiad bod y dyfarniad yn un brys ym marn yr awdurdod perthnasol.

2.  Enw a chyfeirnod y contract.

3.  Enw a chyfeiriad (naill ai swyddfa gofrestredig neu brif fan busnes) y darparwr y mae’r contract wedi ei ddyfarnu iddo.

4.  Disgrifiad o’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r contract yn ymwneud â hwy, ac un neu ragor o’r codau GGG sydd fwyaf perthnasol i’r contract.

5.  Gwerth oes amcangyfrifedig y contract.

6.  Y dyddiadau y mae’r contract yn darparu ar gyfer darparu’r gwasanaethau iechyd perthnasol rhyngddynt a hyd y contract gan gynnwys estyniadau posibl y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol.

7.  Y rhesymau dros y dyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6, os yw’r cyfnod hwnnw’n hwy na 12 mis.

8.  Manylion penderfynwyr y dyfarniad.

9.  Manylion unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl sydd wedi ei ddatgan.

10.  Gwybodaeth am sut y cafodd unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl ei reoli, neu sut y mae i’w reoli.

11.  Y rhesymau pam yr oedd rheoliad 14 yn gymwys.

12.  Unrhyw wybodaeth nad yw wedi cael ei chyhoeddi neu sydd wedi ei dal yn ôl fel arall o dan reoliad 23(1).

Rheoliad 14(6)(b)(ii)

ATODLEN 15Hysbysiad am addasu contract ar frys pan fo rheoliad 14(1) yn gymwys

1.  Datganiad bod yr addasiad yn un brys ym marn yr awdurdod perthnasol.

2.  Enw a chyfeirnod y contract.

3.  Disgrifiad o’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r contract yn ymwneud â hwy, ac un neu ragor o’r codau GGG sydd fwyaf perthnasol i’r contract.

4.  Y dyddiad y mae’r addasiad yn cael effaith ohono.

5.  Natur yr addasiad, gan gynnwys unrhyw newid i hyd y contract.

6.  Gwerth oes amcangyfrifedig y contract pan ymrwymwyd i’r contract hwnnw.

7.  Gwerth oes amcangyfrifedig yr addasiad brys.

8.  Manylion penderfynwyr y dyfarniad.

9.  Manylion unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl sydd wedi ei ddatgan.

10.  Gwybodaeth am sut y cafodd unrhyw wrthdaro buddiannau neu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl ei reoli, neu sut y mae i’w reoli.

11.  Y rhesymau y mae’r awdurdod perthnasol yn ystyried bod rheoliad 14 yn gymwys.

12.  Unrhyw wybodaeth nad yw wedi cael ei chyhoeddi neu sydd wedi ei dal yn ôl fel arall o dan reoliad 23(1).

Rheoliad 20(7)

ATODLEN 16Gwahoddiad i ddarparwyr sy’n barti i’r cytundeb fframwaith i gyflwyno cynnig

1.  Disgrifiad o’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r contract yn ymwneud â hwy, ac un neu ragor o’r codau GGG sydd fwyaf perthnasol i’r contract.

2.  Meini prawf dyfarnu’r contract.

3.  Y dyddiadau bwriadedig neu amcangyfrifedig y mae rhaid darparu’r gwasanaethau iechyd perthnasol rhyngddynt a hyd y contract gan gynnwys estyniadau posibl y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol.

4.  Gwerth oes amcangyfrifedig y contract.

Rheoliad 15(5)(c)

ATODLEN 17Hysbysiad am roi’r gorau i broses gaffael

1.  Enw a chyfeirnod y contract neu’r cytundeb fframwaith.

2.  Disgrifiad o’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae’r contract neu’r cytundeb fframwaith yn ymwneud â hwy, ac un neu ragor o’r codau GGG sydd fwyaf perthnasol i’r contract neu’r cytundeb fframwaith.

3.  Datganiad yn nodi pa broses gaffael oedd yn cael ei dilyn.

4.  Datganiad y rhoddwyd y gorau i’r broses gaffael.

5.  Esboniad o’r rhesymau dros roi’r gorau i’r broses gaffael.

6.  Unrhyw wybodaeth nad yw wedi cael ei chyhoeddi neu sydd wedi ei dal yn ôl fel arall o dan reoliad 23(1).

Rheoliad 22(3)

ATODLEN 18Meini prawf dethol sylfaenol

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at “contractau” yn cynnwys contractau sy’n seiliedig ar y cytundeb fframwaith.

Meini prawf dethol sylfaenol: egwyddorion cyffredinol

2.—(1Caiff y meini prawf dethol sylfaenol y penderfynir arnynt yn unol â rheoliad 22(3) ymwneud â’r canlynol—

(a)addasrwydd i wneud gweithgaredd penodol;

(b)sefyllfa economaidd ac ariannol;

(c)gallu technegol a phroffesiynol.

(2Rhaid i awdurdod perthnasol gyfyngu’r meini prawf dethol sylfaenol i’r rhai sy’n briodol er mwyn sicrhau bod darparwr yn gallu cyflawni’r gwasanaethau iechyd perthnasol y mae contract i’w ddyfarnu ar eu cyfer, neu y mae cytundeb fframwaith i’w gwblhau ar eu cyfer.

(3Wrth benderfynu ar y meini prawf dethol sylfaenol mwyaf priodol, rhaid i’r awdurdod perthnasol roi sylw i gapasiti cyfreithiol ac ariannol y darparwr a galluoedd technegol a phroffesiynol y darparwr.

(4Rhaid i’r holl feini prawf dethol sylfaenol ymwneud â’r gwasanaethau iechyd perthnasol sy’n bwnc i’r contract neu’r cytundeb fframwaith a bod yn gymesur â hwy.

Awdurdodiadau neu aelodaethau

3.  Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo awdurdod perthnasol yn penderfynu bod rhaid i ddarparwyr feddu ar awdurdodiad penodol neu fod yn aelodau o sefydliad penodol er mwyn cyflawni’r gwasanaethau iechyd perthnasol.

4.  Caiff awdurdod perthnasol ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr brofi ei fod yn dal awdurdodiad neu aelodaeth o’r fath.

Sefyllfa economaidd ac ariannol

5.—(1Caiff awdurdod perthnasol osod gofynion bod darparwr yn profi ei fod yn meddu ar y capasiti economaidd ac ariannol angenrheidiol i gyflawni’r contract.

(2Yn benodol, caiff awdurdod perthnasol ei gwneud yn ofynnol bod darparwr—

(a)ag isafswm trosiant blynyddol penodol, gan gynnwys isafswm trosiant penodol yn y gwasanaethau iechyd perthnasol a gwmpesir gan y contract,

(b)yn darparu gwybodaeth am ei gyfrifon blynyddol sy’n dangos y cymarebau, er enghraifft, rhwng asedau ac atebolrwyddau, ac

(c)â lefel briodol o yswiriant indemnio rhag risg broffesiynol.

(3Ni chaniateir i’r isafswm trosiant blynyddol y caiff awdurdod perthnasol ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr ei brofi fod yn fwy na dwywaith gwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith, ac eithrio mewn achosion sydd wedi eu cyfiawnhau’n briodol fel y penderfynir gan yr awdurdod perthnasol.

Gallu technegol a phroffesiynol

6.—(1Caiff awdurdod perthnasol osod gofynion bod darparwr yn profi ei fod yn gallu cyflawni’r contract i safon briodol.

(2Mae’r gofynion yn is-baragraff (1) yn cynnwys gofynion i ddangos bod y darparwr yn meddu ar yr adnoddau a’r profiad technegol a phroffesiynol angenrheidiol.

(3Caiff awdurdod perthnasol ei gwneud yn ofynnol bod gan ddarparwr lefel briodol o brofiad a ddangosir gan eirdaon addas o gontractau sydd wedi eu cyflawni yn y gorffennol.

(4Caiff awdurdod perthnasol dybio nad yw darparwr yn meddu ar y galluoedd proffesiynol gofynnol os yw’r amod a nodir yn is-baragraff (5) wedi ei fodloni.

(5Yr amod yw bod yr awdurdod perthnasol wedi canfod bod gan y darparwr fuddiannau sy’n gwrthdaro a all effeithio’n negyddol ar gyflawni’r contract.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd perthnasol ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru gan awdurdodau perthnasol. Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer caffael nwyddau neu wasanaethau eraill sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau iechyd (caffaeliad cymysg). Gwneir y Rheoliadau hyn gan ddefnyddio pwerau o dan adrannau 10A(1), (2) a (3), 203(9) a (10), a 205(a) a (b) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

Mae’r Rheoliadau hyn yn datgymhwyso darpariaethau Deddf Caffael 2023 (“Deddf 2023”) mewn perthynas â chaffael gwasanaethau iechyd rheoleiddiedig yng Nghymru gan ddefnyddio pwerau o dan adran 120A(1) o Ddeddf 2023 (rheoliad 34).

Awdurdodau perthnasol yw cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac awdurdodau arbennig. Gwasanaethau iechyd perthnasol yw gwasanaethau iechyd sy’n dod o fewn un neu ragor o godau’r eirfa gaffael gyffredin (“GGG”) a nodir yn Atodlen 1. Codau GGG yw’r rhai a fabwysiadwyd gan Reoliad (EC) Rhif 2195/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Tachwedd 2002.

Mae Rhan 1 yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol, gan gynnwys y rhai sy’n nodi pryd y mae’r Rheoliadau yn gymwys.

Mae rheoliadau 5 a 6 o Ran 1 yn nodi egwyddorion caffael a meini prawf allweddol ar gyfer gwneud penderfyniadau wrth gaffael gwasanaethau o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 2 yn nodi’r prosesau caffael, yr amgylchiadau y cânt eu defnyddio ynddynt a’r weithdrefn ar gyfer pob un o’r prosesau hynny. Mae pedair proses: Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1, Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2, y Broses Darparwr Mwyaf Addas, a’r Broses Gystadleuol. Mae Rhan 2 hefyd yn darparu, pan fo awdurdod perthnasol yn penderfynu cwblhau cytundeb fframwaith, fod rhaid iddo ddilyn y Broses Gystadleuol (rheoliad 7(2)).

Os bodlonir amodau, mae gan yr awdurdod perthnasol ddisgresiwn i ddethol proses gaffael. Pan fo gan awdurdod perthnasol ddisgresiwn i ddewis pa broses gaffael y mae’n ei dilyn, ond yn penderfynu y byddai proses wahanol yn fwy addas, caniateir iddo ddilyn proses wahanol (rheoliad 7(8)).

Mae Rhan 2 yn nodi darpariaethau pellach ar gyfer prosesau caffael penodol. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cyfnod segur; y weithdrefn y mae rhaid i awdurdod perthnasol ei dilyn os yw darparwr a dramgwyddwyd yn cyflwyno sylwadau; darpariaeth ar gyfer addasu contractau a chytundebau fframwaith yn ystod eu cyfnod heb ddilyn proses gaffael newydd os bodlonir amodau; darpariaeth ar gyfer proses arbennig ar gyfer dyfarniadau brys penodol neu addasiadau brys penodol; a darpariaeth ar gyfer rhoi’r gorau i brosesau caffael neu ailadrodd camau mewn proses gaffael, os bodlonir amodau.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch cytundebau fframwaith. Mae hyn yn cynnwys: sut y’u diffinnir; sut y caniateir iddynt gael eu cwblhau; ac uchafswm hyd y cyfnod. Mae’r Rhan hon hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer pryd y mae rhaid cychwyn y Weithdrefn Gystadleuol er mwyn caniatáu i ddarparwyr ychwanegol gael eu dethol i fod yn barti i gytundeb fframwaith yn ystod ei gyfnod a’r prosesau sydd i’w dilyn wrth ddyfarnu contractau o dan gytundeb fframwaith.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch caffael gwasanaethau iechyd perthnasol. Mae hyn yn cynnwys: y meini prawf dethol sylfaenol; esemptiad cyffredinol rhag dyletswyddau i gyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif; y broses ar gyfer cyflwyno hysbysiad i’w gyhoeddi; yr amgylchiadau pryd y gellir gwahardd darparwr; sut y mae rhaid rheoli gwrthdaro buddiannau neu wrthdaro buddiannau posibl; a gofynion er mwyn caniatáu ar gyfer terfynu contract.

Mae Rhan 5 yn nodi darpariaethau gweinyddol a gofynion gweinyddol ar gyfer awdurdodau perthnasol. Mae hyn yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cadw cofnodion; crynodebau blynyddol sydd i’w cyhoeddi; a gofynion monitro. Mae Rhan 5 hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdodau perthnasol i geisio cyngor gan arbenigwyr annibynnol.

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth drosiannol.

Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer datgymhwyso Deddf 2023 o gaffael gwasanaethau iechyd rheoleiddiedig yng Nghymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

2006 p. 42 (“Deddf 2006”). Mewnosodwyd adran 10A gan adran 3 o Ddeddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024 (dsc 1) (“Deddf 2024”).

(2)

2023 p. 54. Mewnosodwyd adran 120A gan adran 2(2) o Ddeddf 2024.

(3)

Fel y’i mewnosodwyd gan adran 111(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (dccc 2) ac y’i diwygiwyd gan adran 1(2) o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (dccc 5) ac adran 3(3) o Ddeddf 2024.

(4)

Fel y’i mewnosodwyd gan adran 2(3) o Ddeddf 2024. Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.

(5)

Mae’r cyfeiriad yn adran 203(6A) o Ddeddf 2006 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(6)

2006 p. 42. Mae diwygiadau i adran 206(1) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

EUR 2002/2195. Diwygiwyd Atodiad 1 i EUR 2002/2195 gan reoliad 2 o Reoliadau’r Eirfa Gaffael Gyffredin (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/601).

(8)

Mae diwygiadau i adran 206(1) o Ddeddf 2006 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

Diffinnir “diwrnod gwaith” yn Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).

(10)

Y platfform digidol canolog y gellir ei gyrchu yn http://www.gov.uk/find-tender.

(11)

Y platfform digidol Cymreig y gellir ei gyrchu yn https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/.

(12)

Mae diwygiadau i reoliad 34 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(13)

Diwygiwyd rheoliad 49 gan reoliadau 1(2) a 6(32) o Reoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1319) (“Rheoliadau 2020”) (gyda pharagraffau 3 i 5 o’r Atodlen iddynt).

(14)

Diwygiwyd rheoliad 51(1) gan reoliad 1(1) o Reoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio, Diddymu a Dirymu) 2016 (O.S. 2016/275) a pharagraff 12 o Atodlen 2 iddynt (gyda rheoliad 5), a chan reoliadau 1(2) a 6(34)(b) o Reoliadau 2020 (gyda pharagraffau 3 i 5 o’r Atodlen iddynt).