xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Rhn. 8 Pnd. 3A wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 63; O.S. 2018/34, ergl. 3
F2Gair yn Rhn. 8 Pnd. 3A pennawd wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 44
Nid yw’r ffaith fod person y mae penderfyniad apeliadwy yn gymwys iddo—
(a)wedi gwneud cais am adolygiad o’r penderfyniad, neu
(b)wedi apelio yn ei erbyn,
yn effeithio ar unrhyw ofyniad ar y person i dalu swm o dreth ddatganoledig (a llog ar y swm hwnnw).
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person—
(a)yn rhoi hysbysiad am gais i adolygu penderfyniad apeliadwy, neu
(b)yn gwneud apêl yn erbyn penderfyniad o’r fath.
(2)Os yw’r person yn credu bod swm gormodol o dreth ddatganoledig wedi ei godi ar y person o ganlyniad i’r penderfyniad, caiff y person wneud cais i ACC ohirio adennill y swm o dreth ddatganoledig y mae’r person yn credu ei fod yn ormodol (a llog ar y swm hwnnw) (“cais i ohirio”).
(3)Rhaid i gais i ohirio bennu—
(a)y swm o dreth ddatganoledig y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef, F3...
(b)y rhesymau pam fod y person sy’n gwneud y cais yn credu bod y swm yn ormodol [F4, ac
(c)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, y rhesymau pam y mae’r person sy’n gwneud y cais yn credu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person.]
(4)Os yw ACC
[F5(a)]yn credu bod gan y person sy’n gwneud y cais i ohirio seiliau rhesymol dros gredu bod y swm o dreth ddatganoledig y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn ormodol, [F6 a
(b)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person,]
caiff ACC ganiatáu’r cais i ohirio.
(5)Os yw ACC
[F7(a)]yn credu mai dim ond mewn perthynas â rhan o’r swm y mae gan y person seiliau rhesymol dros gredu bod y swm yn ormodol, [F8neu
(b)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu mai dim ond mewn cysylltiad â rhan o’r swm (a llog ar y rhan honno) y byddai adennill yn achosi caledi ariannol i’r person,
caiff ACC ganiatáu’r cais mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r swm sy’n briodol yn ei farn.]
(6)Caiff ACC gymeradwyo’r cais i ohirio (yn llwyr neu’n rhannol) yn amodol ar ddarparu sicrhad digonol.
(7)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad o’i benderfyniad i’r person a wnaeth y cais i ohirio.
Diwygiadau Testunol
F3Gair yn a. 181B(3) wedi ei hepgor (1.4.2018) yn rhinwedd Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 44(2)(a), 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 3
F4A. 181B(3)(c) ac gair wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 44(2)(b), 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 3
F5Geiriau yn a. 181B(4) wedi ei ailrifo fel a. 181B(4)(a) (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 44(3)(a), 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 3
F6A. 181B(4)(b) ac gair wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 44(3)(b), 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 3
F7Geiriau yn a. 181B(5) wedi ei ailrifo fel a. 181B(5)(a) (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 44(4)(a), 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 3
F8A. 181B(5)(b) wedi ei amnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 44(4)(b), 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 3
(1)Rhaid gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig ag adolygiad drwy roi hysbysiad o’r cais i ACC cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 174 ar gyfer gofyn am yr adolygiad.
(2)Ond os gwneir cais hwyr am adolygiad o dan adran 175, rhaid gwneud y cais i ohirio yr un pryd â’r cais hwyr.
(3)Rhaid gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig ag apêl drwy roi hysbysiad i ACC cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 179 ar gyfer gwneud yr apêl.
(4)Ond os yw’r tribiwnlys yn rhoi caniatâd i wneud apêl hwyr o dan adran 180, rhaid gwneud y cais i ohirio yr un pryd ag y ceisir caniatâd ar gyfer yr apêl hwyr.
(5)Mae is-adrannau (1) a (3) yn ddarostyngedig i adran 181D.
(1)Pan fo person—
(a)yn gwneud cais am adolygiad cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 174, a
(b)yn gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig â’r adolygiad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw,
ni chaiff ACC ystyried y cais i ohirio onid yw’n fodlon bod yr amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni.
(2)Pan fo person—
(a)yn gwneud apêl cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 179, a
(b)yn gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig â’r apêl ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw,
ni chaiff ACC ystyried y cais i ohirio onid yw’n fodlon bod yr amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni.
(3)Yr amodau yw—
(a)bod gan y person sy’n gwneud y cais i ohirio esgus rhesymol dros beidio â gwneud y cais yn ystod y cyfnod a bennir yn adran 174 neu 179, yn ôl y digwydd, a
(b)wedi hynny, bod y person sy’n gwneud y cais i ohirio wedi gwneud y cais heb oedi afresymol.
(1)Caiff person sy’n gwneud cais i ohirio, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad o’i benderfyniad ynglŷn â’r cais, wneud cais i’r tribiwnlys am adolygiad o benderfyniad ACC.
(2)Caiff y tribiwnlys ddyfarnu bod penderfyniad ACC—
(a)i’w gadarnhau,
(b)i’w ganslo, neu
(c)i’w ddisodli â phenderfyniad arall y gallai ACC fod wedi ei wneud.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)ACC neu’r tribiwnlys wedi caniatáu cais i ohirio,
(b)newid mewn amgylchiadau wedi hynny, ac
(c)o ganlyniad i’r newid hwnnw, naill ai ACC neu’r person a wnaeth y cais yn credu—
(i)y dylid amrywio’r swm o dreth ddatganoledig y caniatawyd y cais mewn cysylltiad ef;
(ii)pan fo caniatáu’r cais yn amodol ar ddarparu sicrhad digonol, y dylid amrywio’r amod.
(2)Caiff y naill barti neu’r llall geisio cytundeb ei gilydd drwy ddyroddi hysbysiad sy’n pennu’r amrywiad arfaethedig i’r parti arall.
(3)Os ceir cytundeb, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad sy’n cadarnhau’r amrywiad i’r person.
(4)Mae’r amrywiad yn cael effaith o’r dyddiad y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad o dan is-adran (3).
(5)Os na cheir cytundeb o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddir yr hysbysiad o dan is-adran (2), caiff y naill barti neu’r llall wneud cais i’r tribiwnlys am ddyfarniad.
(6)Caiff y tribiwnlys ddyfarnu ar gais o’r fath drwy—
(a)cadarnhau’r amrywiad arfaethedig,
(b)gwrthod yr amrywiad arfaethedig, neu
(c)gwneud unrhyw amrywiad arall sy’n briodol ym marn y tribiwnlys.
(1)Ni chaiff ACC gymryd unrhyw gamau i adennill swm gohiriedig yn ystod y cyfnod gohirio.
(2)Ystyr swm gohiriedig yw—
(a)swm o dreth ddatganoledig a bennir mewn cais i ohirio (oni bai bod y cais yn gais hwyr a wneir yn unol ag adran 181C(2) neu (4) neu adran 181D), neu
(b)swm o dreth ddatganoledig y mae ACC neu’r tribiwnlys yn caniatáu cais i ohirio mewn cysylltiad ag ef.
(3)Yn achos swm gohiriedig sydd o fewn is-adran (2)(a), mae’r cyfnod gohirio ar gyfer y swm—
(a)yn dechrau â’r diwrnod y gwneir y cais i ohirio, a
(b)yn dod i ben—
(i)os caniateir y cais, â’r diwrnod y’i caniateir,
(ii)os na chaniateir y cais ac os na wneir cais i’r tribiwnlys am adolygiad o’r penderfyniad hwnnw, â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer gwneud cais o’r fath, neu
(iii)os na chaniateir y cais ac y gwneir cais i’r tribiwnlys am adolygiad o’r penderfyniad hwnnw, â’r diwrnod y mae’r tribiwnlys yn gwneud ei ddyfarniad.
(4)Yn achos swm gohiriedig sydd o fewn is-adran (2)(b) mae’r cyfnod gohirio ar gyfer y swm—
(a)yn dechrau â’r dyddiad y mae ACC neu’r tribiwnlys yn caniatau’r cais i ohirio, a
(b)yn dod i ben—
(i)os gwnaed y cais i ohirio mewn cysylltiad ag adolygiad o benderfyniad apeliadwy, â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi hysbysiad o gasgliadau’r adolygiad, neu
(ii)os gwnaed y cais i ohirio mewn cysylltiad ag apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy, â’r diwrnod y mae’r tribiwnlys yn dyfarnu’r apêl.
(5)Pan gaiff swm gohiriedig sydd o fewn is-adran (2)(b) ei amrywio o dan adran 181F, mae’r swm a amrywiwyd i’w drin fel y swm gohiriedig o ddyddiad yr amrywiad.
(6)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at ganiatáu cais i ohirio yn cynnwys achosion pan gaiff y cais ei ganiatáu’n rhannol.
(1)Pan fo person yn gwneud (yn unol â DTLlG) apêl bellach yn erbyn dyfarniad y tribiwnlys ar apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy, mae adrannau 181B, 181C, 181E, 181F a 181G yn gymwys i’r apêl bellach fel y maent yn gymwys i apêl, ond fel pe bai’r addasiadau a ganlyn wedi eu gwneud.
(2)Mae adran 181B yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adrannau (3), (4) a (5)—
“(3)Rhaid i gais i ohirio bennu—
(a)y swm o dreth ddatganoledig y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef,
(b)y rhesymau pam fod y person sy’n gwneud y cais o’r farn fod y swm yn ormodol, a
(c)y rhesymau pam fod y person o’r farn y byddai adennill y swm (a llog ar y swm) yn achosi caledi ariannol difrifol i’r person.
(4)Os yw ACC—
(a)yn credu bod gan y person sy’n gwneud y cais i ohirio seiliau rhesymol dros gredu bod y swm o dreth ddatganoledig y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn ormodol, a
(b)â rheswm i gredu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm) yn achosi caledi ariannol difrifol i’r person,
caiff ACC ganiatáu’r cais.
(5)Ond os yw ACC—
(a)yn credu mai dim ond mewn cysylltiad â rhan o’r swm y mae gan y person seiliau rhesymol dros gredu bod y swm yn ormodol, neu
(b)â rheswm i gredu mai dim ond mewn cysylltiad â rhan o’r swm (a llog ar y rhan honno) y byddai adennill yn achosi caledi ariannol difrifol i’r person,
caiff ACC ganiatáu’r cais mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r swm sy’n briodol yn ei farn.”
(3)Mae adran 181C yn cael effaith fel pe bai—
(a)yn is-adran (3), “ar y diwrnod y gwneir yr apêl bellach neu cyn hynny” wedi ei roi yn lle “cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 179 ar gyfer gwneud yr apêl”, a
(b)is-adran (4) wedi ei hepgor.
(4)Mae adran 181F yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (a) yn is-adran (1)—
“(a)cais i ohirio wedi ei ganiatáu gan—
(i)yr Uwch Dribiwnlys pan fo’r cais yn ymwneud ag apêl bellach a wneir o dan adran 11 o DTLlG, neu
(ii)y llys apeliadol perthnasol a bennir o dan is-adran (11) o adran 13 o DTLlG pan fo’r cais yn ymwneud ag apêl bellach a wneir o dan yr adran honno.”
(5)Mae adran 181G yn cael effaith fel pe bai—
(a)yn is-adran (2)(a) y geiriau “(oni bai bod y cais yn gais hwyr a wneir yn unol ag adran 181C(2) neu (4) neu adran 181D)” wedi eu hepgor, a
(b)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (4)(b)—
“(b)yn dod i ben ar y diwrnod y dyfernir yr apêl bellach.”
(6)Mae’r cyfeiriadau at “y tribiwnlys” yn adrannau 181E(1) a (2), 181F(5) a (6) a 181G(2), (3) a (4) i’w darllen fel cyfeiriadau at—
(a)yr Uwch Dribiwnlys mewn achos pan wneir yr apêl bellach o dan adran 11 o DTLlG, neu
(b)y llys apeliadol perthnasol a bennir o dan is-adran (11) o adran 13 o DTLlG mewn achos pan wneir yr apêl bellach o dan yr adran honno.
(1)Yn adran 11(5) o DTLlG (penderfyniadau a eithrir o’r hawl i apelio i’r Uwch Dribiwnlys), ar ôl paragraff (cb) (fel y’i mewnosodir gan adran 116(1) o’r Ddeddf hon) mewnosoder—
“(cc)any decision of the First-tier Tribunal under section 181E or 181F of that Act (appeals relating to postponement requests),”.
(2)Yn adran 13(8) o DTLlG (penderfyniadau a eithrir o’r hawl i apelio i Lys Apêl etc.), ar ôl paragraff (bb) (fel y’i mewnosodir gan adran 116(2) o’r Ddeddf hon) mewnosoder—
“(bc)any decision of the Upper Tribunal under section 181E or 181F of that Act (appeals relating to postponement requests),”.]
(1)Mae’r Bennod hon yn gymwys i dalu ac adennill symiau sy’n ymwneud â chredydau treth—
(a)fel pe bai cyfeiriadau at swm o dreth ddatganoledig (gan gynnwys symiau o dreth gwarediadau tirlenwi) yn gyfeiriadau at swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth,
(b)fel pe bai cyfeiriadau at log ar swm o dreth ddatganoledig yn gyfeiriadau at log ar swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, ac
(c)fel pe bai cyfeiriadau at dreth ddatganoledig yn cael ei chodi neu i’w chodi ar berson yn gyfeiriadau at swm sy’n daladwy gan berson mewn cysylltiad â chredyd treth.]
Diwygiadau Testunol
F9A. 181J wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 45