xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i warediad trethadwy deunydd a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig.
(2)Mae swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad i’w gyfrifo drwy luosi pwysau trethadwy’r deunydd mewn tunelli â’r gyfradd safonol.
(3)Y gyfradd safonol yw’r gyfradd y dunnell a ragnodir at ddibenion is-adran (2) mewn rheoliadau.
(4)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r gwarediad os yw’r deunydd a waredir—
(a)yn gyfan gwbl ar ffurf un neu ragor o ddeunyddiau cymwys (gweler adran 15), neu
(b)yn gymysgedd cymwys o ddeunyddiau (gweler adran 16).
(5)Yn lle hynny, mae swm y dreth sydd i’w godi ar warediad o’r disgrifiad hwnnw i’w gyfrifo drwy luosi pwysau trethadwy’r deunydd mewn tunelli â’r gyfradd is.
(6)Y gyfradd is yw’r gyfradd y dunnell a ragnodir at ddibenion is-adran (5) mewn rheoliadau.
(7)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) neu (6) ragnodi cyfraddau gwahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o ddeunydd.
(8)Gweler adran 18 am ddarpariaeth ynghylch sut y mae pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy i’w gyfrifo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I3A. 14(3)(6) mewn grym ar 18.10.2017 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/955, ergl. 2(a)
I4A. 14(3)(6) mewn grym ar 1.4.2018 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2018/35, ergl. 3