Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

40Pŵer i amrywio cyfnod cyfrifyddu neu ddyddiad ffeilioLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff ACC amrywio—

(a)hyd cyfnod cyfrifyddu;

(b)dyddiad ffeilio ffurflen dreth.

(2)Gwneir amrywiad drwy ddyroddi hysbysiad i’r person y mae’r amrywiad yn gymwys iddo.

(3)Rhaid i’r hysbysiad nodi manylion yr amrywiad.

(4)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad o dan yr adran hon naill ai—

(a)ar gais person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy neu sy’n bwriadu gwneud hynny, neu

(b)ar ei gymhelliad ei hun.

(5)Rhaid i gais i amrywio gael ei gyflwyno mewn ysgrifen.

(6)Os yw ACC yn gwrthod cais i amrywio, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r person a wnaeth y cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 40 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(n)