83Dyletswyddau a rhwymedigaethau partneriaethau a chyrff anghorfforedigLL+C
(1)Pan fo unrhyw beth yn ofynnol neu pan ganiateir gwneud unrhyw beth o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sy’n rhedeg busnes mewn partneriaeth, rhaid iddo gael ei wneud gan bob person neu mewn perthynas â phob person sy’n bartner ar yr adeg y’i gwneir neu y mae’n ofynnol ei wneud.
(2)Ond caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob partner gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw un neu ragor ohonynt; ac os yw prif fan busnes y bartneriaeth yn yr Alban, caniateir hefyd iddo gael ei wneud gan unrhyw berson arall a awdurdodir gan y bartneriaeth.
(3)Pan fo unrhyw beth yn ofynnol neu pan ganiateir gwneud unrhyw beth o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sy’n rhedeg busnes fel corff anghorfforedig, rhaid iddo gael ei wneud gan bob person neu mewn perthynas â phob person sy’n aelod rheoli o’r corff ar yr adeg y’i gwneir neu y mae’n ofynnol ei wneud.
(4)Ond caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob aelod rheoli o’r corff gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw un neu ragor ohonynt.
(5)Aelodau rheoli corff anghorfforedig yw—
(a)pob aelod o’r corff anghorfforedig sy’n dal swydd llywydd, cadeirydd, trysorydd, ysgrifennydd neu unrhyw swydd debyg;
(b)os nad oes unrhyw swydd o’r fath, pob aelod sy’n dal swydd aelod o bwyllgor sy’n rheoli materion y corff;
(c)os nad oes unrhyw swydd na phwyllgor o’r fath, pob aelod o’r corff.
(6)Mae rhwymedigaeth i dalu swm perthnasol o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir gan bersonau sy’n rhedeg busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig yn rhwymedigaeth unigol ac ar y cyd i bob person sy’n aelod o’r bartneriaeth neu’r corff ar yr adeg y gwneir y peth neu’r adeg nas gwneir.
(7)Ond pan fo—
(a)personau yn rhedeg busnes tirlenwi mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig, a
(b)person yn aelod o’r bartneriaeth neu’r corff am ran o gyfnod cyfrifyddu yn unig,
rhwymedigaeth bersonol y person am y dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu yw’r gyfran o’r rhwymedigaeth sy’n ymwneud â busnes y bartneriaeth neu’r corff sy’n deg ac yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(8)Yn yr adran hon, ystyr “swm perthnasol” yw—
(a)swm o dreth;
(b)cosb o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth;
[F1(ba)swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth;]
(c)llog ar swm o fewn paragraff (a) [F2, (b) neu (ba)].
Diwygiadau Testunol
F1A. 83(8)(ba) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 6(a)
F2Geiriau yn a. 83(8)(c) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 6(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 83 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 83 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(w)