Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Rhagarweiniad

1.Mae'r nodiadau esboniadol hyn yn ymwneud â Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 a gafodd ei phasio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 20 Mawrth 2019 ac a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 22 Mai 2019. Fe'u paratowyd gan Lywodraeth Cymru ar ran Llyr Gruffydd AC, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Ddeddf, er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf; nid ydynt yn rhan o'r Ddeddf.

2.Mae angen darllen y nodiadau esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf. Nid ydynt, ac ni fwriedir iddynt fod, yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf. Felly os yw'n ymddangos nad oes angen rhoi esboniad neu sylw ychwanegol ar adran neu ran o adran, ni wneir hynny.

Rhan 1

Adran 1 - Trosolwg

3.Mae'r adran hon yn rhoi crynodeb sylfaenol o’r Ddeddf.

Rhan 2

Adran 2: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

4.Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer parhad swydd yr Ombwdsmon. Mae'r adran hon hefyd yn cyflwyno Atodlen 1.

Atodlen 1

5.Yn gyffredinol, mae'r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynglŷn â swydd yr Ombwdsmon, gan gynnwys pŵer yr Ombwdsmon i benodi staff a chynghorwyr arbenigol ac i ddirprwyo swyddogaethau; gofynion o ran adroddiadau blynyddol ac eithriadol ac amcangyfrifon o incwm a gwariant swyddfa a chyfrifon yr Ombwdsmon, prosesau archwilio ac archwiliadau gwerth am arian i'r modd y defnyddir adnoddau swyddfa'r Ombwdsmon.

6.Mae paragraffau 1 i 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch penodiad, statws a thymor swydd yr Ombwdsmon.

7.Mae paragraff 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi Ombwdsmon dros dro pan fo swydd yr Ombwdsmon yn wag. Mae is-baragraff (7) yn darparu bod Ombwdsmon dros dro, yn gyffredinol, i gael ei ystyried yn Ombwdsmon yn ystod y cyfnod y mae yn y swydd honno. O ganlyniad, mae Ombwdsmon dros dro yn gallu, er enghraifft, arfer holl bwerau'r Ombwdsmon o ran cael gwybodaeth a thystiolaeth a chyflwyno dogfennau o dan adrannau 18, 19 a 20.

8.Mae paragraff 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad benderfynu ar y telerau sy'n gymwys i benodiad yr Ombwdsmon neu Ombwdsmon dros dro.

9.Mae paragraffau 6, 7, 8 a 9 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag:

a)

y personau sydd wedi'u hanghymhwyso rhag bod yn Ombwdsmon (neu'n Ombwdsmon dros dro),

b)

y swyddi ac ati y mae'r Ombwdsmon (neu'r Ombwdsmon dros dro) wedi ei anghymhwyso rhag eu dal tra bydd yn y swydd, ac

c)

y swyddi ac ati y mae person sydd wedi peidio â bod yn Ombwdsmon (neu'n Ombwdsmon dros dro) wedi ei anghymhwyso rhag eu dal am gyfnod o dair blynedd o'r adeg y mae'r person hwnnw’n peidio â dal y swydd, oni bai bod pwyllgor Cynulliad yn cymeradwyo fel arall.

10.Yn ogystal, mae adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu bod yr Ombwdsmon wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Cynulliad.

11.Mae paragraff 10 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol i'r Ombwdsmon (neu'r Ombwdsmon dros dro).

12.Mae paragraff 11 yn ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw symiau y mae'n rhaid i'r Ombwdsmon eu talu o ganlyniad i dorri dyletswydd gael eu codi ar Gronfa Gyfunol Cymru. Mae hefyd yn galluogi'r Ombwdsmon i gadw ffioedd a chostau penodol y byddai'n rhaid eu talu fel arall i Gronfa Gyfunol Cymru. (Am ddarpariaeth bellach ynghylch Cronfa Gyfunol Cymru, gweler Rhan 5 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.)

13.Mae paragraff 12 yn gwneud darpariaeth i'r Ombwdsmon benodi’r cyfryw staff sy’n angenrheidiol ym marn yr Ombwdsmon, yn unol â'r telerau a'r amodau a benderfynir. Nid yw aelodau o staff yr Ombwdsmon yn weision sifil.

14.Mae paragraff 13 yn galluogi'r Ombwdsmon i geisio cyngor (boed am dâl ai peidio) yn ôl yr hyn sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r Ombwdsmon.

15.Mae paragraff 14 yn darparu y caiff yr Ombwdsmon awdurdodi person i gyflawni swyddogaethau’r Ombwdsmon ar ran yr Ombwdsmon. Fodd bynnag, ni chaiff yr Ombwdsmon wneud trefniadau gyda Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru na’r Cwnsler Cyffredinol o dan y Ddeddf hon nac fel arall, i'r naill arfer swyddogaethau'r llall nac i'r naill ddarparu rhai gwasanaethau penodol i'r llall.

16.Mae paragraff 15 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adroddiadau blynyddol ac eithriadol gan yr Ombwdsmon.

17.Mae paragraff 16 yn gwneud darpariaeth bod yn rhaid i'r Ombwdsmon, ym mhob blwyddyn ariannol, baratoi amcangyfrif o incwm a threuliau swyddfa’r Ombwdsmon i gael ei ystyried gan y pwyllgor Cynulliad priodol. Yna, rhaid i'r pwyllgor osod yr amcangyfrif, gydag addasiadau neu hebddynt, gerbron y Cynulliad.

18.Mae paragraffau 17, 18, 19 and 20 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r cyfrifon y mae'n ofynnol i'r Ombwdsmon eu cadw, y broses o archwilio'r cyfrifon hynny gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, trefniadau swyddogion cyfrifyddu ar gyfer swyddfa’r Ombwdsmon, ac archwiliadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn cysylltiad â pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y mae'r Ombwdsmon wedi defnyddio adnoddau ei swyddfa.

19.Mae paragraff 21 yn darparu pwerau i'r Ombwdsmon wneud pethau sy’n atodol i swyddogaethau’r Ombwdsmon. Er enghraifft, mae’n rhoi pŵer i’r Ombwdsmon wneud pethau fel prydlesu swyddfeydd a cherbydau er mwyn ei gwneud yn haws cyflawni swyddogaethau’r Ombwdsmon.

20.Mae paragraff 22 yn egluro y bydd y sawl sy'n Ombwdsmon y diwrnod cyn i'r Ddeddf hon gael ei phasio yn parhau i fod yn Ombwdsmon ar ôl i'r Ddeddf gael ei phasio (ac na fydd toriad yn nhymor y swydd o saith mlynedd).

Rhan 3

Adran 3 - Pŵer i ymchwilio i gwynion

21.Yn rhinwedd adran 3(1) caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i gŵyn yn ymwneud â mater:

a)

os yw’r gŵyn wedi’i gwneud yn briodol neu wedi’i hatgyfeirio’n briodol at yr Ombwdsmon, a

b)

os oes gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio i'r mater hwnnw.

22.Mae adrannau 11 i 16 yn rhestru'r materion y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddynt.

23.Mae adran 3(2) yn pennu’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i gŵyn gael ei gwneud yn briodol i’r Ombwdsmon. Mae adran 3(3) yn pennu’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i gŵyn gael ei hatgyfeirio’n briodol i’r Ombwdsmon.

24.Mae adran 3(4) yn galluogi’r Ombwdsmon i ymchwilio i gŵyn, hyd yn oed os nad yw’r gofynion hynny wedi eu bodloni, cyhyd ag y mae’n fater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan adrannau 11 i 16, ac os yw’r Ombwdsmon o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

25.Mae adran 3(5) a (6) yn rhoi disgresiwn eang i'r Ombwdsmon benderfynu pa un a yw am gychwyn ymchwiliad, parhau ag ymchwiliad neu ddod ag ymchwiliad i ben.

26.Mae adran 3(7) yn ei gwneud yn eglur y caiff yr Ombwdsmon gychwyn neu barhau ag ymchwiliad i gŵyn hyd yn oed os yw'r gŵyn wedi'i thynnu'n ôl. Mae hyn yn cynnwys y sefyllfa, er enghraifft, pan fo cwyn wedi ei gwneud mewn cysylltiad â chamau gweithredu awdurdod rhestredig sy'n effeithio ar fwy nag un person, ond pan mai'r gŵyn sydd wedi'i thynnu'n ôl oedd y gŵyn 'arweiniol'. Mewn achosion o'r fath, os yw'r gŵyn 'arweiniol' wedi cael ei thynnu'n ôl, mater i'r Ombwdsmon fydd cychwyn ymchwiliad neu barhau ag ymchwiliad fel y gwêl yr Ombwdsmon yn dda (yn ddarostyngedig i’r cyfyngiad yn adran 8(5)(a)).

Adran 4 - Pŵer i ymchwilio ar ei liwt ei hun

27.Mae'r pŵer hwn yn caniatáu i'r Ombwdsmon ymchwilio i fater pa un a yw wedi cael cwyn ai peidio. Felly, mae'n caniatáu i'r Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad.

28.Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar y modd y dehonglir y Ddeddf – pan gaiff y gair "ymchwiliad" ei ddefnyddio yn Rhan 3, gall olygu naill ai ymchwiliad o dan adran 3 neu ymchwiliad o dan adran 4. Er enghraifft, mae adran 19 yn gymwys "mewn perthynas ag ymchwiliadau a gynhelir o dan y Rhan hon". Felly, mae adran 19 yn gymwys o ran ymchwiliad i gŵyn o dan adran 3 yn ogystal ag ymchwiliad ar ei liwt ei hun o dan adran 4.

29.Yn yr un modd â'r pŵer o dan adran 3, dim ond i ymchwilio i faterion y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddynt o dan Ran 3 y caniateir defnyddio'r pŵer yn adran 4. Mae adrannau 11 i 16 yn nodi'r materion y caniateir ymchwilio iddynt.

30.Mae adran 4(2) yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff yr Ombwdsmon gynnal ymchwiliad ar ei liwt ei hun. Y gofynion yw:

a)

bod yn rhaid i'r Ombwdsmon roi sylw i fudd y cyhoedd wrth gychwyn ymchwiliad ar ei liwt ei hun;

b)

bod yn rhaid i’r Ombwdsmon fod ag amheuaeth resymol fod camweinyddu systemig, neu amheuaeth resymol fod anghyfiawnder systemig wedi ei ddioddef o ganlyniad i arfer barn broffesiynol mewn cysylltiad â darparu gofal cymdeithasol neu iechyd;

c)

bod yn rhaid i'r Ombwdsmon ymgynghori â’r cyfryw bersonau y mae’r Ombwdsmon o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy; a

d)

bod yn rhaid i'r Ombwdsmon roi sylw i’r meini prawf ar gyfer ymchwiliadau ar ei liwt ei hun a gyhoeddir o dan adran 5.

Adran 5 - Meini prawf ar gyfer ymchwilio ar ei liwt ei hun

31.Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf a gaiff eu defnyddio gan yr Ombwdsmon wrth benderfynu a ddylai gynnal ymchwiliad ar ei liwt ei hun ai peidio.

32.Cyn cyhoeddi'r meini prawf, rhaid i'r Ombwdsmon osod drafft o'r meini prawf gerbron y Cynulliad. Bydd y drafft o'r meini prawf yn destun gweithdrefn penderfyniad negyddol. Golyga hyn bod gan y Cynulliad 40 diwrnod i wrthwynebu'r meini prawf. Os na fydd y Cynulliad yn gwrthwynebu o fewn y 40 diwrnod hwnnw, rhaid i'r Ombwdsmon gyhoeddi'r meini prawf ar ffurf y drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad. Os bydd y Cynulliad yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r meini prawf drafft, rhaid i’r Ombwdsmon beidio â chyhoeddi’r meini prawf ar ffurf drafft. Yn hytrach, caiff osod meini prawf drafft newydd gerbron y Cynulliad.

33.Pan fydd y meini prawf wedi cael eu cyhoeddi, caiff yr Ombwdsmon ddiwygio ac ailgyhoeddi’r meini prawf. Ond os bydd diwygiad yn gwneud newidiadau sylweddol i’r meini prawf, yna rhaid i’r diwygiad drafft gael ei osod gerbron y Cynulliad a bydd y weithdrefn penderfyniad negyddol yn gymwys i’r diwygiad yn yr un modd ag yr oedd yn gymwys i’r meini prawf cychwynnol.

34.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio’r meini prawf a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon. Mae rheoliadau o'r fath yn dilyn gweithdrefn penderfyniad cadarnhaol. Golyga hyn bod yn rhaid i'r Cynulliad gymeradwyo'r rheoliadau - os nad yw'r Cynulliad yn cymeradwyo'r rheoliadau, yna ni fyddant yn dod i rym. Ond os yw'r Cynulliad yn cymeradwyo'r rheoliadau, rhaid i'r Ombwdsmon ailgyhoeddi’r meini prawf i adlewyrchu'r newidiadau a wneir gan y rheoliadau.

35.Rhaid i'r Ombwdsmon a Gweinidogion Cymru ymgynghori cyn cynnig meini prawf (neu cyn cynnig newidiadau sylweddol i feini prawf) o dan yr adran hon.

Adran 6 - Dulliau amgen o ddatrys materion

36.Mae'r adran hon yn rhoi pŵer eang i'r Ombwdsmon gymryd camau i ddatrys materion heb symud ymlaen at ymchwiliad ffurfiol. Mae'r pŵer ar gael i'r Ombwdsmon ei ddefnyddio yn lle'r pŵer i ymchwilio neu yn ychwanegol ato.

Adran 7 - Pwy sy'n cael cwyno

37.Mae adran 7 yn rhestru’r categorïau o bersonau sydd â hawl i wneud cwyn i’r Ombwdsmon. Y personau hynny yw:

a)

aelod o’r cyhoedd sy’n honni neu sydd wedi honni ei fod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i fater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan Ran 3. Disgrifir y person hwn fel “y person a dramgwyddwyd”.

b)

person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y person a dramgwyddwyd i wneud y gŵyn ar ei ran; neu

c)

os nad yw’r person a dramgwyddwyd yn gallu awdurdodi’r cyfryw berson, person sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol i weithredu ar ran y person a dramgwyddwyd.

38.Nid unigolion yn unig a gaiff gwyno i'r Ombwdsmon. Mae ystyr ehangach i’r term “person” (gweler Atodlen 2 i Ddeddf Dehongli 1978). Felly, er enghraifft, gallai cwmnïau neu gyrff corfforaethol eraill gwyno i'r Ombwdsmon ar ran aelod o’r cyhoedd.

39.Ni chaiff awdurdodau rhestredig sy'n gweithredu yn rhinwedd eu swyddogaeth fel awdurdodau rhestredig gwyno i'r Ombwdsmon (adran 7(2)).

40.Fodd bynnag, nid yw hyn yn rhwystro rhywun sydd, er enghraifft, yn gyflogai i awdurdod rhestredig rhag gwneud cwyn, ar yr amod fod y person yn gwneud y gŵyn fel unigolyn.

41.Mae rhestr o’r awdurdodau rhestredig yn Atodlen 3.

42.Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a oes gan berson hawl i wneud cwyn.

Adran 8 - Gofynion: cwynion a wneir i'r Ombwdsmon

43.Os bydd person yn dymuno gwneud cwyn i'r Ombwdsmon, rhaid i'r gŵyn fodloni gofynion adran 8(1) (er bod gan yr Ombwdsmon ddisgresiwn o dan adran 3(4) i ymchwilio i faterion pan nad yw'r gofynion hyn yn cael eu bodloni).

44.Mae adran 8(1) yn darparu bod yn rhaid i’r gŵyn fod ar ffurf a bennir gan yr Ombwdsmon a chynnwys y cyfryw wybodaeth a bennir gan yr Ombwdsmon er mwyn bodloni gofynion adran 3(2)(b). Hefyd, rhaid i’r gŵyn gael ei gwneud cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y person a dramgwyddwyd ei hysbysu gyntaf am y mater sy’n destun y gŵyn. Bydd y ffurf a’r cynnwys yn cael eu pennu mewn canllawiau a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon. Felly, dylai personau sy'n dymuno gwneud cwyn ddarllen y canllawiau hynny, a fydd yn eu helpu. Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a yw gofynion is-adran 8(1) wedi eu bodloni o ran cwyn.

45.Mae adran 8(4) yn darparu ar gyfer amgylchiadau lle caiff cwyn ei gwneud heblaw yn ysgrifenedig (er enghraifft, cwyn lafar neu ar ffurf Iaith Arwyddion Prydain). Mae is-adrannau (4) i (7) yn pennu gofynion ychwanegol lle caiff cwyn ei gwneud heblaw yn ysgrifenedig. Mae hyn yn cynnwys egluro wrth yr unigolyn dan sylw oblygiadau gwneud cwyn yn briodol (h.y. y gallai cwyn sy'n cael ei gwneud yn briodol arwain at gychwyn ymchwiliad gan yr Ombwdsmon), a chadarnhau a yw'r unigolyn am i'r gŵyn symud ymlaen i fod yn un sy'n cael ei gwneud yn briodol. Os nad yw'r person yn dymuno i'r gŵyn gael ei thrin yn un sy'n cael ei gwneud yn briodol, ni chaiff yr Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad adran 3 i'r mater (ond os yw'r Ombwdsmon eisoes wedi cychwyn ymchwiliad i'r mater a bod y person wedi hynny yn tynnu'r gŵyn lafar yn ôl, mae gan yr Ombwdsmon ddisgresiwn i benderfynu a ddylai barhau â'r ymchwiliad ai peidio).

46.Os yw person wedi cadarnhau nad yw am i gŵyn barhau i gael ei hystyried yn un a wnaed yn briodol, gall yr Ombwdsmon, serch hynny, barhau i ymchwilio i’r mater o dan y pŵer i ymchwilio ar ei liwt ei hun yn adran 4 ar yr amod bod gofynion yr adran wedi’u bodloni.

Adran 9 - Gofynion: cwynion a atgyfeirir at yr Ombwdsmon

47.Mae’r adran hon yn pennu’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i gŵyn gael ei hatgyfeirio’n briodol o fewn ystyr adran 3(3)(b). Mae’n darparu y caiff awdurdod rhestredig atgyfeirio cwyn at yr Ombwdsmon, ond dim ond os cafodd ei gwneud i’r awdurdod rhestredig gan berson a fyddai wedi bod â hawl i wneud y gŵyn honno'n uniongyrchol i'r Ombwdsmon yn unol ag adran 7.

48.Rhaid i'r gŵyn fod wedi cael ei gwneud i'r awdurdod o fewn blwyddyn i'r diwrnod y daeth y person a dramgwyddwyd i wybod gyntaf am y mater y gwneir cwyn amdano. Rhaid i'r atgyfeiriad gan yr awdurdod rhestredig i’r Ombwdsmon gael ei wneud cyn diwedd cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod y gwnaed y gŵyn i'r awdurdod rhestredig.

49.Yn ogystal, rhaid i'r atgyfeiriad fod ar ba ffurf bynnag, a chynnwys pa wybodaeth bynnag, y mae'r Ombwdsmon yn ei nodi mewn canllawiau a gyhoeddir o dan adran 9(2). Felly, dylai awdurdodau rhestredig sydd am atgyfeirio cwyn ddarllen y canllawiau hynny i’w helpu yn hyn o beth.

50.Dan adran 3(4) mae gan yr Ombwdsmon ddisgresiwn i dderbyn atgyfeiriad hyd yn oed pan nad yw'r naill neu'r llall o'r terfynau amser (neu'r ddau) wedi eu bodloni, neu pan nad yw'r atgyfeiriad ar y ffurf sy'n ofynnol neu pan nad yw'r atgyfeiriad yn cynnwys y wybodaeth ofynnol.

Adran 10 - Cofnodion o gwynion

51.Mae adran 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ombwdsmon gadw cofrestr o bob cwyn a wneir i’r Ombwdsmon neu a atgyfeirir ato y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddi o dan Ran 3.

52.Bydd y gofrestr yn cynnwys pob cwyn ysgrifenedig (gan gynnwys cwynion a wnaed ar ffurf electronig) a phob cwyn a wnaed ar ffurf heblaw yn ysgrifenedig (gan gynnwys y rhai a wnaed ar lafar).

Adran 11 - Materion y caniateir ymchwilio iddynt

53.Mae adran 11(1) yn darparu bod gan yr Ombwdsmon, yn amodol ar adrannau 12 i 15, yr hawl i ymchwilio i'r materion a ganlyn:

a)

camweinyddu honedig gan awdurdod rhestredig mewn cysylltiad â 'chamau gweithredu perthnasol';

b)

methiant honedig mewn 'gwasanaeth perthnasol' a ddarperir gan awdurdod rhestredig; neu

c)

methiant honedig gan awdurdod rhestredig i ddarparu 'gwasanaeth perthnasol'.

54.Diffinnir 'camau gweithredu perthnasol' yn adran 11(4) a diffinnir 'gwasanaeth perthnasol' yn adran 11(5). Mae'r diffiniadau wedi'u cynllunio i sicrhau mai dim ond materion sy’n ymwneud â’r camau a gymerwyd gan awdurdodau rhestredig yn eu rhinwedd fel cyrff cyhoeddus y caniateir ymchwilio iddynt.

55.Yn achos awdurdod rhestredig sy'n dod o fewn cwmpas adran 11(4)(e), mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio i achos honedig o gamweinyddu wrth gyflawni swyddogaethau gweinyddol yr awdurdod hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn un o’r cyfryw awdurdodau, felly mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio i gamweinyddu honedig ar ran Llywodraeth Cymru wrth gyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau gweinyddol. Fodd bynnag, nid oes gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio i unrhyw fethiannau honedig wrth i Lywodraeth Cymru arfer ei swyddogaethau deddfwriaethol neu farnwrol.

56.Yn achos person a ychwanegir at Atodlen 3 ("awdurdodau rhestredig") drwy reoliadau o dan adran 31(2), mae adran 11(4)(d) ac adran 11(5)(d) yn darparu mai dim ond camau gweithredu y mae person yn eu cymryd neu wasanaeth y mae person yn ei ddarparu wrth gyflawni swyddogaethau y pennwyd yn y rheoliadau eu bod yn dod o fewn cylch gwaith yr Ombwdsmon y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddynt.

57.Effaith is-adran (7) yw bod swyddogaeth weinyddol a gaiff ei chyflawni gan berson a benodir gan awdurdod rhestredig i fod yn aelod o staff 'tribiwnlys perthnasol' yn cael ei thrin fel swyddogaeth weinyddol yr awdurdod rhestredig, ac felly y bydd y swyddogaeth yn dod o fewn cylch gwaith yr Ombwdsmon. Ystyr 'tribiwnlys perthnasol', fel y diffinnir yn adran 78(1), yw tribiwnlys a bennir gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Adran 12 - Eithrio: materion nad ydynt yn ymwneud â Chymru

58.Mae adran 12(1) yn darparu na chaiff yr Ombwdsmon ymchwilio i fater sy'n ymwneud â'r modd y mae awdurdod rhestredig yn cyflawni ei swyddogaethau heblaw o ran Cymru. Mae adran 12(2) yn ei gwneud yn glir nad yw'r cyfyngiad hwn yn gymwys o ran Llywodraeth Cymru, sydd â swyddogaethau penodol sy'n arferadwy y tu hwnt i Gymru (er enghraifft, swyddogaethau sy'n ymwneud â physgodfeydd neu’r cyflenwad dŵr).

59.Mae adran 12(3) yn sicrhau nad oes unrhyw amheuaeth bod unrhyw un o swyddogaethau awdurdod rhestredig o ran y Gymraeg neu unrhyw agwedd arall ar ddiwylliant Cymru i gael ei hystyried fel pe bai'n cael ei chyflawni o ran Cymru ac, felly, nad yw'n cael ei heithrio o awdurdodaeth yr Ombwdsmon gan adran 12(1).

Adran 13 - Eithrio: rhwymedïau eraill

60.Yn gyffredinol, ni chaiff yr Ombwdsmon ymchwilio i gŵyn am fater os oes gan (neu os oedd gan) y person a dramgwyddwyd hawl i apelio, neu i gael atgyfeirio neu adolygu ei achos (fel y'i pennir) neu hawl i rwymedi trwy gyfrwng achos mewn llys barn (adran 13(1)). Fodd bynnag, os bydd yr Ombwdsmon yn fodlon nad yw'n rhesymol, yn yr amgylchiadau penodol, ddisgwyl i'r person a dramgwyddwyd arfer (neu fod wedi arfer) yr hawl honno i apelio, neu i atgyfeiriad, adolygiad neu rwymedi, nid yw’r eithriad yn 13(1) yn gymwys, ac mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio i'r gŵyn (adran 13(2)).

61.Mae adran 13(3) yn darparu, yn gyffredinol, na chaiff yr Ombwdsmon ymchwilio i fater, oni bai bod yr Ombwdsmon yn fodlon:

a)

bod y mater wedi ei ddwyn i sylw’r awdurdod rhestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef gan y person a dramgwyddwyd neu ar ei ran, a

b)

bod yr awdurdod wedi cael cyfle rhesymol i ymchwilio i’r mater ac ymateb iddo.

62.Fodd bynnag, mae adran 13(4) yn rhoi disgresiwn i'r Ombwdsmon ymchwilio i fater, er gwaethaf y ffaith nad yw'r gofynion yn is-adran (3) wedi'u bodloni, os yw'r Ombwdsmon yn fodlon ei bod yn rhesymol gwneud hynny yn yr amgylchiadau penodol dan sylw.

Adran 14 - Materion eithriedig eraill

63.Mae adran 14(1) yn gwahardd yr Ombwdsmon rhag ymchwilio i'r materion sydd wedi'u heithrio a restrir yn Atodlen 2. Mae adran 14(2) yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ychwanegu at y cofnodion sydd i'w gweld, o bryd i'w gilydd, yn Atodlen 2, neu ddileu neu newid y cofnodion hynny. Rhaid i'r Cynulliad ymgynghori â'r Ombwdsmon cyn gwneud rheoliadau o'r fath (adran 14(3)).

64.Mae adran 14(5) yn sicrhau nad oes unrhyw amheuaeth y caiff yr Ombwdsmon, er gwaethaf y materion eithriedig yn Atodlen 2, ymchwilio i'r modd y mae awdurdod rhestredig wedi gweithredu unrhyw weithdrefn a sefydlwyd i archwilio cwynion neu i adolygu penderfyniadau. Felly, er enghraifft, ni chaniateir i'r Ombwdsmon ymchwilio i fater sy'n ymwneud â phenderfynu ynglŷn â swm rhent (paragraff 5 o Atodlen 2). Ond mae adran 14(5) yn sicrhau nad yw hyn yn atal yr Ombwdsmon rhag ymchwilio i'r modd y cafodd cwyn ynglŷn â phenderfyniad am swm rhent ei hystyried o dan weithdrefn gwyno awdurdod.

Atodlen 2

65.Mae'r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch materion sydd wedi'u heithrio o awdurdodaeth yr Ombwdsmon.

Adran 15 - Penderfyniadau a wnaed heb gamweinyddu

66.Mae adran 15(1) yn darparu na chaiff yr Ombwdsmon gwestiynu rhinweddau unrhyw benderfyniad a wnaed gan awdurdod rhestredig wrth arfer unrhyw ddisgresiwn, os gwnaed y penderfyniad hwnnw heb gamweinyddu. O ganlyniad, oni bai bod oedi, rhagfarn, esgeulustod, ysgelerder ac ati ar ran yr awdurdod rhestredig, ni chaiff yr Ombwdsmon gwestiynu'r penderfyniad hwnnw. Felly, os yw awdurdod rhestredig wedi gwneud penderfyniad polisi, heb gamweinyddu, gan bwyso a mesur yr holl faterion perthnasol (gan gynnwys adnoddau, er enghraifft), nid oes gan yr Ombwdsmon hawl i gwestiynu'r penderfyniad hwnnw.

67.Mae adran 15(2) yn pennu eithriad i'r rheol yn adran 15(1). Mae'n caniatáu i'r Ombwdsmon gwestiynu rhinweddau penderfyniad a wnaed heb gamweinyddu os gwnaed y penderfyniad o ganlyniad i arfer barn broffesiynol sy'n ymddangos i'r Ombwdsmon yn arferadwy mewn cysylltiad â darparu:

a)

gofal iechyd, neu

b)

gofal cymdeithasol.

Adran 16 - Pŵer i ymchwilio i wasanaethau eraill sy’n gysylltiedig ag iechyd

68.Mae adran 16 yn caniatáu i'r Ombwdsmon gynnal ymchwiliadau ategol i wasanaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd (h.y. rhai gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd na ddarperir gan awdurdodau rhestredig), ond dim ond pan fo'r Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i awdurdod rhestredig.

69.Mae adran 16(1) yn pennu cwmpas adran 16. Mae adran 16 yn gymwys:

a)

pan fo gan yr Ombwdsmon bŵer o dan Ran 3 i ymchwilio i gamweinyddu honedig neu fethiant honedig gan "awdurdod rhestredig perthnasol" (a ddiffinnir yn adran 16(4) i gynnwys Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau'r GIG, Meddygon Teulu yng Nghymru ac ati) mewn perthynas â pherson, a

b)

pan fo "gwasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd" nad yw'n wasanaeth perthnasol (h.y. nad yw'n wasanaeth a ddarperir gan awdurdod rhestredig) hefyd wedi'i ddarparu i'r person.

70.Os yw'r Ombwdsmon, yn yr amgylchiadau hynny, o'r farn na ellir ymchwilio i gamweinyddu honedig neu fethiant honedig yr awdurdod rhestredig yn effeithiol nac yn gyflawn heb ymchwilio hefyd i'r gwasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd, yna, o dan adran 16(2), caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i'r gwasanaeth hwnnw sy'n gysylltiedig ag iechyd fel rhan o'r ymchwiliad i'r awdurdod rhestredig perthnasol.

71.Er enghraifft, os yw person wedi cael triniaeth feddygol breifat a hefyd wedi cael triniaeth feddygol gan Fwrdd Iechyd Lleol, yna caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i'r driniaeth feddygol breifat os yw o'r farn bod angen gwneud hynny i ymchwilio'n effeithiol neu'n gyflawn i gamau gweithredu’r Bwrdd Iechyd Lleol.

72.Mae adran 16(3) yn nodi rhestr o ddarpariaethau lle mae unrhyw gyfeiriad at “awdurdod rhestredig” i'w ddehongli fel cyfeiriad at y person a ddarparodd y gwasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, pan fo'n ofynnol i'r Ombwdsmon anfon copi o adroddiad ar ymchwiliad i awdurdod rhestredig, rhaid i’r Ombwdsmon hefyd anfon copi at ddarparwr gwasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd (pan fo’r Ombwdsmon yn ymchwilio i ddarparwr o'r fath o dan adran 16(2)).

73.Mae adran 16(4) yn diffinio "gwasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd" i gynnwys unrhyw wasanaeth meddygol, deintyddol, offthalmig, nyrsio, bydwreigiaeth a fferyllol, ynghyd ag unrhyw wasanaeth arall a ddarperir mewn cysylltiad ag iechyd corfforol neu feddyliol (ond nid yw'n cynnwys aciwbigo, tyllu corff, electrolysis na thatŵio, sydd oll yn cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017). Felly, byddai'r enghraifft uchod o driniaeth feddygol breifat hefyd yn cynnwys triniaeth ddeintyddol breifat, triniaeth offthalmig breifat ac ati.

74.Mae Adran 16(4) hefyd yn diffinio "awdurdod rhestredig perthnasol" fel un sy’n cynnwys Bwrdd Cynghorau Cymuned yng Nghymru, Byrddau Iechyd Lleol, Cynghorau Iechyd Cymuned ac ati.

Adran 17 - Penderfyniadau i beidio ag ymchwilio neu i roi’r gorau i ymchwiliad

75.Mae adran 17(1) yn darparu bod yn rhaid i'r Ombwdsmon baratoi datganiad o'r rhesymau dros unrhyw benderfyniad y mae'r Ombwdsmon yn ei wneud i beidio â chychwyn ymchwiliad neu i roi’r gorau i ymchwiliad. Gall y sefyllfa hon godi, er enghraifft, lle mae'r Ombwdsmon yn ymchwilio i fater o dan adran 6 ac felly'n penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad.

76.(Nid yw'r gofyniad yn adran 17(1) yn gymwys mewn perthynas ag ymchwiliad ar ei liwt ei hun oni bai bod yr Ombwdsmon wedi ymgynghori â pherson o dan adran 4(2)(c) am yr ymchwiliad hwnnw.)

77.Dan adran 17(2), rhaid i'r Ombwdsmon anfon copi o'r datganiad o’r rhesymau at:

a)

unrhyw berson a wnaeth gŵyn i’r Ombwdsmon mewn perthynas â’r mater y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef; a

b)

yr awdurdod rhestredig y mae'r mater yn ymwneud ag ef.

78.Dan adran 17(3), caiff yr Ombwdsmon anfon copi o’r datganiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

79.Ni chaiff yr Ombwdsmon ond cyhoeddi datganiad o'r fath os yw’r Ombwdsmon o'r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny. Wrth ddod i’r farn honno, rhaid i'r Ombwdsmon ystyried lles y person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

80.Mae adrannau 17(7) ac (8) yn darparu, pan fo'r Ombwdsmon yn paratoi adroddiad sy'n:

a)

enwi unrhyw berson (heblaw'r awdurdod rhestredig dan sylw); neu

b)

yn cynnwys unrhyw beth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o olygu bod modd adnabod unrhyw un ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor o'r datganiad heb amharu ar ei effeithiolrwydd,

81.Dim ond os yw er budd y cyhoedd i gynnwys enw neu fanylion o'r fath y caiff yr Ombwdsmon gynnwys gwybodaeth o'r fath yn y fersiwn o'r datganiad a anfonir neu a gyhoeddir o dan yr adran hon. Wrth ddod i'r farn hon, rhaid i'r Ombwdsmon roi ystyriaeth i les y person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill y mae'r Ombwdsmon o’r farn eu bod yn briodol.

82.Yn achos y fersiwn o'r datganiad y mae'n ofynnol i'r Ombwdsmon ei hanfon, o dan adran 17(2), at unrhyw berson a wnaeth gŵyn a'r awdurdod rhestredig, ni ragwelir y byddai'n anodd i'r Ombwdsmon ddangos ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys gwybodaeth o'r fath. Y rheswm am hyn yw ei bod yn debygol, mewn achosion o'r fath, y bydd budd cyhoeddus cryf yn y ffaith fod y partïon hynny'n gwybod beth yw enwau'r bobl y mae angen cyfeirio atynt yn y datganiad ym marn yr Ombwdsmon, a phwy ydynt. Yn wir, mewn llawer o achosion yr unig rai y mae datganiad o'r fath yn debygol o'u henwi neu o nodi pwy ydynt yw'r person a dramgwyddwyd, yr awdurdod rhestredig a gymerodd y camau gweithredu sy'n destun yr ymchwiliad, a'r cyflogeion perthnasol (e.e. os mai cyflogai i'r awdurdod rhestredig a gymerodd y camau gweithredu yr achwynir amdanynt).

Adran 18 - Gweithdrefn ymchwilio

83.Mae adran 18(1) yn nodi'r gofynion ar gyfer ymchwiliadau o dan adran 3 (h.y. ymchwiliadau yn dilyn cwyn).

84.Mae adrannau 18(2) i 18(7) yn nodi'r gofynion ar gyfer ymchwiliadau o dan adran 4 (h.y. ymchwiliadau gan ddefnyddio pŵer yr Ombwdsmon i ymchwilio ar ei liwt ei hun), sy'n cynnwys gofyniad i'r Ombwdsmon baratoi 'cynnig ymchwilio' ac anfon y cynnig ymchwilio at yr awdurdod rhestredig sy'n destun ymchwiliad, ac unrhyw berson a adwaenir yn y cynnig ymchwilio mewn modd negyddol. Hefyd, rhaid i'r Ombwdsmon roi cyfle i'r awdurdod rhestredig ac unrhyw bersonau eraill roi sylwadau ar y cynnig ymchwilio.

85.Nid oes rhaid i'r Ombwdsmon baratoi cynnig ymchwilio yn yr amgylchiadau a nodir yn adran 18(3) a (4). Mae hyn yn golygu, os yw'r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad i fater (naill ai mewn ymateb i gŵyn o dan adran 3 neu ar ei liwt ei hun o dan adran 4), y cyfeirir ati fel “yr ymchwiliad gwreiddiol”, ac os yw’r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad arall i fater o dan adran 4 sydd â chysylltiad sylweddol â'r ymchwiliad gwreiddiol, sef yr ymchwiliad cysylltiedig, yna nid oes rhaid i'r Ombwdsmon baratoi cynnig ymchwiliad mewn perthynas â'r ymchwiliad cysylltiedig.

86.Fodd bynnag, hyd yn oed os nad oes rhaid i'r Ombwdsmon baratoi cynnig ymchwilio, mae adran 18(6) yn dal i'w gwneud yn ofynnol i'r Ombwdsmon ddod â'r ymchwiliad i sylw'r rhai sy'n destun yr ymchwiliad a rhoi cyfle iddynt wneud sylwadau.

87.dan adran 18(7), rhaid i gynnig ymchwilio nodi'r rhesymau dros yr ymchwiliad a nodi sut mae meini prawf adran 5 wedi'u bodloni (h.y. y meini prawf ar gyfer ymchwiliadau'r Ombwdsmon ar ei liwt ei hun).

88.Mae adran 18(8) yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymchwiliad gael ei gynnal yn breifat.

89.Mae adran 18(9) yn darparu mai mater i'r Ombwdsmon, yn amodol ar y gofynion uchod, yw penderfynu ar y weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad. Er enghraifft, gallai'r Ombwdsmon sefydlu gweithdrefnau gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o gwynion a gallai, mewn unrhyw achos penodol, wyro oddi wrth unrhyw weithdrefnau o'r fath a sefydlwyd os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny'n briodol.

90.Mae adran 18(10)(a) yn darparu y caiff yr Ombwdsmon wneud y cyfryw ymchwiliadau y mae’r Ombwdsmon o’r farn eu bod yn briodol. Mae adran 18(10)(b) yn darparu mai mater i'r Ombwdsmon yw penderfynu a ganiateir i berson gael ei gynrychioli'n gyfreithiol neu gael ei gynrychioli mewn rhyw ffordd arall (e.e. gan eiriolwr annibynnol).

91.Mae adran 18(12) yn rhoi pŵer i’r Ombwdsmon wneud taliadau tuag at dreuliau personau sy’n cynorthwyo ag ymchwiliad, ar yr amod yr eir iddynt yn briodol, a thalu lwfansau penodol. Mater i'r Ombwdsmon yw penderfynu a yw'n briodol gwneud taliadau o'r fath neu osod unrhyw amodau ar daliadau o'r fath.

92.Mae adran 18(13) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ombwdsmon gyhoeddi'r gweithdrefnau ar gyfer cynnal ymchwiliadau o dan adrannau 3 a 4.

93.Mae adran 18(14) yn sicrhau nad oes dim amheuaeth nad yw'r ffaith bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio i fater yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw gamau gweithredu a gymerodd yr awdurdod rhestredig mewn cysylltiad â'r mater yr ymchwilir iddo. Nid effeithir ychwaith ar unrhyw bŵer neu ddyletswydd sydd gan yr awdurdod rhestredig i gymryd camau gweithredu ychwanegol mewn cysylltiad â'r mater hwnnw.

Adran 19 - Gwybodaeth, dogfennau, tystiolaeth a chyfleusterau

94.Mae gan yr Ombwdsmon bwerau eang i fynnu bod gwybodaeth neu ddogfennau'n cael eu dangos mewn perthynas ag ymchwiliad (adran 19(2)).

95.Mae gan yr Ombwdsmon yr un pwerau â'r Uchel Lys o safbwynt, ymhlith pethau eraill, cymryd tystiolaeth gan dystion (adran 19(3)).

96.Mae gan yr Ombwdsmon bŵer i fynnu bod personau penodol yn darparu unrhyw gyfleusterau y caiff yr Ombwdsmon eu gwneud yn rhesymol ofynnol i'r Ombwdsmon (adran 19(4)). Gellir arfer y pŵer, er enghraifft, i'w gwneud yn ofynnol i ddefnyddio caledwedd neu feddalwedd gyfrifiadurol benodol i alluogi'r Ombwdsmon i weld dogfennau neu wybodaeth.

97.Mae adran 19(5) yn amddiffyn y bobl hynny y caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu tystiolaeth neu ddangos gwybodaeth neu ddogfennau. Ni chaiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson o'r fath roi unrhyw dystiolaeth na chyflwyno unrhyw ddogfennau na ellid gorfodi'r person hwnnw i'w rhoi neu eu cyflwyno gerbron yr Uchel Lys.

98.Mae adran 19(6) yn datgymhwyso unrhyw rwymedigaethau i gadw cyfrinachedd neu i gyfyngu fel arall fynediad at wybodaeth a gafwyd gan weision y Goron neu a roddwyd iddynt.

99.Effaith adran 19(7) yw na all y Goron ddibynnu ar ei breintiau na'i himiwneddau arbennig i drechu hawl yr Ombwdsmon i weld gwybodaeth o'r fath nac ar yr amddiffyniad y byddai adran 19(5) fel arall yn ei roi.

Adran 20 - Rhwystro a dirmygu

100.Mae adrannau 20(1) a 20(2) yn galluogi'r Ombwdsmon i ardystio i'r Uchel Lys fod person, ym marn yr Ombwdsmon,

a)

heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon (neu aelod o staff yr Ombwdsmon ac ati) rhag cael eu cyflawni o dan Ran 3, neu

b)

bod y person wedi cyflawni gweithred mewn perthynas ag ymchwiliad a fyddai, pe bai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn gyfystyr â dirmyg llys.

101.Ni chaiff yr Ombwdsmon roi tystysgrif o'r fath os yw'r rhwystr neu'r dirmyg honedig yn codi yn unig oherwydd bod y person dan sylw wedi cymryd rhyw gamau gweithredu ychwanegol mewn cysylltiad â'r mater yr ymchwilir iddo (gweler adran 20(3) ac adran 18(14)).

102.Os bydd yr Ombwdsmon yn cyhoeddi tystysgrif o'r fath, caiff yr Uchel Lys ymchwilio i'r mater ac os bydd yr Uchel Lys yn dyfarnu bod y person dan sylw wedi rhwystro'r Ombwdsmon, caiff yr Uchel Lys ymdrin â’r person fel pe bai wedi cyflawni dirmyg o ran yr Uchel Lys (adran 20(5)).

Adran 21 - Rhwystro a dirmygu: adennill costau

103.Mae adran 21 yn rhoi pŵer i'r Ombwdsmon gyflwyno hysbysiad adennill costau i ddarparwr gwasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd lle mae'r Ombwdsmon, yn ystod ymchwiliad, wedi arfer y pŵer o dan adran 16 i ymchwilio i wasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd, a bod y darparwr hwnnw:

a)

wedi rhwystro’r Ombwdsmon; neu

b)

wedi gwneud rhywbeth a fyddai’n gyfystyr â dirmyg llys pe byddai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys.

104.Mae hysbysiad adennill costau yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr y gwasanaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd dalu unrhyw gostau yr aeth yr Ombwdsmon iddynt o ganlyniad i'r rhwystr neu'r weithred a fyddai'n gyfystyr â dirmyg. Mae’r costau y caiff yr Ombwdsmon eu hadennill o dan yr adran hon yn cynnwys y costau o gael unrhyw gyngor arbenigol (adran 21 (5)).

105.Mae adran 21 yn nodi cyfres o ofynion mewn perthynas â'r broses adennill costau. Mae'r rhain yn cynnwys gofynion ynghylch cynnwys yr hysbysiad, yr amserlenni ar gyfer talu, a'r hawl i apelio i'r llys ynadon. Mae adran 21(12) yn nodi'r seiliau dros apelio yn erbyn hysbysiad adennill costau.

Adran 22 - Cyflwyno hysbysiad adennill costau

106.Mae adran 22 yn nodi'r gofynion sy'n gymwys i gyflwyno hysbysiad adennill costau o dan adran 21.

Adran 23 - Adroddiadau ar ymchwiliadau

107.Mae adran 23(1) yn darparu bod yn rhaid i'r Ombwdsmon baratoi adroddiad ar ei ganfyddiadau ar ôl cynnal ymchwiliad ac anfon copi o'r adroddiad hwnnw at y personau a bennir yn adran 23(2). (Nid yw'r gofyniad hwn yn gymwys os yw'r Ombwdsmon yn penderfynu paratoi adroddiad o dan adran 27 (gweithdrefn amgen) yn lle hynny).

108.Mae adran 23(2) yn nodi'r personau hynny y mae'n rhaid anfon yr adroddiad atynt. Mae'r personau hynny yn cynnwys y person a wnaeth y gŵyn, yr awdurdod rhestredig y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef, ac unrhyw berson arall yr honnir ei fod wedi cymryd neu wedi awdurdodi'r camau gweithredu yr achwynir amdanynt neu a wneir yn hysbys yn yr adroddiad mewn ffordd negyddol. Os yw'r awdurdod rhestredig y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef yn ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru neu'n ddarparwr annibynnol yng Nghymru, rhaid anfon yr adroddiad hefyd at y personau a grybwyllir yn adran 23(2)(d) ac (e). Caiff yr Ombwdsmon hefyd anfon yr adroddiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon (adran 23(3)).

109.Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r adroddiad os yw’r Ombwdsmon o'r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny (adran 23(4)). Wrth ddod i'r farn hon, rhaid i'r Ombwdsmon roi ystyriaeth i les y person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill y mae'r Ombwdsmon o’r farn eu bod yn briodol.

110.Mae adrannau 23(7) ac (8) yn darparu, pan fo'r Ombwdsmon yn paratoi adroddiad sy'n:

a)

enwi unrhyw berson (heblaw'r awdurdod rhestredig dan sylw); neu

b)

yn cynnwys unrhyw beth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o olygu bod modd adnabod unrhyw berson ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor o'r adroddiad heb amharu ar ei effeithiolrwydd,

dim ond os yw er budd y cyhoedd i gynnwys enw neu fanylion o'r fath y caiff yr Ombwdsmon gynnwys gwybodaeth o'r fath yn y fersiwn o'r adroddiad a anfonir neu a gyhoeddir. Wrth ddod i'r farn hon, rhaid i'r Ombwdsmon roi ystyriaeth i les y person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill y mae'r Ombwdsmon o’r farn eu bod yn briodol.

111.Yn achos y fersiwn o'r adroddiad a anfonir o dan adran 23(1)(b), at y person a dramgwyddwyd (os oes un) a'r awdurdod rhestredig ac ati, ni ragwelir y byddai'n anodd i'r Ombwdsmon ddangos ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys gwybodaeth o'r fath. Y rheswm am hyn yw ei bod yn debygol, mewn achosion o'r fath, y bydd budd cyhoeddus cryf yn y ffaith fod y partïon hynny'n gwybod beth yw enwau'r bobl y mae angen cyfeirio atynt yn yr adroddiad ym marn yr Ombwdsmon, a phwy ydynt. Yn wir, mewn llawer o achosion yr unig rai y mae adroddiad o'r fath yn debygol o'u henwi neu o nodi pwy ydynt yw'r person a dramgwyddwyd (os oes un), yr awdurdod rhestredig a gymerodd y camau gweithredu sy'n destun yr adroddiad, a'r cyflogeion perthnasol (e.e. oherwydd mai cyflogai'r awdurdod rhestredig a gymerodd y camau gweithredu sy'n destun yr adroddiad).

Adran 24 - Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau

112.Mae adran 24(1) i (4) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau rhestredig sy'n cael copi o adroddiad o dan adran 23(1)(b) wneud trefniadau penodol ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau o'r fath.

113.Mae'n ofynnol i'r awdurdod rhestredig sicrhau bod copïau o'r adroddiad ar gael yn un neu ragor o'i swyddfeydd a thrwy ei wefan (os oes un) am gyfnod o dair wythnos fan lleiaf. Mae gan y cyhoedd hawl i archwilio'r adroddiad, gwneud copïau ohono, a'i weld ar wefan yr awdurdod (os yn berthnasol), yn rhad ac am ddim. Byddai'r hawl i wneud copïau yn cynnwys llwytho copi electronig oddi ar wefan yr awdurdod. Mae gan y cyhoedd hawl hefyd i fynnu bod yr awdurdod rhestredig yn darparu copïau o'r adroddiad, a chaiff yr awdurdod godi swm rhesymol amdanynt. Mae'n drosedd i unrhyw un rwystro aelod o'r cyhoedd yn fwriadol wrth iddo ef neu hi arfer yr hawliau hyn (adran 24(7) ac (8)).

114.Ar ôl ystyried budd y cyhoedd a budd y person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw un arall sy'n briodol ym marn yr Ombwdsmon, caiff yr Ombwdsmon roi cyfarwyddyd na ddylai'r gofynion cyhoeddusrwydd fod yn berthnasol mewn cysylltiad ag adroddiad penodol (adran 23(9) a (10)).

115.Mae gan yr Ombwdsmon bŵer hefyd i roi cyfarwyddyd i awdurdodau rhestredig o ran cyflawni eu swyddogaethau o dan adran 23 (adran 23(5) a (6)).

Adran 25 - Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau: darparwyr gofal iechyd

116.Mae adran 25 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymhwyso adran 24 gydag addasiadau lle cynhelir ymchwiliadau mewn perthynas ag awdurdodau rhestredig sy'n ddarparwyr gwasanaethau iechyd teulu yng Nghymru neu’n ddarparwyr annibynnol yng Nghymru. Effaith yr addasiadau yw sicrhau bod y gofynion cyhoeddi o dan adran 24 yn gymwys i bob person sydd wedi derbyn adroddiad yn unol ag adran 23(2)(d) neu (e), yn hytrach nag i’r awdurdod rhestredig ei hun.

Adran 26 - Camau gweithredu ar ôl cael adroddiad

117.Mae adran 26 yn gymwys os daw'r Ombwdsmon i gasgliad mewn adroddiad adran 23 nad oes unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i'r mater a oedd yn destun yr ymchwiliad. Yn yr amgylchiadau hyn, mae'n ofynnol i'r awdurdod rhestredig dan sylw ystyried adroddiad yr Ombwdsmon a hysbysu'r Ombwdsmon o'r camau y mae wedi'u cymryd neu y mae'n bwriadu eu cymryd a rhoi gwybod iddo hefyd erbyn pa bryd y bydd yn cymryd camau o'r fath. Mae'n rhaid i'r awdurdod rhestredig gyflwyno'r hysbysiad o fewn mis i'r diwrnod y mae'n cael yr adroddiad neu unrhyw gyfnod hwy y mae'r Ombwdsmon yn ei nodi yn ôl ei ddisgresiwn.

Adran 27 - Adroddiadau: gweithdrefn amgen

118.Nid yw'r weithdrefn gyflawn o gyflwyno adroddiad o dan adrannau 23 i 26 yn gymwys os yw'r Ombwdsmon yn penderfynu cyflwyno adroddiad o dan y weithdrefn amgen a nodir yn adran 27.

119.Caiff yr Ombwdsmon gymhwyso'r weithdrefn amgen os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ymchwiliad, yn dod i'r casgliad:

a)

nad oes unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i'r mater a oedd yn destun yr ymchwiliad; neu

b)

bod person wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o'r fath ac os yw’r awdurdod rhestredig y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef yn cytuno i weithredu, cyn diwedd y cyfnod a ganiateir (fel y'i diffinnir yn adran 27(3)) unrhyw argymhellion a wneir gan yr Ombwdsmon, ac os yw’r Ombwdsmon yn fodlon nad yw budd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau 23 i 26 fod yn gymwys.

120.Rhaid anfon copi o adroddiad o dan y weithdrefn amgen at y personau a grybwyllir yn adran 27(5)(b) a gellir hefyd ei anfon at unrhyw bersonau eraill y mae'r Ombwdsmon o'r farn eu bod yn briodol. Mae adroddiad o'r math hwn yn destun cyfyngiadau tebyg i'r rhai sy'n gymwys i adroddiad o dan adran 23 o ran enwi neu adnabod unigolion (adran 27(9) a (10)).

Adran 28 - Adroddiadau arbennig

121.dan adran 28, caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi adroddiad arbennig os yw'r awdurdod rhestredig wedi methu â chymryd y camau sy'n ofynnol neu a gytunwyd, mewn ymateb i: (a) adroddiad a wnaed o dan adran 23, (b) adroddiad a wnaed o dan adran 27, neu (c) penderfyniad yr Ombwdsmon ar fater.

122.Er enghraifft, gallai awdurdod rhestredig beidio â rhoi gwybod i'r Ombwdsmon, o fewn mis i gael adroddiad adran 23, am y camau y mae wedi eu cymryd neu y mae'n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i'r adroddiad. Mewn achosion o'r fath, caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi adroddiad arbennig (adran 28(2)(a)).

123.Caiff yr Ombwdsmon hefyd gyhoeddi adroddiad arbennig os yw awdurdod rhestredig wedi rhoi'r hysbysiad o dan adran 26 o fewn yr amserlen a nodir yno ond nad yw'r Ombwdsmon yn fodlon:

a)

ar y camau a gymerwyd neu a gynigiwyd gan yr awdurdod rhestredig; neu

b)

cyn diwedd pa gyfnod y mae'r awdurdod rhestredig wedi datgan y bydd yn cymryd y camau hynny; neu

c)

bod yr awdurdod rhestredig wedi cymryd y camau y dywedodd y byddai'n eu cymryd o fewn y cyfnod penodedig.

124.Lle mae adran 28 yn gymwys, mae gan yr Ombwdsmon ddisgresiwn ynghylch a ddylid cyhoeddi adroddiad arbennig ai peidio. Os bydd yr Ombwdsmon yn gwneud hynny, rhaid i'r adroddiad arbennig nodi'r ffeithiau sy'n rhoi'r hawl i'r Ombwdsmon gyhoeddi adroddiad o'r math hwn a rhaid iddo wneud unrhyw argymhellion y mae'r Ombwdsmon yn credu y dylid eu cymryd i unioni neu atal yr anghyfiawnder neu'r caledi ac i atal anghyfiawnder neu galedi tebyg rhag cael ei achosi eto (adran 28(8)(b)).

125.Mae adran 28(9) yn nodi’r personau y mae’n ofynnol i'r Ombwdsmon anfon copi o adroddiad arbennig atynt. Mae'r gofyniad yn amrywio yn ôl a oedd yr adroddiad arbennig wedi'i ragflaenu gan adroddiad llawn o dan adran 23, neu gan adroddiad a wnaed o dan adran 27 neu gytundeb a wnaed yn dilyn datrys mater.

Adran 29 - Adroddiadau arbennig: atodol

126.Mae adran 29 yn gwneud darpariaethau ychwanegol o safbwynt adroddiadau arbennig. Yn benodol, mae'r un cyfyngiadau o ran enwi neu allu adnabod unigolion yn berthnasol i adroddiad arbennig ag i adroddiad o dan adran 23 (adran 29(4) a (5)) ac mae adran 29(6) yn darparu bod adrannau 24 a 25 (gofynion i roi cyhoeddusrwydd i adroddiadau) yn gymwys i adroddiadau arbennig.

Adran 30 - Adroddiadau arbennig sy’n ymwneud â Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru

127.Rhaid i adroddiad arbennig sy'n ymwneud ag ymchwiliad mewn cysylltiad â Gweinidogion Cymru neu Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei osod gerbron y Cynulliad.

Adran 31 - Awdurdodau rhestredig

128.Mae'r adran hon yn cyflwyno Atodlen 3, sy'n rhestru'r personau (y cyfeirir atynt yn y Ddeddf fel "awdurdodau rhestredig") y caiff yr Ombwdsmon gynnal ymchwiliad iddynt.

129.Mae adran 31(2) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, trwy reoliadau, ddiwygio Atodlen 3 trwy ychwanegu awdurdodau rhestredig, eu hepgor neu newid y disgrifiad ohonynt. Cyn gwneud y rheoliadau hynny, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Ombwdsmon ac unrhyw bersonau eraill sydd, yn eu barn hwy, yn briodol (adran 30(4)). Mae adran 31(3) yn darparu y caiff gorchymyn sy'n ychwanegu awdurdod rhestredig at Atodlen 3 gymhwyso'r Ddeddf i'r person hwnnw gydag addasiadau.

130.Mae'r pŵer i wneud gorchymyn o dan yr adran hon yn destun cyfyngiadau penodol a nodir yn adrannau 32 a 33.

Atodlen 3

131.Mae'r Atodlen hon yn rhestru'r personau sy'n dod o fewn cylch gwaith yr Ombwdsmon.

Adran 32 - Cyfyngiadau ar bŵer i ddiwygio Atodlen 3

132.Mae adran 32(1) yn atal rheoliadau o dan adran 31(2) rhag newid statws Llywodraeth Cymru na Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel awdurdodau rhestredig.

133.Mae Adran 32(2) yn dweud na chaiff Gweinidogion Cymru ychwanegu awdurdodau rhestredig at Atodlen 3 oni bai bod hynny o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran 33 - Darpariaethau mewn rheoliadau sy’n ychwanegu personau at Atodlen 3

134.Mae adran 33 yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru, wrth ychwanegu at y rhestr, bennu yn y rheoliadau pa rai o swyddogaethau'r personau a ychwanegir sy'n dod o fewn cylch gwaith yr Ombwdsmon.

Adran 34 - Pŵer i ddyroddi canllawiau

135.Mae adran 34(1) yn rhoi pŵer i'r Ombwdsmon ddyroddi canllawiau i awdurdodau rhestredig ynglŷn ag arferion gweinyddol da. Bydd hyn yn galluogi'r Ombwdsmon i bennu meincnodau ar gyfer awdurdodau rhestredig.

136.Mae adran 34(3) yn darparu ei bod yn ofynnol i awdurdodau rhestredig roi sylw i ganllawiau'r Ombwdsmon o dan adran 34 wrth gyflawni eu swyddogaethau. Ni ddylai awdurdodau rhestredig wyro oddi wrth y canllawiau hynny oni bai bod rheswm da dros wneud hynny. Wrth gyflawni swyddogaethau ymchwilio o dan y Ddeddf hon, caiff yr Ombwdsmon ystyried a yw awdurdod rhestredig wedi cydymffurfio â'r canllawiau a ddyroddwyd o dan adran 34 ai peidio.

Adran 35 - Digolledu’r person a dramgwyddwyd

137.Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i awdurdodau rhestredig dalu iawndal i berson sydd wedi gwneud cwyn i'r Ombwdsmon, neu y gwnaed cwyn i'r Ombwdsmon ar ei ran, mewn cysylltiad â'r mater sy'n destun y gŵyn.

138.Efallai y bydd gan rai awdurdodau rhestredig bwerau eisoes a fyddai'n ddigon eang at y diben hwn (gweler er enghraifft y pŵer sydd ar gael i amryw gyrff llywodraeth leol sy'n gweithredu o dan adran 92 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000). Mae adran 35 yn sicrhau y bydd gan bob awdurdod rhestredig bŵer o'r fath. Gellir arfer y pŵer hyd yn oed os nad yw'r Ombwdsmon yn ymchwilio ac yn adrodd ar y gŵyn mewn gwirionedd, ac felly, er enghraifft, gellid ei ddefnyddio lle mae'r Ombwdsmon yn cynorthwyo i negodi datrysiad cyfeillgar ar y mater.

Rhan 4

Adran 36 - Ymdrin â chwynion: datganiad o egwyddorion

139.Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o egwyddorion sy'n ymwneud â gweithdrefnau'r 'awdurdodau rhestredig' yn Atodlen 3 (adran 36(1)) ar gyfer ymdrin â chwynion. Rhaid i awdurdodau rhestredig fod â gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion sy'n cydymffurfio â'r datganiad o egwyddorion (adran 36(2)).

140.Cyn cyhoeddi'r datganiad cyntaf o egwyddorion, rhaid i'r Ombwdsmon osod datganiad o egwyddorion drafft gerbron y Cynulliad. Bydd y datganiad o egwyddorion drafft yn destun gweithdrefn penderfyniad negyddol. Golyga hyn bod gan y Cynulliad 40 diwrnod i wrthwynebu'r drafft. Os na fydd y Cynulliad yn gwrthwynebu o fewn y 40 diwrnod hwnnw, rhaid i'r Ombwdsmon gyhoeddi'r datganiad o egwyddorion ar ffurf y drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad. Os bydd y Cynulliad yn gwrthwynebu'r datganiad o egwyddorion fel y'i drafftiwyd, rhaid i'r Ombwdsmon beidio â chyhoeddi'r datganiad ar ffurf y drafft, ond mae is-adran (7) yn caniatáu i'r Ombwdsmon osod datganiad drafft newydd gerbron y Cynulliad.

141.Pan fydd y datganiad o egwyddorion wedi'i gyhoeddi, caiff yr Ombwdsmon ddiwygio’r datganiad o egwyddorion. Ond pe byddai diwygiad arfaethedig yn gwneud unrhyw newidiadau perthnasol i'r datganiad o egwyddorion, yna bydd y weithdrefn penderfyniad negyddol yn gymwys i'r diwygiad drafft.

142.Rhaid i'r Ombwdsmon ymgynghori cyn gosod y datganiad cyntaf o egwyddorion drafft (neu unrhyw ddiwygiadau drafft iddo) gerbron y Cynulliad o dan yr adran hon.

143.Yn ôl adran 36(14) ystyr "gweithdrefnau ymdrin â chwynion" yw gweithdrefnau awdurdodau rhestredig ar gyfer archwilio cwynion neu adolygu penderfyniadau mewn cysylltiad â chamau gweithredu a gymerwyd gan awdurdod rhestredig pan fo'r mater dan sylw yn un y caiff yr Ombwdsmon ymchwilio iddo o dan Ran 3.

Adran 37 - Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion

144.Mae'r adran hon yn galluogi'r Ombwdsmon (ar ôl ymgynghori) i gyhoeddi gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion (“gweithdrefnau enghreifftiol”) ar gyfer awdurdodau rhestredig. Rhaid i weithdrefnau enghreifftiol hefyd gydymffurfio â'r datganiad o egwyddorion a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon o dan adran 36.

145.Ni chaiff gweithdrefn enghreifftiol a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i awdurdod rhestredig wneud rhywbeth os nad oes gan yr awdurdod rhestredig bwerau (heblaw yn rhinwedd y Ddeddf) i gydymffurfio â'r gofyniad (adran 37(5)(a)).

146.Hefyd, ni chaiff gweithdrefn enghreifftiol a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon wrthdaro ag unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys codau, canllawiau a chynlluniau ac ati a wnaed o dan ddeddfiad) sy'n gymwys i'r awdurdod rhestredig (adran 37(5)(b)). Er enghraifft, ni all gweithdrefn enghreifftiol fod yn anghyson â'r gofynion statudol a nodir yn y gyfundrefn gwyno 'Gweithio i Wella' sy'n gymwys i gyrff y GIG yng Nghymru.

147.Mae is-adran (6) yn caniatáu i'r Ombwdsmon adolygu ac ailgyhoeddi unrhyw weithdrefn enghreifftiol ond mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r Ombwdsmon hysbysu rhai awdurdodau rhestredig cyn gwneud hynny. Mae is-adran (7) yn nodi effaith diwygio ac ailgyhoeddi ar unrhyw fanyleb a wneir o dan adran 38(1) mewn perthynas â'r weithdrefn enghreifftiol.

148.Os bydd yr Ombwdsmon yn tynnu gweithdrefn enghreifftiol yn ôl, mae unrhyw fanylebau cysylltiedig o dan adran 38(1) yn peidio â chael effaith (adran 37(9)(b)(i)).

Adran 38 - Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion: manyleb awdurdodau rhestredig

149.dan yr adran hon caiff yr Ombwdsmon bennu unrhyw awdurdod rhestredig y mae gweithdrefn enghreifftiol yn berthnasol iddo. Rhaid i awdurdod rhestredig a bennir fod â gweithdrefn ymdrin â chwynion sy'n cydymffurfio â'r weithdrefn enghreifftiol berthnasol. Rhaid i awdurdod rhestredig gyflwyno ei weithdrefn ymdrin â chwynion i'r Ombwdsmon o fewn 6 mis wedi iddo gael ei bennu o dan adran 38(1).

150.Caiff yr awdurdod rhestredig, gyda chydsyniad yr Ombwdsmon, addasu agweddau ar y weithdrefn enghreifftiol os yw hyn yn angenrheidiol er mwyn gallu gweithredu'n effeithiol (adran 38(4)).

151.Caiff yr Ombwdsmon ddirymu manyleb ar unrhyw adeg (adran 38(6)).

Adran 39 - Datganiadau o beidio â chydymffurfio

152.Mae'r adran hon yn galluogi'r Ombwdsmon i ddatgan nad yw gweithdrefn ymdrin â chwynion awdurdod rhestredig penodedig yn cydymffurfio â'r weithdrefn enghreifftiol berthnasol y mae'r Ombwdsmon wedi'i phennu (o dan adran 38) fel un sy'n berthnasol i'r awdurdod hwnnw. Mae hefyd yn galluogi'r Ombwdsmon i ddatgan, yn yr amgylchiadau hynny lle na phennwyd gweithdrefn enghreifftiol mewn perthynas ag awdurdod rhestredig, nad yw gweithdrefn ymdrin â chwynion yr awdurdod yn cydymffurfio â'r datganiad o egwyddorion.

153.Cyn cyhoeddi datganiad o dan yr adran hon, rhaid i'r Ombwdsmon roi rhesymau dros wneud y datganiad a chaiff hefyd bennu newidiadau a fyddai'n golygu bod y datganiad yn cael ei dynnu'n ôl.

154.Rhaid i'r awdurdod rhestredig anfon ei weithdrefn ymdrin â chwynion at yr Ombwdsmon o fewn 2 fis i'r datganiad, ar ôl ystyried y rhesymau a roddwyd gan yr Ombwdsmon dros wneud y datganiad ac unrhyw newidiadau a bennwyd gan yr Ombwdsmon fel rhai a fyddai'n arwain at y fod y datganiad cael ei dynnu'n ôl.

155.Rhaid i'r Ombwdsmon gyhoeddi datganiadau a wnaed o dan is-adrannau (1) a (2) ar wefan yr Ombwdsmon (adran 39(3)) a chaiff dynnu'r datganiadau hynny yn ôl ar unrhyw adeg (adran 39(6)).

Adran 40 - Cyflwyno gweithdrefnau ymdrin â chwynion: cyffredinol

156.Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i'r Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i awdurdod rhestredig gyflwyno'i weithdrefn ymdrin â chwynion cyn pen tri mis neu gyfnod arall a gyfarwyddir gan yr Ombwdsmon. Rhaid i'r awdurdod rhestredig gyflwyno ei weithdrefn o fewn y cyfnod hwnnw hyd yn oed os nad yw'r cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno'r weithdrefn o dan adran 38(3) neu 39(5) wedi dod i ben eto.

157.Hefyd, mae'n ofynnol i awdurdod rhestredig ddarparu gwybodaeth ychwanegol os gofynnir iddo wneud hynny. Mae hyn yn galluogi'r Ombwdsmon i gael darlun llawn o weithdrefn ymdrin â chwynion awdurdod rhestredig.

Adran 41 - Gweithdrefnau ymdrin â chwynion: hybu arferion gorau etc

158.Mae'r adran hon yn gosod dyletswyddau ar yr Ombwdsmon i: (1) monitro arferion o ran y ffordd y mae awdurdodau rhestredig yn ymdrin â chwynion, (2) hybu arferion gorau o ran y ffordd yr ymdrinnir â chwynion o'r fath, a (3) annog cydweithrediad a rhannu arferion gorau am y materion hyn. Mae'r adran hon yn gymwys i bob cwyn, nid dim ond cwynion y caiff yr Ombwdsmon ymchwilio iddynt o dan Ran 3.

159.Rhaid i awdurdodau rhestredig gydweithredu â'r Ombwdsmon wrth arfer y dyletswyddau hyn oni bai nad oes ganddynt y pwerau angenrheidiol (ac eithrio yn rhinwedd y Ddeddf) neu os yw cydweithredu yn anghyson ag unrhyw ddeddfiad arall sy'n gymwys i'r awdurdod rhestredig.

Rhan 5

Adran 42 - Materion y mae’r Rhan hon yn gymwys iddynt

160.Mae adran 42 yn nodi'r tri mater y mae Rhan 5 yn gymwys iddynt: (1) camau gweithredu a gymerwyd gan ddarparwr cartref gofal mewn cysylltiad â darparu llety, gofal nyrsio neu ofal personol mewn cartref gofal yng Nghymru; (2) camau gweithredu a gymerwyd gan ddarparwr gofal cartref mewn cysylltiad â darparu gofal cartref yng Nghymru; a (3) camau a gymerwyd gan ddarparwr gofal lliniarol annibynnol mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth gofal lliniarol yng Nghymru.

161.Nid yw Rhan 5 yn gymwys i gwynion y gellir ymdrin â hwy o dan Ran 3, nac i faterion a ddisgrifir yn Atodlen 4 (materion sydd wedi eu heithrio o awdurdodaeth yr Ombwdsmon). Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 4 drwy reoliadau, ond rhaid iddynt ymgynghori â'r Ombwdsmon cyn gwneud hynny.

162.Mae'r termau a ddefnyddir yn yr adran hon yn cael eu diffinio yn adrannau 62 i 64.

Atodlen 4

163.Mae'r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch materion sydd wedi'u heithrio o awdurdodaeth yr Ombwdsmon.

Adran 43 - Pŵer i ymchwilio i gwynion

164.Mae adran 43 yn caniatáu i'r Ombwdsmon ymchwilio i gŵyn sy'n ymwneud â mater y mae Rhan 5 yn gymwys iddo os:

a)

yw'r gŵyn wedi'i gwneud yn briodol neu wedi'i hatgyfeirio'n briodol at yr Ombwdsmon; a

b)

yn achos cwynion am ddarparwyr gofal lliniarol annibynnol, os yw'r darparwr gofal lliniarol annibynnol wedi cael cyllid cyhoeddus, o fewn y tair blynedd cyn dyddiad y camau gweithredu y mae'r gŵyn yn ymwneud â hwy.

165.Mae “cyllid cyhoeddus" yn cael ei ddiffinio yn is-adran (3) a'r ystyr yw cyllid oddi wrth Weinidogion Cymru, Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, Ymddiriedolaeth GIG neu gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys cyllid grant a ddarperir gan Weinidogion Cymru i'r gwasanaeth gofal lliniarol annibynnol.

166.Mae adrannau 43(4) a 48(1) yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i gŵyn gael ei gwneud yn briodol i'r Ombwdsmon. Mae adran 43(5) ac adran 49(1) yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i gŵyn gael ei hatgyfeirio'n briodol at yr Ombwdsmon gan ddarparwr y mae'r gŵyn yn ymwneud â hi.

167.Mae adran 43(7) yn galluogi'r Ombwdsmon i ymchwilio i gŵyn, y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddi o dan Ran 5, hyd yn oed os nad yw'r gofynion penodol o ran y ffordd y mae cwyn yn cael ei gwneud neu ei hatgyfeirio wedi'u bodloni, os yw'r Ombwdsmon yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

168.Mae adran 43(8) yn rhoi disgresiwn eang i'r Ombwdsmon benderfynu pa un a yw am gychwyn ymchwiliad, parhau ag ymchwiliad neu ddod ag ymchwiliad i ben. Mae adran 43(10) yn ei gwneud yn eglur y caiff yr Ombwdsmon gychwyn neu barhau ag ymchwiliad i gŵyn hyd yn oed os yw'r gŵyn wedi'i thynnu'n ôl. Gall hyn fod yn briodol, er enghraifft, pan fo achwynydd 'arweiniol' wedi gwneud cwyn am gamau gweithredu gan ddarparwr a'r rheini hefyd wedi effeithio ar bersonau eraill, ond fod y person hwnnw, wedi hynny, wedi tynnu ei gŵyn 'arweiniol' yn ôl. Mewn achosion o'r fath, caiff yr Ombwdsmon ystyried ei bod yn briodol cychwyn ymchwiliad neu barhau ag ymchwiliad, er i'r gŵyn 'arweiniol' gael ei thynnu'n ôl, er mwyn diogelu buddiannau'r personau eraill.

Adran 44 - Pŵer i ymchwilio ar ei liwt ei hun

169.Mae adran 44 yn caniatáu i'r Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad i fater y mae Rhan 5 yn gymwys iddo, pa un a yw'r Ombwdsmon wedi derbyn cwyn ai peidio,.

170.Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar y modd y dehonglir y Ddeddf - pan gaiff y gair "ymchwiliad" ei ddefnyddio yn Rhan 5, gall olygu naill ai ymchwiliad o dan adran 43 neu ymchwiliad o dan adran 44. Er enghraifft, mae adran 53 yn gymwys "at ddibenion ymchwiliad o dan y Rhan hon". Felly, mae adran 53 yn gymwys o ran ymchwiliad i gŵyn o dan adran 43 ac ymchwiliad ar ei liwt ei hun o dan adran 44.

171.Dim ond i ymchwilio i faterion y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddynt o dan Ran 5 y caniateir defnyddio'r pŵer yn adran 44. Mae adran 42 yn nodi'r materion hynny.

172.Mae adran 44(3) yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff yr Ombwdsmon gynnal ymchwiliad ar ei liwt ei hun. Y gofynion yw:

a)

bod yn rhaid i'r Ombwdsmon roi sylw i fudd y cyhoedd wrth gychwyn ymchwiliad ar ei liwt ei hun;

b)

bod yn rhaid i'r Ombwdsmon fod ag amheuaeth resymol o gamweinyddiaeth systemig;

c)

bod yn rhaid i'r Ombwdsmon ymgynghori â’r cyfryw bersonau y mae’r Ombwdsmon o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy; a

d)

bod yn rhaid i'r Ombwdsmon roi sylw i’r meini prawf ar gyfer ymchwiliadau ar ei liwt ei hun a gyhoeddir o dan adran 45.

Adran 45 - Meini prawf ar gyfer ymchwilio ar ei liwt ei hun

173.Mae adran 45 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ombwdsmon gyhoeddi'r meini prawf y bydd yr Ombwdsmon yn eu defnyddio wrth benderfynu a ddylai gynnal ymchwiliad ar ei liwt ei hun o dan Ran 5 (ac o dan adran 44(3)(d), rhaid i'r Ombwdsmon roi sylw i'r meini prawf hyn cyn cychwyn ymchwiliad ar ei liwt ei hun).

174.Cyn cyhoeddi'r meini prawf cyntaf, rhaid i'r Ombwdsmon osod drafft o'r meini prawf gerbron y Cynulliad. Bydd y drafft o'r meini prawf yn destun gweithdrefn penderfyniad negyddol. Golyga hyn bod gan y Cynulliad 40 diwrnod i wrthwynebu'r meini prawf. Os na fydd y Cynulliad yn gwrthwynebu o fewn y 40 diwrnod hwnnw, rhaid i'r Ombwdsmon gyhoeddi'r meini prawf ar ffurf y drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad. Os bydd y Cynulliad yn penderfynu peidio â chymeradwyo'r meini prawf drafft, mae adran 45(3) yn gwahardd yr Ombwdsmon rhag cyhoeddi'r meini prawf ar ffurf drafft ond mae adran 45(6) yn egluro nad yw darpariaethau adran 45(3) yn atal yr Ombwdsmon rhag gosod meini prawf drafft newydd gerbron y Cynulliad.

175.Pan fydd y meini prawf wedi cael eu cyhoeddi, caiff yr Ombwdsmon ddiwygio ac ailgyhoeddi’r meini prawf. Ond os bydd diwygiad yn gwneud newidiadau sylweddol i’r meini prawf, yna rhaid i’r diwygiad drafft gael ei osod gerbron y Cynulliad a bydd y weithdrefn penderfyniad negyddol yn gymwys i’r diwygiad drafft yn yr un modd ag yr oedd yn gymwys i’r meini prawf drafft.

176.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i addasu’r meini prawf. Mae rheoliadau o'r fath yn dilyn gweithdrefn penderfyniad cadarnhaol. Golyga hyn bod yn rhaid i'r Cynulliad gymeradwyo'r rheoliadau – os nad yw'r Cynulliad yn cymeradwyo'r rheoliadau, yna ni fyddant yn dod i rym. Ond os yw'r Cynulliad yn cymeradwyo'r rheoliadau, rhaid i'r Ombwdsmon ddiweddaru'r meini prawf a gyhoeddwyd i adlewyrchu'r newidiadau a wneir gan y rheoliadau.

177.Rhaid i'r Ombwdsmon a Gweinidogion Cymru ymgynghori cyn cynnig meini prawf (neu cyn cynnig newidiadau sylweddol i feini prawf) o dan yr adran hon.

Adran 46 - Dulliau amgen o ddatrys materion

178.Mae adran 46 yn rhoi pŵer eang i'r Ombwdsmon gymryd camau i ddatrys materion o dan Ran 5 heb symud ymlaen at ymchwiliad ffurfiol. Mae'r pŵer ar gael i'r Ombwdsmon ei ddefnyddio yn lle'r pŵer i ymchwilio neu yn ychwanegol ato.

Adran 47 - Pwy sy'n cael cwyno

179.Mae adran 47 yn gwneud darpariaeth debyg i adran 7 o'r Ddeddf hon. Mae'n rhestru'r bobl y caniateir iddynt wneud cwyn i'r Ombwdsmon o dan Ran 5 o'r Ddeddf hon.

180.Mae adran 47 yn rhagnodi'r personau y caiff yr Ombwdsmon dderbyn cwyn ganddynt. Y personau hynny yw:

a)

aelod o’r cyhoedd sy’n honni neu sydd wedi honni ei fod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i fater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan Ran 5. Disgrifir y person hwn fel “y person a dramgwyddwyd”.

b)

person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y person a dramgwyddwyd i wneud y gŵyn ar ei ran; neu

c)

os nad yw’r person a dramgwyddwyd yn gallu awdurdodi’r cyfryw berson, person sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol.

181.Nid unigolion yn unig a gaiff gwyno i'r Ombwdsmon: caiff cwmnïau a sefydliadau hefyd gwyno i'r Ombwdsmon am anghyfiawnder neu galedi a ddioddefwyd gan aelodau o'r cyhoedd, cyhyd ag y bodlonir yr amodau yn is-adran (1). Mae adran 47(2) yn eithrio person sy'n gweithredu yn rhinwedd rhai swyddogaethau o'r diffiniad o “aelod o'r cyhoedd” at ddibenion yr adran hon, er enghraifft person sy'n gweithredu yn rhinwedd ei swyddogaeth fel darparwr cartref gofal. Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal person o'r fath rhag gwneud cwyn, ar yr amod bod y person yn gwneud y gŵyn yn rhinwedd swyddogaeth bersonol.

182.Mae gan yr Ombwdsmon bŵer i benderfynu a yw gofynion adran 47 wedi eu bodloni mewn achos penodol.

Adran 48 - Gofynion: cwynion a wneir i'r Ombwdsmon

183.Os bydd person yn dymuno gwneud cwyn i'r Ombwdsmon, rhaid i'r gŵyn fodloni gofynion adran 48(1) (er bod gan yr Ombwdsmon ddisgresiwn o dan adran 43(7) i ymchwilio i faterion pan nad yw'r gofynion hyn yn cael eu bodloni).

184.Mae adran 48(1) yn darparu, er mwyn i gŵyn fodloni gofynion adran 43(4)(c), bod yn rhaid iddi fod ar ffurf a bennir gan yr Ombwdsmon a rhaid iddi gynnwys yr wybodaeth a bennir gan yr Ombwdsmon. Hefyd, rhaid i’r gŵyn gael ei gwneud cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y person a dramgwyddwyd ei hysbysu gyntaf am y mater sy’n destun y gŵyn. Bydd y ffurf a’r cynnwys yn cael eu pennu mewn canllawiau a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon.

185.Mae adran 48(4) yn darparu ar gyfer amgylchiadau lle caiff cwyn ei gwneud heblaw yn ysgrifenedig (er enghraifft, cwyn lafar neu ar ffurf Iaith Arwyddion Prydain). Mae is-adrannau (4) i (7) yn pennu gofynion ychwanegol lle caiff cwyn ei gwneud heblaw yn ysgrifenedig. Mae hyn yn cynnwys egluro wrth yr unigolyn dan sylw oblygiadau gwneud cwyn yn briodol (h.y. y gallai cwyn sy'n cael ei gwneud yn briodol arwain at gychwyn ymchwiliad gan yr Ombwdsmon), a chadarnhau a yw'r unigolyn am i'r gŵyn symud ymlaen i fod yn un sy'n cael ei gwneud yn briodol.

186.Os nad yw'r person yn dymuno i'r gŵyn gael ei thrin yn un sy'n cael ei gwneud yn briodol, yna ni chaiff yr Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad adran 43 i'r mater (ond os yw'r Ombwdsmon eisoes wedi cychwyn ychwiliad i'r mater a bod y person wedi hynny yn tynnu'r gŵyn lafar yn ôl, mae gan yr Ombwdsmon ddisgresiwn i benderfynu a ddylai barhau â'r ymchwiliad ai peidio).

187.Os yw person wedi cadarnhau nad yw am i gŵyn barhau i gael ei hystyried yn un a wnaed yn briodol, caiff yr Ombwdsmon, serch hynny, barhau i ymchwilio i’r mater o dan y pŵer i ymchwilio ar ei liwt ei hun yn adran 44 os yw gofynion yr adran wedi’u bodloni.

Adran 49 - Gofynion: cwynion a atgyfeirir at yr Ombwdsmon

188.Mae’r adran hon yn pennu’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i gŵyn gael ei hatgyfeirio’n briodol o fewn ystyr adran 43(5)(b). Caiff darparwr atgyfeirio cwyn at yr Ombwdsmon ond dim ond os caiff ei gwneud gan berson a fyddai wedi bod â hawl i wneud y gŵyn honno'n uniongyrchol i'r Ombwdsmon o dan adran 47.

189.Rhaid i'r gŵyn fod wedi cael ei gwneud i'r darparwr o fewn blwyddyn i'r diwrnod y cafodd y person a dramgwyddwyd ei hysbysu gyntaf o'r mater y gwneir cwyn amdano. Rhaid i'r atgyfeiriad gan y darparwr i’r Ombwdsmon hefyd ddigwydd cyn diwedd cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod y gwnaed y gŵyn i'r darparwr.

190.Yn ogystal, rhaid i'r atgyfeiriad fod ar ba ffurf bynnag y mae'r Ombwdsmon yn ei nodi mewn canllawiau a gyhoeddir o dan adran 48(2), a rhaid iddo gynnwys pa wybodaeth bynnag a nodir yn y canllawiau hynny. Felly, dylai darparwyr sydd am atgyfeirio cwyn ddarllen y canllawiau hynny i’w helpu i wneud yr atgyfeiriad.

191.Dan adran 43(7) mae gan yr Ombwdsmon ddisgresiwn i ymchwilio i gŵyn hyd yn oed pan nad yw'r naill neu'r llall o'r terfynau amser (neu'r ddau) wedi eu bodloni, pan nad yw'r atgyfeiriad ar y ffurf sy'n ofynnol, neu pan nad yw'r atgyfeiriad yn cynnwys y wybodaeth ofynnol.

Adran 50 - Cofnodion o gwynion

192.Mae adran 50 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ombwdsmon gadw cofrestr o bob cwyn a wneir i’r Ombwdsmon neu a atgyfeirir ato y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddi o dan Ran 5.

193.Rhaid i’r gofrestr gynnwys pob cwyn ysgrifenedig (gan gynnwys cwynion a wnaed ar ffurf electronig) a phob cwyn a wnaed ar ffurf heblaw yn ysgrifenedig (gan gynwys y rhai a wnaed ar lafar).

Adran 51 - Penderfyniadau i beidio ag ymchwilio i gwynion neu i roi’r gorau i ymchwiliad

194.Mae adran 51 yn darparu bod yn rhaid i'r Ombwdsmon baratoi datganiad o resymau mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad gan yr Ombwdsmon i beidio â chychwyn, neu i derfynu ymchwiliad i gŵyn neu ymchwiliad ar ei liwt ei hun y mae'r Ombwdsmon wedi ymgynghori â pherson mewn perthynas ag ef o dan adran 44(3)(c).

195.Gellir gwneud penderfyniad o'r fath, er enghraifft, pan fo'r Ombwdsmon wedi datrys mater trwy ddulliau amgen o dan adran 46 ac, felly, wedi penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad ffurfiol.

196.Dan adran 51(2), rhaid i'r Ombwdsmon anfon copi o'r datganiad hwnnw at:

a)

unrhyw berson a wnaeth gŵyn i'r Ombwdsmon; a

b)

y darparwr y mae'r mater yn ymwneud ag ef.

197.Dan adran 51(3), caiff yr Ombwdsmon hefyd anfon copi o'r datganiad at unrhyw berson arall sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

198.Ni chaiff yr Ombwdsmon ond cyhoeddi datganiad o'r fath os yw’r Ombwdsmon o'r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny. Wrth ddod i’r farn honno, rhaid i'r Ombwdsmon ystyried lles y person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

199.Mae adrannau 51(7) ac (8) yn gwahardd yr Ombwdsmon rhag anfon neu gyhoeddi datganiad sy'n:

a)

cynnwys enw person (heblaw’r darparwr y mae’r mater yn ymwneud ag ef); neu

b)

yn cynnwys gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd y datganiad,

oni bai bod yr Ombwdsmon o'r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys enw neu fanylion o’r fath.

200.Nid yw'r gwaharddiad yn gymwys o ran y fersiwn o'r datganiad a anfonir at y person a dramgwyddwyd (os oes un).

Adran 52 - Gweithdrefn ymchwilio

201.Mae adran 52(1) yn nodi'r gofynion ar gyfer ymchwiliadau o dan adran 43 (h.y. ymchwiliadau yn dilyn cwyn).

202.Mae adrannau 52(2) i 51(7) yn nodi'r gofynion ar gyfer ymchwiliadau o dan adran 44 (h.y. ymchwiliadau y mae’r Ombwdsmon yn eu gwneud ar ei liwt ei hun), sy'n cynnwys gofyniad i'r Ombwdsmon baratoi 'cynnig ymchwilio' ac anfon y cynnig ymchwilio at y darparwr sy'n destun ymchwiliad, ac unrhyw berson a adwaenir yn y cynnig ymchwilio mewn modd negyddol. Rhaid i'r Ombwdsmon hefyd roi cyfle i'r darparwr a phersonau eraill roi sylwadau ar yr ymchwiliad.

203.Ar y llaw arall, nid oes rhaid i'r Ombwdsmon baratoi cynnig ymchwilio yn yr amgylchiadau a nodir yn adran 52(3) a (4). Mae hyn yn golygu, os yw'r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwilio i fater (naill ai mewn ymateb i gŵyn o dan adran 43 neu drwy ddefnyddio'r pŵer i ymchwilio ar ei liwt ei hun o dan adran 44), y cyfeirir ato fel “yr ymchwiliad gwreiddiol”, a bod yr Ombwdsmon, wedi hynny, wedi dechrau ymchwiliad i fater o dan adran 44 sydd â chysylltiad sylweddol â'r ymchwiliad gwreiddiol, y cyfeirir ato fel yr ymchwiliad cysylltiedig, yna nid oes rhaid i'r Ombwdsmon baratoi cynnig ymchwilio mewn perthynas â'r ymchwiliad cysylltiedig.

204.Fodd bynnag, hyd yn oed os nad oes rhaid i'r Ombwdsmon baratoi cynnig ymchwilio, mae adran 52(6) yn dal i'w gwneud yn ofynnol i'r Ombwdsmon ddod â'r ymchwiliad i sylw'r rhai sy'n destun yr ymchwiliad a rhoi cyfle iddynt wneud sylwadau.

205.Dan adran 52(7), rhaid i gynnig ymchwilio nodi'r rhesymau dros yr ymchwiliad a nodi sut mae meini prawf adran 45 wedi'u bodloni (h.y. y meini prawf ar gyfer ymchwiliadau'r Ombwdsmon ar ei liwt ei hun).

206.Mae adran 52(8) yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymchwiliad gael ei gynnal yn breifat.

207.Mae adran 52(9) yn darparu mai mater i'r Ombwdsmon, yn amodol ar y gofynion eraill a bennir yn yr adran hon, yw penderfynu ar y weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad. Er enghraifft, gallai'r Ombwdsmon sefydlu gweithdrefnau gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o gwynion a gallai, mewn unrhyw achos penodol, wyro oddi wrth unrhyw weithdrefnau o'r fath a sefydlwyd os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny'n briodol.

208.Mae adran 52(10 (a) yn darparu y caiff yr Ombwdsmon wneud unrhyw ymchwiliadau y mae'r Ombwdsmon o’r farn eu bod yn briodol. Mae adran 52(10)(b) yn darparu mai mater i'r Ombwdsmon yw penderfynu a ganiateir i berson gael ei gynrychioli'n gyfreithiol neu gael ei gynrychioli mewn rhyw ffordd arall (e.e. gan eiriolwr annibynnol).

209.Mae adran 52(12) yn rhoi pŵer i'r Ombwdsmon wneud taliadau tuag at dreuliau pobl sy'n cynorthwyo’r Ombwdsmon mewn ymchwiliad, ar yr amod yr eir iddynt yn briodol, a thalu lwfansau penodol. Mater i'r Ombwdsmon yw penderfynu a yw'n briodol gwneud taliadau o'r fath neu osod unrhyw amodau ar daliadau o'r fath.

210.Mae adran 52(14) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ombwdsmon gyhoeddi'r gweithdrefnau ar gyfer ymchwiliadau o dan adrannau 43 a 44.

Adran 53 - Gwybodaeth, dogfennau, tystiolaeth a chyfleusterau

211.Mae adran 53 yn rhoi pwerau eang i'r Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i ddangos gwybodaeth neu ddogfennau mewn cysylltiad ag ymchwiliad (adrannau 53(2) a (3)) a'i gwneud yn ofynnol i rai personau penodol roi i’r Ombwdsmon unrhyw gyfleusterau y gall yn rhesymol eu hangen (adran 53(4)). Gellir arfer yr ail bŵer uchod, er enghraifft, i'w gwneud yn ofynnol i ddarparu caledwedd neu feddalwedd cyfrifiadurol penodol i alluogi'r Ombwdsmon i weld dogfennau neu wybodaeth a ddarparwyd.

212.Mae gan yr Ombwdsmon yr un pwerau â'r Uchel Lys o safbwynt cymryd tystiolaeth gan dystion a dangos dogfennau (adran 53(3)).

213.Mae adran 53(5) yn amddiffyn y bobl hynny y caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu tystiolaeth neu ddangos gwybodaeth neu ddogfennau. Ni chaiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson o'r fath roi unrhyw dystiolaeth na chyflwyno unrhyw ddogfennau na ellid gorfodi'r person hwnnw i'w rhoi neu eu cyflwyno gerbron yr Uchel Lys.

214.Mae adran 53(6) yn datgymhwyso unrhyw fraint y byddai'r Goron fel arall yn gallu ei hawlio fel sail ar gyfer atal tystiolaeth neu ddogfennau.

215.Effaith adran 53(7) yw na all y Goron, o safbwynt pŵer yr Ombwdsmon i fynnu cael tystiolaeth neu gyflwyno gwybodaeth neu ddogfennau, ddibynnu ar ei breintiau na'i himiwneddau arbennig i drechu hawl yr Ombwdsmon i weld gwybodaeth o'r fath o dan adran 53(5).

Adran 54 - Rhwystro a dirmygu

216.Mae adrannau 54(1) a (2) yn galluogi'r Ombwdsmon i dystio i'r Uchel Lys fod unigolyn, ym marn yr Ombwdsmon, wedi rhwystro’r Ombwdsmon (neu aelod o staff yr Ombwdsmon) heb esgus cyfreithlon wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan Ran 5 neu fod y person wedi gweithredu mewn modd a fyddai'n gyfystyr â dirmyg llys, pe byddai'r weithred wedi'i chyflawni mewn cysylltiad ag achos yn yr Uchel Lys.

217.Os bydd yr Ombwdsmon yn dyroddi tystysgrif o'r fath, caiff yr Uchel Lys ymchwilio i'r mater ac os bydd yr Uchel Lys yn dyfarnu bod y person dan sylw wedi rhwystro'r Ombwdsmon, caiff yr Uchel Lys ymdrin â’r person fel pe bai wedi cyflawni dirmyg o ran yr Uchel Lys (adran 54(4)).

Adran 55 - Adroddiadau ar ymchwiliadau

218.Mae'r adran hon yn gymwys i ymchwiliadau o dan Ran 5 oni bai bod adran 58 yn gymwys.

219.Mae adran 55(2) yn darparu bod rhaid i'r Ombwdsmon baratoi ac anfon adroddiad ar y canfyddiadau at y person priodol ar ôl cynnal ymchwiliad, oni bai bod y weithdrefn amgen o dan adran 58 yn gymwys.

220.Mae adran 55(3) yn pennu’r personau hynny y mae'n rhaid anfon yr adroddiad atynt. Caiff yr Ombwdsmon hefyd anfon copi o'r adroddiad at unrhyw bersonau eraill sy'n briodol yn ei farn ef.

221.Ni chaiff yr Ombwdsmon gyhoeddi adroddiad o'r fath dim ond os yw’r Ombwdsmon o'r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny. Wrth ddod i'r farn hon, rhaid i'r Ombwdsmon roi ystyriaeth i les y person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill y mae'r Ombwdsmon o’r farn eu bod yn briodol.

222.Mae adrannau 55(8) a (9) yn gwahardd yr Ombwdsmon rhag anfon neu gyhoeddi adroddiad sy'n:

a)

cynnwys enw unrhyw berson (heblaw’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef); neu

b)

yn cynnwys gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud unrhyw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad,

oni bai bod yr Ombwdsmon o'r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys enw neu fanylion o’r fath.

223.Nid yw'r gwaharddiad yn gymwys o safbwynt y fersiwn o'r adroddiad a anfonir at y person a dramgwyddwyd (os oes un) neu at Weinidogion Cymru. Wrth benderfynu a yw er budd y cyhoedd i gynnwys y wybodaeth hon yn y fersiynau eraill o'r adroddiad, rhaid i'r Ombwdsmon roi ystyriaeth i les y person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill y mae'r Ombwdsmon o’r farn eu bod yn briodol.

Adran 56 - Cyhoeddusrwydd pellach i adroddiadau ar ymchwiliadau

224.Mae adran 56 yn darparu y caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi hysbysiad ynglŷn ag adroddiad ar ymchwiliad mewn papur newydd neu gyfryngau darlledu / electronig eraill. Rhaid i unrhyw benderfyniad i gyhoeddi hysbysiad o'r fath ystyried budd y cyhoedd, budd y person a dramgwyddwyd (os oes un) a buddiannau unrhyw bersonau eraill sy'n briodol ym marn yr Ombwdsmon (gweler adran 56(4)).

225.Caiff yr hysbysiad (ymhlith pethau eraill) gynnwys y materion a bennir yn adran 56(2). Rhaid i'r darparwr y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef ad-dalu i'r Ombwdsmon gostau rhesymol trefnu i gyhoeddi'r hysbysiad, os bydd yr Ombwdsmon yn gofyn iddo wneud hynny.

Adran 57 - Camau gweithredu ar ôl cael adroddiadau ar ymchwiliadau

226.Os yw'r Ombwdsmon yn cyflwyno adroddiad (o dan adran 55), yn dilyn ymchwiliad, bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i'r mater sy'n destun yr ymchwiliad, mae adran 57 yn darparu ei bod yn ofynnol i'r darparwr dan sylw ystyried adroddiad yr Ombwdsmon a rhoi gwybod i’r Ombwdsmon pa gamau y mae wedi eu cymryd neu y mae'n bwriadu eu cymryd mewn ymateb, a hefyd o fewn pa gyfnod y bydd yn cymryd y cyfryw gamau.

227.Rhaid i'r darparwr roi'r hysbysiad o fewn mis ar ôl cael yr adroddiad neu o fewn unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon.

Adran 58 - Adroddiadau: gweithdrefn amgen

228.Mae adran 58 yn darparu nad yw'r weithdrefn gyflawn o gyflwyno adroddiad o dan adrannau 55 i 57yn gymwys os yw'r Ombwdsmon yn penderfynu cyflwyno adroddiad o dan y weithdrefn amgen a nodir yn yr adran hon.

229.Caiff yr Ombwdsmon gymhwyso'r weithdrefn amgen os yw’r Ombwdsmon yn fodlon:

a)

nad oes person wedi dioddef, neu'n debygol o ddioddef, anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i'r camau gweithredu yr ymchwiliwyd iddynt; neu

b)

bod person wedi dioddef, neu'n debygol o ddioddef, anghyfiawnder neu galedi o’r fath, ac

c)

bod y darparwr y mae'r mater yn ymwneud ag ef yn cytuno cyn diwedd y cyfnod a ganiateir (fel y'i diffinnir yn adran 58(3)) i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon.

230.Os yw'r Ombwdsmon yn fodlon bod yr amodau hyn wedi’u bodloni, caiff yr Ombwdsmon benderfynu llunio adroddiad o dan y weithdrefn amgen yn adran 58. Fodd bynnag, dim ond os yw'r Ombwdsmon yn fodlon nad yw budd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol iddo gyflwyno adroddiad o dan y weithdrefn gyflawn a nodir yn adrannau 55 i 57 y caniateir i'r Ombwdsmon wneud hynny.

231.Mae'r un cyfyngiadau o ran enwi neu allu adnabod unigolion yn gymwys i adroddiad o dan y weithdrefn amgen yn yr adran hon ag i adroddiad o dan adran 55 (adran 58(9) a (10)).

Adran 59 - Amgylchiadau lle caiff adroddiadau arbennig eu paratoi

232.Dan adran 59, caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi adroddiad arbennig mewn tri achos:

233.Achos 1. Mae'r Ombwdsmon wedi dod i'r casgliad mewn adroddiad am ymchwiliad fod person wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi (neu fod person yn debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi) o ganlyniad i'r mater a oedd yn destun yr ymchwiliad ond:

i.

nad yw'r Ombwdsmon wedi cael ei hysbysu gan y darparwr, yn unol ag adran 57 (Camau gweithredu ar ôl cael adroddiadau ar ymchwiliadau), o'r camau y mae'r darparwr wedi'u cymryd / y mae'n bwriadu eu cymryd, neu cyn diwedd pa gyfnod y mae'n bwriadu cymryd unrhyw gamau gweithredu, neu

ii.

nad yw'r Ombwdsmon, ar ôl cael ei hysbysu o faterion o'r fath yn unol ag adran 57, yn fodlon ar y camau gweithredu a gymerwyd / y bwriedir eu cymryd neu cyn diwedd pa gyfnod y bwriedir eu cymryd, neu nad yw'n fodlon bod y camau wedi'u cymryd cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.

234.Achos 2. Mae'r Ombwdsmon wedi paratoi adroddiad o dan adran 58(2) (gweithdrefn amgen) ac nid yw wedi'i fodloni bod y darparwr wedi gweithredu’r argymhellion o fewn y cyfnod a ganiateir; ac

235.Achos 3. Mae'r Ombwdsmon wedi dod i'r casgliad, wrth ddatrys mater o dan adran 46 (dulliau amgen o ddatrys materion), fod unrhyw berson wedi dioddef (neu'n debygol o ddioddef) anghyfiawnder neu galedi a bod y darparwr wedi cytuno i gymryd camau gweithredu penodol, ac nid yw'r Ombwdsmon yn fodlon bod y darparwr wedi cymryd y camau gweithredu hynny cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.

Adran 60 - Adroddiadau arbennig

236.Mae adran 60(1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ombwdsmon nodi, mewn adroddiad arbennig, y ffeithiau sy'n rhoi hawl i’r Ombwdsmon baratoi'r adroddiad hwnnw, ac i wneud yr argymhellion sy'n briodol ym marn yr Ombwdsmon o ran y camau gweithredu y mae’r Ombwdsmon o'r farn y dylid eu cymryd i unioni'r anghyfiawnder neu'r caledi a ddioddefwyd gan y person ac i atal anghyfiawnder neu galedi tebyg rhag cael ei achosi eto.

237.Mae adran 60(2) a (3) yn nodi at bwy y mae'n rhaid anfon yr adroddiad arbennig. Mae'r gofynion sy'n berthnasol ar ôl i'r Ombwdsmon ystyried y mater yn flaenorol mewn adroddiad cyflawn o dan adran 55 yn wahanol i'r rhai sy'n berthnasol ar ôl i’r Ombwdsmon ystyried y mater yn flaenorol o dan y weithdrefn amgen yn adran 58 neu drwy gyfrwng dull amgen o ddatrys cwyn o dan adran 46.

238.Mae adran 60(4) i (9) yn gwneud darpariaethau ychwanegol o ran adroddiadau arbennig. Yn benodol, mae'r un cyfyngiadau o ran enwi neu allu adnabod unigolion yn berthnasol i adroddiadau arbennig ag i adroddiad o dan adran 55.

Adran 61 - Cyhoeddusrwydd pellach i adroddiadau arbennig

239.Mae adran 61 yn rhoi pŵer i'r Ombwdsmon gyhoeddi hysbysiad am adroddiad arbennig mewn papur newydd neu trwy gyfryngau darlledu ac electronig.

240.Wrth benderfynu pa un a ddylai gyhoeddi hysbysiad am adroddiad arbennig ai peidio yn unol ag adran 60(1), mae'n rhaid i'r Ombwdsmon ystyried budd y cyhoedd, budd y person a dramgwyddwyd (os oes un) a buddiannau unrhyw bersonau eraill sy'n briodol ym marn yr Ombwdsmon. Rhaid i'r darparwr y mae adroddiad yn ymwneud ag ef ad-dalu i'r Ombwdsmon gostau rhesymol trefnu i gyhoeddi'r hysbysiad, os bydd yr Ombwdsmon yn gofyn iddo wneud hynny.

Adran 62 - Ystyr “cartref gofal” a “darparwr cartref gofal”

241.Mae adran 62 yn darparu diffiniadau o "gofal", "cartref gofal" a "darparwr cartref gofal" trwy gyfeirio at Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae hefyd yn darparu bod camau gweithredu darparwr cartref gofal yn cynnwys camau a gymerwyd gan staff y darparwr ac eraill sy'n gweithredu ar ran y darparwr.

Adran 63 - Ystyr “gofal cartref” a “darparwr gofal cartref”

242.Mae adran 63 yn darparu diffiniadau o "gofal cartref" a "darparwr gofal cartref". Mae hefyd yn darparu bod camau gweithredu darparwr gofal cartref yn cynnwys camau a gymerwyd gan staff y darparwr ac eraill sy'n gweithredu ar ran y darparwr.

Adran 64 - Ystyr “gwasanaeth gofal lliniarol” a “darparwr gofal lliniarol annibynnol”

243.Mae adran 64 yn darparu diffiniadau o “gwasanaeth gofal lliniarol" a "darparwr gofal lliniarol annibynnol". Nid yw'r term "gofal lliniarol" yn cael ei ddiffinio. Fodd bynnag, mae'n cael ei ddefnyddio yn gyffredinol i ddisgrifio'r broses o liniaru poen pobl â chyflyrau angheuol, lleddfu poen heb ymdrin ag achos y cyflwr, a gwella ansawdd bywyd cyffredinol pobl sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu hoes. Fel rheol, mae cyflyrau sy'n cyfyngu ar oes yn cael eu disgrifio fel rhai lle mae disgwyliad oes rhywun yn debygol o gael ei gwtogi o ganlyniad i gyflwr neu salwch.

244.Wrth benderfynu a yw math penodol o ofal yn cyfateb i ofal lliniarol ai peidio, rhagwelir y bydd yr Ombwdsmon yn rhoi rhywfaint o bwys i'r diffiniad o “palliative care” sy'n cael ei ddefnyddio gan Sefydliad Iechyd y Byd. Yn ôl y diffiniad hwnnw, “palliative care is an approach that improves the quality of life of patients and their families facing the problem associated with life-threatening illness, through the prevention and relief of suffering by means of early identification and impeccable assessment and treatment of pain and other problems, physical, psychosocial and spiritual”. Mae'n debygol hefyd y rhoddir pwys i ddiffiniad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), sef “palliative care is the active holistic care of patients with advanced progressive illness. Management of pain and other symptoms and provision of psychological, social and spiritual support is paramount. The goal of palliative care is achievement of the best quality of life for patients and their families. Many aspects of palliative care are also applicable earlier in the course of the illness in conjunction with other treatments”.

245.Ystyr gwasanaeth gofal lliniarol yw gwasanaeth sydd â'r prif bwrpas o ddarparu gofal lliniarol. Felly ni fwriedir i'r term gwmpasu gwasanaethau sy'n darparu rhywfaint o ofal lliniarol ond pan fo gofal o'r fath yn atodol i'r prif wasanaeth sy'n cael ei ddarparu. Fodd bynnag, bwriedir iddo gwmpasu amrywiaeth eang o wasanaethau gofal lliniarol sy'n amrywio o wasanaethau yn y gymuned i ysbytai gofal lliniarol. Mae adran 64 yn darparu bod camau gweithredu darparwr gofal lliniarol annibynnol yn cynnwys camau a gymerwyd gan staff y darparwr ac eraill sy'n gweithredu ar ran y darparwr.

Rhan 6

Adran 65 - Ymgynghori a chydweithredu ag ombwdsmyn eraill

246.Mae adran 65(1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ombwdsmon ymgynghori ag ombwdsmon penodol arall pan fydd yr Ombwdsmon farn y gallai mater fod yn destun ymchwiliad gan yr ombwdsmon arall hwnnw. Pennir yn adran 65(7) pa ombwdsmyn eraill y mae'n ofynnol i'r Ombwdsmon ymgynghori â hwy.

247.Mae pŵer i Weinidogion Cymru, trwy reoliad, ddiwygio'r rhestr hon o ombwdsmyn penodedig. Dim ond os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod gan y person sydd i'w ychwanegu swyddogaethau sy'n ymwneud ag ymchwilio i gwynion y caiff y rheoliadau ychwanegu person.

248.Pan fo'n ofynnol i'r Ombwdsmon ymgynghori ag ombwdsmon arall ynglŷn â rhyw fater penodol, caiff yr Ombwdsmon hefyd gydweithredu â'r ombwdsmon arall hwnnw ar y mater dan sylw (adran 65(3)). Gall yr ymgynghori a'r cydweithredu gynnwys unrhyw beth sy'n ymwneud â'r mater dan sylw. Nodir yn adran 65(4) enghreifftiau o faterion y gellir ymgynghori a chydweithredu yn eu cylch, sef:

a)

sut y dylid cynnal ymchwiliad; a

b)

ffurf a chynnwys adroddiad yr ymchwiliad a'r broses o'i gyhoeddi.

249.Mae adrannau 65(5) a (6) yn darparu y caiff yr Ombwdsmon ac unrhyw un o'r ombwdsmyn penodedig (heblaw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban) gynnal ymchwiliadau ar y cyd a chyhoeddi adroddiadau ar y cyd, pan fo ymgynghori o'r fath yn digwydd.

250.Pan fydd ymgynghori ynglŷn â mater, bydd yr Ombwdsmon yn gallu defnyddio ei bwerau atodol ym mharagraff 21 o Atodlen 1 i'r Ddeddf hon i anfon gwybodaeth at yr ombwdsmon arall. At hynny, bydd yr Ombwdsmon yn gallu defnyddio'r pwerau atodol hynny i roi gwybod i'r person a wnaeth y gŵyn (os oes un) sut y gall y person hwnnw wneud cwyn i'r ombwdsmon arall.

Adran 66 - Cydweithio â phersonau a bennir

251.Mae adran 66 yn ymdrin â sefyllfaoedd pan fo'r Ombwdsmon, wrth ymdrin â mater, yn canfod materion a allai gael eu harchwilio gan “bersonau a bennir” yn adran 66(2), hynny yw, amryfal gomisiynwyr Cymru, ac, yn achos materion iechyd a gofal cymdeithasol, Weinidogion Cymru.

252.Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ombwdsmon hysbysu ac ymgynghori â'r personau a bennir hynny ynghylch y mater. Yna caiff yr Ombwdsmon a rhai o'r personau perthnasol a bennir gydweithredu, a chynnal ymchwiliad ar y cyd, a pharatoi adroddiad ar y cyd am y mater.

253.Mae gan Weinidogion Cymru bŵer hefyd i wneud rheoliadau i ddiwygio'r rhestr o bersonau a bennir.

Adran 67 - Cydlafurio â Chomisiynwyr

254.Mae adran 67 yn cynnwys darpariaeth ychwanegol ynghylch cydlafurio rhwng yr Ombwdsmon ac amryfal Gomisiynwyr Cymru, mewn perthynas â materion y gallai'r Ombwdsmon a’r Comisiynydd perthnasol ymchwilio iddynt.

Adran 68 - Gweithio gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru

255.Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ombwdsmon, os yw'r Ombwdsmon o'r farn ei bod yn briodol, hysbysu ac ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch cynigion yr Ombwdsmon ar gyfer ymchwiliad a'r ffordd fwyaf effeithiol o gynnal ymchwiliad.

256.Yna caiff yr Ombwdsmon ac Archwilydd Cyffredinol Cymru gydweithredu, a chynnal ymchwiliad ar y cyd, a pharatoi adroddiad ar y cyd am y mater.

Adran 69 - Datgelu gwybodaeth

257.Mae adran 69 yn darparu bod gwybodaeth a gafodd yr Ombwdsmon (neu gan staff yr Ombwdsmon neu unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon) mewn perthynas ag ymchwiliad, neu a gafwyd gan y personau a grybwyllir yn is-adran (1)(b) i (e) o dan y darpariaethau a grybwyllir yn yr is-adran honno, i'w chadw'n gyfrinachol ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig. Yn adran 69(2), ceir rhestr o amgylchiadau pryd y caniateir datgelu gwybodaeth o’r fath.

258.Mae adran 69(7) yn darparu na ellir ei gwneud yn ofynnol i'r Ombwdsmon nac aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy'n cynorthwyo neu'n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon roi tystiolaeth mewn unrhyw achos (ac eithrio achosion a bennir yn adran 69(2)) ynghylch:

a)

gwybodaeth a gafwyd i gynorthwyo'r Ombwdsmon i benderfynu a ddylid ymchwilio, yn ystod ymchwiliad, wrth ddatrys mater, neu mewn cysylltiad â hysbysiad o dan adran 26 neu 57; neu

b)

gwybodaeth a gafwyd gan ombwdsmon arall wrth ymgynghori a chydweithio â'r Ombwdsmon o dan adran 65.

Adran 70 - Datgeliad niweidiol i ddiogelwch Gwladol neu yn groes i fudd y cyhoedd

259.Mae adran 70(1) yn darparu y caiff un o Weinidogion y Goron roi hysbysiad i'r Ombwdsmon y byddai, ym marn y Gweinidog, yn niweidiol i ddiogelwch y Deyrnas Unedig neu fel arall yn groes i fudd y cyhoedd pe byddai unrhyw ddogfen neu wybodaeth neu ddosbarth o ddogfen neu wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad yn cael ei datgelu. Pan fo hysbysiad o'r fath yn cael ei roi, nid yw'r Ddeddf hon yn awdurdodi'r Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon nac unrhyw un arall sy'n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu'n ei gynorthwyo, i ddatgelu gwybodaeth benodol o'r fath, nac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny.

260.Os oes dyletswydd ar yr Ombwdsmon neu aelod o staff yr Ombwdsmon ac ati i ddatgelu'r wybodaeth, yn rhinwedd rhyw ofyniad cyfreithiol arall, nid oes dim yn yr adran hon yn ei atal rhag cydymffurfio â'r rhwymedigaeth honno.

Adran 71 - Diogelu rhag hawliadau difenwi

261.Mae adran 71 yn darparu bod braint absoliwt gan y canlynol at ddibenion difenwi:

a)

cyhoeddi (a fydd yn dwyn ei ystyr arferol o fewn y gyfraith sy'n ymwneud â difenwi) unrhyw fater gan yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy'n cynorthwyo’r Ombwdsmon neu'n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon wrth gyflawni swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan y Ddeddf hon;

b)

cyhoeddi unrhyw fater mewn unrhyw adroddiad a gyhoeddir gan berson wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 24 o'r Ddeddf hon, gan gynnwys adran 24 fel y'i haddaswyd gan adran 25, ac adrannau 24 a 25 fel y maent yn gymwys i adroddiadau arbennig yn rhinwedd adran 29(6) (gofyniad ar awdurdodau rhestredig i gyhoeddi adroddiad yr Ombwdsmon ar ymchwiliad); ac

c)

cyhoeddi mater mewn cysylltiad a chŵyn, pan fo'r mater yn cael ei gyhoeddi yn un o'r dulliau cyfathrebu a ganlyn:

i.

cyfathrebu rhwng awdurdod rhestredig (gan gynnwys aelod neu aelod cyfetholedig, swyddog neu aelod o staff neu rywun arall sy'n gweithredu ar ran yr awdurdod hwnnw neu'n cynorthwyo i gyflawni ei swyddogaethau) a'r Ombwdsmon (neu staff yr Ombwdsmon neu bersonau sy'n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu'n cynorthwyo i gyflawni swyddogaethau’r Ombwdsmon);

ii.

cyfathrebu rhwng darparwr cartref gofal, darparwr gofal cartref neu ddarparwr gofal lliniarol annibynnol, (gan gynnwys swyddog neu aelod o staff neu rywun arall sy'n gweithredu ar ran y darparwr neu'n ei gynorthwyo i gyflawni ei swyddogaethau) a'r Ombwdsmon (neu staff yr Ombwdsmon neu bersonau sy'n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu'n cynorthwyo i gyflawni swyddogaethau’r Ombwdsmon);

iii.

cyfathrebu rhwng person ac aelod etholedig o Gynulliad Cenedlaethol Cymru; a

iv.

cyfathrebu rhwng y person a dramgwyddwyd neu berson sy'n gwneud y gŵyn ar ran y person a dramgwyddwyd (os oes un) a'r Ombwdsmon (neu staff yr Ombwdsmon neu bersonau sy'n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo i gyflawni swyddogaethau’r Ombwdsmon).

262.Mae'r ddarpariaeth hon yn gyffredinol yn ailadrodd amddiffyniad tebyg o dan y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag ombwdsmyn eraill.

Rhan 7

Adran 72 - Safonau’r Gymraeg

263.Mae adran 72 yn dod â'r Ombwdsmon o fewn y gyfundrefn ar gyfer Safonau'r Gymraeg. Mae'n gwneud hynny drwy ychwanegu'r Ombwdsmon at y rhestr o gyrff yn Atodlen 6 i Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016. Bydd hyn yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i'r Ombwdsmon a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Ombwdsmon gydymffurfio â'r safonau a bennir yn y Rheoliadau hynny.

Adran 73 - Adolygiad o’r Ddeddf

264.Mae adran 73(1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad baratoi a chyhoeddi adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf ar ddiwedd y cyfnod o bum mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Mae adran 73(2) hefyd yn rhoi disgresiwn i'r Cynulliad baratoi a chyhoeddi adroddiad o'r fath ar y Ddeddf ar unrhyw adeg arall.

265.Pan fydd y Cynulliad yn paratoi adroddiad o dan yr adran hon, mae dyletswydd ar y Cynulliad i ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol ym marn y Cynulliad (gweler adran 73(3)).

Adran 74 - Ymchwiliadau a gychwynnir cyn y daw adrannau 3, 4, 43 a 44 i rym

266.Mae'r adran hon yn gwneud darpariaeth arbed ar gyfer Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (“Deddf 2005”) mewn perthynas ag ymchwiliadau y mae'r Ombwdsmon wedi eu cychwyn o dan Ddeddf 2005 ond heb eu cwblhau cyn i'r adrannau perthnasol o'r Ddeddf hon ddod i rym. Mae hyn yn golygu, os yw'r Ombwdsmon hanner ffordd drwy ymchwiliad ar y diwrnod y daw adrannau 3, 4, 43 a 44 i rym, yna bydd yr ymchwiliad yn parhau o dan ddarpariaethau Deddf 2005.

Adran 75 - Diddymiadau, arbedion a diwygiadau canlyniadol

267.Mae'r adran hon yn diddymu Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Fodd bynnag:

a)

mae Deddf 2005 yn parhau i fod yn berthnasol i ymchwiliadau a gafodd eu cychwyn cyn i'r Ddeddf hon gael y Cydsyniad Brenhinol (gweler adran 74), a

b)

mae amryw ddarpariaethau yn Neddf 2005 yn cael eu harbed, a byddant felly yn parhau i gael effaith (er enghraifft mae'r newidiadau a wnaed gan adran 35 o Ddeddf 2005 mewn cysylltiad ag ymddygiad aelodau a chyflogeion llywodraeth leol yn parhau mewn grym ac nid effeithir arnynt); mae is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2005 hefyd yn cael ei harbed.

268.Mae adran 75 hefyd yn cyflwyno Atodlen 5, sy'n gwneud amryw ddiwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol o ganlyniad i'r Ddeddf hon.

Adran 76 - Swyddogaethau'r Cynulliad

269.Mae'r adran hon yn dweud y caiff y Cynulliad wneud rheolau sefydlog ynghylch arfer y swyddogaethau a roddir i'r Cynulliad o dan y Ddeddf.

270.Caiff y rheolau sefydlog, ymhlith pethau eraill, ddarparu ar gyfer dirprwyo swyddogaethau'r Cynulliad i bwyllgor neu is-bwyllgor o’r Cynulliad, neu i gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o’r Cynulliad. Ond caiff y rheolau sefydlog ond dirprwyo'r swyddogaethau hynny a roddir i'r Cynulliad gan adran 73 a pharagraffau 5 ac 8(1) o Atodlen 1.

Adran 77 - Cychwyn

271.Mae'r adran hon yn darparu bod adrannau 1 i 76 a'r Atodlenni'n dod i rym yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

272.Daw adrannau 77 i 82 i rym pan gaiff y Bil y Cydsyniad Brenhinol.

Adran 78 - Dehongli

273.Mae'r adran hon yn diffinio’r termau a ddefnyddir yn y Ddeddf.

274.Mae adran 78(3) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio'r diffiniadau o “darparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru”, “darparwr annibynnol yng Nghymru” a “landlord cymdeithasol yng Nghymru”. Mae'r rheoliadau hynny'n ddarostyngedig i’r angen i ymgynghori a'r weithdrefn gadarnhaol.

275.Mae adran 78(7) yn galluogi'r Ombwdsmon i ymchwilio i gamau gweithredu a gymerwyd ar ran awdurdod rhestredig yn yr un modd ag y gall yr Ombwdsmon ymchwilio i gamau gweithredu gan yr awdurdod rhestredig ei hun.

Adran 79 - Cyn-ddarparwyr gofal iechyd, cyn-landlordiaid cymdeithasol, cyn-ddarparwyr gofal cymdeithasol a chyn-ddarparwyr gofal lliniarol: addasiadau

276.Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n addasu’r modd y mae’r Ddeddf yn gymwys o ran cyn-ddarparwyr gwasanaethau iechyd teulu yng Nghymru, cyn-ddarparwyr annibynnol yng Nghymru, cyn-landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, cyn-ddarparwyr cartrefi gofal yng Nghymru, a chyn-ddarparwyr gofal lliniarol annibynnol yng Nghymru.

277.Mae hyn yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru addasu’n briodol y modd y mae’r Ddeddf yn gymwys o ran darparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru, darparwr annibynnol yng Nghymru, landlord cymdeithasol yng Nghymru, darparwr cartref gofal yng Nghymru, darparwr gofal cartref yng Nghymru neu ddarparwr gofal lliniarol annibynnol yng Nghymru, ond sydd, ar ôl hynny, wedi peidio â bod yn awdurdod rhestredig o'r fath.

278.Er enghraifft, bydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i addasu adrannau 23 (adroddiadau ar ymchwiliadau); adran 25 (fel y mae'n ymwneud â rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau: darparwyr gofal iechyd); ac adran 26 (camau gweithredu ar ôl cael adroddiad) mewn achosion o'r fath.

Adran 80 - Darpariaethau canlyniadol, trosiannol etc

279.Mae'r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru, trwy reoliadau, wneud darpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, atodol, drosiannol, arbed ac ati sy'n angenrheidiol o ganlyniad i'r Ddeddf.

Adran 81 - Rheoliadau a chyfarwyddydau

280.Mae'r adran hon yn cynnwys darpariaeth sy'n berthnasol i unrhyw bŵer yn y Ddeddf i wneud rheoliadau neu i ddyroddi cyfarwyddyd. Mae adran 81(1) yn darparu y gellir defnyddio offeryn statudol i arfer rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf.

Adran 82 - Enw byr

281.Mae'r adran hon yn darparu mai enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources