Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Rhagolygol

39Apêl yn erbyn hysbysiad gorfodiLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff person y cyflwynir copi o hysbysiad gorfodi iddo, neu unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef, apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.

(2)Caniateir gwneud apêl ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—

(a)nad yw’r materion yr honnir eu bod yn torri adran 11 neu amod mewn cydsyniad heneb gofrestredig wedi digwydd;

(b)nad yw’r materion hynny (os digwyddasant) yn doriad o’r fath;

(c)bod yr amodau canlynol wedi eu bodloni—

(i)bod gwaith i’r heneb neu’r tir yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd,

(ii)bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith, a

(iii)i hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn cyfiawnhau’n fanwl fod angen y gwaith gael ei roi i Weinidogion Cymru cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol;

(d)na chyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi i berson fel yr oedd yn ofynnol gan adran 36;

(e)bod y cyfnod y mae’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei stopio neu unrhyw gamau gael eu cymryd ynddo yn afresymol o fyr.

(3)Rhaid i apêl gael ei gwneud cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae i gymryd effaith.

(4)Pan fo apêl yn cael ei gwneud, nid yw’r hysbysiad yn cael effaith hyd nes bod yr apêl yn cael ei phenderfynu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.

(5)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff llys ynadon gadarnhau’r hysbysiad neu ei ddiddymu.

(6)Caiff y llys gadarnhau hysbysiad hyd yn oed os na chyflwynwyd copi ohono i berson yr oedd adran 36 yn ei gwneud yn ofynnol i gopi gael ei gyflwyno iddo, os yw’r llys wedi ei fodloni nad yw’r methiant wedi cael effaith andwyol sylweddol ar y person.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)