9Swyddogaethau o ran trefniadau iawnLL+C
(1)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i unrhyw berson neu gorff o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru fod â'r swyddogaethau o ran gweithredu trefniadau iawn o dan y Mesur hwn y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn addas.
(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu i'r cyfryw bersonau neu gyrff fod â swyddogaethau mewn perthynas ag—
(a)ymofyn am iawn;
(b)taliadau yn iawn o dan gytundebau setlo;
(c)darparu cyngor neu ganllawiau am faterion penodedig mewn cysylltiad â threfniadau iawn;
(d)darparu cyngor cyfreithiol di-dâl mewn cysylltiad â threfniadau iawn;
(e)monitro sut y mae personau neu gyrff yn cyflawni eu swyddogaethau o dan y rheoliadau;
(f)cyhoeddi data blynyddol am y trefniadau iawn.
(3)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gorff neu berson wrth iddo gyflawni swyddogaethau o dan y rheoliadau—
(a)cadw cofnodion penodedig mewn perthynas â chyflawni'r swyddogaethau hynny;
(b)rhoi cyfrifoldeb i unigolyn o ddisgrifiad penodedig dros oruchwylio sut y mae swyddogaethau penodedig a roddwyd i'r corff hwnnw neu i'r person hwnnw yn cael eu cyflawni o dan y rheoliadau;
(c)rhoi cyfrifoldeb i unigolyn o ddisgrifiad penodedig dros gynghori'r corff neu'r person ynglŷn â'r gwersi sydd i'w dysgu o achosion sy'n ymwneud â'r corff hwnnw neu'r person hwnnw ac yr ymdrinnir â hwy o dan y rheoliadau.
(4)Rhaid i'r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol bod y cyfryw gorff neu berson yn llunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol am achosion sy'n ymwneud â'r corff hwnnw neu â'r person hwnnw ac yr ymdrinnir â hwy o dan y rheoliadau ynghyd â'r gwersi sydd i'w dysgu oddi wrthynt.
(5)Caiff y rheoliadau ddarparu bod unrhyw swyddogaeth sy'n arferadwy gan gorff neu berson o dan y rheoliadau, drwy drefnu gyda'r corff hwnnw neu gyda'r person hwnnw ac yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau ac amodau y mae'r corff hwnnw neu'r person hwnnw yn meddwl eu bod yn addas, gael ei harfer ar ran y corff hwnnw neu'r person hwnnw gan gorff neu berson arall neu ar y cyd â'r corff hwnnw neu'r person hwnnw.
(6)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gorff neu berson sy'n arfer swyddogaethau o dan y rheoliadau roi sylw i unrhyw gyngor neu ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.
(7)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth ei heffaith yw y bydd gan gorff neu berson ac sydd wedi trefnu ar gyfer darparu gwasanaethau swyddogaethau o dan y rheoliadau sy'n ymwneud ag atebolrwydd rhywun arall mewn cysylltiad â darparu'r gwasanaethau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 9 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)
I2A. 9 mewn grym ar 7.2.2011 gan O.S. 2011/211, ergl. 2, Atod.