xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn a grybwyllir yn is-adran (2), cânt wneud darpariaeth drwy reoliadau, at ddibenion penodedig deddfiad, ynghylch yr amgylchiadau—
(a)pan fo, neu pan na fo, person i'w ystyried—
(i)yn un y mae addysg yn cael ei darparu ar ei gyfer mewn ysgol;
(ii)yn ddisgybl ofrestredig ysgol neu riant cofrestredig disgybl o'r fath;
(iii)yn un sydd mewn ysgol;
(iv)yn un sy'n mynychu ysgol neu'n bresennol ynddi;
(v)yn un sy'n cael addysg mewn ysgol;
(vi)yn un sy'n astudio, neu'n bwriadu astudio, mewn ysgol;
(vii)yn un sy'n cael ei dderbyn i ysgol neu y gwrthodwyd ei dderbyn i ysgol;
(viii)yn un sy'n gwneud cais i gael ei dderbyn i ysgol, yn cynnig derbyn person i ysgol, yn derbyn neu'n gwrthod derbyn cais person i gael ei dderbyn i ysgol neu'n penderfynu derbyniadau i ysgol;
(ix)yn un sydd wedi penderfynu ym mha ysgol y darperir addysg i blentyn;
(x)yn un y caniateir codi taliadau ar ei gyfer ynghylch cael ei dderbyn i ysgol a gynhelir.
(b)pan fo, neu pan na fo, trefniadau ar gyfer darparu addysg ar ran ysgol i'w hystyried yn drefniadau derbyn;
(c)pan fo, neu pan na fo, trefniadau ar gyfer galluogi mynegi dymuniadau ynghylch ym mha ysgol y mae'r person sy'n mynegi'r dymuniad yn dymuno y darperir addysg ar ei gyfer ei hun neu ar gyfer person arall yn gymwys;
(d)pan fo, neu pan na fo, person i'w ystyried—
(i)yn un sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn sefydliad yn y sector addysg bellach;
(ii)yn un sy'n mynychu'r sefydliad hwnnw, neu'n bresennol ynddo;
(iii)yn fyfyriwr y sefydliad hwnnw, neu'n fyfyriwr sydd ynddo;
(iv)yn un sy'n astudio, neu'n bwriadu astudio, yn y sefydliad hwnnw;
(v)yn un sy'n gwneud cais i gael ei dderbyn i'r sefydliad hwnnw, yn cynnig derbyn person i'r sefydliad hwnnw, yn derbyn neu'n gwrthod derbyn cais person i gael ei dderbyn i'r sefydliad hwnnw, yn dethol person i gael ei dderbyn i'r sefydliad hwnnw neu'n penderfynu derbyniadau i'r sefydliad hwnnw;
(vi)mewn perthynas â'r sefydliad hwnnw, yn berson anabl.
(2)Y farn yw bod y ddarpariaeth yn angenrheidiol, yn ddymunol neu'n hwylus mewn cysylltiad â gweithredu'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) a Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21) gan [F1Ran 2] o'r Mesur hwn.
(3)Mae'r dibenion y caniateir eu pennu o dan is-adran (1) yn cynnwys y rhai sy'n ymwneud â gwneud rheoliadau neu orchymyn o dan ddeddfiad.
(4)Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad—
(a)sydd wedi'i gynnwys yn y Mesur hwn; neu
(b)sydd wedi'i gynnwys mewn Deddf Seneddol neu un o Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gaiff ei basio ar ôl pasio'r Mesur hwn.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 46(2) wedi eu hamnewid (30.4.2021) gan Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (asc 4), a. 84(1), Atod. 2 para. 58 (ynghyd â savings ac transitional provisions in O.S. 2022/111, rhlau. 1, 3)
Gwybodaeth Cychwyn
Mae'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 47 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 49
I3A. 47 mewn grym ar 7.12.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/3174, ergl. 2(1)(q)
I4A. 47 mewn grym ar 19.1.2011 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2011/97, ergl. 2(1)(o)
(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau neu orchymyn o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)Mae unrhyw bŵer o'r fath yn cynnwys pŵer—
(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol;
(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;
(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol neu'r cyfryw ddarpariaeth arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.
(3)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(1)Daw adrannau 46, 48, 50 a'r adran hon i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor.
(2)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym ar y diwrnod y bydd Gweinidogion Cymru yn ei bennu drwy orchymyn. Caniateir i ddiwrnodau gwahanol gael eu pennu at ddibenion gwahanol.
Enw'r Mesur hwn yw Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.